Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol ar Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 30ain Medi, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod ac estynnodd groeso arbennig i'r ddau Aelod Lleyg sydd newydd eu penodi, Dr Geraint Jones a William Maund, i’w cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn absenoldeb y Dirprwy Gadeirydd, y Cynghorydd Euryn Morris, etholwyd y Cynghorydd Margaret M. Roberts i wasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

 

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb a'i nodi.

 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2025.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Log Gweithredoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 130 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys log gweithredoedd y pwyllgor i'w ystyried. Mae'r adroddiad yn diweddaru'r Pwyllgor ar statws a chynnydd y camau gweithredu a'r penderfyniadau y cytunwyd arnynt.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ar eitem 19 ar y log gweithredoedd, gan nodi y bydd Llythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024/25 yn cael ei ailgyhoeddi oherwydd mater yn ymwneud â data. O ganlyniad, bydd y Llythyr bellach yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2025. O ganlyniad, mae adroddiad Pryderon Cwynion a Chwythu'r Chwiban Blynyddol y Swyddog Monitro 2024/25 hefyd wedi'i ohirio tan gyfarfod mis Rhagfyr i gyd-fynd â chyflwyno Llythyr OGCC. O ran eitem 27 ar y log gweithredoedd sy'n ymwneud â dadansoddi cyfraddau ymadael staff, yn benodol symudiadau mewnol yn hytrach na rhai sy’n ymadael i swyddi allanol, mae Rheolwr y Tîm Perfformiad a Phrosiectau wedi ymgynghori ag AD ar y mater hwn ac wedi cael gwybod nad yw'r system AD bresennol yn un sy’n olrhain symudiadau staff yn effeithiol rhwng gwasanaethau. Mae swyddogion yn ymchwilio i hyn ymhellach ac yn anelu at ddiweddaru aelodau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriodd aelod o'r pwyllgor at adroddiad Archwilio Cymru a gyflwynwyd yn flaenorol ar y defnydd o wybodaeth am berfformiad - persbectif a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth. Gofynnodd sut mae argymhellion yr adroddiad yn cael eu dilyn i fyny, gan nodi nad ydynt wedi'u rhestru yn y log gweithredoedd. Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg, tra bod Rheolwr y Tîm Perfformiad a Phrosiectau  yn monitro gwaith y Cyngor i weithredu argymhellion archwilio allanol, byddai hi'n sicrhau eu bod yn cael eu monitro.

 

Penderfynwyd nodi'r camau gweithredu y manylir arnynt yn y tabl log gweithredoedd a chadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon bod y gweithredoedd wedi'u gweithredu i'w foddhad.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2024/25 pdf eicon PDF 693 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch y Cyngor ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y pwyllgor. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o weithgarwch iechyd a diogelwch yn y Cyngor yn ystod y cyfnod, gan gynnwys dadansoddiad o ddamweiniau a digwyddiadau ynghyd ag ymateb y Cyngor i'r materion hynny. Roedd hefyd yn rhestru’r prif bethau a gyflawnwyd ac yn amlinellu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd i roi sicrwydd i'r pwyllgor ynghylch perfformiad Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Gofynnodd y pwyllgor faint o'r damweiniau a'r digwyddiadau a adroddwyd a oedd i’w priodoli i hyfforddiant annigonol neu fethu â dilyn protocolau iechyd a diogelwch.

 

Esboniodd y Prif Gynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, er nad yw'r ystadegyn penodol hwn yn cael ei gofnodi, fod trefn o ymchwilio i bob damwain a digwyddiad i bennu ei achos. Nododd fod mwyafrif y staff wedi derbyn yr hyfforddiant iechyd a diogelwch angenrheidiol, ac nad yw cyfran sylweddol o ddigwyddiadau yn y data yn gysylltiedig â gweithwyr sy'n ymwneud â disgyblion mewn ysgolion neu gleientiaid mewn cartrefi gofal. Ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud yn benodol â gweithwyr, adolygir pa mor ddigonol yw’r hyfforddiant a ph’un ai a oes asesiadau risg priodol yn bodoli. Er nad yw'r union ffigurau ar gael, yn y rhan fwyaf o achosion mae hyfforddiant wedi bod yn ddigonol ac mae protocolau wedi'u dilyn.

 

Mewn cwestiwn dilynol, gofynnodd y pwyllgor a ddylid olrhain ac adrodd gwybodaeth o'r fath, gan y gallai trefn o nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio neu hyfforddiant annigonol helpu i atal damweiniau yn y dyfodol.  Cydnabu Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd y pwynt a dywedodd y gallai fod yn bosibl dadansoddi a nodi patrymau fel bylchau hyfforddi, yn seiliedig ar y data digwyddiadau a dderbyniwyd gan y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Cadarnhaodd fod awgrym y pwyllgor wedi'i nodi.

 

·      Cyfeiriodd y pwyllgor at gynllun gweithredu strategol iechyd a diogelwch 2025/26 a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ar ffurf tabl. Nododd yr Aelodau fod y camau gweithredu arfaethedig wedi'u diffinio'n eang iawn, gan ei gwneud hi'n anodd monitro cynnydd yn effeithiol. Awgrymwyd y dylai pob gweithred fod yn rhai CAMPUS h.y. Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd fod y gwasanaeth ar hyn o bryd yn datblygu cynllun strategol tair i bedair blynedd fwy manwl a fydd yn cynnwys targedau penodol a chanlyniadau mesuradwy. Y bwriad yw cyflwyno’r cynllun i'r bwrdd rheoli corfforaethol.

 

Croesawodd y pwyllgor y wybodaeth a chynigiodd fod y cynllun strategol tair blynedd gorffenedig sy'n cynnwys camau gweithredu CAMPUS yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor hwn i'w adolygu maes o law.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a oedd y ffaith bod llai o adroddiadau Rheoliadau Adrodd ar

 

Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) yn ystod 2024/25 yn ganlyniad i gam bwriadol gan y Cyngor i liniaru'r risg neu a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi diweddariad ar 30 Medi, 2025 ynghylch yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad blaenorol ar 30 Mehefin 2025 i'w ystyried gan y pwyllgor. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a'i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig yn y dyfodol. Darparwyd copïau o'r adroddiadau sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod mewn perthynas â Rheoli'r Risg Tlodi (YM11) (Sicrwydd Rhesymol), Monitro Parhaus – y Gyflogres (Sicrwydd Rhesymol), a Monitro Parhaus – Credydwyr (Sicrwydd Rhesymol), a Monitro Parhaus – Credydwyr (Sicrwydd Rhesymol).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a ddarparodd drosolwg o'r tri adroddiad sicrwydd a gwblhawyd yn y cyfnod ynghyd â'r materion a nodwyd. O ran yr adolygiad archwilio Monitro Parhaus – Credydwyr, tynnodd sylw at y ffaith y llwyddwyd i adennill oddeutu £60,000 o daliadau dyblyg a nodwyd yn flaenorol ers yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2024. Mae'r Tîm Taliadau yn parhau i geisio adennill y £65,000 sy'n weddill. Nododd ymhellach fod yr ymarfer blynyddol hwn yn cael ei gynnal ar y cyd â'r Tîm Taliadau. Mae hyn yn dilyn derbyn pris o £53k gan gyflenwr meddalwedd arweiniol, sy’n gweithio â chynghorau cyfagos, am gontract tair blynedd i gynnal ymarfer tebyg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad diweddaru, cododd y pwyllgor y materion canlynol -

 

·      Cwestiynodd y pwyllgor y rhesymeg y tu ôl i bennu sgôr "Sicrwydd rhesymol" i'r adolygiad Rheoli'r Risg Tlodi. Awgrymodd y pwyllgor fod y materion a nodwyd, sydd wedi'u categoreiddio fel rhai cymedrol, mewn gwirionedd yn rhai mwy sylweddol ac felly dylid diwygio’r sgôr yn unol â hynny.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod matrics asesu risg y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i werthuso risg, gan bwyso a mesur tebygolrwydd yn erbyn effaith a bod yr archwilydd wedi ystyried bod y risg yn gymedrol (Melyn). Er bod prosesau a mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer rheoli'r risg o dlodi, mae angen gwelliannau sy'n cynnwys sicrhau bod camau gweithredu yn rhai CAMPUS a chryfhau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o fewn y Strategaeth Trechu Tlodi, yn enwedig trwy roi mwy o sylw i groestoriadedd. Mewn ymateb i ymholiadau pellach ynghylch y cynlluniau gweithredu sydd ar gael, eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Cynllun Strategol Trechu Tlodi y Cyngor yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredol sydd ar wahân i'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r chwe mater/risg a nodwyd yn yr adolygiad archwilio. Gofynnodd y pwyllgor am gopïau o'r ddau gynllun.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad ynghylch y sylw yn adolygiad archwilio Rheoli'r Risg Tlodi fod ymgysylltu â staff yn parhau i fod yn gyfyngedig. Cwestiynodd yr aelodau a oedd hyn yn arwydd o risg systemig ddyfnach y dylid rhoi sylw ffurfiol iddo.

 

Esboniodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y mater yn deillio o gynlluniau darparu gwasanaethau'r Cyngor. Er bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cael ei chydnabod o fewn cynlluniau strategol ehangach, nid yw wedi'i chynnwys yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Materion, Risgiau a Chyfleoedd Archwilio Mewnol sy'n Weddill pdf eicon PDF 352 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws y materion sy’n weddill, y risg a'r cyfleoedd y mae Archwilio Mewnol wedi'u codi, i'w ystyried gan y pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Prif Archwilydd yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o'i brif bwyntiau. Ar 31 Awst 2025, roeddem yn olrhain 73 o weithredoedd oedd angen sylw. Roedd 10 ohonynt yn risgiau ‘sylweddol’ (ambr) a 63 yn ‘gymedrol’ (melyn). Darparwyd dadansoddiad manwl o statws cyfredol y materion, y risgiau a'r cyfleoedd cysylltiedig sylweddol sy’n weddill yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Codwyd y materion canlynol gan y pwyllgor –

 

·      Gofynnodd y pwyllgor a oedd amserlen ddiwygiedig wedi'i gosod ar gyfer y gweithredoedd cymedrol hwyr a godwyd gan yr archwiliad o Brosesau Debyd Uniongyrchol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad yw'r rhan fwyaf o unigolion sy'n cael eu bilio am ardrethi busnes gan y Cyngor yn gwneud unrhyw daliadau oherwydd eu bod yn gymwys o dan y Cynllun Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach, gan arwain at nifer gymharol fach o dalwyr. Er bod y Cyngor yn cynnig taliadau debyd uniongyrchol, rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen ar hyn o bryd. Er mwyn cefnogi trosglwyddo i system ddi-bapur, bydd staff yn casglu manylion talu dros y ffôn ac yn anfon y ffurflen ymlaen i'w phrosesu. Fodd bynnag, mae angen datblygu awdurdodiad banc a chynlluniau ar wahân ar gyfer pob ffrwd incwm. Er bod cynllun debyd uniongyrchol y Dreth Gyngor yn ddi-bapur, mae'r cynllun Ardrethi Busnes yn parhau i fod ar bapur oherwydd y nifer isel o drafodion sy’n golygu nad yw’n flaenoriaeth. Yn ogystal â hyn, mae'r tîm Taliadau hefyd yn gweithio ar brosiectau eraill i sicrhau cydymffurfiaeth â Safon Diogelwch Data y Diwydiant Cardiau Talu (PCIDSS).

 

Mewn ymateb i gwestiwn dilynol ynglŷn ag ymestyn yr amserlen ar gyfer gweithredoedd hwyr ac a oes mecanwaith yn bodoli i’w huwchgyfeirio rhag iddynt lithro, hysbyswyd y pwyllgor bod gan bob gweithred berchennog dynodedig a dyddiad cwblhau penodol. Mae dangosfwrdd defnyddiwr o fewn y system 4action yn rhoi ciplun amser real o gynnydd, sy’n golygu bod modd olrhain ac adrodd yn effeithiol. Gellir ymestyn dyddiadau cwblhau gweithredoedd ond dim ond os gall y gwasanaeth ddangos rheswm dilys, gan ystyried lefel y risg sy’n gysylltiedig. Ar gyfer materion / risgiau sylweddol nad ydynt wedi'u datrys deuddeg mis ar ôl y dyddiad cwblhau gwreiddiol, gofynnir i berchnogion y weithred roi diweddariad i'r pwyllgor yn esbonio'r oedi. Mae mwy o hyblygrwydd yn cael ei roi i weithredoedd cymedrol (sgôr Melyn), gyda phob achos yn cael ei asesu ar sail ei rinweddau a'i risg ei hun. Mae materion / risgiau â sgôr ambr yn destun proses uwchgyfeirio archwilio mewnol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â statws y ddwy weithred sy'n gysylltiedig â PCIDSS a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad - y ddwy ohonynt â dyddiad targed i’w cwblhau erbyn 30 Medi, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi symud yn ddiweddar i system awtomataidd ar gyfer cymryd manylion cardiau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Hunan-Asesiad Drafft 2024/25 pdf eicon PDF 550 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys adroddiad hunanasesiad drafft ar gyfer 2024/25, i'w ystyried gan y pwyllgor. Yn ôl Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad hunanasesiad blynyddol i ddangos sut mae wedi perfformio, a yw ei adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn effeithiol a sut mae'n rheoli a lliniaru'r risgiau cysylltiedig.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Tîm Perfformiad a Phrosiectau a esboniodd y broses hunanwerthuso lle mae pob gwasanaeth yn asesu ei berfformiad ar draws pedwar maes allweddol gan ddefnyddio meini prawf sgorio wedi'u diweddaru - Angen Gwelliannau, Bodloni Disgwyliadau, Rhagori ar Ddisgwyliadau a Rhagorol. Heriwyd eu hasesiadau mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaeth gyda swyddogion ac aelodau etholedig. Yn seiliedig ar y broses hon, mae'r adroddiad yn darparu asesiad cyffredinol o ba mor dda y mae'r Cyngor wedi bodloni ei ofynion o ran perfformiad, wedi'i gefnogi gan dystiolaeth ac mae’n nodi'r camau gweithredu a gymerwyd a'r gwelliannau a gynlluniwyd. 

 

Wrth adolygu'r adroddiad hunanasesiad, codwyd y materion canlynol gan y pwyllgor –

 

·      Nododd y pwyllgor y meysydd gwella a nodwyd ar gyfer 2025/26. Er mwyn hwyluso cynnydd a chwblhau’r gwelliannau, awgrymwyd bod angen rheoli pob mater y mae angen ei wella gyda strwythur clir trwy ddefnyddio dadansoddiad llwybr critigol. Byddai hyn yn helpu i ddiffinio amserlenni a chamau allweddol, yn enwedig ar gyfer prosiectau lefel uchel cymhleth megis datblygu cynllun strategol data i gefnogi nod y Cyngor i ddod yn sefydliad sy'n seiliedig ar ddata. Pwysleisiwyd gwerth dod yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata a phwysleisiodd aelodau bwysigrwydd datblygu diwylliant ledled y cyngor o reoli perfformiad sy'n cael ei ddefnyddio’n gyson ar draws pob prosiect.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Perfformiad a Phrosiectau fod rheolwyr prosiect yn y Gwasanaeth Trawsnewid yn gymwys i lefel PRINCE2 ac y defnyddir ei fethodolegau wrth reoli prosiectau corfforaethol strategol bwysig. Defnyddir templedi a phrosesau safonedig ar draws y Cyngor, gan gynnwys cynlluniau gweithredu, cofrestri risg a phroses fanwl i olrhain cynnydd. Er bod yr adroddiad hunanasesiad yn darparu trosolwg lefel uchel o feysydd gwella a chamau gweithredu a nodwyd, mae'r manylion penodol wedi'u cynnwys mewn cynlluniau datblygu gwasanaethau unigol sy'n cael eu hadolygu a'u monitro bob chwarter.

 

Yn dilyn o hyn, gofynnodd aelod o'r pwyllgor am gopi o'r ddogfen cychwyn prosiect ar gyfer y fenter Cynllun Strategol Data pan gaiff ei chwblhau.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor pam mai mis Mawrth 2026 yw’r dyddiad cwblhau ar gyfer yr holl gamau gwella a nodwyd.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm Perfformiad a Phrosiectau fod y meysydd gwella yn eang o ran cwmpas a bydd y camau cysylltiedig yn cael eu cyflawni ar hyd y flwyddyn gyda'r bwriad o gwblhau pob un erbyn mis Mawrth 2026. Bydd y pwyllgor yn derbyn diweddariad cynnydd canol blwyddyn. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a yw'r amserlen yn realistig, dywedodd y Swyddog, er bod rhai camau mewn sefyllfa dda o ran eu cwblhau, mae angen trafod a chael mewnbwn pellach gan wasanaethau eraill ar gyfer rhai camau. Fodd bynnag, ystyrir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Adroddiad Blynyddol Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2024/25 pdf eicon PDF 485 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd ar gyfer 2024/25, i'w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol yn ystod 2024/25 i leihau'r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd o fewn ac yn erbyn y Cyngor gan ddarparu enghreifftiau o ymgais i dwyllo yn erbyn y Cyngor yn y cyfnod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad blynyddol yn amlinellu gweithgareddau atal twyll y Cyngor yn 2024/25. Mae dull y Cyngor wedi'i lywio gan God Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Risg o Dwyll sy'n nodi'r arfer gorau ar gyfer gwaith atal twyll mewn llywodraeth leol, yn seiliedig ar bum piler a chan y Fight Fraud and Corruption Locally: A Strategy for the 2020s sydd hefyd yn canolbwyntio ar bum maes gweithgaredd/amcanion strategol. Manylir ar y rhain yn Atodiad 2 yr adroddiad ac maent wedi llywio gwaith atal twyll y Cyngor a’r broses o ddatblygu cynllun cyflawni ar gyfer gweithgarwch atal twyll. Darparwyd diweddariad cynnydd ar y cynllun cyflawni yn Atodiad 3. Manylir ar ganlyniadau Adnodd Adrodd Twyll y Cyngor a aeth yn fyw ym mis Tachwedd, 2024 yn Atodiad 4.

 

Penderfynwyd nodi'r gwaith a wnaed yn ystod 2024/25 i leihau'r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd o fewn ac yn erbyn y Cyngor a'r sicrwydd a ddarparwyd ar effeithiolrwydd trefniadau'r Cyngor i leihau'r risg o dwyll.

 

10.

Canlyniadau Menter Twyll Genedlaethol 2024-2026 pdf eicon PDF 503 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn nodi cynnydd a chanlyniadau diweddar y Cyngor mewn perthynas â'i gyfranogiad yn y Fenter Twyll Genedlaethol, i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad a oedd yn manylu ar adroddiadau’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) a dderbyniwyd gan y Cyngor rhwng Ionawr a Mawrth 2025 (61 adroddiad ar wahân), y pariadau data ynddynt (3,034 o bariadau unigol) a'r meysydd gwasanaeth yr oeddent yn ymwneud â nhw (fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad – Crynodeb o Ganlyniadau NF1 2024/15). Manylir ar ganlyniadau ariannol yr adroddiadau hyn, a ddadansoddwyd gan Archwilio Mewnol ar y cyd â'r gwasanaethau, yn y tabl yn Atodiad 2.

 

Cododd aelod o'r pwyllgor bryderon am osgoi premiwm y Dreth Gyngor. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses ymchwilio ar gyfer achosion o'r fath.  Cadarnhaodd hefyd fod y Cyngor yn blaenoriaethu pariadau NFI gyda dibynadwyedd uwch fel y rhai sy'n cynnwys rhifau yswiriant gwladol.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y pwyllgor yn cymryd sicrwydd o'r adroddiad bod y Cyngor, gan ystyried yr angen i flaenoriaethu ei adnoddau, yn ceisio manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Fenter Twyll Genedlaethol i ddefnyddio dadansoddeg data i gryfhau'r broses o atal a chanfod twyll.

 

11.

Archwilio Allanol: Diweddariad ar Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru Ch1 2025/26 pdf eicon PDF 426 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Cymru, a oedd yn diweddaru'r pwyllgor ar gynnydd ei raglen waith yn lleol ac yn genedlaethol ar 30 Mehefin 2025, er gwybodaeth i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o'r gwaith rheoleiddio parhaus gan Estyn ac AGC.

 

Adroddodd Mr Carwyn Rees, Rheolwr Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru fod cyfyngiadau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi achosi i waith gronni. Fodd bynnag, mae cynnydd da wedi'i wneud ers hynny ar raglenni archwilio perfformiad 2023/24 a 2024/5, gyda'r gyntaf bellach wedi'i chwblhau a gwaith ar y gweill ar raglen 2025/26. O ganlyniad, mae'r rhaglen archwilio perfformiad mewn sefyllfa dda i ddychwelyd i'r amserlen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â chynnydd y gwaith o archwilio cyfrifon 2024/25, cadarnhaodd Rachel Freitag, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru fod yr archwiliad ar y trywydd iawn i'w gwblhau erbyn diwedd mis Hydref. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 nad yw'r dyddiad i'r pwyllgor gyfarfod ym mis Hydref i ystyried y cyfrifon archwiliedig wedi'i gadarnhau eto.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad a'r sicrwydd a ddarparwyd.

 

12.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 279 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y pwyllgor ar gyfer 2025/26, i'w ystyried gan y pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at ddau newid i'r Blaen Raglen Waith, sef gohirio'r adolygiad blynyddol o'r fframwaith rheoli risg a diweddaru’r gofrestr risg strategol i gyfarfod fis Rhagfyr 2025 ynghyd â Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2024/25 ac Adroddiad Blynyddol Pryderon, Cwynion a Chwythu'r Chwiban 2024/25.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26 yn bodloni cyfrifoldebau'r pwyllgor yn unol â'i gylch gorchwyl.

 

13.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 65 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Penderfynwyd -

 

" O dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei fod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A o'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd."

 

14.

Adroddiad Diogelwch Seiber TGCh Blynyddol 2024/25

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys Adroddiad Seiberddiogelwch TGCh Blynyddol ar gyfer 2024/25, i'w ystyried gan y pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Peiriannydd Diogelwch Arweiniol yr adroddiad yn amlinellu'r bygythiadau seiberddiogelwch a wynebwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yn manylu ar sut y cafodd y bygythiadau hyn eu datrys a'u rheoli trwy fesurau lliniaru a chamau rheoli presennol sydd wedi'u cynllunio i ganfod ac atal gweithgarwch maleisus. Crynhodd y Peiriannydd Arweiniol brif bwyntiau'r adroddiad gan dynnu sylw at yr heriau seiberddiogelwch mwyaf arwyddocaol a brofodd y Cyngor yn 2024/25.

 

Roedd y drafodaeth ddilynol yn cynnwys y pwyntiau canlynol –

 

·      Statws prosiectau seiberddiogelwch presennol gyda'r pwyllgor yn nodi y byddai diweddariad o ran cynnydd yn ddefnyddiol.

·      Digonolrwydd mesurau seiberddiogelwch presennol

·      Gofynion o ran adnoddau ac unrhyw gyfyngiadau arnynt

·      Y potensial ar gyfer allanoli fel modd o leihau'r pwysau hirdymor ar y Cyngor

·      P'un a yw'r ystadegau a adroddwyd yn datgelu unrhyw dueddiadau misol neu chwarterol o ran bygythiadau seiber

·      Y graddau y mae buddsoddi mewn mesurau seiberddiogelwch wedi arwain at lai o effaith

·      Amlder yr hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch a ddarperir i staff

 

Ymatebodd swyddogion i'r materion penodol a godwyd a rhoddwyd sicrwydd cyffredinol, gan nodi bod prosiectau a gweithgareddau yn cael eu blaenoriaethu mewn meysydd lle gellir lleihau risg yn fwyaf effeithiol, yn dilyn asesiad risg. Cydnabuwyd a nodwyd y cais am ddiweddariad ynghylch prosiectau.  Cadarnhawyd bod buddsoddiad mewn gwasanaethau TG wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o £1.6m yn 2017/18 i £5.1m yn 2024/25 sy'n fuddsoddiad sylweddol i'r sector cyhoeddus. Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwn, a bod achos busnes wedi'i ddatblygu i sicrhau adnoddau ychwanegol. Pwysleisiwyd nad prosiect untro yw seiberddiogelwch ond yn ymdrech barhaus sy'n gofyn am sylw a buddsoddiad parhaus.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n

 

·      Nodi'r heriau a danlinellwyd yn yr adroddiad.

·      Derbyn bod y gweithgareddau sy'n ymwneud â seiberddiogelwch yn mynd i'r afael yn ddigonol â risgiau a blaenoriaethau'r Cyngor.

·      Cymryd sicrwydd bod mesurau rhesymol ar waith i reoli bygythiad seiber i lefel dderbyniol.