Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y  Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion sy'n codi

 

           Eitem 2 – Llythyr Archwilio Blynyddol CSYM 2018/19 - Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y sefyllfa o ran cwblhau a derbyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Disgwylid i'r canfyddiadau drafft fod yn hysbys i'r Cyngor erbyn diwedd y flwyddyn galendr flaenorol. Cafodd y Pwyllgor wybod gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud gwaith i asesu cynaliadwyedd ariannol pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru; Deallwyd y byddai pob awdurdod yn derbyn adborth llafar i gychwyn ac y byddai adroddiadau lleol ar gyfer yr awdurdodau unigol yn cael eu cyhoeddi wedi hynny. Disgwylir y bydd adroddiad cryno cenedlaethol drafft o'r canfyddiadau hefyd yn cael ei gyhoeddi tua mis Ebrill, 2020. Cadarnhaodd y Swyddog nad yw'r Cyngor ar Ynys Môn hyd yma wedi derbyn adborth o'r ymarfer.

           Eitem 6 - Diweddariad Archwilio Mewnol (yr adnoddau sydd ar gael i'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol) - Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar sefyllfa staff y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod strwythur staff parhaol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnwys 5 aelod o staff llawn amser (Pennaeth Archwilio a Risg, Prif Archwilydd a 3 Uwch Archwilydd) ac ychwanegwyd swyddog atynt yn ddiweddar yn sgil secondiad dros dro o'r Gwasanaeth Cyfrifeg. Ar hyn o bryd mae dwy swydd Uwch Archwilydd wag - un oherwydd secondiad i'r Gwasanaeth Cyfrifeg a'r llall oherwydd penodiad parhaol i'r Gwasanaeth Cyfrifeg - sy'n golygu bod lefel staff y gwasanaeth ar hyn o bryd yn 3.6 yn erbyn lefel sefydliad o 5 aelod o staff llawn amser. Wrth gadarnhau bod hysbyseb ar gyfer un swydd Uwch Archwilydd parhaol amser llawn ac un swydd Uwch Archwilydd dros dro llawn amser wedi'i chyhoeddi, dywedodd y Swyddog fod timau archwilio mewnol ar draws awdurdodau lleol, yn bennaf oherwydd toriadau gorfodol, wedi lleihau o ran maint a bod natur swydd yr Archwilydd Mewnol hefyd wedi newid gyda llai o ymgeiswyr ar y lefel cynorthwyydd is. Felly, mae'r broses recriwtio yn canolbwyntio ar ddenu staff archwilio mewnol cwbl gymwys a phrofiadol, ac er bod yr awdurdod hwn wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar yn y cyswllt hwn, gall fod yn heriol. Y dewis arall fyddai ailystyried y swyddi Archwilydd Mewnol gyda'r bwriad o benodi ar lefel is a darparu hyfforddiant yn y gwaith; ac er bod y model "tyfu eich hun" yn un a ffafrir gan yr Awdurdod, mae'n debyg mai anfantais y dull hwn fyddai llai o allbwn gan y tîm Archwilio Mewnol yn y tymor byr.

           Eitem 7 – Adolygu Cylch Gorchwyl Archwilio a LlywodraethuGofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y sefyllfa o ran darparu hyfforddiant ar faterion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Arferion Rheoli'r Trysorlys pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth

(Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn cynnwys datganiad ar Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys (2017).

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer gorau yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys. Mae'r Cod yn argymell bod y Cyngor yn cofnodi ei weithdrefnau rheoli’r trysorlys fel Arferion Rheoli’r Trysorlys (TMPs). Mae adran 7 ac Atodlen 2 y Cod yn cynnwys awgrymiadau ar yr hyn y dylid ei gynnwys mewn TMPs awdurdodau. Cwblhawyd a chymeradwywyd TMPs presennol y Cyngor yn 2016. Mae'r rhain wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru ac maent yn cymeradwyo nifer o'r awgrymiadau a ddarparwyd gan God CIPFA yn ogystal â chynnwys adran (TMP13) ar fuddsoddiadau sydd ym meddiant y Cyngor nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys, yn unol â gofynion Cod Rheoli Trysorlys diwygiedig CIPFA. Buddsoddiadau nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys y Cyngor yw’r eiddo buddsoddi y mae’r Gwasanaethau Eiddo yn eu rheoli.

 

Rhoddodd y swyddog drosolwg cryno o'r 13 TMP a restrwyd a chyfeiriodd at TMP13 sydd newydd gael ei ychwanegu at Fuddsoddiadau nad ydynt yn Fuddsoddiadau Rheoli Trysorlys    gan esbonio beth mae'r arfer hwn yn cyfeirio ato, a thynnodd sylw at sut y mae'r TMPs eraill - TMP 1, 2, 5, 6 a 10 yw’r rhai mwyaf perthnasol - yn berthnasol i fuddsoddiadau nad ydynt yn fuddsoddiadau rheoli trysorlys. Mae Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn dangos bod portffolio buddsoddi'r Cyngor yn werth £6m sy'n unedau diwydiannol yn bennaf. Yn 2017/18 a 2018/19, roedd ffrwd incwm net o bortffolio buddsoddi'r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiynau yn codi ar yr adroddiad, dywedodd y Pwyllgor–

 

           Yn wahanol i Loegr lle mae gan awdurdodau lleol bŵer cymhwysedd cyffredinol sy'n caniatáu iddynt fuddsoddi'n ariannol mewn asedau fel canolfannau siopa, gwestai a sinemâu y tu mewn a thu allan i ardal eu hawdurdod, nid oes gan gynghorau yng Nghymru bwerau o'r fath a byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio pwerau datblygu economaidd eraill pe baent yn bwriadu gwneud buddsoddiadau a fyddai, beth bynnag, wedi’u cyfyngu i’w hardaloedd eu hunain. Mae portffolio eiddo buddsoddi’r Cyngor yn cynnwys unedau masnachol a diwydiannol yn ogystal ag ambell eiddo manwerthu ond    nid yw wedi buddsoddi mewn unrhyw asedau manwerthu mwy.

           Nad oes gan y Cyngor gyfleuster gorddrafft cymeradwy gyda'i fanc ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor yn adolygu ac yn rheoli ei ofynion o ran llif arian yn rheolaidd rhag bod mewn dyled. Hefyd, mae trefniadau bancio wedi'u gweithredu fel bod yr holl gyfrifon banc o dan y contract corfforaethol gyda NatWest yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar falans y Cyngor. Felly, os bydd gormod o arian wedi cael ei godi o unrhyw gyfrif a hynny’n creu dyled, bydd y swm cyfatebol yn cael ei gymryd o gyfrifon eraill sydd mewn credyd gan olygu na fydd y cyngor â gorddrafft. Hefyd, pe bai angen, gall yr Awdurdod fenthyca ar fyr rybudd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Datganiad o'r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn nodi dull arfaethedig y Cyngor o fuddsoddi a gweithgareddau benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yng ngoleuni'r amodau economaidd presennol a'r rhai a ragwelwyd.

 

Wrth gadarnhau nad oes unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2019/20, nododd y Rheolwr Cyllid fod prif bwyntiau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21 fel a ganlyn-

 

           Y cyd-destun ehangach i Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Ni ellir cyflawni'r strategaeth ar ei phen ei hun, a rhaid ystyried y sefyllfa economaidd gan fod hyn yn cael effaith ar gyfraddau buddsoddi, cost benthyca a chryfder ariannol y gwrth-bartïon. Rhoddir crynodeb llawn o'r rhagolygon economaidd yn Atodiad 3 i'r Datganiad a chrynhoir y prif bwyntiau yn adran 3.1. Mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit a'i effaith ar economi'r DU ac ardal yr Ewro yn debygol o barhau ac mae disgwyl i adenillion buddsoddi aros yn isel yn ystod 2020/21 heb fawr o gynnydd yn y ddwy flynedd ganlynol.

           Sefyllfa fenthyca allanol bresennol y Cyngor fel y nodir yn Nhabl 2 o'r adroddiad sy'n rhoi crynodeb o fenthyciadau cyfredol dyledus y Cyngor.

           Rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020/21 i 2022/23 fel y nodir yn Nhabl 3 o'r adroddiad a sut y caiff hyn ei ariannu. Ffactor pwysig i'w ystyried yw effaith benthyca ar Ofyniad Cyllid Cyfalaf y Cyngor sy'n cyfrifo angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca er mwyn cyllido gwariant cyfalaf. Bydd gwariant cyfalaf yn cynyddu'r CFR ond dim ond ar sail y swm nad yw'n cael ei ariannu o grantiau cyfalaf, derbyniadau, cronfeydd wrth gefn neu refeniw. Bydd y CFR hefyd yn lleihau'n flynyddol yn ôl swm yr Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) sy'n dâl a wneir i'r cyfrif refeniw bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu ad-dalu dyled fel y mae'n dod yn ddyledus. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Datganiad MRP cyn pob blwyddyn ariannol – mae'r polisi ar gyfer 2020/21 wedi ei nodi yn Atodiad 6 ac nid yw wedi newid ers 2019/20 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr yn 2018. Dangosir effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a'r tâl MRP ar y CFR a lefel y benthyca allanol a mewnol yn Nhabl 4 o’r adroddiad.

             Mae strategaeth fenthyca'r Cyngor a'r ffactorau sy'n effeithio arni wedi’u nodi yn adran 6 o'r Datganiad. Mae'r Cyngor yn parhau i gynnal sefyllfa o danfenthyca sy'n golygu nad yw CFR y Cyngor wedi'i ariannu'n llawn gyda dyledion benthyciadau fel arian i gefnogi cronfeydd wrth gefn y Cyngor. Defnyddiwyd balansau a llif arian fel mesur dros dro. Er bod hwn yn ddull darbodus gan fod adenillion buddsoddi yn isel a bod risg gwrth-bartion yn dal i fod yn fater i'w ystyried, mae'r gallu i fenthyca'n allanol i ad-dalu'r cronfeydd a'r balansau os oes angen, yn bwysig. Mae Tabl 4 o'r Datganiad yn dangos y gall fod angen benthyg £12.777m yn allanol os bydd angen ar frys, sef swm  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad ar Gynnydd Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 965 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a roddodd ddiweddariad ar gynnydd diweddaraf gwaith Archwilio Mewnol mewn perthynas â darparu gwasanaeth, cynnig sicrwydd, ac adolygiadau a gwblhawyd i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Tynnodd y Prif Archwilydd sylw at y prif bwyntiau a ganlyn–

 

           Bod dau adroddiad wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod (roedd copïau ar gael i'r Pwyllgor) – Rheoli Risgiau Brexit a Chynllunio Parhad Busnes a arweiniodd at farn Sicrwydd Rhesymol. Ni chodwyd unrhyw faterion/risgiau ynglŷn â’r cyntaf, a nodwyd pedwar mater/risg ar gyfer sylw'r rheolwyr ar y tri olaf sy'n cael eu hystyried yn "Sylweddol" oherwydd effaith bosibl y risg yn y maes hwn. Er hynny, mae canlyniad yr adolygiad gan Archwilio Mewnol yn gadarnhaol ar y cyfan a chytunwyd ar gynllun gweithredu i roi sylw i’r materion hyn gyda Rheolwyr. Bydd hyn yn cael ei fonitro drwy system olrhain gweithredu gan Archwilio Mewnol.  

           Cwblhawyd pedwar adolygiad dilyn i fyny yn ystod y cyfnod - Taliadau Uniongyrchol (gwaith dilyn i fyny cyntaf - Sicrwydd Rhesymol); Gwiriad Iechyd Llywodraethu Gwybodaeth Ysgolion (gwaith dilyn i fyny cyntaf - Sicrwydd Rhesymol); Adolygiad Llywodraethu yn Ysgol Kingsland (gwaith dilyn i fyny cyntaf - Sicrwydd Sylweddol) a Chasglu Incwm Ysgolion Cynradd (adolygiad dilyn i fyny cyntaf - Sicrwydd Cyfyngedig). O ran yr olaf, er bod llawer o waith wedi'i wneud a chynnydd wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion/risgiau a godwyd yn wreiddiol, mewn llawer o achosion nid oedd yn ddigon i fynd i'r afael â'r mater/risg. Mae amserlenni afrealistig, ynghyd â materion staffio ar draws nifer o adrannau, yn golygu bod nifer o gamau gweithredu yn dal heb eu cymryd. Yn ogystal â hyn, bydd angen i swydd yr Uwch Reolwr Cynradd gymeradwyo'r broses newydd ac nid yw'r swydd hon wedi'i llenwi eto. Canfu'r adolygiad dilyn i fyny hefyd na fyddai rhai o'r camau rheoli a gynigiwyd yn wreiddiol, hyd yn oed pe byddent yn cael eu gweithredu'n llawn, yn mynd i'r afael â'r mater/risg a godwyd. Felly mae camau pellach wedi cael eu trafod a'u cytuno gyda'r Rheolwyr. O ganlyniad, mae'r sgôr sicrwydd wedi aros yn Gyfyngedig; bydd Archwilio Mewnol yn ailedrych ar y cynllun gweithredu ym mis Medi, 2020.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynglŷn â chynnydd gan gadarnhau, er nad yw'r ail gam dilyn i fyny wedi'i amserlennu tan fis Medi, 2020, y bydd y Gwasanaeth yn y cyfamser yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd. Mae camau wedi cael eu cymryd ac yn parhau i gael eu cymryd i ymateb i'r adolygiad Archwilio Mewnol er mwyn gwella'r sgôr sicrwydd. Mewn ymateb i gwestiynau am swydd wag yr Uwch Reolwr Cynradd sy'n atal cynnydd a ph’un ai y dylid osgoi oedi, byddai disgwyl wedyn i'r Swyddog nesaf yn y strwythur gymryd y camau angenrheidiol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y swydd bellach wedi'i llenwi. Eglurodd hefyd, yn ystod y cyfnod ers iddo gael ei benodi, ei fod wedi ceisio adeiladu tîm gyda ffocws arbennig ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Archwilio Mewnol Drafft 2020/2021 pdf eicon PDF 382 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft ar gyfer 2020/21, ei gyflwyno i'r Pwyllgor ei ystyried a'i adolygu.

 

Adroddodd y Prif Archwilydd fod y Strategaeth ddrafft Archwilio Mewnol yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor i gael ei sylwadau ac i benderfynu a yw'n cwrdd â gofynion sicrwydd y Cyngor. Yn dilyn ei werthusiad gan y Pwyllgor hwn a chynnwys unrhyw adborth dilynol, bydd y Pennaeth Archwilio a Risg yn cyflwyno Strategaeth Archwilio Mewnol derfynol gan gynnwys Cynllun Gweithredu i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ei gymeradwyo yng nghyfarfod 21 Ebrill, 2020.

 

Eglurodd y swyddog fod y Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi cael ei defnyddio i bennu'r blaenoriaethau ar gyfer gweithgarwch archwilio mewnol gyda'r risgiau coch ac ambr gweddilliol ar y gofrestr yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer adolygiad Archwilio Mewnol.  Ar hyn o bryd, mae'r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys 12 maes lle aseswyd bod y risg weddilliol yn goch neu'n ambr - tynnir sylw at y 5 uchaf yn y Strategaeth. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd ag Arweinydd y Cyngor, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a phob Pennaeth Gwasanaeth i drafod eu barn ar y meysydd adolygu arfaethedig a'u meysydd pryder penodol.  Amlinellir y pryderon hynny sy'n adlewyrchu meysydd risg posibl a/neu sy’n dod i’r amlwg yn y Strategaeth a bydd Archwilwyr Mewnol yn rhoi sylw iddynt ac yn eu hadolygu fel y cynigir.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cwestiynodd y Pwyllgor y ffaith bod cynllun gweithredu ar gyfer 2020/21 wedi'i hepgor fel rhan o'r Strategaeth. Eglurodd y Prif Archwilydd, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch recriwtio, nad oedd cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu hyd yma. Unwaith y bydd y broses recriwtio wedi'i chwblhau caiff cynllun ei ddatblygu a'i adolygu yn ôl yr angen a chaiff ei addasu mewn ymateb i fusnes, risgiau, gweithrediadau a rhaglenni'r Cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol ac yn berthnasol.

 

O ran meysydd sy'n peri pryder, trafododd y Pwyllgor yn fyr y risgiau'n ymwneud â'r nifer gynyddol o Blant sy'n Derbyn Gofal a chymhlethdod cynyddol achosion sydd â goblygiadau ariannol i'r Cyngor. Cafodd y Pwyllgor sicrwydd gan y trefniadau a oedd yn eu lle ar gyfer trosolwg gan y pwyllgorau Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith ar wariant gwasanaethau a rheoli cyllidebau yn y maes hwn.

 

Penderfynwyd nodi'r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21 gan  dderbyn  bod y dull o weithio a’r blaenoriaethau a amlinellwyd yn bodloni anghenion sicrwydd  y Cyngor.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

7.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 118 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol -

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd ef.

8.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad Pennaeth Archwilio a Risg yn cynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiwygiedig a'r atodiadau cysylltiedig eu cyflwyno i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn adolygu nifer fach o risgiau bob mis. Mae pa mor aml yr adolygir pob risg unigol yn dibynnu ar lefel y risg weddilliol ganfyddedig; po uchaf yw'r lefel risg weddilliol po amlaf yr adolygiad, felly caiff risgiau coch eu hadolygu'n fisol, caiff risgiau ambr eu hadolygu bob chwarter, adolygir risgiau melyn bob chwe mis a chaiff risgiau gwyrdd eu hadolygu bob naw mis. O ganlyniad i'r adolygiad diweddaraf gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ym mis Ionawr 2020, dywedodd y Swyddog 2020 fod newidiadau/diwygiadau canlynol wedi’i gwneud

 

           Nid oes unrhyw risgiau wedi'u cau na'u dileu o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol

           Ychwanegwyd un risg newydd at y gofrestr i egluro cyfrifoldebau diogelu cyffredinol y Cyngor yn hytrach na'i gyfrifoldebau diogelu mewn cysylltiad â'r risg o niwed i blant ac oedolion bregus, sy'n parhau i fod yn risg sydd wedi’i dosbarthu ar wahân.

           Yn sgil y newid mewn amgylchiadau a/neu gynnydd/gostyngiad mewn gweithgarwch rheoli mae lefel y risg weddilliol a/neu gynhenid wedi newid ar gyfer YM9, YM11, YM29 a YM40.

           Nodwyd y risgiau uchaf (coch) i'r Cyngor fel YM28 (yn gysylltiedig â TG), YM29 (yn ymwneud ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr), YM40 (yn gysylltiedig â Brexit) a YM41 (yn ymwneud â chyllid).

 

Wrth ystyried yr adroddiad trafododd y Pwyllgor a ddylid cydnabod bod Coronafeirws yn risg o fewn y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod angen gwerthuso'r risg a'i ddiffinio ar y cam hwn gan gadw mewn cof bod rhai agweddau o bosibl eisoes yn dod o dan y trefniadau cynllunio risg presennol e.e. Cynllunio Parhad Busnes (YM9); caiff y mater ei drafod yng nghyfarfod adolygu nesaf yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Gofynnodd Aelodau Lleyg y Pwyllgor hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Dilysu Risg drafft a ystyriwyd yn y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr, ac a oedd yr awgrymiadau a gynigiwyd i sicrhau cadernid y polisi wedi'u hystyried. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 150 y byddai'r polisi arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 17 Chwefror, 2020 a bod y sylwadau a wnaed wedi'u hadlewyrchu yn y polisi a'r fethodoleg. Bydd copi o adroddiad y Pwyllgor Gwaith yn cael ei ddarparu i Aelodau Lleyg y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd nodi'r diwygiadau i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol fel rhan o drefniadau'r Cyngor ar gyfer rheoli ei risgiau ac i gymryd sicrwydd bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cydnabod ac yn rheoli'r risgiau i gyflawni blaenoriaethau'r Cyngor.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL