Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ar 17 Mawrth 2021 bod y swydd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion wedi ei hysbysebu ar 26 Mawrth 2021 tan 19 Ebrill 2021.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, yn unol ag arferion recriwtio safonol, bod rhestr fer annibynnol wedi ei ffurfio yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn y ceisiadau ac fe gafodd ei argymell bod yr ymgeiswyr sy’n cwrdd â’r trothwy yn cael eu cyfweld. Cafodd ei argymell bod y Pwyllgor penodiadau yn dilyn yr un broses ag sydd wedi’i dilyn â nifer o benodiadau ar lefel uwch sef proses tri cham sef:-

 

  • Cyfweliad allanol â Gatenby Sanderson yn seiliedig ar broses o brofion seicometrig ar gyfer yr holl ymgeiswyr ar y rhestr fer;
  • Cyfweliad proffesiynol i’w gynnal gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Proffesiwn AD fel ffordd o gadarnhau cywirdeb y ffurflen gais;
  • Cyfweliad gyda’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn gwneud penderfyniad ar ba ymgeisydd, os unrhyw un, a ddewisir yn dilyn ystyried y ddau gam blaenorol a gyflwynir mewn adroddiad cyn y cyfweliad ffurfiol â’r Pwyllgor. 

 

 

PENDERFYNWYD bod argymhelliad y Prif Weithredwr mewn perthynas â llunio rhestr fer a’r broses tri cham yn cael ei gefnogi’n unfrydol fel y nodwyd yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar y mater.