Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 174 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·           10 Mawrth, 2021

·           17 Mawrth,  2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2021.

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd

 

Cyflwynwyd 3 ymgeisydd oddi ar y rhestr fer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau fel ymgeiswyr posibl ar gyfer y swydd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd. Tynnodd 1 ymgeisydd ei gais yn ôl cyn y cyfweliad.

 

Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, fe wnaethant ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna buont ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Rhoddwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometrig a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Yn dilyn y cyfweliad ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Christian Branch i’r swydd uchod.