Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 279 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Awst, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Awst, 2021 fel cofnod cywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

CYTUNODD y Pwyllgor drafod eitemau 4, 5 a 6 gyda’i gilydd. 

 

 

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

·           Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·           Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

5.

Cau allan y Wasg ar Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Monitoring Officer.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r swydd uchod. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod y Swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 31 Awst, wedi ei hysbysebu ar 3 Medi, 2021 tan 27 Medi, 2021. Adroddodd ymhellach, yn unol â’r drefn recriwtio safonol, y ffurfiwyd rhestr fer annibynnol yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn y ceisiadau a dderbyniwyd. Yr argymhelliad oedd y dylid ail hysbysebu’r swydd am gyfnod o ddwy wythnos. Cafodd ei argymell hefyd i’r Pwyllgor Penodiadau ymgymryd â phroses na fyddai fel arfer yn cael ei hymgymryd â hi ar gyfer Swydd graddfa 10 ar y sail ei bod yn swydd statudol. Mae’r broses a gafodd ei hargymell yr un fath â’r hyn sydd wedi’i mabwysiadu gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddi tebyg, sy’n cynnwys tri cham:- 

 

·       Cyfweliad allanol yn seiliedig ar broses brofi seicometrig;

·       Cyfweliad proffesiynol i’w gynnal gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro neu rywun priodol arall a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol, fel ffordd o gadarnhau cywirdeb cynnwys y ffurflenni cais;

·       Cyfweliad gyda’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn gallu gwneud penderfyniad pa ymgeisydd, os unrhyw un, a ddewisir i’w penodi yn dilyn y ddau gam blaenorol a gyflwynir manylion amdanynt mewn adroddiad cyn y cynhelir y cyfweliadau ffurfiol gyda’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Ail hysbysebu’r swydd am gyfnod o ddwy wythnos a bod y ceisiadau a dderbyniwyd yn cael eu cadw ar gyfer ystyriaeth.

·           Bod y broses tri cham yn cael ei chefnogi yn unfrydol fel y nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.