Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 18fed Ebrill, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad i fuddiant.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi – rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ddiweddariad i’r Pwyllgor mewn perthynas ag eitem 5 (Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2022/23). Ar ôl gofyn i’r Rheolwr Risg ac Yswiriant ddadansoddi ceisiadau yswiriant yn gysylltiedig â llithro a syrthio cadarnhaodd nad oedd cyswllt rhwng nifer y ceisiadau yswiriant a’r cynnydd yn nifer yr achosion o lithro a syrthio.

 

3.

Adolygiad o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys adolygiad CIPFA o weithrediad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybod am ganlyniad y darn o waith a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fodloni’r gofynion yn Natganiad Sefyllfa CIPFA: Pwyllgorau Archwilio Awdurdodau Lleol a Heddluoedd 2022, sy’n argymell bod pwyllgorau archwilio’n gwerthuso eu heffaith a nodi meysydd i’w gwella.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o’r adroddiad a oedd yn amlygu canlyniad yr adolygiad a’r meysydd a nodwyd i’w gwella ac fe amlinellodd gynnwys y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adolygiad.

 

Pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –

 

·      Gwerth cynhyrchu log gweithredoedd ar ffurf tabl yn dilyn pob cyfarfod gan ddefnyddio’r system dracio 4action a ddefnyddir gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel y gall y Pwyllgor fonitro cynnydd y camau gweithredu / penderfyniadau sy’n cael eu cytuno a gweld pa rai sydd wedi’u cwblhau.  Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’n cynhyrchu log gweithredoedd yn dilyn pob cyfarfod.

·      Nodwyd bod rhywfaint o wahaniaeth rhwng y derminoleg yn y fersiwn Gymraeg a’r Saesneg. Nodwyd y gallai geiriau â mwy nag un ystyr beri dryswch neu gamddealltwriaeth, megis y gair “cynghorwyr” a all gyfeirio at aelodau etholedig neu ymgynghorwyr / cwnselwyr. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y cyfieithiad wedi’i drefnu gan CIPFA ac nad oedd y ddogfen wedi cael ei chyfieithu gan wasanaeth cyfieithu’r Cyngor.

·      Bod yr adolygiad yn canolbwyntio’n bennaf at brosesau a gweithdrefnau ac nad yw’n cyfeirio mewn gwirionedd at effaith neu ddylanwad y Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai wedi bod yn fuddiol pe byddai’r adolygiad wedi cynnwys mwy o adborth gan reolwyr ar berfformiad y Pwyllgor, yn enwedig gan fod uwch swyddogion a swyddogion allweddol wedi cael eu cyfweld fel rhan o’r broses.

·      Byddai hefyd wedi bod yn ddefnyddiol pe byddai CIPFA wedi mynychu mwy o gyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gael gwell dealltwriaeth o’r modd y mae’r Pwyllgor yn gweithredu a phe byddai un o gynrychiolwyr CIPFA ac awdur yr adroddiad wedi bod yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad adolygu.

·      A ddylai’r meysydd nad ydynt wedi’u nodi fel meysydd penodol yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor gael eu nodi fel meysydd y mae’n rhaid eu trafod. Nodwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn chwe adroddiad a oedd heb eu nodi fel eitemau y mae’n rhaid eu trafod yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor. Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â pham eu bod wedi cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor.

·      Wrth lunio’r rhaglen dylid ystyried gwahaniaethu rhwng eitemau lle mae angen penderfyniad / datrysiad a’r rhai sydd er gwybodaeth yn unig yn ogystal â nifer yr eitemau ‘er gwybodaeth’ ar y rhaglen. Fe ddylai’r eitemau fod yn addas ac o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

·      Sut i wella effeithlonrwydd ac allbwn y Pwyllgor a sut y gall fod yn fwy rhagweithiol yn hytrach nag ymatebol. Awgrymwyd y dylai pwrpas adroddiadau fod yn gliriach ynghyd â’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn rhoi diweddariad o’r archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad ar 31 Ionawr 2024 hyd at 31 Mawrth 2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi llwyth gwaith cyfredol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig.  Darparwyd copi i’r Pwyllgor, dan wahanol benawdau, o’r adroddiadau archwilio mewnol terfynol a gwblhawyd ers y cyfarfod diwethaf sef Galw Gofal (Llywodraethu partneriaeth) (Adroddiad Dilyn i Fyny Cyntaf) (Sicrwydd Resymol); Archwilio TG Rheoli Mynediad Corfforaethol (Sicrwydd Rhesymol); Adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Mân Ddyledion (Adroddiad Dilyn i Fyny Cyntaf) (Sicrwydd Cyfyngedig)  a Gweinyddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (Sicrwydd Cyfyngedig). Roedd y ddau adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig yn cynnwys cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r materion / risgiau a godwyd yn ystod yr adolygiad archwilio mewnol. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a roddodd drosolwg o’r cynnwys.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y cefndir i’r adroddiad Sicrwydd Cyfyngedig mewn perthynas ag adennill Dyledion y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Mân Ddyledion ac fe amlinellodd y ffactorau sydd wedi effeithio ar y sefyllfa o ran dyledion ac fe eglurodd bod mesurau ar waith i wella’r sefyllfa ac i gasglu incwm ac adennill dyledion yn fwy effeithiol. Darparwyd rhagor o wybodaeth gan y Rheolwr Gwasanaeth refeniw a Budd-daliadau.

 

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai wybodaeth gefndirol mewn perthynas â gweinyddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a chyfeiriodd at yr heriau’n gysylltiedig â’r galw cynyddol ond diffyg adnoddau ychwanegol wrth weinyddu a darparu’r Grantiau. Mae’r Gwasanaeth yn derbyn yr adroddiad ar y cynllun gweithredu ac mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion a godwyd erbyn 1 Gorffennaf 2024.

 

Pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –

 

·      Byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe byddai adroddiad yr archwiliad dilynol yn cynnwys gwybodaeth gefndirol yn gysylltiedig â Dyledion y Dreth gyngor, Ardrethi Annomestig a Mân Ddyledion i helpu’r aelodau fynd at wraidd y mater mewn perthynas â’r dyledion sydd heb eu talu a sut y gellir mynd i’r afael â hwy.  Nodwyd nad yw’r adroddiad yn cyfeirio at yr heriau, ffactorau lliniarol a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r materion a gwella’r sefyllfa, fel y nodwyd gan y Swyddog Adran 151 yn ei gyflwyniad ar y cefndir. Aeth y Pwyllgor ymlaen i nodi y dylai aelodau,  pan fo’r lefel sicrwydd yn gyfyngedig, ganolbwyntio ar gamau gweithredu a all gael effaith yn hytrach na meysydd sy’n annhebygol o wella wrth geisio adennill dyledion penodol, yn enwedig dyledion gofal cymdeithasol. Awgrymwyd y dylid mabwysiadu methodoleg rheoli prosiectau.

·      Byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r Pwyllgor yn gwerthuso cyfanswm y dyledion nad oes modd eu hadennill er mwyn cynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen.

·       A oes fformiwla ar gyfer penderfynu pryd y mae ymdrechion i geisio adennill dyled yn mynd yn ofer.

·      A yw’r broses ar gyfer hawlio rhyddhad ardrethi busnes yn rhy gymhleth fel bod pobl ddim yn trafferthu gwneud cais.

·      Y modd y caiff dyledion eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Materion a Risgiau Sy'n Weddill pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn nodi’r camau a oedd yn weddill ledled y Cyngor fel ac yr oedd pethau ar 31 Mawrth 2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Darparwyd diweddariad ar y pum mater / risg “sylweddol” sydd yn weddill yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Archwilydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad a statws y camau a  godwyd gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, a oedd i’w gweld yn y graffiau yn yr adroddiad, sydd heb eu cwblhau eto.  Cadarnhaodd bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gwneud ei orau i ddilyn yr holl gamau sy’n weddill i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chynnydd y Cyngor mewn perthynas ag ymdrin â’r materion / risgiau sy’n weddill.

 

6.

Strategaeth Archwilio Mewnol 2024-25 pdf eicon PDF 567 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2024/25, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad a’r strategaeth sy’n seiliedig ar risg (roedd manylion yr archwiliadau arfaethedig wedi’u nodi yn Atodiad A yn y strategaeth). Er bod y strategaeth wedi cael ei gosod mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Penaethiaid Gwasanaeth bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynllunio i sicrhau bod y gwasanaeth yn ymwybodol o unrhyw faterion neu bryderon sy’n codi ac yn ymateb iddynt.

 

Pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –

 

·      Yn sgil y swyddi gwag yn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, a oes cysondeb rhwng y gwaith sydd ar y gweill a’r adnoddau sydd ar gael ac a yw’r cydbwysedd rhwng yr adnoddau mewnol a thrydydd parti yn cwrdd â’r gofynion o gofio mai dim ond un archwiliad sydd wedi’i drefnu lle mae angen comisiynu arbenigwyr allanol, a hynny mewn perthynas â seiber ddiogelwch.

·      Y trefniadau recriwtio a chynllunio olyniaeth o fewn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Mynegwyd rhywfaint o bryder ynglyn â’r goblygiadau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth a datblygu’r genhedlaeth nesaf o archwilwyr mewnol os mai dim ond uwch archwilwyr a dderbynnir i’r gwasanaeth yn Ynys Môn. 

·      A fyddai’n ddefnyddiol cael cylchrestr archwilwyr-cyfrifwyr i fynd i’r afael â’r heriau recriwtio yn y gwasanaeth archwilio mewnol.

·      O gofio mai un o amcanion y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yw darparu her effeithiol a bod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol a gwelliannau parhaus, nid yw’r gwaith arfaethedig yn cyfeirio at y modd y caiff yr amcan hon ei chyflawni na rôl y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cyfrannu at drawsnewid a newid gwasanaethau.

·      Priodoldeb tynnu sylw rheolwyr/y Pwyllgor Gwaith at y materion recriwtio ac adnoddau sy’n dwysau.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor –

 

·      Bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn atebol i archwilydd allanol sy’n archwilio rhai o’r cofrestrau risg strategol cymhleth yn ogystal â’r Prif a’r Uwch Archwilwyr mewnol.  Mae’r gwaith archwilio mewnol arfaethedig hefyd yn cynnwys meysydd risg anstrategol sydd wedi’u nodi o dan y pennawd gwaith archwilio arall.

·      Mewn perthynas â staffio a recriwtio, mae’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac wrth i adnoddau brinhau mae’r gwaith archwilio mewnol wedi newid i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i sicrhau’r gwerth gorau gyda’r adnoddau prin sydd ar gael sydd yn duedd sydd i’w weld mewn gwasanaethau eraill. Mae swyddi lefel / gradd is yn diflannu gan nad yw’r gwaith yn ychwanegu gwerth i’r sefydliad. 

·      Mae’n bosib bod mwy o gyfleoedd mewn timau archwilio mewnol mawr i hyfforddi graddedigion, ond yng Ngwasanaeth Archwilio Mewnol Ynys Môn mae’n fwy effeithiol, effeithlon ac yn darparu mwy o werth am arian comisiynu archwilwyr medrus a phrofiadol o du allan i’r sefydliad i ychwanegu at yr adnoddau mewnol lle bo angen. Hefyd, mae’r gwasanaeth archwilio allanol yn asesu digonolrwydd y trefniadau archwilio mewnol.

·      Prif ffocws y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yw darparu sicrwydd, ac, er ei fod yn gallu gweithredu fel  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Siarter Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 458 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Siarter Archwilio Mewnol, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad ac fe amlygodd y newidiadau i’r Siarter ers y tro diwethaf iddo gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022 a’r rheswm dros y newidiadau.

 

Penderfynwyd nodi’r adolygiad a chymeradwyo’r newidiadau i’r Siarter Archwilio Mewnol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

8.

Adolygiadau Cenedlaethol a'u Hargymhellion Cysylltiedig 2023 pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn nodi ymateb y Cyngor i adroddiadau cenedlaethol cydnabyddedig ac argymhellion cysylltiedig a gyhoeddwyd gan reoleiddwyr, i’w ystyried gan y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith y mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y 15 mis diwethaf yn ychwanegol i’r hyn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 8 Rhagfyr 2022. Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr argymhellion cenedlaethol a oedd ynghlwm â’r adroddiadau cenedlaethol wedi cael sylw dilys gan y Cyngor a bod y rhai perthnasol yn cael eu gwireddu mewn modd ystyrlon.

 

Y pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor mewn perthynas â ffurf a chynnwys yr adroddiad –

 

·      Byddai’r adroddiad yn fwy hygyrch pe byddai’n cynnwys llai o naratif, cyd-destun a manylder.

·      Y dylid canolbwyntio ar y camau / argymhellion sy’n weddill, ac unrhyw rwystrau o ran eu cwblhau a’r risg i’r Cyngor os na ellir eu gweithredu.

·      Y dylid cynnwys dyddiad cyhoeddi’r adroddiadau cenedlaethol

·      Bod statws CAG yn cael ei nodi ar gyfer y camau gweithredu.

 

Cynghorodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei bod wedi bod yn cydlynu â’r Rheolwr Rhaglen, Perfformiad a Chynllunio Corfforaethol i gynnwys yr argymhellion / camau gweithredu sy’n deillio o adroddiadau cenedlaethol ar y system dracio 4action, ac fe awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol cynhyrchu adroddiad ar ffurf yr adroddiad Risgiau / Materion Archwilio Mewnol sy’n Weddill ar gyfer adolygiadau cenedlaethol a’u hargymhellion yn y dyfodol. 

 

Penderfynwyd –

 

·      Derbyn yr adroddiad a’r diweddariadau fel adlewyrchiad cywir o ddiweddariad blynyddol y Cyngor Sir yn erbyn yr argymhellion cysylltiedig.

·      Cytuno nad oes angen rhestru’r adroddiadau yr argymhellir eu dileu o fewn y tabl gwyrdd mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cam gweithredu ychwanegol a gytunwyd – Diwygio ffurf a chynnwys yr adroddiad ar adolygiadau cenedlaethol a’u hargymhellion cysylltiedig.

 

9.

Archwilio Allanol: Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru pdf eicon PDF 351 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru, a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd yn erbyn ei raglenni gwaith archwilio ariannol a pherfformiad, fel ac yr oedd pethau ar 31 Rhagfyr 2023, i’r Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Rhoddodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru, ddiweddariad i’r Pwyllgor ar waith archwilio ariannol a pherfformiad Archwilio Cymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor pe byddai modd cynnwys blaen adroddiad gydag adroddiadau Archwilio Cymru yn y dyfodol er mwyn nodi pwrpas yr adroddiad a’r disgwyliadau ar y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi’r diweddariad ar Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru.

 

Cam gweithredu ychwanegol a gytunwyd – bod adroddiadau gan Archwilio Cymru yn y dyfodol yn cynnwys blaen adroddiad sy’n nodi pwrpas yr adroddiad a’r disgwyliadau ar y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad. 

 

10.

Archwilio Allanol:Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023 - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru, a oedd yn darparu crynodeb o’r gwaith a gwblhawyd mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru a oedd yn tynnu sylw at ddemograffeg Ynys Môn, yn benodol ei phoblogaeth sy’n heneiddio fel ystyriaeth sylweddol wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi’r Crynodeb Archwilio Blynyddol 2023 ar gyfer Ynys Môn.

 

Cam gweithredu ychwanegol a gytunwyd – fel y cytunwyd ar gyfer eitem 9.

 

11.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 148 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith a Rhaglen Hyfforddi’r Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Bu i’r Pennaeth Archwilio a Risg amlygu’r newidiadau i’r amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiadau ac fe’u nodwyd gan yr Aelodau.  

 

Penderfynwyd -

 

·      Derbyn bod y Blaenraglen Waith ar gyfer 2023/24 yn bodloni cyfrifoldebau’r Pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.

·      Nodi’r newidiadau i’r dyddiadau ar gyfer cyflwyno adroddiadau.

 

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 64 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol: -

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

 

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

13.

Adroddiad Blynyddol Diogelwch Seiber 2023-24

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Diogelwch Seiber Blynyddol, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r heriau o ran y profiadau diogelwch seiber yn 2023/24 a sut y cawsant eu goresgyn, y bygythiadau seiber a wynebir gan y Cyngor a’r mesurau lliniaru a’r trefniadau gweithredol sydd ar waith i ganfod ac atal gweithgareddau maleisus.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Tîm TG a rhoddodd drosolwg o’r cynnwys.

 

Y pwyntiau a drafodwyd gan y Pwyllgor –

 

·      Y byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r Aelodau yn cael gwybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol am ymdrechion llwyddiannus i dorri mesurau seiber ddiogelwch / TG y Cyngor a sut yr aethpwyd i’r afael â hwy a’r camau a gymerwyd.

·      Rôl perchnogion meddalwedd o ran darparu dulliau rhybuddio.

·       Goblygiadau’r twf mewn Deallusrwydd Artiffisial.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor bod polisi amlinellol drafft ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial wrthi’n cael ei baratoi ac y bydd yn mynd i’r afael â’r dull gweithredu, y risgiau a’r mesurau lliniarol a fydd yn cael eu rhoi ar waith.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Diogelwch Seiber Blynyddol ar gyfer 2023/24.

 

Cam gweithredu ychwanegol a gytunwyd - bod yr Adroddiadau Diogelwch Seiber Blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys enghreifftiau (os oes unrhyw enghreifftiau ar gael) am ymdrechion llwyddiannus i dorri mesurau seiber ddiogelwch / TG y Cyngor ac unrhyw gamau adferol a gymerwyd.  

 

Yn dilyn y cyfarfod ffurfiol o’r Pwyllgor, cynhaliwyd cyfarfod preifat rhwng aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, archwilio allanol ac archwilio mewnol heb unrhyw swyddogion yn bresennol.