Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dygir sylw Aelodau at baragraff 3.4.8.2.3 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud ‘Rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn aelod lleyg.’ Cofnodion: Etholwyd Mr Dilwyn Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Ethol Dirprwy Gadeirydd Ethol Dirprwy Gadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dygir sylw Aelodau at baragraff 3.4.8.2.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud ‘Bydd y Cadeirydd yn Aelod Lleyg ac ni fydd yr Is-Gadeirydd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith na’n gynghhorthwy-ydd i’r Pwyllgor Gwaith’. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Euryn Morris yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |