Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Ionawr, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022 fel cofnod cywir.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodareth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro.

 

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2022 bod rhestr fer wedi ei llunio ac yn dilyn hynny bod proses recriwtio tair cam wedi ei chynnal fel a gytunwyd o fewn y Pwyllgor Penodiadau a hynny fel â ganlyn:- 

 

 

·      Profion seicometrig a chyfweliad dilynol

·      Cyfweliad proffesiynol efo’r Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth Interim (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

·      Cyfweliad ffurfiol â’r Pwyllgor Penodiadau

 

Roddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Interim (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro adborth o’r cyfweliad proffesiynol i’r Pwyllgor Penodiadau.

 

Yn dilyn cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mrs Debbie Jones i’r Swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.