Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (Ethol Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 20fed Mai, 2025

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

2.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

(Dygir sylw Aelodau at baragraff 3.4.8.2.3 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweudRhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn aelod lleyg.’)

 

Cofnodion:

Cafodd Mr Dilwyn Evans ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu Mrs Sharon Warnes, Aelod Lleyg a fu farw’n ddiweddar.   Talodd deyrnged i Mrs Warnes am ei chyfraniad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

3.

Ethol Diprwy Gadeirydd

Ethol Dirprwy Gadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

(Dygir sylw Aelodau at baragraff 3.4.8.2.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud ‘Bydd y Cadeirydd yn Aelod Lleyg ac ni fydd yr Is-gadeirydd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith na’n gynghorthwy-ydd i’r Pwyllgor Gwaith.’)

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Euryn Morris ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.