Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd K P Hughes ddatgan diddordeb personol gan ei Fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, yn dilyn cyngor cyfreithiol dywedodd nad oedd yr ymgeisydd yn gyswllt personol agos iddo ac felly roedd yn gallu cymryd rhan yn y cyfarfod. 

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 279 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Rhagfyr, 2021.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr, 2021 yn gywir.

 

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, PENDERFYNWYD cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.  

 

 

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi cael ei hysbysebu rhwng 17eg Rhagfyr, 2021 a 14eg Ionawr 2022 yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 22ain Tachwedd, 2021. Adroddodd bod dau Swyddog AD wedi llunio rhestr fer ar sail wrthrychol, ac argymhellir bod y Pwyllgor yn cadarnhau pa ymgeiswyr fydd yn cael eu cyfweld. 

 

Argymhellwyd bod y Pwyllgor Penodiadau’n dilyn yr un broses dri cham a ddilynwyd yn achos yr uwch benodiadau diweddar, sef:-

 

·           Cyfweliad proffesiynol i’w gynnal rhwng y Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro dros dro neu eilydd addas a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid;

·           Cyfweliad allanol yn seiliedig ar broses brofi seicometreg gyda Gatenby Sanderson ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer;

·           Cyfweliad ffurfiol â’r Pwyllgor Penodiadau ar gyfer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer a phenderfynu pwy fydd yn cael ei ddethol ar ôl ystyried adroddiad llafar ar y cyfweliadau proffesiynol a’r profion seicometreg.

 

PENDERFYNWYD cefnogi argymhellion y Swyddog  a dilyn proses dri cham fel yr amlinellir uchod.

 

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, PENDERFYNWYD cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

6.

Apwyntio Staff

Dirprwy Brif Weithredwr

 

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Dirprwy Brif Weithredwr

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

Adroddodd y Rheolwr Adnoddau Dynol bod y swydd Dirprwy bellach yn wag ac angen ei llenwi yn dilyn penodi’r Dirprwy Brif Weithredwr yn Brif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Hysbysebu’r swydd Dirprwy Brif Weithredwr yn allanol;

·      Bod y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yn unol ag Atodiad 1 yn yr adroddiad; 

·      Hysbysebu cyflog y swydd yn unol â’r cyflog presennol sef £99,565 y flwyddyn gyda’r dyfarniad cyflog ar gyfer 2021 a 2022 yn cael ei ychwanegu unwaith y caiff ei gytuno;

·      Hysbysebu’r swydd am gyfnod o dair wythnos yn olynol;

·      Hysbysebu’r swydd yn unol â pholisi arferol y Cyngor ar gyfer swyddi Prif Swyddogion, sef drwy wefan yr Awdurdod, micro wefan ddynodedig, ynghyd â phlatfformau cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys gwefan lleol.cymru, papur newydd The Guardian, Golwg a hysbysebu drwy CLlLC, yn ogystal â hysbysu’r pum brif cyngor yng Ngogledd Cymru;

·      Bod dau swyddog o’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol yn mynd ati i lunio rhestr fer ar sail wrthrychol, wedi i’r cyfnod hysbysebu ddod i ben,;

·      Bbod y Pwyllgor, yn dilyn cwblhau’r broses llunio rhestr fer, yn cael ei alw i gymeradwyo’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ac unrhyw gamau pellach angenrheidiol yn y broses ddethol. Bydd rhaid i’r Cyngor llawn gefnogi’r penodiad terfynol.