Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd K P Hughes ddatgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, nododd ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a gan nad oedd yr ymgeisdd yn gyswllt personol agos, roedd modd iddo gymryd rhan yn y cyfarfod.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 23 Tachwedd, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd fel cofnod cywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithredig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Apwyntio Staff

Prif Weithredwr

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

    Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Prif Weithredwr

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2021 fe hysbysebwyd swydd y Prif Weithredwr yn allanol rhwng 22 Hydref, 2021 a 22 Tachwedd, 2021. Adroddodd ymhellach, o ganlyniad i waith dadansoddi annibynnol gan Swyddogion AD i greu rhestr fer, roedd yn cael ei argymell bod y Pwyllgor yn nodi’r ymgeiswyr i’w cyfwled.

 

 Rhoddwyd argymhelliad bod y Pwyllgor Penodiadau yn dilyn y broses ganlynol:-

 

  • Seicolegydd hyfforddedig a chymwys yn cynnal asesiad seicometreg annibynnol o gymwyseddau ymddygiad yr unigolion, gan nodi unrhyw risgiau y byddai’r Pwyllgor Penodiadau’n dymuno eu hystyried cyn gwneud eu penderfyniad penodi.
  • Asesiad senario i brofi lled a dyfnder gwybodaeth mewn perthynas â’r swydd.
  • Cyfweliad proffesiynol gyda dau unigolyn allanol annibynnol ynghyd â’r Pennaeth Proffesiwn AD a Thrawsnewid.
  • Cynnal asesiad MTQ48 mewn perthynas â chryfder a gwydnwch meddyliol.
  • Bydd holl ganlyniadau’r broses brofi cyn y cyfweliad terfynol yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor Penodiadau fel sylfaen i’w ddewis terfynol.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio fel yr amlinellir uchod.