Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog. Cofnodion: Nododd y rhai canlynol ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen – Y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ar sail aelodaeth ei wraig o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol ar y mater a thra y byddai yn cymryd rhan yn y drafodaeth roedd wedi penderfynu na fyddai’n pleidleisio ar unrhyw benderfyniad a allai godi ar y mater. Y Cynghorydd H.Eifion Jones ar y sail ei fod yn Aelod o’r Gronfa Bensiwn. Y Cynghorydd John Griffith ar y sail ei fod yn aelod o’r Gronfa Pensiwn Llywodraeth Leol oherwydd ei broffesiwn blaenorol. Mrs Sharon Warnes ar y sail ei bod yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol. Dywedodd y Cadeirydd bod Aelodau Etholedig wedi bod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ers ychydig o flynyddoedd ac mai’r cyngor cyfreithiol oedd y gallent gymryd rhan yn y drafodaeth ar eitem 3.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 23 Gorffennaf, 2013 PDF 275 KB Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2013. Materion yn codi – · Dywedwydwrth y Pwyllgor a chytunwyd wedi hynny y byddai’r Pennaeth Gwasanaeth Tai yn cyflwyno ei diweddariad ar gynnydd gyda materion llywodraethu mewn perthynas â’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio ym mis Rhagfyr 2013. · Yngnghyswllt yr adroddiad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar ganlyniad yr archwiliad o drefniadau’r Cyngor yng nghyswllt prosesu data personol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, dywedodd y Rheolwr Archwilio wrth y Pwyllgor nad oedd y fersiwn derfynol o’r adroddiad wedi ei derbyn mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn ac awgrymodd bod gwahoddiad yn cael ei ymestyn i Archwilwyr y Comisiynydd Gwybodaeth i fynychu cyfarfod mis Rhagfyr 2013 o’r Pwyllgor Archwilio i gyflwyno eu canfyddiadau ac fe fyddai hynny hefyd yn caniatáu i’r Awdurdod ffurfio ymateb i unrhyw argymhellion fyddai’n codi o’r adroddiad terfynol. Dywedodd y Swyddog hefyd bod Bwrdd Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth wedi ei sefydlu a’i ymgynnull a chanlyniad hynny oedd bod cynllun gweithredu yn seiliedig ar adroddiad drafft y Comisiynydd Gwybodaeth wedi cael ei lunio. Roedd gwaith wedi cychwyn felly ar y mater hwn ac yn mynd yn ei flaen. Nododd yr Aelodau y sefyllfa.
CAMAU GWEITHREDU YN CODI –
· Y Rheolwr Archwilio i gadarnhau gyda’r Pennaeth Gwasanaeth Tai y byddai’n bresennol yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 11 Rhagfyr 2013 i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar y cynnydd gyda materion llywodraethu mewn perthynas â’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau. · Y Rheolwr Archwilio i gysylltu gyda’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol gyda golwg ar wneud trefniadau i’r archwilwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fynychu’r cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 11 Rhagfyr 2013 i roi atborth ar yr archwiliad o drefniadau’r Cyngor yn prosesu data personol.
|
|
Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd Derbyn diweddariad ar berfformiad y Gronfa Bensiwn ac unrhyw fater perthynol. Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Dilwyn Williams Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda Chyngor Gwynedd i’r cyfarfod a rhoddodd wahoddiad iddo annerch y Pwyllgor Archwilio ar y sefyllfa gyda’r Gronfa Bensiwn ac yn benodol, y cynnydd o £18.4m yn ystod 2012/13 yn y rhwymedigaeth pensiwn net o £63.7m i £83.1m a goblygiadau hynny. Yn ei gyflwyniad i’r Pwyllgor, eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol beirianwaith y sustem Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol a sut mae’n gweithio, ac fe amlygodd yr ystyriaethau a’r ffactorau allweddol wrth roi sylw i faterion mewn perthynas â pherfformiad y Gronfa Bensiwn. I ddilyn cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb lle roddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau neu ofyn am eglurhad ar y wybodaeth a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Dyma grynodeb o rai o’r materion a godwyd:
· Perfformiad y gronfa bensiwn yn erbyn y meincnod ac o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â safle isel y gronfa o ran ei pherfformiad mewn blynyddoedd diweddar o’i chymharu ag awdurdodau eraill a beth oedd y rhesymau am y perfformiad gwan yn ddiweddar. · Yng ngoleuni’r ffaith bod rhwymedigaeth y pensiwn mewn gwirionedd yn rhwymedigaeth i drethdalwyr yr Ynys, oni ddylai Aelodau ac Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio yn arbennig fod yn fwy rhagweithiol gyda rheolaeth y gronfa bensiwn er mwyn ceisio sicrhau’r perfformiad a’r dychweliadau gorau posibl. · Cynigiwyd a chymeradwywyd bod y Pwyllgor Archwilio, a hynny er mwyn atgyfnerthu ei fwriadau monitro, yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar berfformiad Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn y man a bod yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’w drefnu ar ôl y cyfarfod Blynyddol o Fwrdd Rheoli’r Gronfa Bensiwn fel y gall cynrychiolwyr y Cyngor ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion fyddai’n codi o’r Cyfarfod Blynyddol. PwysleisioddCyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd bod hirhoedledd a disgwyliad bywyd yn ffactorau allweddol mewn perthynas â pherfformiad y gronfa bensiwn a bod buddsoddiadau yn y gronfa bensiwn yn rhywbeth a wneir am yr hir dymor ac am y rhesymau a roddwyd yn y cyflwyniad ac ni ddylid ffurfio barn ar y perfformiad ar ffigyrau deilliannau un flwyddyn yn unig. Roedd y Deilydd Portffolio Cyllid fel cynrychiolydd yr Awdurdod hwn ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn cyd-fynd â’r sylwadau a wnaed yn y cyflwyniad ynglŷn â’r ffactorau oedd yn dylanwadu ar berfformiad y gronfa bensiwn ac eglurodd i’r Aelodau y trefniadau adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Rheoli’r Gronfa Bensiwn am berfformiad y Gronfa.
Penderfynwydnodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ynglŷn â sefyllfa Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd a hefyd ddiolch i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd am y cyflwyniad.
CamauGweithredu’n Codi: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd ar raglen waith flynyddol y Pwyllgor Archwilio gyda sylw arbennig i raglennu er mwyn caniatáu i gynrychiolydd yr Awdurdod ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn roi atborth i’r Pwyllgor o’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Datganiad o Gyfrifon 2012/13 A Datganiad Llywodraethu Blynyddol PDF 2 MB · Cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon am 2012/13 ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
· Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ynglyn â’r archwiliad o’r Datganiadau Ariannol. (Adroddiad ISA 260)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn cynnwys Datganiad o Gyfrifon 2012/13 a hefyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r prif faterion oedd yn codi o’r archwiliad cyfrifon yn cynnwys cyfeiriad at y meysydd lle'r oedd y newidiadau sylweddol yn y cyfrifon yn berthnasol ynghyd â fersiwn wedi’i diweddaru o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r newidiadau iddo yn dilyn cyflwyno’r drafft i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ym mis Gorffennaf. Hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad roedd dadansoddiad o gyllid y Rhaglen 3 Tref fel yr oedd y Pwyllgor wedi gofyn am hynny yn ei gyfarfod blaenorol ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau ) wrth y Pwyllgor bod cyfrifon drafft y Cyngor Sir wedi eu cyflwyno i’w archwilio ar 28 Mehefin hynny ar-lein ac o fewn yr amser cau statudol. Roedd y cyfrifon a wnaed ar gael i’r Pwyllgor Archwilio cyn y cyfarfod hwn yn cynnwys newidiadau a wnaed fel rhan o’r broses archwilio. Fodd bynnag, ers yr amser hwnnw fe gafwyd newidiadau ychwanegol yn arbennig o ganlyniad i waith archwilio Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd wedi dangos gwahaniaethau rhwng y nifer o aelodau gweithredol a rhai a ohiriwyd o fewn y cynllun rhwng Chwefror ac Awst 2013 ac fe allai hynny gael effaith fawr ar werth rhwymedigaeth y pensiwn o fewn cyfrifon 2012/13. Roedd y cyfrifon wedi eu newid i adlewyrchu hynny ac roedd fersiwn newydd wedi ei pharatoi ac roedd honno ar gael ar-lein ynghynt yn y dydd. Achoswyd peth oedi oherwydd bod y swyddog arweiniol wedi gadael ddechrau mis Medi a hefyd oherwydd bod y prif Gyfrifydd ar ei wyliau ar y pryd gyda hynny oll yn golygu iddi fod yn her fawr i gasglu’r holl wybodaeth a’i gynnwys yn y cyfrifon terfynol. Yn dilyn yr archwiliad, bydd cyfarfod di-briffio’n cael ei gynnal gyda’r Archwilwyr i adolygu nifer y newidiadau i gyfrifon 2012/13 gyda golwg ar wella’r broses o baratoi’r cyfrifon ymhellach ar gyfer y flwyddyn nesaf .
· Cyflwynwydhefyd adroddiad Archwilio Allanol yn nodi’r materion oedd yn codi o archwilio Datganiadau Ariannol Cyngor Sir Ynys Môn 2012/13 ac sydd angen eu hadrodd o dan ISA 260.
Dywedodd Mrs Lyn Pamment, Partner Ymgysylltu , PwC wrth yr Aelodau bod nifer o faterion nad oeddid wedi delio a hwy ar adeg ysgrifennu’r ISA260 a hynny mewn perthynas â’r archwiliad oedd i’w gweld yn adran 6 yr adroddiad. Aeth yr Archwilydd ymlaen i roi gerbron lythyr oedd yn rhoi diweddariad ar bob un o’r gweithdrefnau archwilio a nodwyd fel rhai oedd ar ôl yn adran 6 ynghyd â’r canlyniadau. Ar adeg cyflwyno’r adroddiad ISA 260 roedd yr Archwilydd a benodwyd yn ystyried ei farn archwilio ar y datganiadau ariannol tra’n disgwyl am ddatrys y materion a nodwyd ynglyn â phrisio rhwymedigaeth y pensiwn yn y Datganiad o Gyfrifon. Oherwydd i’r rhain gael sylw erbyn hyn a chyda’r cyfrifon wedi ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Archwilio Allanol - Diweddariad ar Raglen Waith Perfformiad PDF 76 KB · Cyflwyno diweddariad Archwilio Allanol ar waith perfformiad.
· Cyflwyno Llythyr Asesiad Gwella 1 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Mr Andy Bruce, SAC ynghylch statws yr eitemau ar y Rhaglen Waith Perfformiad, ynghyd â’r cynnydd a wnaed, a hynny ar lefel genedlaethol ac ar lefel sy’n benodol i Ynys Môn. Derbyniodd a nododd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd.
· Cyflwynodd Mr. Andy Bruce Lythyr Asesiad Gwella 1 yr Archwiliwr a Benodwyd er sylw’r Pwyllgor. Roedd y llythyr yn cynnwys asesiad cychwynnol ynghylch a oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009, yn arbennig mewn perthynas â chynllunio gwelliant a gwneud trefniadau ar gyfer gwelliannau parhaus, gan gynnwys y cynnydd a wnaed ar argymhellion a nodwyd mewn asesiadau blaenorol a rhoi sylw i heriau ariannol. Byddai Llythyr diweddaru pellach yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd Tachwedd 2013. Aeth Mr Andy Bruce rhagddo i amlygu ac ymhelaethu ar gasgliadau’r Archwiliwr a Benodwyd fel y’u hamlinellwyd yn y Llythyr Asesiad.
Rhoddodd yr Aelodau sylw i gynnwys y Llythyr a gwnaed pwynt ynghylch digonolrwydd trefniadau sgriwtini’r Awdurdod yn dilyn gostwng nifer y Pwyllgorau Sgriwtini o 5 i 2. Dywedodd Mr. Andy Bruce bod ansawdd a chynnwys trafodaethau sgriwtini yn ystyriaethau allweddol ac y gall sgriwtini fod yr un mor effeithiol os nad yn fwy effeithiol gyda llai o grwpiau sgriwtini.
Penderfynwyd derbyn y Llythyr Asesu Gwelliant a nodi ei gynnwys.
DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI
|
|
Rheoli Risg ac Yswiriant PDF 371 KB Derbyn diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â rheoli risg ac yswiriant. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â gweithredu fframwaith rheoli risg a hefyd sefyllfa ddiweddaraf hawliadau yswiriant. Dywedodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant wrth yr Aelodau bod y Strategaeth Rheoli Risg a’r Canllawiau Rheoli Risg yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a’u diwygio i adlewyrchu newidiadau dros y 12 mis diwethaf yn y ffordd y mae’r Cyngor yn gweithredu ac i’r strwythur rheoli sef prosesau sy’n rhoi cyfle i newid yr hyn yr adroddir arno i’r Aelodau. O ganlyniad, cynigir y mai dim ond y prif risgiau ac unrhyw newidiadau sylweddol i’r risgiau corfforaethol eraill y bydd yr Aelodau yn cael adroddiad arnynt, ynghyd â’r cynnydd gydag unrhyw gamau i liniaru’r risgiau hynny. Enghraifft o’r dull adrodd arfaethedig newydd hwn yw’r fersiwn gynilach o’r Gofrestr Risg yn Atodiad A sy’n adlewyrchu’r prif risgiau yn unig a’r camau lliniarol cysylltiedig. Croesawodd yr Aelodau’r ffurf newydd ar gyfer y Gofrestr Risg fel cyfrwng mwy ystyrlon i’r Pwyllgor Archwilio fedru monitro’r sefyllfa risg a’r camau y byddai’n rhaid eu cymryd ar gyfer y prif risgiau corfforaethol, gyda’r amod bod y gofrestr yn cynnwys gwybodaeth am gamau lliniarol ac amserlenni ar gyfer yr holl risgiau y tynnwyd sylw atynt, a bod sylwebaeth eglurhaol hefyd yn cael ei darparu mewn perthynas ag unrhyw symudiadau risg fel bod modd i’r Aelodau ddod i gasgliadau synhwyrol. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r ffurf newydd ar gyfer adrodd ar risgiau. DIM CAMAU PELLACH YN CODI.
|
|
Archwilio Mewnol - Adroddiad Cynnydd Ebrill i Awst, 2013 PDF 663 KB Cyflwyno adroddiad ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Awst, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill i 30 Awst 2013.Tynnodd y Rheolydd Archwilio sylw’r Pwyllgor at brif ystyriaethau’r adroddiad o ran perfformiad, canlyniadau ac allbynnau. Yn y drafodaeth ddilynol, canolbwyntiwyd ar weithredu argymhellion mewn perthynas ag ysgolion ac a yw hyn yn achos o geisio archwilio system y mae angen ei hadolygu, o gofio’r materion sy’n codi dro ar ôl tro mewn perthynas ag agweddau ar reolaeth ariannol yn yr ysgolion. Soniwyd am bwynt trafod blaenorol mewn perthynas â rhoi adnoddau i ysgolion i reoli a rhoi sylw i systemau ariannol, gan ostwng y pwysau ar staff ysgol yn y cyswllt hwn ac fel bod modd i Archwilwyr Allanol wneud eu gwaith archwilio heb ymgymryd â rôl ymgynghorol hefyd. Esboniodd y Rheolydd Archwilio fod y rhestr wirio ar gyfer gwaith archwilio yn yr ysgolion yn gyfyngedig o ran ei sgôp ac nad yw ond yn edrych ar drefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol allweddol - mae sylw’n cael ei roi i gryfhau’r rhestr wirio i gynnwys mwy o ddangosyddion ariannol. Rhoddir sylw hefyd i gamau eraill o ran y dull archwilio a throsolwg o’r ysgolion e.e. anfon ffurflenni hunanasesu at ysgolion a chynnal asesiad risg i sefydlu pa ysgolion y dylid eu targedu yn hytrach na’r rhaglen dreigl gyfredol a hynny er mwyn cyflwyno her gadarnach i ysgolion.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.
DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI
|
|
Trefniadau Adrodd Archwilio Mewnol PDF 167 KB Derbyn adroddiad ar drefniadau adrodd Archwilio Mewnol yn cynnwys adrodd ar gynnydd ar weithredu argymhellion. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad yn amlinellu fframwaith adrodd arfaethedig newydd ar gyfer adroddiadau archwilio mewnol, gan gynnwys adrodd ar gynnydd mewn perthynas â gweithredu argymhellion. Dywedodd y Rheolydd Archwilio y bwriedir adrodd yn rheolaidd i Uwch Reolwyr ar grynodeb o waith Archwilio Mewnol a wnaed, y materion o bwys a nodwyd trwy’r gwaith Archwilio Mewnol yn y cyfnod a’r cyfraddau gweithredu argymhellion ar gyfer argymhellion sylweddol ynghyd â blaenraglen yr Archwilwyr Mewnol, a hynny gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o faterion a godwyd yn sgil gwaith a wnaed gan yr Archwilwyr Mewnol. Byddai adroddiadau o’r fath hefyd yn ceisio anfon nodyn atgoffa mewn perthynas â’r argymhellion lefel uchel a chanolig a’r argymhellion hynny y mae’r amserlen ar gyfer eu gweithredu yn dod i ben yn y dyfodol agos. Dywedodd y Swyddog y bydd yr Archwilwyr Mewnol hefyd yn achub ar y cyfle i adolygu ffurf yr adroddiadau gwaith i’r Pwyllgor Archwilio fel rhan o’r adolygiad mwy cyffredinol o’r llinellau adrodd, a hynny fel bod y dull o adrodd i Uwch Reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio yn gyson â’i gilydd. Cymeradwyodd yr Aelodau y dull arfaethedig newydd. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r fframwaith adrodd arfaethedig newydd ar gyfer gwaith Archwilio Mewnol. DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI |
|
Adroddiad Blynyddol Atal Twyll a Llygredd PDF 238 KB Derbyn yr Adroddiad Blynyddol am 2012/13 ar drefniadau atal twyll a llygredd. Cofnodion: Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012/13 ar weithgareddau’r Cyngor o ran atal twyll a llygredd. Cyfeiriodd y Rheolydd Archwilio at y meysydd yr oedd Polisi’r Cyngor ar gyfer atal twyll a llygredd yn rhoi sylw iddynt, ynghyd â’r canlyniadau yn ystod 2012/13 mewn perthynas â gweithgareddau canfod, archwilio ac erlyn gan yr Awdurdod ac mewn cydweithrediad gyda’r Cynllun Atal Twyll Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau mewn perthynas â chynigion i gyflwyno un gwasanaeth cyfun ar gyfer ymchwilio i dwyll. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2012/13 ar Atal Twyll a Llygredd. DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI
|
|
Rheoli Trysorlys Chwarter 1 2013/14 PDF 505 KB Derbyn adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys am Chwarter 1 2013/14. Cofnodion: Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yn ystod chwarter cyntaf 2013/14, yn cynnwys amlinelliad o’r prif ystyriaethau mewn perthynas â benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor yn ystod y chwarter yng nghyd-destun y cefndir a’r rhagolygon economaidd ac yn wyneb cyngor gan Sector, sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys. DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI
|
|
Archwilio'r Cofrestrau a Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw adborth o’r archwiliad o’r cofrestrau a datganiadau o ddiddordeb.
(Hysbysir Aelodau y bydd y cofrestrau ar gael i’w harchwilio ganddynt am 1:15 tan 1:45 ar brynhawn y 24 Medi cyn cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor am 2 o’r gloch) Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolydd Archwilio bod y cofrestrau diddordebau a’r datganiadau o ddiddordeb wedi bod ar gael i’r Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio eu gweld yn union cyn y cyfarfod ffurfiol heddiw. Ni chafwyd unrhyw atborth bod angen cymryd rhagor o gamau. |
|
Cyfarfod Nesaf sydd wedi'i Drefnu 2:00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mercher, 11 Rhagfyr, 2013. Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2013 am 2:00p.m.
|