Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw: Ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd - ar godiad y Pwyllgor Trwyddedu (Ar hyn o bryd, nid yw'r cyhoedd yn gallu mynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 18fed Mai, 2021

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Ethol Cadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Dygir sylw’r Aelodau at Baragraff 3.4.8.2.3 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n darparu  “Gall Cadeirydd y  Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn gynghorydd neu’n aelod lleyg, ond ni chaiff fod yn aelod o grwp sy’n ffurfio rhan o Bwyllgor Gwaith y Cyngor, ac eithrio pan fo pob grwp yn cael ei gynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith (ac yn yr achos hwnnw, ni ddylai’r Cadeirydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith.”)

 

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Peter S Rogers yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

3.

Ethol Is Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Dilwyn Evans yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.