Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Paul Ellis i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyfeiriodd at farwolaeth Mrs Sharon Warnes ym mis Mai. Roedd yn aelod lleyg gwerthfawr a dywedodd y bydd colled ar ei hôl. Fe wnaeth hefyd gydnabod ymddiswyddiad Mr Michael Wilson, aelod lleyg arall sydd wedi camu i lawr yn sgil ymrwymiadau eraill a mynegodd ei ddiolch iddo am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod ar y pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â’r ddwy sedd wag, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bydd trefniadau recriwtio’n cael eu rhoi ar waith.
|
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriadau a gyflwynwyd.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol yn unig yn gysylltiedig ag eitem 5 ar yr agenda gan ei fod wedi’i secondio i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Fe wnaeth y Cynghorydd Keith Roberts ddatgan diddordeb personol yn unig yn gysylltiedig ag eitem 6 ar yr agenda gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Panel Sgriwtini Addysg.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 8 Mai 2025. · 20 Mai 2025 (ethol Cadeirydd/Dirprwy Gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 8 Mai 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi - cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth/Swyddog Adran 151 bod canllawiau polisi drafft cychwynnol ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) o fewn y Cyngor wedi cael eu cyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth ar 17 Mehefin 2025. Bydd y polisi’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru gan y Tîm Arweinyddiaeth.
|
|
|
Log Gweithrdoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys log gweithredu’r pwyllgor, i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar statws a chynnydd y camau a gytunwyd.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod dadansoddiad economaidd-gymdeithasol ac adroddiad effaith Quod ar gyfer Ynys Môn wedi cael eu cwblhau ond nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi eto. Mae’r weithred wedi’i rhestru fel eitem 10 ar y log ac roedd y pwyllgor wedi gofyn i gael gweld yr wybodaeth yma. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth wrthi’n ystyried y ffordd orau o gyfathrebu a rhannu’r adroddiadau hyn. Cadarnhaodd hefyd bod eitemau rhif 21, 22 a 24 ar y log wedi cael eu cwblhau.
Penderfynwyd nodi’r camau a nodwyd ar y log gweithredu a chadarnhau fod y Pwyllgor yn hapus fod y camau wedi’u gweithredu’n foddhaol.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynglŷn ag enwebu aelod lleyg ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (CBC) i’w ystyried gan y pwyllgor.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod cynghorau cyfansoddol CBC Gogledd Cymru wedi cael cynnig enwebu aelod lleyg i wasanaethu ar ei Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Pe byddai mwy na thri enwebiad wedi dod i law yna byddai’r CBC wedi enwebu ar sail teilyngdod drwy broses ymgeisio ffurfiol. Fodd bynnag, dim ond tri o gynghorau cyfansoddol y Cydbwyllgor Corfforedig sydd wedi enwebu aelod lleyg, yn cynnwys Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Sir Ynys Môn, a enwebodd diweddar Mrs Sharon Warnes. Yn sgil y swydd wag annisgwyl, mae’r pwyllgor wedi cael ei wahodd i ystyried enwebu aelod lleyg arall i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r CBC. Bydd gwahoddiadau yn cael eu hymestyn i gynghorau cyfansoddol eraill petai dim enwebiad yn cael ei dderbyn gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Penderfynwyd enwebu Mr William Parry i wasanaethu fel aelod lleyg ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2024/25 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Sgriwtini a Throsolwg ar gyfer 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cynghorodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod cylch gorchwyl y pwyllgor yn nodi bod rhaid iddo adolygu trefniadau llywodraethu a sicrwydd y Cyngor yn gysylltiedig â’i bartneriaethau neu drefniadau cydweithio sylweddol. Er mwyn cefnogi’r swyddogaeth hon, mae adroddiad blynyddol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio’n cael ei gyflwyno i ddarparu sicrwydd bod corff penodedig yn mynd ati’n rhagweithiol i graffu a derbyn sicrwydd o ran llywodraethu partneriaethau a threfniadau cydweithio sylweddol.
Nododd y Pennaeth Democratiaeth bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ogystal, er mwyn darparu sicrwydd ychwanegol. Amlygodd rannau penodol o’r adroddiad - tudalen 5, sy’n cynnwys rhagair gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a chrynodeb o waith y pwyllgor yn ystod 2024/25, a thudalen 15, sy’n nodi’r trefniadau presennol ar gyfer craffu ar bartneriaethau. Dros y deunaw mis diwethaf, gwnaed pob ymdrech i ailafael yn y gwaith o graffu ar bartneriaethau allanol wedi i’r pandemig darfu ar y gwaith hwn. Ceir enghreifftiau o’r gwaith hwn yn yr adroddiad. Mae’r gwaith o ymgysylltu â phartneriaid allanol yn mynd rhagddo ac mae cynlluniau ar y gweill i graffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.
Codwyd y cwestiynau a ganlyn ynglŷn â’r Adroddiad Blynyddol Sgriwtini a Throsolwg gan aelodau’r pwyllgor -
Cadarnhaodd y Pennaeth Democratiaeth bod y broses i lenwi’r ddwy sedd rhiant lywodraethwr wedi bod yn llwyddiannus. Bydd yr aelodau newydd yn cael eu cadarnhau yng nghyfarfodydd y pwyllgorau ym mis Medi.
O ran llwyth gwaith y pwyllgorau sgriwtini, yr her yw cynnwys cymaint o bartneriaethau â phosib yn yr amser sydd ar gael, gan gydbwyso cynnwys agendâu i osgoi eu gorlwytho a sicrhau bod digon o amser i ofyn cwestiynau a chael trafodaeth ystyrlon. Er nad yw bob amser y bosib cael cydbwysedd, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau hynny, ac mae gwersi’n cael eu dysgu o brofiad. Hefyd, mae camau wedi cael eu cymryd i gyfyngu nifer y partneriaethau ym mhob cyfarfod. Mae cyfarfod blynyddol wedi cael ei neilltuo i drafod y Bwrdd Iechyd, gan ei fod yn faes eang a phwysig. Bydd y dull hwn yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol.
Penderfynwyd nodi’r adroddiad a chadarnhau bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn sicrwydd bod trefniadau ar waith i graffu ar bartneriaethau a threfniadau cydweithio’r Cyngor a’u goruchwylio.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2024/25 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2024/25 i’w gymeradwyo gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi gweithgareddau’r Pwyllgor yn ystod 2024/25 yn erbyn ei gylch gorchwyl.
Cynigodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn gofnod cynhwysfawr o’r modd y mae’r Pwyllgor wedi cyflawni ei gyfrifoldebau yn 2024/25.
Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2024/25 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 25 Medi 2025, yn amodol ar newid canran y cyfarfodydd a fynychwyd gan y Cynghorydd Trefor Llyod Hughes, MBE.
|
|
|
Adoddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2024/25 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad fel un o adroddiadau mwyaf allweddol y flwyddyn, gan roi ei barn ar briodoldeb ac effeithlonrwydd fframwaith lywodraethu’r Cyngor, sut mae’n rheoli risg a rheolaeth yn ystod y flwyddyn. Roedd gan y Cyngor, yn ei barn hi, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer y meysydd hyn yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025. Er nad oedd yn credu bod unrhyw feysydd o bryder corfforaethol sylweddol, mae angen cyflwyno neu wella rheolaethau mewnol mewn rhai meysydd i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni, a’u bod yn cael eu monitro. Nid oes unrhyw amodau ar y farn hon.
Nododd y Pennaeth Archwilio a Risg bod ei hasesiad yn seiliedig ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, yn bennaf yr adolygiad o risgiau strategol y Cyngor. Mae’r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi cwrdd â’i nod, sef archwilio 80% o’r risgiau strategol coch ac ambr yn ystod cylch dwy flynedd gan adolygu wyth risg yn 2024/25 ynghyd â deuddeg maes allweddol arall o weithgareddau’r Cyngor. Cyflawnodd y gwasanaeth Archwilio Mewnol bump o’i chwe tharged perfformiad blynyddol yn cynnwys adolygu risgiau strategol. Cydymffurfiodd y gwasanaeth Archwilio Mewnol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ogystal, ac eithrio ym maes mapio sicrwydd. Ers 1 Ebrill 2025 mae’r PSIAS wedi cael eu disodli gan Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y DU (GIAS) sy’n berthnasol i sefydliadau llywodraeth leol yn cynnwys y Cyngor, o 2025/26 ymlaen.
Codwyd y cwestiynau a ganlyn yn gysylltiedig â’r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol gan aelodau’r pwyllgor -
· Nododd y pwyllgor bod gan y Cyngor, ym marn y Pennaeth Archwilio a Risg, fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risg a rheolaeth fewnol. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd bod pen draw i allu’r fframwaith hon ac mai’r rheolwyr sy’n bennaf gyfrifol am gynnal rheolaethau mewnol cadarn. Felly, mae effeithlonrwydd y system hon yn ddibynnol ar bobl yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n briodol. O’r herwydd, awgrymwyd bod y sefydliad yn gadarn cyn belled nad oes unrhyw wendidau yn y gadwyn. Holwyd p’un a yw’r Pennaeth Archwilio a Risg yn hyderus bod y fframwaith yn gadarn ac yn gallu nodi gwendidau cyn unrhyw fethiant.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod ei barn yn seiliedig ar y gwaith archwilio mewnol a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys adolygu 80% o risgiau strategol y Cyngor. Yn amodol ar y gwelliannau a nodwyd, sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd, cadarnhaodd ei bod yn fodlon wrth ddarparu lefel resymol o sicrwydd ynglŷn â rheolaeth fewnol, llywodraethiant a fframwaith rheoli mewnol y Cyngor.
· Cyfeiriwyd at yr ail adolygiad Adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Mân Ddyledion a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ac at waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gysylltiedig â’r fenter twyll. Nodwyd bod aelodau’n ymwybodol bod unigolion yn osgoi talu’r premiwm ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Siarter Archwilio Mewnol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a risg a oedd yn cynnwys y Siarter Archwilio Mewnol i’w adolygu a’i gymeradwyo gan y pwyllgor.
Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025 wedi’i gwneud hi’n ofynnol adolygu dogfennau’r gwasanaeth Archwilio Mewnol i sicrhau cydymffurfiaeth. Tra bod Siarter Cyngor Sir Ynys Môn eisoes yn cydymffurfio’n fras â gofynion y fframwaith newydd, roedd rhai diwygiadau’n angenrheidiol fel bod y gofynion sydd wedi’u crynhoi ym mharagraff 1.5 yn yr adroddiad rhagarweiniol yn glir. Darparodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o’r prif adrannau yn y siarter diwygiedig gan bwysleisio’r mesurau diogelu sydd wedi’u nodi yn nhudalen 10 i gyfyngu ar unrhyw amhariad ar annibyniaeth neu wrthrychedd. Cynghorodd bod rhaid i’r Pwyllgor fod yn fodlon nad oes dim yn amharu ar wrthrychedd y Pennaeth Archwilio a Risg.
Nododd y pwyllgor bod lefelau staffio’r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi gostwng i 2.8 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn 2024/25 o’i gymharu â tharged o 4.0 FTE yn 2023/24, ac er bod y gwasanaeth wedi cyflawni ei darged i adolygu 80% o’r risgiau strategol, roedd hyn yn is na’r 82% a gyflawnwyd y flwyddyn flaenorol. Holodd y pwyllgor p’un a oedd yr adnoddau presennol yn cyfyngu ar gapasiti’r gwasanaeth a pe gallai hynny effeithio ar wrthrychedd y gwaith archwilio.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg er bod nifer y gweithwyr FTE wedi lleihau, mae’r gyllideb yr un fath ac mae’n cael ei defnyddio i gomisiynu arbenigwyr pwnc allanol. Adroddodd bod ymarfer gwerth am arian wedi dangos bod y trefniant hwn yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau a chadarnhaodd bod ganddi ddigon o adnoddau i gwblhau’r gwaith angenrheidiol a darparu barn archwilio i’r pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol diwygiedig.
|
|
|
Strategaeth a Chynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys y Strategaeth a Chynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS) yn Sector Cyhoeddus y DU yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Prif Weithrediaeth Archwilio sefydlu strategaeth seiliedig ar risg i benderfynu ar flaenoriaethau archwilio mewnol sy’n gyson ag amcanion y Cyngor.
Yn unol â’r GIAS, mae’r gwasanaeth Archwilio Mewnol yn egluro’i weledigaeth ym mharagraff 20 yn yr adroddiad sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â’r nodau yng Nghynllun y Cyngor. Mae cenhadaeth y gwasanaeth Archwilio Mewnol (paragraff 21 i 24) yn seiliedig ar y weledigaeth hon ac mae’n cael ei chefnogi gan dri amcan strategol sydd wedi’u nodi ym mharagraff 25. Cadarnhaodd mai blaenoriaethau’r cynllun strategol yn ystod 2025/26 yw parhau i fynd i’r afael â’r risgiau strategol, a chanolbwyntio ar y risgiau coch ac ambr cynhenid fel y nodir yn Atodiad B. Bydd y gwaith archwilio TG hefyd yn parhau, ac yn cael ei gwblhau gan archwilwyr TG allanol o Gyngor Salford.
Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg fesurau perfformiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26, sydd wedi’u nodi yn y tabl ar dudalen 9 yn yr adroddiad. Mae 549 diwrnod ar gael i gyflawni’r rhaglen waith arfaethedig, yn cynnwys ymchwiliadau a darparu’r safbwynt sicrwydd blynyddol.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg, yn ei barn hi, nad oes unrhyw gyfyngiad o ran cwmpas neu adnoddau a all effeithio ar y gwaith hwn.
Fe wnaeth aelodau’r pwyllgor drafod y materion a ganlyn wrth ystyried yr adroddiad -
· Nododd y pwyllgor bod un fenter o dan Amcan Strategol 2 yn ymwneud â gwella llythrennedd digidol archwilwyr i sicrhau eu bod yn gyfforddus yn defnyddio technoleg yn cynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI), i wella’r broses asesu risg, ansawdd archwiliadau ac adrodd yn fwy effeithlon. Nodwyd hefyd bod y gwasanaeth archwilio Mewnol yn bwriadu monitro’r gwaith o gyflwyno AI fel rhan o’i waith archwilio TG yn 2025/26. Cododd y pwyllgor gwestiynau ynglŷn â gwrthdaro posib rhwng buddiannau gan y gallai’r gwasanaeth Archwilio Mewnol archwilio arferion yn gysylltiedig ag AI cyn i’r Cyngor gyflwyno canllawiau polisi ar ei ddefnyddio.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y fenter yn gysylltiedig â defnydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol o AI i wella ei weithrediadau, yn benodol y cyfleoedd y gall AI eu cynnig o ran ymchwil, ymarferion cwmpasu a chasglu gwaith papur. Mae AI eisoes yn cael ei ddefnyddio ym maes archwilio er mwyn gweinyddu’n effeithiol, ac mae’r gwasanaeth Archwilio mewnol yn bwriadu edrych ar hyn ymhellach yn unol â pholisi’r Cyngor unwaith y caiff ei sefydlu.
Codwyd cwestiwn ategol gan y pwyllgor ynglŷn â chywirdeb yr wybodaeth a gynhyrchir gan AI a rhagfarn bosib. Yn niffyg canllawiau ffurfiol codwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â gallu staff ar draws y sefydliad i asesu’r wybodaeth hon yn feirniadol. Holodd y pwyllgor ynglŷn a phwy sy’n gyfrifol am benderfynu beth sy’n cael ei ystyried yn ddefnydd derbyniol.
Cynghorodd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Archwilio Allanol: Cynllun Archwilio Manwl 2025 Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Mewnol a oedd yn nodi ei gynllun archwilio ar gyfer blwyddyn archwilio 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Rhoddodd Rachel Freitag, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru drosolwg o’r archwiliad arfaethedig o ddatganiadau ariannol ar gyfer 2024/25 yn cynnwys lefelau perthnasedd, risgiau archwilio ariannol sylweddol a’r ymateb arfaethedig. Amlygwyd yr amserlen archwilio a chyflawniadau gyda’r nod o allu cyhoeddi barn yr archwilydd ac ardystio’r cyfrifon erbyn diwedd Hydref 2025, fis yn gynharach na’r flwyddyn flaenorol fel rhan o’r uchelgais i adfer yr amserlen archwilio a oedd yn bodoli cyn y pandemig.
Amlinellodd Carwyn Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru y gwaith archwilio perfformiad arfaethedig sy’n canolbwyntio ar adolygu trefniadau’r Cyngor ar gyfer sicrhau gwerth am arian a chydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Eglurodd sail y ffioedd archwilio ar gyfer y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad ar gyfer 2024/25.
Codwyd y materion uchod gan aelodau’r pwyllgor yn gysylltiedig â’r cynllun archwilio allanol -
· Roedd y ffi archwilio yn cael ei ystyried yn uchel a awgrymwyd y gellid dod o hyd i bris mwy cystadleuol pe byddai’r Cyngor yn cael mynd allan i’r farchnad. Argymhellwyd bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Aelod Portffolio Cyllid yn trafod y ffi gyda’r archwilwyr. · Holodd aelodau’r pwyllgor p’un a oes cydweithrediad rhwng archwilio mewnol ac allanol wrth ddatblygu eu cynlluniau unigol a nodwyd bod dyblygu’n bosib yn gysylltiedig â TG. · Holwyd ynglyn â’r gwaith archwilio perfformiad o ran cydymffurfiaeth y Cyngor â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi mynegi ei siomedigaeth gyda’r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru o dan y Ddeddf ac mae wedi gofyn am adolygiad gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd felly bod y gwaith hwn yn gynamserol ac y dylid ei ohirio hyd nes y bydd yr adolygiad hwn wedi cael ei gynnal. · Mynegwyd pryder hefyd ynglyn â chosbau Llywodraeth Cymru ar gyfer methu â chwrdd â’r targedau ailgylchu. Amlygwyd y dylai cynghorau sydd wedi dioddef blynyddoedd o lymder allu cadw eu hadnoddau yn enwedig, fel yn achos y Cyngor hwn, os yw eu cyfraddau ailgylchu’n agos at y targed. Awgrymwyd y dylai’r aelod portffolio ystyried codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru. · Nododd y pwyllgor nad oedd unrhyw un o’r asesiadau yn gysylltiedig â gwerth am arian yn mesur cynhyrchiant.
Fe wnaeth yr archwilwyr ymateb i’r materion a godwyd fel a ganlyn -
· Bod cyfle i roi barn ar y ffi archwilio a’r gwaith cysylltiedig yn flynyddol. Mae Archwilio Cymru’n gosod ei ffioedd yn unol â ffioedd ei gymheiriaid yn Lloegr lle mae diffyg capasiti yn y farchnad wedi gohirio’r gwaith o archwilio cyfrifon ac mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y ffioedd. Yn y gorffennol mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi comisiynu gwaith i gwmnïau sector preifat. Mae’r ffioedd yn cael eu goruchwylio gan fwrdd er mwyn rhoi sicrwydd i’r Archwilydd Cyffredinol bod y gwaith yn sicrhau gwerth am arian. · Cadarnhawyd bod archwilio allanol wedi ymgynghori ag adran TG y Cyngor ynglyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
|
Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys y blaen raglen waith ar gyfer 2025/26 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg un newid i’r rhaglen waith sef ychwanegu adroddiad ar “Themâu i’w Hystyried gan y Panel Asesu Perfformiad” i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf.
Penderfynwyd cadarnhau bod y Blaen Raglen Waith arfaethedig ar gyfer 2025/26 yn cwrdd â chyfrifoldebau’r pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.
|