Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Gwiriad Ffitrwydd Caffael ar gyfer Ynys Môn - KPMG Derbyn cyflwyniad gan y Pennaeth Caffael Dros Dro. Cofnodion: Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 10 Ebrill, rhoddodd y Pennaeth Dros Dro Caffael gyflwyniad i’r Pwyllgor ar brif ganfyddiadau gwaith gwirio ffitrwydd caffael ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn gan KPMG ynghyd â chamau gweithredu oedd wedi eu cynllunio ar gyfer gwella’r meysydd lle'r oedd diffygion wedi eu nodi fel rhan o raglen gynhwysfawr ar gyfer gwella caffael.
(Roedd adroddiad KPMG ar gael i Aelodau’r Pwyllgor fel dogfennau cefndirol)
Ymhelaethodd y Pennaeth Dros Dro Caffael ar y materion canlynol fel rhan o’r cyflwyniad:
• Y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan KPMG i gynnal y gwaith gwirio ffitrwydd sydd yn fodel asesu aeddfedrwydd caffael safonol a ddefnyddir ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i werthuso effeithlonrwydd. Roedd yr agwedd yn cynnwys holiadur ar lein y gofynnwyd i staff perthnasol ei gwblhau ac roedd KPMG wedi paratoi asesiad cychwynnol yn seiliedig ar yr holiaduron o allu caffael yr awdurdod yn unol â model aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru. Cafodd yr asesiad wedyn ei brofi a’i gymedroli mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb a gynhaliwyd ar safle’r Awdurdod gyda rheolwyr caffael allweddol a chydranddeiliaid ar draws yr Awdurdod. • Roedd hyd a lled y pethau a aseswyd yn cynnwys y canlynol a rhoddwyd graddfa aeddfedrwydd i Gyngor Sir Ynys Môn ar raddfa yn ymestyn o fethu â chydymffurfio fel y raddfa isaf i lefel uwch fel y raddfa uchaf, gyda pherfformiad ar gyfer pob mesur yn cael ei feincnodi yn erbyn nifer gyfartaleddog o awdurdodau Cymru a meincnod sector cyhoeddus y DU.
• Arweinyddiaeth a llywodraethiant caffael • Strategaeth ac amcanion caffael • Diffinio’r angen cyflenwi • Strategaethau nwyddau/prosiectau a chaffael at y cyd • Rheoli contractau a chyflenwyr • Prosesau a systemau pwrcasu allweddol • Pobl • Rheoli perfformiad
• Crynodeb o’r camau yr oedd KPMG yn eu hargymell yn erbyn pob dimensiwn o’r model. • Trosolwg manwl KPMG o’r canlyniadau yn ôl dimensiwn yn cynnwys sylwadau eglurhaol i gefnogi’r canfyddiadau a’r cyfleon ar gyfer gwella. • Rhaglen yr Awdurdod ar gyfer gwella caffael a’r agweddau o asesiad KPMG y bydd y rhaglen yn rhoi sylw iddynt a sut. • Y gallu i greu arbedion o ran y gwariant y gellir dylanwadu arno; amcangyfrif o’r arbedion cyffredinol a’r dulliau o ddarparu’r rhain drwy’r rhaglen i wella caffael yn cynnwys nodi arbedion effeithlonrwydd o £2m i £4m dros gyfnod o ddwy flynedd gyda buddsoddiad o £98k yn y swyddogaeth gaffael. • Esiampl o broffil o’r gwariant cyfredol yn ôl categori am wasanaethau cynnal a chadw cyffredinol a’r posibilrwydd ar gyfer creu arbedion (yn amodol ar wneud dadansoddiad manwl) o dan y pennawd hwn y gallai agwedd fwy systematig ei sicrhau yn cynnwys camau all arwain at ‘enillion sydyn’ ar unwaith. • Arbedion caffael allweddol mewn meysydd ar draws y Cyngor a’r arbedion tebygol i’w sicrhau.
Dilynwyd hyn gyda sesiwn o gwestiynau ac atebion lle rhoddwyd cyfle i’r Aelodau gael gwybodaeth ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |