Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 2 Rhagfyr, 2021.  

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 fel cofnod cywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

4.

Apwyntio Staff

Prif Weithredwr

 

·      Ystyried y cais ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Prif Weithredwr

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021 y lluniwyd rhestr fer ac wedi hynny y cyflawnwyd proses recriwtio pum cam yn unol â’r hyn a gytunwyd gan y Pwyllgor Penodiadau, sef:-

 

·           Profion seicometrig a chyfweliad;

·           Asesiad MTQ48 mewn perthynas â chryfder a gwydnwch meddyliol.

·           Asesiad senario i brofi lled a dyfnder gwybodaeth mewn perthynas â’r swydd.

·           Cyfweliad proffesiynol â Phrif Weithredwr y WLGA a chyn Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion, wedi’i hwyluso gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid;

·           Cyfweliad ffurfiol gyda’r Pwyllgor Penodiadau.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Dylan Williams i’r swydd Prif Weithredwr.