Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd K P Hughes ddiddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr ac, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, dywedodd ei fod yn gallu cymryd rhan yn y cyfarfod gan nad yw’r ymgeisydd yn gysylltiad personol agos.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Hydref, 2021;

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Hydref, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn yn gywir:-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2021.

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021, yn amodol ar nodi y bydd y trefniadau ar gyfer y cyfweliad proffesiynol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Apwyntio Staff

 Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

 Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/

Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi cael ei ail-hysbysebu rhwng 15 Hydref 2021 a 29 Hydref 2021, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021. Ychwanegodd, yn dilyn dadansoddiad annibynnol i lunio rhestr fer a gwblhawyd gan ddau Swyddog AD, yr argymhellir bod y Pwyllgor yn nodi’r ymgeiswyr i gael eu cyfweld.

 

Argymhellwyd bod y Pwyllgor Penodiadau’n dilyn yr un drefn ag a ddilynwyd wrth benodi nifer o uwch swyddogion yn ddiweddar, sef dilyn proses tri cham:-

 

·         Cynnal cyfweliad proffesiynol rhwng yr ymgeisydd/ymgeiswyr ar y rhestr fer a’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn AD.

 

·         Yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i dderbyn cyfweliadau allanol gan Gatenby Sanderson, yn seiliedig ar broses profion seicometreg.

 

·         Panel Penodi i gynnal cyfweliadau ffurfiol gyda’r ymgeisydd/ymgeiswyr ar y rhestr fer ac i wneud penderfyniad ynghylch penodi ar ôl ystyried adroddiad llafar ar y cyfweliadau proffesiynol a’r profion seicometreg.

 

PENDERFYNWYD rhoi ymgeiswyr 1, 3 a 5 ar y rhestr fer i’w cyfweld ac i gynnal y cyfweliadau gan ddilyn y broses tri cham a nodir uchod.