Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Apwyntio Staff

Prif Weithredwr

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

 

Prif Weithredwr

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y Prif Weithredwr presennol wedi cadarnhau ei bwriad i ymddeol o’i swydd ddiwedd mis Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Hysbysebu’r swydd Prif Weithredwr yn allanol;

·         Y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person i gyd-fynd ag Atodiad 1 yr adroddiad;

·         Cyflog y swydd i’w hysbysebu yn unol â’r cyflog presennol o £120,526 y flwyddyn gyda’r dyfarniad cyflog ar gyfer 2021 i’w ychwanegu unwaith y bydd wedi’i gytuno; 

·         Yr amodau a thelerau i fod fel yr amlinellir yn Atodiad 2 o’r adroddiad hwn;

·         Y swydd i gael ei hysbysebu am gyfnod olynol o bedair wythnos;

·         Y swydd i gael ei hysbysebu yn unol â pholisi arferol y Cyngor ar gyfer swyddi Prif Swyddogion, sef drwy wefan yr Awdurdod, drwy ficro-safle penodol ynghyd ag ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gwefannau Indeed a lleol.cymru, ym mhapur newydd The Guardian, yng nghylchgrawn Golwg, a’i hysbysebu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd â hysbysiad uniongyrchol i’r pum prif gyngor arall yng ngogledd Cymru a Llywodraeth Cymru;

  • Ar ôl i’r hysbyseb gau, bydd dau Swyddog o’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol yn llunio rhestr fer yn annibynnol ar ei gilydd;

·         Ar ôl cwblhau’r gwaith o lunio rhestr fer bydd y Pwyllgor yn cyfarfod eto er mwyn cymeradwyo ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ac unrhyw gamau pellach sydd eu hangen fel rhan o’r broses benodi. Bydd angen i’r broses ddethol derfynol gynnwys cymeradwyaeth gan y Cyngor Llawn.