Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn Is-gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Mawrth, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2019. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 19 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :- “O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Apwyntio Staff Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Swyddogion ar y strwythur Uwch Reolwyr.
PENDERFYNWYD :-
· Y bydd diweddariad ar ganlyniad y broses mewn perthynas â’r strwythur Uwch Reolwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Panel Penodiadau a gynhelir ar 25 Mehefin, 2019; · Cytunwyd ymhellach y byddai dwy swydd wag yn yr ail-strwythuriad yn cael eu hysbysebu’n fewnol i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan yr ail-strwythurol yn y lle cyntaf, a hynny’n unol â Pholisi’r Cyngor. Oni cheir unrhyw geisiadau llwyddiannus, bydd unrhyw swyddi sydd ar ôl yn cael eu hysbysebu’n allanol. |