Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ail ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS ei ail ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.

 

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhwy ddatgnaidau o ddiddordeb.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Mehefin, 2021.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2021 eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 159 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

 Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cymeradwyo’r argymhellion a oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro;

·           Hysbysebu’r swydd yn allanol o’r 3ydd o Fedi, 2021 a hynny am gyfnod o 3 wythnos.