Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 5ed Chwefror, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniad

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Archwilio ac estynnodd groeso arbennig i Miss Clare Williams i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Archwilio ers ei phenodiad yn Bennaeth Swyddogaeth (Adnoddau).

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 12 Rhagfyr, 2012

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2012.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2012.

 

Materion yn codi –

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) wrth y Pwyllgor - oherwydd cyfyngiadau amser yn y cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, roedd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Hamdden a Diwylliant) yn ymwneud a chyrhaeddiad a pherfformiad Oriel Ynys Môn yn 2011/12 wedi ei gyfeirio i is-bwyllgor o’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar gyfer ystyriaeth a sgriwtini pellach.

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Cyllid bod gwaith ynglŷn â’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau (BMU), yn parhau a bod y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn trafodaethau ynglŷn â moderneiddio’r Uned.  Mae’r Pwyllgor Archwilio wedi derbyn adroddiadau mewn perthynas â’r Uned Gynnal a Chadw yn dilyn adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru o drefniadau darparu gwasanaeth yr Uned, a hefyd yn dilyn adolygiad archwilio mewnol o drefniadau caffael yr Uned.  Mae Archwilio Mewnol yn gwneud gwaith pellach a dargedwyd mewn perthynas â’r mater hwn.

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Gofyn i’r Pennaeth Gwasanaeth Tai adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar y cynnydd gyda mynd i’r afael â materion llywodraethu yng nghyswllt yr uned Cynnal a Chadw Adeiladau.

 

·         Gyda chaniatâd y Pwyllgor, cyflwynwyd Cynllun Gweithredu Llywodraethu/Rheoli Gwybodaeth er ystyriaeth gychwynnol yr Aelodau yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol ei fod yn derbyn atborth gan y Grŵp Rheoli Gwybodaeth.

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i roi diweddariad i’r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod nesaf ar y cynnydd gyda rhoi’r Cynllun Gweithredu Llywodraethu/Rheoli Gwybodaeth ar waith ag unrhyw faterion eraill oedd yn codi ynglŷn â hynny.

 

 

3.

Cofrestr Risg Corfforaethol pdf eicon PDF 442 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn crynhoi’r cynnydd a wnaed gyda gweithredu’r Fframwaith Rheoleiddio Risg ynghyd â Chofrestr Risg Gorfforaethol newydd fel Atodiad A i’r adroddiad.

 

Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Ariannol am atgoffa’r Pwyllgor bod y Strategaeth Rheoli Risg a’r Cyfarwyddyd wedi eu cymeradwyo a bod hyfforddiant ar y testun wedi ei ddarparu ac mai’r unig agwedd oedd yn parhau ar ôl oedd darparu diweddariad i’r Gofrestr Risg.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn cynnwys adolygiad gan Dim Uwch Arweinyddiaeth yr Awdurdod o ddiffiniadau’r risg, sbardunau a lefelau risg a hefyd nodi’r pum prif risg oedd yn wynebu’r Cyngor fel oedd i’w weld ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.  Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn nodi nifer o feysydd risg eraill yn ychwanegol i’r pump uchaf a bydd y matrics yn cael ei gwblhau unwaith y bydd y mesurau rheoli ychwanegol/triniaethau sydd eu hangen o ran gweithredu, swyddog(ion) cyfrifol a dyddiad targed wedi eu penderfynu a’u diffinio.  Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y byddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio.

Ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol oedd ynghyd ag ef a gwnaethpwyd sylwadau ar y materion canlynol a/neu ceisiwyd cael eglurhad pellach –

 

·         Y meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu beth oedd pum prif risg y Cyngor.

·         A oedd yn cael ei ystyried bod risg YM36 oedd yn cael ei diffinio fel methiant i gynllunio ar gyfer effaith diwygio’r sector iechyd wedi ei gyfyngu yn bennaf i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu a fyddai ei effaith yn fwy eang ar draws gwasanaethau’r Cyngor.

·         Y sail dros beidio cynnwys risg YM23 (methiant i weithredu cynnwys y cynllun arolygu ôl Estyn a gwella perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol), fel un o brif risgiau’r Cyngor o ystyried  termau disgrifio  canlyniad y methiant hwn yn y Gofrestr Risg.  Roedd teimlad bod peidio â chynnwys y risg hon ymysg y pump uchaf yn tynnu’n groes i’r hyn oedd yn cael ei ddweud yn y Gofrestr ynglyn â difrifoldeb y canlyniadau.

·         Ategwyd mai canlyniad nifer o’r meysydd risg fyddai’r posibilrwydd o niweidio enw da.  Awgrymwyd bod y potential o weld niwed i enw da ymhlyg ym mhopeth ac nid oes angen ei ailddweud ac yn fwy na hynny, fe ymddengys fod y cyfeiriadau yn rhai ar hap.  Awgrymwyd bod angen lleihau’r cyfeiriadau at niwed i enw da o fewn y Gofrestr.

Ymatebodd y Swyddogion i’r cwestiynau a ofynnwyd trwy gynnig esboniadau fel oedd yn briodol.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol oedd ynghyd ag ef ac i nodi eu cynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gynnwys diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol fel eitem sefydlog ar raglen y Pwyllgor Archwilio ynghyd â chofnodion y Grŵp Rheoli Risg lle byddai hynny yn briodol.

·         Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i godi’r pwyntiau canlynol gyda’r Tîm Uwch Arweinyddiaeth:

·         Y methiant i gynnwys YM23 fel un o’r pum prif risg gorfforaethol fel rhywbeth oedd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Archwilio allanol - diweddariad ar raglen waith perfformiad pdf eicon PDF 64 KB

Diweddariad ar raglen waith perfformiad

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Andy Bruce, Arweinydd Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru, ddiweddariad i’r Pwyllgor ar statws y gwaith a ddechreuwyd o dan y Rhaglen Waith Perfformiad fel oedd i’w weld yn yr adroddiad yn 4 ynghyd â chrynodeb ar ffurf tabl o’r gwaith oedd yn parhau a’r prosiectau a gynlluniwyd ar sail genedlaethol ac yn ymwneud a’r holl Gynghorau a hefyd ar sail Ynys Môn fel oedd i’w weld yn yr adroddiad yn eitem 5.  Cyfeiriodd y Swyddog at yr Adolygiad Llywodraethu Corfforaethol oedd yn digwydd ym mhob awdurdod unigol yng Nghymru ac a fydd yn eitem newydd i’r rhaglen fydd yn digwydd bob 4 blynedd.  Ni chafwyd y manylion ynglyn â pha bryd y bydd yr adolygiad Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei gynnal ym Môn er nad oes disgwyl y bydd yr Awdurdod yn destun adolygiad ym Mlwyddyn 1.

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth oedd wedi ei chyflwyno a chafwyd trafodaeth ar y rhestr Adolygu Llywodraethu Corfforaethol o safbwynt lle mae Ynys Môn yn debygol o ffitio i mewn i’r cylch a hefyd ynglyn â gweithredu’r Cynllun Gweithredu Archwilio ôl Estyn o ran ceisio cael eglurhad o sut mae’r Bwrdd Adfer Addysg yn cysylltu i mewn i’r rhaglen reoleiddio.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiadau yn 4 a 5.

 

 

5.

Archwilio allanol - diweddariad ar Gynllun Gwaith ac Amserlen pdf eicon PDF 152 KB

Diweddariad ar Gynllun Gwaith ac Amserlen Chwefror, 2012 - Mawrth, 2013.

Cofnodion:

Gweler eitem 4.

6.

Archwilio allanol - diweddariad ar waith archwilio cyllidol

Diweddariad ar waith archwilio cyllidol

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad gan Mr James Quance, PwC ar y cynnydd gyda’r archwilio ariannol yn erbyn y cerrig milltir allweddol yn Amlinelliad Archwilio Ariannol 2012/13 ac yng nghyswllt gwaith ardystio grantiau am 2010/11 a 2011/12.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r llinell amser ar gyfer cyfnodau allweddol y broses Archwilio Cyfrifon 2012/13, sefyllfa gydag ardystio datganiad cyfrifon 2011/12 yn ogystal â hawliadau grant a hefyd y trefniadau cysylltu gydag Archwilio mewnol, Rheolwyr a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

7.

Archwilio allanol - Amlinelliad o Archwiliad Ariannol Blynyddol

Amlinelliad o Archwiliad Ariannol Blynyddol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Mrs Lynn Pamment, Swyddog Ymgysylltiad, PwC yr amlinelliad Archwilio Ariannol Blynyddol i’r Pwyllgor  ar gyfer blwyddyn archwilio 2012/13.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r cyfrifoldebau archwilio o dan y ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, yr agwedd archwilio a gymerir tuag at y gwaith o archwilio’r datganiadau ariannol; y prif risgiau ariannol a gweithredol a wynebir gan yr Awdurdod ac a allai gael effaith ar yr archwiliad fel oedd i’w weld o dan Arddangosyn 1; cyfrifoldebau’r archwiliwr o safbwynt gwerthuso trefniadau’r Awdurdod i sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau a hefyd ffi y gwaith archwilio a’r hyn oedd yn dod o fewn y gwaith hwnnw.

Ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor gynnwys yr adroddiad ag fe ofynnwyd y cwestiynau canlynol a chafwyd ymatebion a manylion pellach gan y Swyddogion.

 

·         Y cysyniad o berthnasedd a sut y deuir i gasgliad am yr hyn a olygir trwy hynny.

·         A oedd asesiad yr Archwilydd o drefniadau’r Awdurdod ar gyfer sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau wedi ei gyfyngu i archwilio’r gweithdrefnau neu a oedd yn cynnwys agwedd yr Awdurdod tuag at nodi a sicrhau arbedion a’r cyd-destun corfforaethol cyffredinol y gellir cynhyrchu arbedion o ‘i fewn.

·         Ffyrdd y gall yr Awdurdod liniaru’r risgiau wrth weithredu’r sustemau newydd.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

8.

Archwilio allanol - llythyr asesiad gwella pdf eicon PDF 202 KB

Llythyr Asesiad Gwella

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Andy Bruce, Arweinydd Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Lythyr Asesiad Gwella yr Archwilydd Cyffredinol (2) oedd yn crynhoi’r gwaith yng nghyswllt adrodd ar welliannau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn benodol ganlyniad yr archwiliad a’r gwaith asesu i nodi a oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflawni ei ddyletswyddau ac wedi bodloni gofynion y Mesur, pa mor ddibynadwy oedd ei hunan-arfarnu ac unrhyw gynigion pellach i wella ac/neu argymhellion.

 

Dywedodd Mr Andy Bruce wrth y Pwyllgor bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r farn bod y Cyngor wedi cydymffurfio yn llawn gyda’i ddyletswyddau adrodd am wella o dan y Mesur ond y gallai cynnwys a strwythur Adroddiad Perfformiad y Cyngor 2011/12 gynnwys mwy o wybodaeth ansoddol er mwyn darparu sail tystiolaeth fwy cyflawn i alluogi’r Cyngor asesu ei berfformiad.  Wrth ymhelaethu ar y casgliadau y daethpwyd iddynt cyfeiriodd at y pwynt eglurhaol ar dudalen 2 y Llythyr oedd yn dangos y ffyrdd yr oedd yr Adroddiad yn bodloni’r holl elfennau oedd eu hangen.  Roedd tudalen 3 y Llythyr yn egluro ym mha ffyrdd  y gallai cynnwys a strwythur yr Adroddiad Gwella Perfformiad gynnwys mwy o wybodaeth ansoddol i ddarparu sail tystiolaeth fwy cyflawn.  Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys dau gynnig i wella mewn perthynas â sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau yn ansawdd yr hunan-arfarnu a gyda sicrhau gwell rheolaeth olygyddol ar yr adroddiad.

Dywedodd y Swyddog bod adroddiad perfformiad y Cyngor yn gyffredinol am 2011/12 yn un gadarnhaol ac yn ddarn o waith calonogol iawn.

 

Penderfynwyd derbyn y Llythyr Asesu a nodi ei gynnwys.

 

9.

Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio er ystyriaeth y Cyngor adroddiad cynnydd ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Rhagfyr 2012.

 

Roedd y Rheolwr Archwilio am amlygu’r pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad –

 

·         Ni fu unrhyw adolygiadau yn y cyfnod lle cafwyd barn Sicrwydd Coch.

·         Roedd y canfyddiadau allweddol o’r tri adroddiad adolygu archwilio a ryddhawyd i’w gweld yn adran 2.2 yr adroddiad.

·         Roedd perfformiad o ran cyfartaledd y Cynllun Archwilio a gwblhawyd  i fyny o 46%  i 53% ond mae’n parhau i fod lawer yn is na’r targed o 90%.  Un ffactor sy’n cyfrannu at hyn yw’r un ar ddeg o atgyfeiriadau a gwblhawyd ac yr adroddwyd arnynt yn y cyfnod ac sydd wedi dargyfeirio adnoddau oddi wrth waith archwilio mewnol a gynlluniwyd.

·         Mae’r perfformiad yn gweithredu ar argymhellion yn y cyfnod yn parhau yn is na’r targed gyda 68% o argymhellion Uchel a Chanolog wedi eu cofnodi fel rhai y gweithredwyd arnynt.  Roedd y dadansoddiad o’r argymhellion a gyflawnwyd gan y gwasanaethau i’w weld yn Atodiad A yr adroddiad.

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a gofynnwyd i’r Swyddog egluro rhai pwyntiau ynglyn â’r trefniadau ar gyfer sgriwtineiddio taliadau uniongyrchol y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ffyrdd ar wahân i archwilio mewnol, a hefyd ynghylch materion llywodraethu a rheoli o fewn ysgolion a gofynnwyd a oedd unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i gyflogi person i gadw llyfr ac i ddarparu cymorth peripatetig i ysgolion yn hyn o beth.  Ymatebodd y Swyddogion i’r pwyntiau a wnaed.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad cynnydd a nodi ei gynnwys.

 

 

 

10.

Gwella'r Pwyllgor Archwilio pdf eicon PDF 471 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio er ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr Hunanasesiad Effeithlonrwydd 2013 (Atodiad B i’r adroddiad) ynghyd a Chynllun Gweithredu Gwella ar gyfer 2013/14 (Atodiad C i’r adroddiad).

Tynnodd y Rheolwr Archwilio sylw at y prif ystyriaethau a ganlyn o’r adroddiad –

·         Meysydd gwella a nodwyd yng ngweithdy Ionawr 2013 i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn cynnwys gwella hyfforddiant anwytho a dadansoddiad o anghenion hyfforddiant unigol i Aelodau; eglurhad o rolau’r Pwyllgorau Archwilio a Sgriwtini mewn perthynas â rheoli risg, mabwysiadu canllawiau Atal Twyll a Llygredd, gwell cyswllt mewn perthynas â chynllunio a pherfformiad Archwilio Allanol.

·         Trefniadau Atal Twyll - mae angen gweithredu er mwyn i’r Pwyllgor gael sicrwydd bod trefniadau atal twyll cyfredol y Cyngor yn effeithiol ac yn cael eu gweithredu yn unol â chyfarwyddwyd CIPFA - Rheoli’r Risg o Dwyll - Camau i Atal Twyll a Llygredd.  Argymhellir cynnal Sesiwn Ymwybyddiaeth Twyll i Aelodau’r Pwyllgor er mwyn iddynt dderbyn gwybodaeth am y trefniadau a’r  materion cyfredol yn ogystal â chael gwybod beth yw anghenion cyfarwyddyd CIPFA.

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad ac fe wnaed y pwynt y dylai’r Pwyllgor Archwilio, yn ogystal â chynnal hunanasesiad blynyddol, ystyried dulliau o sicrhau barn allanol ar ei berfformiad a’i effeithlonrwydd fel Pwyllgor.

Penderfynwyd –

·         Cymeradwyo canlyniad yr hunanasesiad a wnaed o effeithlonrwydd y Pwyllgor ynghyd â’r Cynllun Gweithredu Gwella fel oedd i’w weld yn Atodiad C.

·         Bod y sesiynau hyfforddi ymwybyddiaeth twyll yn cael eu cynnwys yn rhestr hyfforddiant y Pwyllgor ar gyfer 2013/14 er mwyn rhoi gwybodaeth am effeithlonrwydd trefniadau cyfredol y Cyngor i Atal Twyll a Llygredd.

·         Bod hunanasesiad newydd ar effeithlonrwydd y Pwyllgor yn cael ei gynnwys yn ei gynllun gweithredu ar gyfer 2013/14 ac ychwanegu y dylid cael darpariaeth yn cael ei wneud i sicrhau y gellid cael barn allanol.

PWYNTIAU GWEITHREDU YN CODI :

·         Y Rheolwr Archwilio i wneud trefniadau ar gyfer sesiwn hyfforddi ymwybyddiaeth twyll i’r Pwyllgor yn y dyfodol fel rhan o’i Raglen Hyfforddi 2013/14.

·         Y Rheolwr Archwilio i gymryd camau i gynnwys o fewn cynllun gwaith y Pwyllgor hunanasesiad newydd ar effeithlonrwydd y Pwyllgor.

·         Y Rheolwr Archwilio i ymgynghori gyda RSM Tenon gyda golwg ar ddwyn yn ol i’r Pwyllgor opsiynau i gael agwedd allanol ar berfformiad ag effeithlonrwydd y Pwyllgor.

 

11.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2012/13

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2012/13.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o waith a gweithgareddau’r Pwyllgor Archwilio yn ystod y flwyddyn yn cynnwys y cyfarfodydd a gynhaliwyd a’r presenoldeb ynddynt; y meysydd/materion allweddol yr ymdriniwyd â hwy a’r hyfforddiant a drefnwyd ac a ddarparwyd.

Ceisiodd y Cadeirydd gael cymeradwyaeth y Pwyllgor i gynnwys, fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol, gofnod presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd o’r Pwyllgor ac mewn digwyddiadau hyfforddi yn ystod y flwyddyn.  Roedd yr Aelodau yn gefnogol i gynnwys manylion am bresenoldeb yr Aelodau fel elfen yn yr adroddiad ac fel arfer dda gyda’r amod bod y rhestr presenoldeb hyfforddi yn Atodiad B yn cael ei diwygio i ddangos bod y Cynghorydd Alun Mummery yn bresennol yn y sesiwn ar 16 Hydref 2012.

Penderfynwyd cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol 2012/13 i’w chyflwyno i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym Mai, 2013, gyda’r gwelliant a nodwyd.

CAMAU GWEITHREDU YN CODI :

·         Rheolwr Archwilio i newid y rhestr presenoldeb mewn cyrsiau hyfforddi yn Atodiad B i adlewyrchu bod y Cynghorydd Alun Mummery yn bresennol yn y sesiwn ar 16 Hydref 2012.

·         Rheolwr Archwilio i wneud y trefniadau angenrheidiol i gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn ym mis Mai.

 

12.

Rheoli Trysorlys

12.1 Cyflwyno Adroddiad Rheoli Trysorlys Chwarter 3

12.2 Cyflwyno Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2013/14 drafft

Cofnodion:

12.1 Cyflwynwyd adroddiad Rheoli Trysorlys am y Trydydd Chwarter o flwyddyn ariannol 2012/13 er ystyriaeth y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar weithgareddau rheoli trysorlys yn Chwarter 3 o fewn cyd-destun y cefndir a’r rhagolygon economaidd ehangach.

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) at y sefyllfa mewn perthynas â gweithgareddau benthyca’r Awdurdod a’i bortffolio buddsoddiadau gan gyfeirio yn arbennig at ailfuddsoddi gyda RBS ar aeddfedu yn ystod y chwarter, buddsoddiad tymor penodol o £5m am 364 diwrnod ar raddfa o 1.58%.  Ni wnaed unrhyw fuddsoddiadau tymor sefydlog eraill nac unrhyw fenthyca newydd nac aildrefnu dyled.  Dywedodd y Swyddog bod y Cyngor yn ystod y chwarter wedi parhau o fewn ei Gyfyngiadau Pwyllog a Thrysorlys fel oeddent wedi eu nodi yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Roedd y cynlluniau ar gyfer gweddill y flwyddyn wedi eu hamlinellu o dan baragraff 7 yr adroddiad.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys

12.2 Cyflwynwyd Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2013/14 i’r Pwyllgor ei ystyried fel rhan o’r ymgynghori ar faterion cyllideb cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.  Roedd y strategaeth ar gyfer 2013/14 yn delio a dau brif faes, sef materion cyfalaf a materion rheoli trysorlys yn cynnwys ymysg agweddau eraill, y strategaeth fenthyca, strategaeth fuddsoddi ac aildrefnu dyled.

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) sylw arbennig at y materion a ganlyn –

·         Y Polisi Buddsoddi fel oedd i’w weld o dan adran 4.2 yr adroddiad yn cynnwys darpariaeth fel oedd wedi ei amlygu oedd yn caniatáu i’r Awdurdod lle bo hynny’n briodol, fuddsoddi neu i roi arian ar adneu mewn undeb credyd neu debyg i bwrpas darparu ei wasanaeth gyda’r nod pan fyddai’r newidiadau diwygio lles arfaethedig yn cael eu gweithredu y bydd yna ar gael i’r rhai a effeithir gan y newidiadau, ffynhonnell ddiogel a heb fod yn ddrud o fenthyca arian.  Tra roedd hyn yn bosibilrwydd ar hyn o bryd roedd y strategaeth wedi ei haddasu fel oedd wedi ei amlinellu mewn termau amhenodol yng nghyswllt gwrthbartion, er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd.

·         Atodiad 5 - Y Rhestr Fenthyca Gymeradwy yn ol Credyd.  Bydd angen diwygio Adran 4.1 (buddsoddiadau penodol) i egluro bod Banciau'r DU sydd wedi eu cenedlaetholi neu led genedlaetholi y tu allan i’r meini prawf penodol, ac mai eu statws o fod wedi eu gwladoli neu eu gwladoli’n rhaddol sy’n rhoi eu sgôr credyd.

·         Cynllun Morgais yr Awdurdod Lleol lle mae’r Awdurdod yn ystyried cymryd rhan.  Pe bai hyn yn digwydd, byddai angen diwygio’r Strategaeth i nodi hynny.

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a cheisio cael eglurhad ar unrhyw agweddau o’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys.

Penderfynwyd derbyn y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2013/14 a nodi ei chynnwys.

CAMAU GWEITHREDU YN CODI : Y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) i ddiwygio Atodiad 5 y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys fel a amlinellwyd, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.