Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol ar Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 3ydd Chwefror, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2025, yn gywir, yn amodol ar newid geiriad y penderfyniad dan eitem 14, ac i ddileu’r cyfeiriad at ymataliad gan y Cynghorwyr Euryn Morris a Margaret M. Roberts:

 

“Penderfynwyd nad oedd y pwyllgor yn gallu derbyn y casgliadau yn adroddiad Archwilio Cymru, ond nodwyd a derbyniwyd y bydd y Cyngor yn gweithredu’r cynllun gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion hynny.”

 

3.

Log Gweithredoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys log gweithredoedd y pwyllgor, i’w ystyried. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar statws a chynnydd y camau a gytunwyd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod camau rhif 10, 20, 26, a 27 wedi cael eu cwblhau.

 

Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar gynnydd datblygu canllawiau polisi ar gyfer defnydd y Cyngor o ddeallusrwydd artiffisial (DA) (gweithred rhif 24 ar y log), dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd ar y polisi drafft, y penderfynwyd rhannu’r ddogfen wreiddiol yn ddwy ddogfen bolisi ar wahân - un yn ymwneud â’r defnydd cyffredinol o DA (e.e. ymholiadau) a’r llall yn mynd i’r afael â’r defnydd o DA o fewn systemau a phrosesau ffurfiol y Cyngor. Mae’r Swyddog Diogelu Data Dros Dro a’r Rheolwr Llywodraethu wedi adolygu’r ddau bolisi, a bydd yn cael ei ystyried eto gan y Tîm Arweinyddiaeth yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror.

 

Penderfynwyd nodi’r camau gweithredu a oedd wedi’u nodi yn y log a chadarnhau bod y Pwyllgor yn hapus bod y camau wedi cael eu gweithredu’n foddhaol.

 

4.

Diwygio'r Cyfansoddiad: Rhoi Cymeradwyaeth Derfynol i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn i’r pwyllgor roi ei farn ar y newid arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn hytrach na’r Cyngor ei hun.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro fod y datganiad llywodraethu blynyddol yn ffurfio rhan o gyfrifon blynyddol y Cyngor, ac mae’n cyflawni’r gofyniad i gyhoeddi datganiad ar reolaeth mewnol. Dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo newid y Cyfansoddiad er mwyn dirprwyo’r gwaith o gymeradwyo’r cyfrifon blynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn gwella effeithlonrwydd a bodloni’r terfyn amser awdurdodi cynt sydd ar 30 Medi 2026.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell fod y Datganiad ar Reolaeth Mewnol, ac i’r Cyngor mae hynny’n golygu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, yn cael ei gyhoeddi pan mae’r cyfrifon heb eu harchwilio yn cael eu llofnodi a’u dyddio gan y swyddog ariannol cyfrifol sy’n cwtogi’r amser sydd ar gael i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n cael eu codi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac i baratoi fersiwn ddiwygiedig, gywir a dwyieithog ar adeg pan mae pwysau i baratoi’r cyfrifon eisoes. Os bydd y gyfrifoldeb o gymeradwyo yn nwylo’r Cyngor, byddai’n rhaid symud y cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar gyfer 9 Medi 2026, neu drefnu cyfarfod arbennig.

 

Mae dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn alinio amserlen y Datganiad Llywodraethu Blynyddol gyda’r cyfrifon blynyddol, sy’n darparu proses mwy effeithlon. Bydd yr adroddiad ar gael yn gyhoeddus yn y ffyrdd arferol, a phan fydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mehefin, bydd copi yn cael ei gylchredeg i bob Aelod er mwyn cael sylwadau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r newid arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor.

 

5.

Adroddiad Sicrwydd Llywodraethu Gwybodaeth Ysgolion Ynys Môn 2025 pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’w ystyried, oedd yn rhoi sicrwydd blynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar effeithiolrwydd llywodraethiant gwybodaeth a diogelwch data yn yr ysgolion hynny oedd yn cael eu cynnal gan y Cyngor yn ystod 2024/25. Roedd yr adroddiad yn crynhoi prif weithgareddau ac allbynnau, adnabod risgiau, mesurau lliniaru, blaenoriaethau yn y dyfodol a barn gyffredinol ar sicrwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, yn ystod y cyfnod adrodd, fod rôl y Swyddog Diogelu Data mewn Ysgolion wedi’i llenwi ar sail dros dro (cyfartaledd o un diwrnod yr wythnos, ne fwy os yn ofynnol) oherwydd absenoldeb hirdymor y deilydd swydd arferol. Oherwydd y diffyg capasiti, mae gwaith wedi canolbwyntio ar ddyletswyddau statudol, digwyddiadau a materion risg uchel yn hytrach nag archwilio rhagweithiol neu weithgareddau datblygu. Y flaenoriaeth hyd yma yw gallu cynnal cydymffurfiaeth statudol, rheol risgiau a digwyddiadau byw, darparu cyngor cyson a chymorth i ysgolion a bod yn bwynt uwchgyfeirio a sicrwydd canolog.

 

Yn seiliedig ar y gwaith a gwblhawyd, mae’r Swyddog Diogelu Data dros dro yn cynnig sicrwydd rhesymol fod gan ysgolion bolisïau a gweithdrefnau diogelu data priodol ar waith. Mae’r ffordd yr ymdrinnir â gwybodaeth o ddydd i ddydd yn gyffredinol gadarn, mae digwyddiadau a thoriadau’n cael eu hadnabod yn briodol ac mae llwybrau uwchraddio ar gyfer gwasanaethau corfforaethol a’r SIRO yn gweithio’n effeithiol.

 

Mae’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc hefyd wedi amlygu’r risgiau strategol a gafodd eu hadnabod, gan gadarnhau eu bod yn cael eu cydnabod, eu rheoli’n briodol ac wedi eu huwchraddio lle bo angen. Er bod rheolyddion allweddol ar waith i gefnogi cydymffurfiaeth barhaus, byddai’n ddefnyddiol eu cryfhau ymhellach. Mae’r materion sydd wedi’u hadnabod yn cyd-fynd ag adroddiadau blaenorol ac mae modd eu rheoli drwy ffocws parhaus a chaffael adnoddau priodol.

 

Wrth drafod yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Y cynllun hirdymor ar gyfer sicrhau capasiti o fewn rôl y Swyddog Diogelu Data Ysgolion.

·      Mae natur gyffredinol yr adroddiad a’r diffyg data cadarn i dystio canlyniadau yn ei gwneud yn anodd mesur cynnydd neu welliannau.

·      A yw rhoi barn o sicrwydd rhesymol, er y risgiau strategol sydd wedi’u hadnabod, yn awgrymu bod y trothwy ar gyfer sicrwydd rhesymol wedi ei osod yn rhy isel.

·      Absenoldeb risgiau meintioledig a’r diffyg cyffredinol o fanyleb yn y wybodaeth a gyflwynwyd.

·      Pryder nad yw cyflawni dim ond 20% o oriau rôl y Swyddog Diogelu Data Ysgolion dros dro yn ddigonol, gyda rhai aelodau’n teimlo fod cydymffurfiaeth statudol wedi’i gynnal yn fwy drwy lwc yn hytrach na goruchwyliaeth gadarn.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r pryderon a godwyd, gan gadarnhau fod Swyddog Diogelu Data Ysgolion yn swydd barhaol o fewn strwythur y Cyngor. Y bwriad, wrth symud ymlaen, yw sefydlogi capasiti’r Swyddog Diogelu Data a chefnogi gweithgarwch sicrwydd mwy rhagweithiol, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol lle bo angen. Mae’r diffyg data manwl yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r capasiti cyfyngedig yn ystod y cyfnod, a’r angen i flaenoriaethu gwaith statudol a risg uchel. Cytunodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 pdf eicon PDF 726 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2026/27 i’w ystyried gan y pwyllgor. Mae’r Datganiad yn amlinellu sut fydd y Cyngor yn rheoli benthyca, buddsoddiadau a llif arian yn y flwyddyn i ddod ac mae’n cefnogi Cynllun y Cyngor, y Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Rhaid ei gyhoeddi dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chodau Darbodus a Rheoli Trysorlys CIPFA.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adra 151 drosolwg o’r adroddiad, gan amlinellu’r cyd-destun economaidd, sefyllfa bresennol y Cyngor o ran benthyca a’r strategaethau benthyca a buddsoddi arfaethedig. Cadarnhaodd y bydd benthyca allanol ond yn cael ei wneud pan fo angen, ac y bydd yn osgoi benthyca cyn bod angen gwneud hynny. Bydd aildrefnu dyled ond yn cael ei ystyried os bydd yn cynnig budd ariannol. Bydd benthyca mewnol yn cael ei ddefnyddio os bydd balansau ariannol yn caniatáu hynny, gan fod hyn yn gostwng costau llog. Fodd bynnag, disgwylir y bydd benthyca allanol yn cynyddu wrth i arian wrth gefn ostwng.

 

Dywedodd fod y Strategaeth Gyfalaf yn amlinellu tair sefyllfa - sylfaenol, uchelgeisiol a delfrydol, gyda phob un yn cynyddu angen y Cyngor i fenthyca. Mae tablau 7a a 7b yn dangos y goblygiadau refeniw ar gyfer y Gronfa Gyffredinol a’r Cyfrif Refeniw Tai dan bob sefyllfa. Mae modd rheoli’r effaith refeniw dan y sefyllfa Sylfaenol, ond mae’n cynyddu dan y sefyllfaoedd Uchelgeisiol a Delfrydol.

 

O ran buddsoddiadau, mae blaenoriaethau’r Cyngor yn parhau i ymwneud â diogelwch, hylifedd ac arenillion. Bydd y Cyngor ond yn buddsoddi gyda sefydliadau risg isel, achrededig, gyda chyfraddau credyd yn cael eu monitro’n ddyddiol. Mae archwaeth y Cyngor am risg yn parhau’n isel.

 

Mae’r dangosyddion Darbodus a Thrysorlys yn Atodiad 11 yr adroddiad yn sicrhau bod gweithgareddau rheoli trysorlys a chynlluniau buddsoddi cyfalaf y Cyngor dal yn fforddiadwy a gofalus.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 fel a ganlyn  mewn ymateb i gwestiynau gan y pwyllgor -

 

·      Gall ad-dalu rhai benthyciadau presennol yn fuan arwain at ffioedd llog uwch a gostyngiad mewn costau refeniw. Fodd bynnag, mae sawl benthyciad PWLB yn cynnwys dirwyon ad-dalu cynnar a all fynd y tu hwnt i arbedion posibl wrth ail-gyllido i gyfradd llog is. Mae’r sefyllfa yn cael ei monitro a’i hadolygu.

·      Mae’r adroddiadau rheoli trysorlys chwarterol a’r adolygiad canol blwyddyn yn monitro perfformiad y Cyngor yn erbyn y dangosyddion darbodus a thrysorlys, sy’n gosod cyfyngiadau ar lefel benthyca a dyled y Cyngor.

·      Mae’r contract gydag ymgynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026 a bydd hyn yn cael ei adolygu, yn cynnwys y manyleb ar gyfer hyfforddiant aelodau ar reoli trysorlys neu, a ellir darparu’r hyfforddiant yn fewnol.

·      Mae’r gyllideb isafswm darpariaeth refeniw ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar raglen gyfalaf y flwyddyn flaenorol ac yn adlewyrchu gwariant cyfalaf 2025/26 a’r lefel benthyca a gadwyd ar yr adeg honno. Codir isafswm darpariaeth refeniw pan mae prosiect yn cael ei gwblhau. Mae’r gyllideb hefyd yn ystyried y newid disgwyliedig o fenthyca  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 231 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys diweddariad fel ag yr oedd ar 21 Ionawr 2026 ar yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf ar 21 Tachwedd 2025, i’w ystyried gan y pwyllgor. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu llwyth gwaith presennol Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig wrth symud ymlaen. Cafodd aelodau’r pwyllgor gopi o’r adroddiad sicrwydd, dan glawr ar wahân, a gafodd ei gwblhau yn y cyfnod yn ymwneud â rheoli Canolfannau Data yn ffisegol ac amgylcheddol (Sicrwydd Rhesymol).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg yr adroddiad, a chrynhoi canlyniad yr adolygiad archwilio a gwblhawyd yn y cyfnod, gan nodi ei fod yn gadarnhaol. Arbenigwyr archwilio TG allanol o Gyngor Dinas Salford gwblhaodd yr archwiliad, ac fe godwyd pump argymhelliad. Fodd bynnag, wrth eu hasesu yn erbyn matrics rheoli risg y Cyngor, dim ond un a gafodd ei sgorio fel cymedrol oedd angen sylw rheolwyr, gyda’r gweddill yn cael eu hadnabod fel mân risgiau (gwyrdd) ac yn cael eu hadrodd i’r gwasanaeth am gyngor yn unig. Cyfeiriodd at y cyfraddau sicrwydd a’u diffiniadau, ac egluro fod yr archwilydd yn defnyddio barn broffesiynol wrth wneud barn briodol. Mae hyn yn cynnwys lefel y risgiau mae’r Cyngor yn agored iddynt a’r effaith bosibl ar y sefydliad ar y cyfan. Y prif ffactor wrth ddod i benderfyniad yw’r ymateb i’r prif gwestiwn. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y pwyllgor am y sgoriau, y patrymau lliw a gradd barn yr archwilydd a’r goddrycholdeb ynghlwm, cadarnhaodd bod proses asesu ansawdd ar waith, lle mae canfyddiadau’r archwilydd yn cael eu hadolygu gan y Prif Archwilydd, ac yna’n cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Archwilio a Risg drwy broses tri cham. Mae cyfraddau a diffiniadau sicrwydd y Cyngor yn cyd-fynd â’r rheiny sy’n cael eu cynnig gan Grŵp Diddordeb Arbennig Archwilio Mewnol CIPFA.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynghylch pam fod archwiliad Rheoli Asedau TG - Archwilio TG wedi ei ohirio dan 2026/27 ar gais y Prif Swyddog Digidol, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr oedi oherwydd capasiti a phwysau llwyth gwaith o fewn tîm y gwasanaeth TGCh, yn cynnwys sawl camau a phrosiectau blaenoriaeth. Cadarnhaodd y bydd yr archwiliad yn cael ei ymgorffori yng nghynllun archwilio 2026/27, ac nad oedd ei gynhwysiant gwreiddiol wedi ei annog gan unrhyw bryderon penodol ac nad oedd unrhyw risgiau wrth oedi’r archwiliad.

 

Penderfynwyd nodi canlyniad y gwaith Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a’r blaenoriaethu wrth symud ymlaen.

 

8.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Strategol pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn ymgorffori’r Gofrestr Risg Strategol ddiwygiedig, yn dilyn adolygiad cynhwysfawr yn 2025, i’r pwyllgor ei ystyried.

 

Darparodd y Pennaeth Archwilio a Risg ddiweddariad ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan nodi fod Zurich Risk Solutions yn cefnogi’r Cyngor gydag adolygiad cyflawn o’i ddulliau i reoli risg a hynny drwy gontract yswiriant y Cyngor gyda Zurich Municipal. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys adolygiad o’r gofrestr risg strategol sydd wedi gostwng o 16 i 11 risg. Mae’r Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth), sydd bellach yn gyfrifol am gynnal y gofrestr risg strategol, yn parhau i weithio gyda’r Tîm Arweinyddiaeth ar y gofrestr ddiwygiedig. Mae’r gwaith hwn yn cyd-redeg ag archwaeth risg y Cyngor. Bydd y gofrestr risgiau strategol gyflawn yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor unwaith y bydd y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y gofrestr risg strategol yn cael ei diweddaru’n barhaus. Mewn ymateb i gwestiwn am pa mor gyffredin yw hi i addasu’r tebygolrwydd a’r effaith wrth symud o risg sydd wedi ei hetifeddu i risg weddilliol, dywedodd er bod tebygolrwydd yn newid yn aml oherwydd rheolyddion, gall effaith hefyd newid mewn rhai amgylchiadau, lle gall rheolyddion effeithiol leihau difrifolwch y canlyniad. Cyfeiriodd at YM1 mewn perthynas â chyllid a rheolaeth ariannol, gan nodi pe byddai risg y byddai cyllid yn lleihau, neu ddim yn ddigonol, ar gyfer darparu gwasanaethau statudol, byddai arferiad y Cyngor i gadw 5% o’r gyllideb flynyddol fel arian wrth gefn yn lleihau’r effaith drwy alluogi gwasanaethau i barhau am gyfnod hirach.

 

Penderfynwyd nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma fel rhan o’r adolygiad cyflawn o’r gofrestr risg strategol.

 

9.

Diweddariad Cynnydd yn erbyn y Camau Gwella a nodwyd yn yr Hunan Asesiad a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2024/25 pdf eicon PDF 277 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio i’w ystyried gan y pwyllgor, oedd yn darparu diweddariad ar y gwaith a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y meysydd gwella a adnabyddir o fewn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r adroddiadau Hunanasesu a Pherfformiad (Llesiant) ar gyfer 2024/25.

 

Darparodd y Rheolwr Perfformiad Strategol a Phrosiectau ddiweddariad i’r pwyllgor ar gynnydd y chwe gweithred gwella a adnabyddir, gan amlygu lle roedd cynnydd yn cael ei amserlennu ac egluro’r rhesymau dros yr oedi. Mewn ymateb i ymholiad am statws cam gwella 2 (gweithredu’r camau sy’n weddill y cytunwyd arnynt o’r Cynllun Gwella Caffael), eglurodd mai dyma’r diweddariad cyntaf ar y camau sydd wedi’u rhestru.  Mae cynllun gwella ar waith er mwyn bodloni gofynion Deddf Caffael 2023. Er bod materion adnoddau wedi effeithio ar ddarparu’r cynllun hyd yma, mae Rheolwr Caffael parhaus bellach wedi ei benodi a disgwylir y bydd yn cefnogi’r gwaith o weithredu a helpu i ddod â chamau yn ôl o fewn yr amserlen.

 

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad Strategol a Phrosiectau fod y camau mewn Gwyrdd dal yn gyfredol, ond disgwylir y byddant yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen a nodwyd, gyda chamau ar waith i sicrhau darpariaeth. Ar gyfer y camau hynny sydd yn rhedeg ar ei ôl hi, cadarnhaodd y byddant yn cael eu monitro drwy fonitro’r cynllun cyflawni blynyddol a’r cynlluniau darparu gwasanaeth. Fodd bynnag, dywedodd na allai ddarparu sicrwydd absoliwt y bydd y camau hyn wedi’u cwblhau ar amser, oherwydd eu statws presennol.

 

Penderfynwyd derbyn yr ymatebion a’r diweddariadau fel adlewyrchiad cywir o waith y Cyngor yn erbyn y meysydd gwella sydd wedi’u hadnabod.

 

10.

Archwilio Allanol: Cyngor Sir Ynys Môn - Crynodeb Archwilio Blynyddol 2025 pdf eicon PDF 736 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio i’w ystyried gan y pwyllgor, oedd yn ymgorffori Crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn 2025. Roedd y grynodeb yn amlinellu’r prif ganfyddiadau o waith archwilio cyllid a pherfformiad 2024/2025 a wnaed yn y cyngor i gyflawni cyfrifoldebau Archwilio Cymru dan Ddeddf Archwilio (Cymru) 2004 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Wrth adolygu’r crynodeb archwilio, trafodwyd y materion canlynol gan y pwyllgor -

 

·      Y trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod Archwilio Cymru yn cyflawni gwerth am arian.

·      Prydlondeb gwaith Archwilio Cymru, gan nodi mai ei gyfartaledd i gwblhau ei waith archwilio perfformiad oedd 78% yn y tair blynedd rhwng 2022 a 2024.

·      Y ffordd y cyflwynir yr adroddiad crynhoi, gyda chais bod cynnwys graffeg gweledol yn cael ei ail ystyried.

·      Cynnydd wrth fynd i’r afael â’r camfynegiant na chafodd ei gywiro o archwilio cyfrifon y Cyngor yn 2024/25.

 

Mewn ymateb, eglurodd Rheolwr Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru fod Bwrdd Archwilio Cymru yn edrych ar a yw Archwilio Cymru yn gwneud defnydd effeithlon o’i adnoddau. Mae ffioedd Archwilio Cymru yn cael eu meincnodi yn erbyn asiantaethau archwilio sector cyhoeddus y DU. Cyfeiriodd at adroddiad gan Brifysgol Sheffield o fis Awst 2025, oedd yn nodi bod costau archwilio yn Lloegr wedi codi’n sylweddol, yn fwy na chostau yng Nghymru yn ystod y dair blynedd ddiwethaf. Nododd hefyd fod ffioedd Archwilio Cymru yn cael eu craffu yn flynyddol gan Bwyllgor Cyllid y Senedd.

 

Roedd y Rheolwr Archwilio Perfformiad yn cydnabod fod problemau wedi bod gyda’r amserlen. Yn dilyn y pandemig, cafodd sefydliadau amser a llonydd i ganolbwyntio ar ddarpariaeth rheng flaen ac roedd capasiti dan straen o fewn sefydliadau ac o fewn Archwilio Cymru. Mae amserlenni wedi gwella ers hynny, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu’n genedlaethol. Cadarnhaodd y byddai’n adrodd yn ôl y cais ynghylch dull cyflwyno’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Cyllid fod dull wedi ei gytuno ar gyfer cywiro’r camfynegiant na chafodd ei gywiro o archwiliad ar gyfrifon y Cyngor 2024/25, a’i bod yn deall y ffigyrau diwygiedig fyddai’n cael eu cynnwys yng nghyfrifon drafft 2025/26.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a nodi hefyd fod y pwyllgor yn cymryd sicrwydd o’i gynnwys.

 

11.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, oedd yn cynnwys y blaen raglen waith ar gyfer 2025/26 a oedd wedi’i diwygio i adlewyrchu’r newidiadau mwyaf diweddar, i’w ystyried gan y pwyllgor.

 

Awgrymodd y Pennaeth Archwilio a Risg ac fe gytunwyd, y byddai diweddariad ar amserlen a rhaglen Ch3 Archwilio Cymru yn cael ei gylchredeg yn uniongyrchol i aelodau’r pwyllgor unwaith y bydd wedi’i gwblhau, gan nad yw’r cyfarfod nesaf wedi ei drefnu tan fis Mai. Yn ychwanegol, cadarnhaodd fod adroddiad yr Asesiad Panel Perfformiad wedi’i aildrefnu i’w ystyried yn y cyfarfod ym mis Mai.

 

Gwahoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg unrhyw geisiadau am hyfforddiant, ac mewn ymateb gwnaed gais am hyfforddiant gloywi ar gyfrifon blynyddol y Cyngor.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26 yn cwrdd â chyfrifoldebau’r pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.