Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Rogers, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd, Mr Dilwyn Evans.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol PDF 433 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 21 Medi, 2021 · 20 Hydref, 2021 · 15 Tachwedd, 2021
Yn codi oddi ar gofnodion cyfarfod 21 Medi, 2021 –
· Eitem 3 – Llywodraethu Gwybodaeth: Adroddiad Blynyddol yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth 2020/21
Cyflwyno adroddiad llafar gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn egluro trefniadau’r Gwasanaeth Dysgu ar gyfer cwblhau'r gwaith yn gysylltiedig â’r archwiliad cydsyniad a'r Cofnod o Weithgareddau Prosesu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol a chadarnhawyd eu bod yn gywir -
· Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2021 –
Cafwyd cadarnhad gan Reolwr Busnes a Pherfformiad y Gwasanaeth Dysgu mewn perthynas â dau ddarn o waith yn gysylltiedig â’r archwiliad caniatâd a’r archwiliad o gofnodion gweithgareddau prosesu (ROPA) bod y cyntaf bellach wedi’i gwblhau a’i anfon at y Swyddog Diogelu Data. Yn achos yr ail mae nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal yn fewnol a chyda’r cwmni allanol i adolygu’r trefniadau presennol; ac mae pob rheolwr yn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Diwylliant wedi adolygu’r gwaith hwn a’i drosglwyddo i’r templed newydd sydd hefyd wedi’i anfon at y Swyddog Diogelu Data. Mae angen cwblhau rhywfaint o waith pellach mewn perthynas â ROPA i sicrhau bod yr holl weithdrefnau a phrosesau ar waith yn cynnwys cytundebau dada a hysbysiadau preifatrwydd.
Derbyniwyd a nodwyd yr wybodaeth.
· Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2021 -
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2020/21 wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 22 Tachwedd, 2021 ac yna’u llofnodi gan yr Archwilwyr Allanol heb unrhyw newidiadau i’r fersiwn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 15 Tachwedd, 2021. Cwblhawyd y broses gymeradwyo a llofnodi cyn y dyddiad cau statudol ar 30 Tachwedd ac mae’r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2020/21 ac adroddiad yr Archwilwyr Allanol bellach wedi’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Nodwyd yr wybodaeth at ddibenion diweddaru.
|
|
Adroddiad Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth Blynyddol Ysgolion Môn PDF 835 KB Cyflwyno adrodiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Diogelu Data Ysgolion, yn cynnwys dadansoddiad o’r materion llywodraethu allweddol mewn perthynas ag Ysgolion Môn ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2020 a Tachwedd, 2021, i’w ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Roedd yr adroddiad yn darparu datganiad y Swyddog Diogelu Data Ysgolion a throsolwg o gydymffurfiad ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig Ynys Môn â’r gofynion cyfreithiol wrth ymdrin â gwybodaeth am ysgolion, gan gynnwys cydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GDPR); Deddf Diogelu Data 2018 a chodau ymarfer perthnasol.
Bu i’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion nodi bod yr adroddiad yn crynhoi’r camau gweithredu a gymerwyd ers yr adroddiad diwethaf ym mis Gorffennaf, 2020 o ran darparu polisïau a dogfennau i ysgolion i’w cefnogi i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data yn ogystal â darparu manylion y cynnydd hyd yma yn erbyn y Cynllun Diogelu Data Ysgolion 2021/22.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r hyn a gyflawnwyd yn erbyn y Cynllun Cymorth ar gyfer Ysgolion - Polisïau a Gweithdrefnau Diogelu Data Ysgolion 2020-21. Cadarnhaodd bod y cyfnod hwn wedi bod yn arbennig o heriol i ysgolion oherwydd y pandemig Covid-19 ac mae wedi bod yn anodd iawn i ysgolion flaenoriaethu unrhyw beth oni bai am redeg yr ysgolion a darparu addysg, tra hefyd yn delio â phrinder staff a heriau eraill y maent yn dal i’w hwynebu ac o’r herwydd mae nifer o’r camau gweithredu’n felyn neu’n oren. Ym mhwynt 2.2.1 yn yr adroddiad rhestrir y polisïau, canllawiau, dogfennau a thempledi a rannwyd ag ysgolion i’w mabwysiadau a’u defnyddio ac ym mhwynt 2.2.2.2 amlinellir yr hyfforddiant diogelu data a ddarparwyd i ysgolion. Darperir yr hyfforddiant bob tro y caiff dogfennau polisi eu rhannu ag ysgolion i sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt o ran y gofynion cydymffurfio. Yn yr adroddiad cyfeirir hefyd at y gwaith mapio data, yn benodol y proseswyr mapio data a mapio’r llif data rhwng yr ysgolion a’r Cyngor. O ystyried popeth, mae’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion o’r farn bod ysgolion bellach yn deall eu rhwymedigaethau diogelu data a phwysigrwydd diogelu data yn well ac yn awr yn rhoi mwy o flaenoriaeth i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data. Er bod gwaith i’w gyflawni o hyd fel sydd wedi’i adlewyrchu yn y camau nesaf, mae’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion yn gallu darparu sicrwydd rhesymol mewn perthynas â chydymffurfiaeth ysgolion â’r gofynion diogelu data.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth –
· Y trefniadau sydd ar waith er mwyn rhoi’r camau nesaf ar waith a monitro cydymffurfiaeth. Cynghorwyd y pwyllgor bod Cynllun Diogelu Data wedi’i greu ar gyfer 2021/22 (ceir manylion yn adran 3 yn yr adroddiad) ynghyd â chynllun gweithredu ac amserlen; mae’r olaf wedi’i adolygu’n fewnol i ystyried y blaenoriaethau amrywiol eraill sydd gan ysgolion ac mae bellach yn nodi’n glir pryd y mae disgwyl i’r camau gweithredu gael eu cyflawni. Mae’r holl gamau gweithredu sydd yn rhaid i ysgolion eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Strategaeth Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2021-24 PDF 288 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Strategaeth Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2021-24, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gweithgareddau y bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn eu cynnal i leihau'r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd o fewn ac yn erbyn y Cyngor.
Bu i’r Pennaeth Archwilio a Risg grynhoi cynnwys ac amcanion y strategaeth gan amlygu bod y ddogfen “Fighting Fraud and Corruption Locally Strategy for the 2020s” (FFCL), a gefnogir gan CIPFA, wedi’i defnyddio fel sylfaen i’r ffocws strategol yn absenoldeb strategaeth benodol ar gyfer Cymru; dyma’r strategaeth atal twyll a llygredd gyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr ac mae’n darparu glasbrint ar gyfer ymateb yn fwy cadarn a diweddar i dwyll a llygredd yn erbyn awdurdodau lleol na’r Cod Ymarfer ar Reoli’r Risg o Dwyll a Llygredd (Cod CIPFA) a ystyriwyd yn ogystal. Yn yr un modd â Chod CIPFA, mae’r strategaeth FFCL yn canolbwyntio ar bum piler o weithgaredd, neu amcanion strategol, ac yn ein cynorthwyo i nodi ym mhle mae angen i’r Cyngor ganolbwyntio ei ymdrechion atal twyll. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at y Fenter Twyll Genedlaethol yn ogystal, sef ymarfer paru data a gynhelir pob dwy flynedd sydd yn gyrru mwyafrif y gwaith atal twyll a chadarnhaodd na chanfuwyd unrhyw achosion o dwyll mewn perthynas â systemau’r Cyngor hyn yma wrth ymchwilio i garfan gyntaf y canlyniadau paru ar gyfer 2020/21 a gafodd eu rhyddhau ym mis Ionawr 2021.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth -
· Cydnabod yr angen i gryfhau dull y Cyngor o gaffael fel un o’r meysydd risg cydnabyddedig uchaf yn 2019/20 gan nad oes system neu ddull cyson ar hyn o bryd; holwyd ynglŷn â’r angen i gael polisi a/neu strategaeth gaffael er mwyn safoni’r broses. Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai’r elfen monitro contractau o drefniadau caffael y Cyngor sydd heb ei chanoli a bod archwiliad ar y gweill i asesu pa mor gadarn yw dulliau rheoli a mesur y cyngor o ran canfod a/neu atal twyll a llygredd yn y maes hwn. · Pa un ai a oedd y refeniw a gynhyrchwyd yn dilyn yr adolygiad diwethaf o’r hawliadau Gostyngiad Person Sengl y Dreth Gyngor o ganlyniad i ganfod hawliadau twyllodrus a pha un ai a oedd achosion o’r fath ac achosion yn ymwneud â chonsesiynau parcio i’r anabl a thwyll grantiau wedi arwain at unrhyw erlyniadau. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg nad oedd unrhyw erlyniadau wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac eglurodd bod yr adolygiad o hawliadau Gostyngiad Person Sengl yn fenter a ddarperir gan y gwasanaeth dilysu data, Datatank; yn ystod yr adolygiad diwethaf cafodd 11,200 o gyfrifon eu sgrinio, cafodd 2,245 o gyfrifon eu targedu a daethpwyd o hyd i 484 o gamgymeriadau, ac roedd y gyfradd camgymeriadau yn 4.3%. · Pa un ai a fu cynnydd mewn twyll grantiau wrth weinyddu cynlluniau grantiau cymorth Covid-19 Llywodraeth Cymru a pha un ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli’r trysorlys a’r sefyllfa bresennol, i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Cynghorwyd y Pwyllgor bod pethau wedi symud ymlaen mewn perthynas â’r diweddariad ar y sefyllfa economaidd a geir yn yr adroddiad. Gan fod chwyddiant yn parhau i gynyddu mae pwysau i gynyddu Cyfradd y Banc. Yn nhabl 3.1 yn yr adroddiad ceir rhagolwg o’r gyfradd llog ac yn Atodiad 2 ceir esboniad o’r sefyllfa mewn perthynas â’r gyfradd llog yn cynnwys y risgiau sylweddol i’r hyn sydd wedi’i ddarogan yn cynnwys y pandemig, materion yn ymwneud â Brexit a ffactorau eraill. Nid yw strategaeth y Cyngor ar fuddsoddiadau wedi newid ac mae’n seiliedig ar barhau i roi blaenoriaeth i ddiogelwch cyfalaf a hylifedd yn hytrach nag enillion. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ystyrir ei bod yn briodol cadw’r buddsoddiadau i rai tymor byr er mwyn cwrdd ag anghenion llif arian, ond hefyd i chwilio am y gwerth sydd ar gael mewn cyfnodau hyd at 12 mis gyda sefydliadau ariannol â statws credyd uchel. Mae’r Cyngor wedi buddsoddi â Chyngor Sir y Fflint yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac wedi agor cyfrifon gyda dau fanc newydd cymeradwy sydd yn cynnig enillion uwch. Mae gan y Cyngor, fel nifer o awdurdodau lleol eraill, falans arian parod uchel sy’n cael ei gadw ar sail tymor byr yn bennaf. Cyn ymrwymo i fuddsoddiad mwy hirdymor rhaid ystyried y cynnydd posib yn y gyfradd llog.
Ni chymerwyd benthyg unrhyw arian ychwanegol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, a ni ragwelir y bydd angen cymryd unrhyw fenthyciadau allanol ychwanegol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd angen benthyca i gyllido rhan o raglen gyfalaf 2021/22, ond gwneir hynny trwy fenthyca mewnol drwy ddefnyddio balansau arian parod. Bydd hyn yn gohirio costau cyllido cyfalaf tra bod balansau arian parod y Cyngor yn gallu darparu ar gyfer y benthyca mewnol hwn.
Gellir cadarnhau bod y Cyngor, yn ystod yr hanner blwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021, wedi gweithredu o fewn y dangosyddion trysorlys a darbodus a nodwyd yn Natganiad y Cyngor ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 ac na ragwelir unrhyw anawsterau o ran cydymffurfio â’r dangosyddion hyn yn ystod gweddill y flwyddyn.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth –
|
|
Archwilio Allanol - Cyngor Sir Ynys Môn: Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020 PDF 216 KB Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol. Cofnodion: Cynghorodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad, bod copi o Grynodeb Archwilio Blynyddol 2020 wedi’i anfon i’w gyhoeddi mewn camgymeriad ac ymddiheurodd am hyn. Gan fod un awdurdod heb gwblhau’r broses cwblhau cyfrifon o hyd ni all Archwilio Cymru ddarparu gwybodaeth gymharol lawn ac felly nid yw Crynodeb Archwilio 2021 ar gael ar hyn o bryd. Mae’r cyfrifon wedi’u derbyn erbyn hyn a gwneir pob ymdrech i gyhoeddi’r Crynodeb Archwilio ar gyfer 2021 cyn gynted â phosibl.
|
|
Cyflwyno adroddiad Archwilio Mewnol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yr Archwilwyr Allanol, a oedd yn cynnwys Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru fel ac yr oedd ar 30 Medi 2021, er gwybodaeth i’r Pwyllgor. Roedd y rhaglen yn amlinellu’r amserlen cyhoeddiadau a statws y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad cyfredol ynghyd â’r astudiaethau Llywodraeth Leol ac adroddiadau cenedlaethol gan Archwilio Cymru sydd yn yr arfaeth ac ar y gweill. Cyfeiriwyd at y gwaith rheoleiddio arall a gyflawnir gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a’r rhaglen a gyflwynwyd.
|
|
Archwilio Allanol: Cyllid Myfyrwyr (Er gwybodaeth) PDF 6 MB Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yr Archwilwyr Allanol mewn perthynas â Chyllid Myfyrwyr i’r Pwyllgor er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn egluro sut y mae’r system cyllid myfyrwyr yn gweithio i fyfyrwyr yng Nghymru ac roedd yn ystyried sut mae Llywodraeth Cymru’n goruchwylio’r system. Roedd yr adroddiad yn cynnig tri argymhelliad ar gyfer gwella mewn perthynas â monitro, datblygu cynaliadwy a chynllunio ar gyfer olyniaeth a gwydnwch.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth –
Penderfynwyd nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
|
|
Côd Llywodraethu Lleol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys Côd Llywodraethu Lleol drafft y Cyngor, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r Côd yn nodi trefniadau’r Cyngor ar gyfer arddangos Llywodraethu da, ac mae wedi’i baratoi yn unol â’r egwyddorion craidd ac ategol sydd yn y ‘Framework for Delivering Good Governance in Local Government’ (CIPFA / Solace, 2016).
Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad at y saith egwyddor llywodraethu da a gytunwyd gan CIPFA a Solace y mae’r Côd yn seiliedig arnynt. Mae’r Côd wedi’i danategu gan yr egwyddorion hyn ac yn cynnwys y fframwaith polisïau a gweithdrefnau, diwylliant a gwerthoedd y mae’r Cyngor yn cael ei gyfarwyddo a’i reoli ganddynt ac sydd yn rhoi sicrwydd a thystiolaeth bod ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddorion hynny. Disgwylir i’r Côd gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn flynyddol er mwyn ei adolygu a rhoi sicrwydd bod trefniadau llywodraethu’r Cyngor yn parhau i fod yn gadarn ac addas i’r diben ac wedi’u gweithredu a’u rhoi ar waith yn effeithiol ym mhob agwedd o fusnes y Cyngor.
Penderfynwyd –
|
|
Adolygiadau Cenedlaethol a'u Hargymhellion Cysylltiedig PDF 816 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn nodi sut y mae’r Cyngor wedi ymateb i adolygiadau cenedlaethol a’u hargymhellion, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hwn yn ceisio rhoi sicrwydd bod yr argymhellion cenedlaethol sydd ynghlwm â’r adroddiadau cenedlaethol wedi cael sylw dilys gan wasanaethau’r Cyngor Sir a bod y rhai perthnasol yn cael eu gwireddu mewn modd ystyrlon.
Adroddodd y Rheolwr Rhaglenni, Cynllunio Busnes a Pherfformiad er mwyn arddangos llywodraethu da, ac mewn ymateb i lythyr y Cyfarwyddwr Archwilio o Archwilio Cymru a yrrwyd at Gadeirydd y Pwyllgor hwn ac a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar y 21ain o fis Medi eleni, bod yr adroddiad atodol yn dangos sefyllfa’r Cyngor yn erbyn y gwahanol feysydd gwaith cysylltiedig. Mae’r adroddiad yn cydnabod 15 o adroddiadau cenedlaethol a’u hargymhellion cysylltiedig a fydd yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol i sylw’r Pwyllgor hwn. Mae’r argymhellion hynny’n effeithio ar ystod eang o wasanaethau’r Cyngor Sir sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad. Rhagwelir y bwriad os yw’r Pwyllgor yn gytûn bod y diweddariad cyfredol blynyddol yn dod i’r Pwyllgor unwaith y flwyddyn yn ystod ei gyfarfodydd yn chwarter 3 o’r flwyddyn ariannol dan sylw.
Codwyd y pwyntiau trafod canlynol gan y Pwyllgor –
Penderfynwyd –
|
|
Diweddariad Archwilio Mewnol PDF 514 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa fel ag yr oedd hi ar 1 Rhagfyr 2021. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf ym mis Medi 2021, llwyth gwaith cyfredol y gwasanaeth archwilio mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr i’r tymor canolig.
Yn unol â ‘Strategaeth Cyfarfodydd Pwyllgor’ y Cyngor, mae’r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n amlinellu’r dyletswyddau deddfwriaethol sydd i’w cyflawni gan bwyllgor archwilio’r Cyngor, yn benodol, goruchwylio trefniadau archwilio mewnol yr awdurdod.
Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg bedwar adroddiad a gwblhawyd yn ystod y cyfnod, a bod dau ohonynt - Buddsoddi mewn Asedau a Llety Sipsiwn a Theithwyr - wedi derbyn Sicrwydd Rhesymol ac nad oedd unrhyw faterion i’w codi. Derbyniodd yr Adolygiad ar Adennill Mân-ddyledion y Cyngor ac Effaith Covid-19 sicrwydd cyfyngedig a chodwyd wyth mater/risg sydd angen sylw rheoli lefel uchel i ganolig. Mae cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r materion hynny wedi’i gytuno gyda’r rheolwyr a disgwylir iddynt fod wedi’u datrys erbyn 20 Mehefin, 2022. Hefyd, Mae’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wedi comisiynu ymgynghorydd i fynd i’r afael â’r materion a risgiau a godwyd yn y Cynllun Gweithredu ac mae prosiect â cherrig milltir wedi’i ddatblygu a’i gytuno â’r ymgynghorydd. Mae’r pedwerydd adroddiad a gwblhawyd yn ymwneud ag ymchwiliad yn gysylltiedig â gweithgareddau caffael o fewn y Gwasanaethau Eiddo a cheir y manylion ym mharagraff 12 i 15 yn yr adroddiad. Mae’r tri archwiliad a nodir yn y tabl ym mharagraff 16 ar y gweill ac mae’r gwaith o ymchwilio i’r canlyniadau paru a nodir ym mharagraff 18 yn yr adroddiad mewn perthynas â’r Fenter Twyll Genedlaethol hefyd ar y gweill. Ar 1 Rhagfyr, 2021 roedd 14 o gamau heb eu cwblhau (6 sylweddol a 6 cymedrol) yn ymwneud â materion/risgiau a godwyd yn ystod y chwe archwiliad a restrir ym mharagraff 22 yn yr adroddiad. Mae’r gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gweithio gyda’r gwasanaethau i’w cefnogi i weithredu’r camau hyn. Mae blaenoriaethau tymor byr i ganolig y gwasanaeth Archwilio Mewnol ynghyd â’i flaenoriaethau mwy hir dymor wedi’u rhestr ym mharagraffau 25 i 28 yn yr adroddiad.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth -
· Ceisiwyd eglurder ynglŷn â’r materion technegol a nodwyd sydd wedi effeithio ar fonitro perfformiad y gwasanaeth a graddfeydd casglu mewn perthynas ag adennill mân-ddyledion. Cynghorwyd y Pwyllgor bod diffyg aliniad rhwng systemau a phrosesau cofnodi wedi ei gwneud hi’n anoddach monitro perfformiad. Hefyd, nid yw’r adnoddau sydd ei angen o ran amser a phersonél i ddatblygu systemau prosesau busnes i gwrdd ag anghenion y busnes ar gael oherwydd bod staff wedi ymrwymo’n llawn i gynnal busnes ar sail dydd i ddydd. O ganlyniad byddwn yn ymgysylltu ag ymgynghorwr a fydd yna adolygu’r systemau a gweithio gyda staff i roi unrhyw newidiadau a argymhellir ar waith. Ar gais y Pwyllgor cytunwyd i’w ddiweddaru ar gynnydd y prosiect yn ei gyfarfod y mis Ebrill, 2022. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Siartr Archwilio Menwol PDF 430 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Siarter Archwilio Mewnol, i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei bod wedi adolygu’r Siarter Archwilio Mewnol i sicrhau ei bod yn dal i fod yn briodol ac ni chanfuwyd unrhyw newidiadau sylweddol.
Penderfynwyd nodi’r adolygiad a chymeradwyo priodoldeb parhaus y Siarter Archwilio Mewnol.
|
|
Rhaglen Waith wedi'i Diweddaru PDF 245 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i’r Pwyllgor a gofynnwyd iddo ystyried a chymeradwyo’r Blaen Raglen Waith ddiwygiedig. Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Blaen Raglen Waith wedi’i diwygio eto i ystyried ceisiadau gan reolwyr oherwydd llwyth gwaith neu ffactorau eraill, a chynnwys y cyfarfod arbennig ychwanegol yn y calendr i ystyried y Datganiad o Gyfrifon a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol terfynol. Penderfynwyd nodi'r mân ddiwygiadau i'r Blaen Raglen Waith gymeradwy ar gyfer 2021-22.
|