Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Chwefror, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2022 yn gywir.

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid nad oedd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wedi derbyn y swydd.

 

Oherwydd sensitifrwydd y materion i’w trafod penderfynodd y Pwyllgor wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod. 

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn dal i fod yn wag a bod adroddiad wrthi’n cael ei lunio mewn perthynas â’r opsiynau a'r camau nesaf i’w cymryd mewn perthynas â’r swydd.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Apwyntio Staff

Dirprwy Brif Weithredwr

 

·      Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

 Dirprwy Brif Weithredwr

 

Adroddodd y Rheolwr AD bod y swydd Dirprwy Brif Weithredwr wedi cael ei hysbysebu’n allanol rhwng 28 Ionawr, 2022 a 21 Chwefror, 2022 yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 27 Ionawr, 2022.  Aeth ymlaen i adrodd bod Swyddogion AD wedi llunio rhestr fer drwy gynnal dadansoddiad annibynnol ac o ganlyniad argymhellir bod y Pwyllgor yn nodi pa ymgeisydd/ymgeiswyr y dylid eu cyfweld. 

 

Argymhellir bod y Pwyllgor Penodiadau’n dilyn y broses ganlynol:-

 

·           Asesiad seicometreg annibynnol i’w gynnal gan seicolegydd cymwys i asesu cymwyseddau ymddygiad yr unigolyn, gan nodi unrhyw risgiau efallai y bydd y Pwyllgor Penodiadau’n dymuno’u hystyried cyn dod i benderfyniad;

·           Asesiad senario i brofi lled a dyfnder gwybodaeth yr unigolyn mewn perthynas â’r swydd; 

·           Cyfweliad proffesiynol gyda’r Dirprwy Brif Weithredwr, aelod o’r Uwch Dîm Rheoli sydd heb ymgeisio ar gyfer y swydd a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid;

·           Asesiad MTQ48 mewn perthynas â chadernid a gwytnwch meddyliol;

Bydd canlyniadau’r holl brofion a gynhelir cyn y cyfweliad terfynol yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn llywio eu penderfyniad terfynol.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Swyddog ar gyfer y rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio a amlinellir uchod.