Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatgan o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 5 Tachwedd, 2021.

Cofnodion:

 

 Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd fel cofnod cywir.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

 

 Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cafodd 3 ymgeisydd ar y rhestr fer eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau fel darpar ymgeiswyr ar gyfer y rôl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Bu 2 o’r ymgeiswyr dynnu eu cais yn ôl cyn y cyfweliad.

Rhoddodd yr ymgeisydd arall gyflwyniad, atebodd gwestiynau ar y cyflwyniad ac yna atebodd gyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Rhoddwyd adborth gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a’r Rheolwr Adnoddau Dynol ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor0/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, bu’r Pwyllgor Penodiadau BENDERFYNU:-

 

·      peidio â phenodi’r ymgeisydd i’r rôl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd;

·      ail hysbysebu’r swydd yn ystod mis Rhagfyr gyda dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Ionawr 2022.

·      bod trefniadau interim yn cael eu rhoi yn eu lle yn dilyn trafodaeth a chytundeb rhwng y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

·      Swyddogion i adolygu proses recriwtio’r Pwyllgor Penodiadau a darparu argymhellion.