Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr, yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y cyfarfod.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

 

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mawrth, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2022 yn gywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’I diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Apwyntio Staff

Dirprwy Brif Weithredwr

 

·           Ystyried y cais ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·           Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Dirprwy Brif Weithredwr

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a’r Rheolwr Adnoddau Dynol, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 4 Mawrth 2022, y lluniwyd rhestr fer ac yn dilyn hynny cynhaliwyd proses recriwtio pum cam gyda chytundeb y Pwyllgor Penodiadau fel â ganlyn:-

 

·      Prawf seicometrig a chyfweliad dilynol

·      Asesiad MTQ48 mewn perthynas â chadernid a gwytnwch meddyliol;

·      Asesiad sefyllfa yn profi dyfnder a manylder gwybodaeth mewn perthynas â’r swydd;

·      Cyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr, cyn Brif Weithredwr Cyngor Ceredigion a’r

Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid;

·      Cyfweliad ffurfiol gyda’r Pwyllgor Penodiadau. 

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau:-

 

·      benodi Mr Rhys Howard Hughes i’r swydd Dirprwy Brif Weithredwr;

·      y dylai’r Adran Adnoddau Dynol hysbysebu’r swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau

a Phobl Ifanc gan ddilyn y broses arferol ar gyfer hysbysebu Uwch Swyddi am gyfnod o 3 wythnos. 

 

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’I diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

6.

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd - Dros Dro

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd  - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r trefniadau dros dro o ran y swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Diwygio rôl y Dirprwy Brif Weithredwr dros dro i gynnwys swyddogaethau statudol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Mesurau Llywodraethiant Cymru 2021 ond yn amodol ar yr amod, tra’n gweithredu swyddogaethau statudol y rôl hon, nad oes modd iddo weithredu’r pwerau sydd wedi eu dirprwyo i, na gweithredu fel, y Prif Weithredwr yn unol â pharagraff 3.5.3.2.10 o’r Cyfansoddiad;  

·           Bod swydd dros dro Rheolwr Busnes Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei chreu ac yn cael ei hysbysebu yn unol â’r prosesau AD arferol, er mwyn rheoli a darparu cefnogaeth i weddill yr uned gwasanaethau democrataidd bresennol;

·           Bod adroddiad gwerthuso opsiynau i ddilyn yn cynnwys manylion am ddyfodol y cyfrifoldeb democrataidd statudol a strwythur yr uned ddemocrataidd bresennol.