Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dygir sylw Aelodau at baragraff 3.4.8.2.2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud “Mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn aelod lleyg ac ni fydd yr Is-Gadeirydd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith na’n gynorthwy-ydd i’r Pwyllgor Gwaith.”
Cofnodion: Cafodd Mr Dilwyn Evans ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
|
Ethol Dirprwy Gadeirydd Ethol Dirprwy Gadeirydd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Euryn Morris ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2026. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Log Gweithredoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys log gweithredoedd y pwyllgor, i’w ystyried. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar statws a chynnydd y camau a gytunwyd.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod cam gweithredu rhif 24 ar y log yn gysylltiedig â datblygu polisi AI bron â chael ei gwblhau a bod y Tîm Arweinyddiaeth wedi derbyn y polisi AI ar 15 Ebrill, 2026 yn amodol ar fân newidiadau. Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol bydd yn cael ei lasio ar borth polisi’r Cyngor lle mae’n rhaid i staff ddarllen a derbyn pob polisi mandadol. Bydd y tîm TG yn lansio’r polisi ynghyd â’r canllawiau ar ddefnyddio AI.
Penderfynwyd nodi’r camau gweithredu a oedd wedi’u nodi ar y log a chadarnhau bod y Pwyllgor yn hapus bod y camau wedi cael eu gweithredu’n foddhaol.
|
|
|
Adolygiad Blynyddol o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn nodi canlyniad yr adolygiad blynyddol o gylch gorchwyl y pwyllgor, i’w ystyried gan y pwyllgor. Amlygodd yr adroddiad yr angen i ddiwygio’r amodau penodi ar gyfer aelodau lleyg.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a eglurodd bod cylch gorchwyl presennol y pwyllgor yn nodi y bydd aelodau lleyg yn gwasanaethu am dymor penodol yn unol â thymor y cyngor, h.y. pum mlynedd, a bod modd iddynt wasanaethu am uchafswm o ddau dymor. Fodd bynnag, nid yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 na’r canllawiau statudol yn mynd i’r afael ag aelodau lleyg a benodir yng nghanol tymor y cyngor. Yr unig beth y mae’r ddeddfwriaeth yn ei nodi yw na ddylid penodi aelod lleyg am fwy na dau dymor llawn. Cyfeiriodd at ganllawiau CIPFA sy’n argymell penodi aelodau cyfetholedig i wella dealltwriaeth a phrofiad cynrychiolwyr etholedig ynglŷn â meysydd penodol a sicrhau cysondeb y tu allan i’r cylch gwleidyddol, yn enwedig pan fo aelodaeth pwyllgorau’n newid yn flynyddol neu yn dilyn etholiadau.
Er mwyn cadw at yr egwyddor o gyfyngu tymor aelodau lleyg i ddau dymor pum mlynedd a chryfhau cysondeb y tu allan i’r cylch gwleidyddol, argymhellir bod y gofyniad i sicrhau bod y tymor penodi’n cyd-fynd â thymor y cyngor yn cael ei ddileu o gylch gorchwyl y pwyllgor. O ganlyniad byddai aelodau lleyg yn cael eu penodi am ddau dymor pum mlynedd yn ddilynol, ni waeth be fo cylch etholiadol y cyngor. Mae manteision y dull hwn yn cynnwys, llai o faich recriwtio a chyd-fynd â threfniadau ehangach y cyngor ar gyfer penodi i rolau annibynnol. Nodwyd yr anfanteision yn cynnwys yr angen i ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngor, a thymhorau amrywiol sydd ddim o reidrwydd yn cyd-fynd â’r cylch etholiadau na threfniadau hyfforddi a chynefino’r pwyllgor. Darparwyd copi o’r cylch gorchwyl diwygiedig gyda newidiadau wedi’u holrhain er gwybodaeth.
Penderfynodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl i ddileu’r cyswllt rhwng y tymor penodi ar gyfer aelodau lleyg a thymor y cyngor.
|
|
|
Diweddariad Archwilio Mewnol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn rhoi diweddariad hyd at 28 Ebrill 2026 o’r archwiliadau a gwblhawyd ers 21 Ionawr 2026 i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu llwyth gwaith presennol y tîm Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig wrth symud ymlaen. Darparwyd copïau ar wahân i’r aelodau o’r pum adroddiad sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod dan sylw yn gysylltiedig â Systemau Ariannol - Rheoli Trysorlys (Sicrwydd Sylweddol), Systemau Ariannol - y Gyflogres (Sicrwydd Rhesymol), Rheoli Risgiau Strategol - Diogelu (YM10) - Adroddiad Dilynol Cyntaf (Sicrwydd Rhesymol, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl - Ail Adroddiad Dilynol (Sicrwydd Cyfyngedig), a Rheolaeth Ariannol (Sicrwydd Rhesymol).
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a roddodd grynodeb o ganlyniadau’r adolygiadau archwilio a gwblhawyd yn ystod y cyfnod. Tynnodd sylw at y raddfa sicrwydd sylweddol a roddwyd i’r adolygiad Rheoli Trysorlys, a nododd bod y lefel sicrwydd yma’n anghyffredin ac mai dim ond un cam gweithredu cymedrol oedd wedi’i nodi.
Adroddodd bod yr ail adolygiad dilynol o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi derbyn barn Sicrwydd Cyfyngedig. Mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud i wella’r trefniadau ar gyfer gweinyddu’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl; fodd bynnag, mae gwendidau gweinyddol yn bodoli o hyd yn benodol yn gysylltiedig â’r gronfa ddata ganolog sydd yn anghyflawn a heb ei chysoni â data ariannol. Mae hyn wedi achosi gwallau yn yr wybodaeth a ddarparwyd i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, gan beri risgiau’n gysylltiedig â phridiannau tir anghywir neu phridiannau tir nad oes modd eu gorfodi. Bwriedir cynnal adolygiad dilynol pellach ym mis Medi 2026.
Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg amlinelliad o’r archwiliadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi gwasanaethau i fynd i’r afael â’r materion a risgiau sy’n weddill. Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr ar wahân i’r cyfarfod ynglyn â’r mater hwn. Nododd y blaenoriaethau tymor byr a chanolig yn ogystal, yn cynnwys cwblhau’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26, paratoi’r farn archwilio flynyddol erbyn mis Mehefin 2026, ymgynghori ar y strategaeth ar gyfer 2026/27 a bwrw ‘mlaen â’r Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd. Mae’r blaenoriaethau tymor hwy yn cynnwys cwblhau asesiad cydymffurfiaeth llawn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau Archwilio Mewnol Byd Eang newydd yn 2026/27.
Ystyriodd y pwyllgor y lefel Sicrwydd Cyfyngedig a roddwyd yn sgil yr ail adolygiad dilynol o’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a chwestiynodd y cynnydd hyd yma i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y tîm Archwilio Mewnol. Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd bod cynllun ar waith i sicrhau bod y materion sy’n weddill yn cael eu datrys yn llawn a bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno.
Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Tai gydnabod bod y cynnydd yn arafach na’r disgwyl. Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud, yn cynnwys cryfhau’r rheolaethau’n gysylltiedig â thaliadau er mwyn atal taliadau dyblyg: Fodd bynnag, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi cael ei wneud gyda phrosesau gweinyddol, gyda dim ond un swyddog yn gwneud gwaith a oedd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Materion, Risgiau a Chyfleoedd Archwilio Mewnol Sy'n Weddill Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn rhoi diweddariad ar statws y materion, risgiau a chyfleoedd sy’n weddill a godwyd gan y tîm Archwilio Mewnol, i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd diweddariad statws manwl ar y materion, risgiau a chyfleoedd sylweddol ar gael yn Atodiad 1.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Archwilydd, a nododd bod 78 o gamau gweithredu’n parhau i fod angen sylw ar 31 Mawrth 2026. Mae 6 yn “sylweddol” (ambr) a 72 yn “gymedrol” (melyn). Does dim camau gweithredu “critigol”. Mae rheolwyr wedi cwblhau 77% o’r camau gweithredu a gytunwyd ac mae’r tîm Archwilio Mewnol wedi dilysu 76% ohonynt. Mae’r 1% sydd heb gael eu dilysu’n ffurfiol eto yn ymwneud â dau archwiliad - Rheoli Cyflenwyr TG a Diogelwch TGCh mewn Ysgolion Uwchradd. Bydd adolygiadau dilynol o’r archwiliadau hyn yn cael eu cynnal yn ystod chwarter cyntaf 2026/27.
Mae tri cham gweithredu'n gysylltiedig â’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn weddill ac maent yn cael eu trafod yn fanylach yn y Diweddariad Archwilio Mewnol. Nid yw nifer o gamau gweithredu yn dilyn archwiliadau diweddar wedi cyrraedd eu dyddiad cwblhau eto, fel y nodir ym mharagraff 16 yn yr adroddiad. Nid oes unrhyw faterion, risgiau a chyfleoedd sylweddol cyn 2024/25, sy’n dangos bod rheolwyr yn rhoi blaenoriaeth i ddatrys materion risg uwch.
Cyfeiriodd y Prif Archwilydd at Atodiad 1 sy’n crynhoi hynt y chwe mater a risg sylweddol sy’n weddill a nododd bod adolygiadau dilynol ar y gweill ac y bydd y pwyllgor yn cael diweddariad yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.
Wrth ystyried yr adroddiad, nododd y pwyllgor ei bod hi’n bwysig bod rheolwyr yn cymryd perchnogaeth o’r risgiau a godwyd gan y tîm Archwilio Mewnol. Yn y cyd-destun hwn cyfeiriwyd at yr ail adolygiad dilynol o’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod sydd wedi derbyn barn sicrwydd cyfyngedig oherwydd y cynnydd araf wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd. Roedd yr aelodau’n dymuno gwybod p’un a oedd y Gwasanaeth Tai, ym marn y tîm Archwilio Mewnol, wedi derbyn perchnogaeth lwyr o’r camau gweithredu a nodwyd nad ddylai’r tîm Archwilio fod yn gyfrifol am gynnal trydydd adolygiad dilynol. Fe wnaeth yr aelodau hefyd gwestiynu pa gamau pellach y gallai’r pwyllgor eu cymryd pe byddai’r cynnydd yn parhau i fod yn annigonol.
Cynghorodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod y Pennaeth Gwasanaethau Tai wedi cydnabod bod y cynnydd yn arafach na’r disgwyl. Cadarnhaodd, o dan y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang, bod rhaid i’r tîm Archwilio Mewnol ddilyn hynt a dilysu’r camau gweithredu a gytunwyd yn ffurfiol. Gan fod yr ail adolygiad dilynol wedi arwain at farn sicrwydd cyfyngedig, roedd rhaid i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn unol â chylch gorchwyl y pwyllgor, ddarparu sicrwydd i’r pwyllgor wyneb yn wyneb. Pe byddai canlyniad yr adolygiad dilynol pellach ym mis Medi yn golygu bod angen sicrwydd pellach gan y Pennaeth Gwasanaeth yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Rhagfyr, byddai’n rhaid i’r pwyllgor benderfynu ar unrhyw gamau pellach angenrheidiol ar yr adeg ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Archwilio Allanol: Cyngor Sir Ynys Môn - Cynllun Archwilio 2026 Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlinellu ei raglen archwilio ariannol a pherfformiad arfaethedig ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2026/27 i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynodd Rachel Freitag, Arweinydd Archwilio Ariannol Archwilio Cymru drosolwg o’r archwiliad arfaethedig o ddatganiadau ariannol y Cyngor ar gyfer 2025/26. Cadarnhaodd lefel perthnasedd yr archwiliad a rhoddodd amlinelliad o'r prif feysydd risg ynghyd â’r ymateb arfaethedig. Bydd yr archwiliad ariannol hefyd yn ymdrin ag ardystio grantiau ac adolygu ffurflen ardystio cyfrifon y Llywodraeth Cyfan. Nododd bod y gwaith o ardystio cymhorthdal budd-dal tai 2024/25 yn mynd rhagddo. O ganlyniad, mae’r ffi ardystio grantiau o £67,000 ar gyfer 2025 yn is na’r amcan a nodwyd yn y cynllun archwilio'r llynedd ac mae’n adlewyrchu’r asesiad diwygiedig o’r gost o gwblhau’r gwaith.
Cyflwynwyd manylion y ffi archwilio ar gyfer 2026, cyfanswm o £440k - cynnydd o 4.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol sy’n is na’r cynnydd cyfartalog o 5.3% a nodir yn y Cynllun Ffioedd oherwydd cymysgedd sgiliau diwygiedig ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol. Cafodd yr aelodau hefyd wybod am yr amserlen archwilio sy’n ceisio ardystio’r cyfrifon erbyn diwedd mis Medi 2026, fis yn gynharach na’r flwyddyn flaenorol a dychwelyd i’r cylch archwilio a oedd yn bodoli cyn y pandemig. Cadarnhaodd bod y gwaith archwilio mewnol dros dro wedi cael ei gwblhau eleni, gan weithio â Thîm Ariannol y Cyngor, i leihau’r llwyth gwaith yn ystod y cam archwilio terfynol.
Rhoddodd Lora Williams, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru amlinelliad o’r rhaglen archwilio perfformiad ar gyfer 2026/27 sy’n cynnwys tri adolygiad arfaethedig - trefniadau rheoli risg y Cyngor, effeithlonrwydd canlyniadau prosiectau’n gysylltiedig â Chynllun y Cyngor; a rheoli a datblygu eiddo buddsoddi’r Cyngor. Bydd y gwaith yn asesu p’un a yw’r Cyngor yn defnyddio ei adnoddau’n economaidd, effeithlon ac effeithiol ac mae disgwyl i’r archwiliad gael ei gwblhau erbyn Mehefin 2027.
Penderfynwyd nodi’r gwaith archwilio arfaethedig a ffioedd cysylltiedig ar gyfer 2026.
|
|
|
Archwilio Allanol: Cyngor Sir Ynys Môn - Rheoli Perfformiad Ailgylchu Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru ar ganlyniadau ei adolygiad o’r modd y mae’r Cyngor yn rheoli ei wasanaeth ailgylchu i’w ystyried gan y pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cara Owen, Archwilio Cymru a nododd bod yr archwiliad yn canolbwyntio ar drefniadau’r Cyngor ar gyfer deall ei berfformiad ailgylchu, cynllunio strategol a gweithredolo a chyfathrebu a gwerth am arian. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod gan y Cyngor drefniadau clir a chadarn ar waith i reoli ei berfformiad ailgylchu yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau strategol a gweithredol diweddar i ymateb i dargedau ailgylchu, adroddiadau cyfnodol a manwl i helpu’r Cyngor ddeall ei berfformiad ailgylchu a meincnodi; cynnwys trigolion yr ynys yn ei ymgais i sicrhau dyfodol diwastraff, ac arolygu canlyniadau a gwariant contractau.
Cadarnhaodd nad oedd unrhyw argymhellion gan fod y Cyngor wedi darparu digon o dystiolaeth bod ei drefniadau’n effeithiol. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn nodi y bydd sicrhau gwerth am arian yn dibynnu ar ba mor effeithiol yw ymyraethau yn y dyfodol i wella cyfraddau ailgylchu a lleihau’r risg o ddirwyon posib am fethu targedau cenedlaethol.
Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn sicrwydd o ganfyddiadau’r archwiliad o’r modd y mae’r Cyngor yn rheoli perfformiad ei wasanaeth ailgylchu.
|
|
|
Adroddiad Yswiriant Blynyddol 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu yswiriant presennol y Cyngor, gweithgareddau’n gysylltiedig â hawliadau a thueddiadau a heriau allweddol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a nododd bod y Cyngor yn defnyddio cyfuniad o hunan-yswiriant ac yswiriant allanol i fynd i’r afael â goblygiadau ariannol y risg. Er mwyn cwrdd ag elfen hunain yswiriant unrhyw hawliad, mae gan y Cyngor Gronfa Yswiriant mewn cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi a Chyfrif Darpariaeth Yswiriant. Mae’r gronfa’n cael ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau ei bod yn ddigonol i gwrdd â’r rhwymedigaethau heb fod â gormod o adnoddau. Gan weithio â’r broceriaid yswiriant, Marsh, cynhaliwyd ymarfer tendro cynhwysfawr yn 2024 a dyrannwyd y contract 3 blynedd i Zurich Municipal, y darparwr cyfredol. Amlygodd y broses dendro bod elfennau o'r symiau yswiriedig a ddarparwyd wedi dyddio, a arweiniodd at adolygiad cynhwysfawr i ailbrisio symiau adeiladu wedi'u hyswirio yn ystod blwyddyn gyntaf y polisi er mwyn sicrhau eu bod yn ddigonol. Yn dilyn adnewyddu’r polisi ym mis Hydref 2025, cynyddodd premiymau allanol oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau yn y sector cyfan a pherfformiad hawliadau, yn enwedig yn gysylltiedig ag eiddo.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod hawliadau, at ei gilydd, yn sefydlog a bod cyfraddau gwrthod yn gadarn, er bod pwysau mewn meysydd penodol. Mae hawliadau atebolrwydd cyhoeddus yn gyson ac mae cyfraddau gwrthod yn uchel a setliadau’n gymedrol, er bod 71% o hawliadau 2025/26 heb eu cwblhau. Mae hawliadau modur yn sefydlog, ac roedd 53% o hawliadau yn ystod 2025/26 oherwydd bod gyrwyr y Cyngor ar fai; ac i liniaru’r risg mae gwrthdrawiadau’n cael eu monitro’n barhaus ac mae asesiadau'n cael eu cynnig i yrwyr. Mae nifer yr hawliadau eiddo, a’u costau, wedi bod yn hynod gyfnewidiol a’r maes hwn sy’n cynrychioli amlygiad ariannol mwyaf y Cyngor. Difrod stormydd a thanau mewn tai yw’r ffactorau amlycaf. Er bod nifer yr hawliadau eiddo yn 2025/6 wedi lleihau'n sylweddol o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, roedd y difrod a brofwyd, yn ogystal â chyfanswm costau'r hawliadau, yn sylweddol.
Amlygodd y risgiau a’r heriau cynyddol, yn cynnwys effaith newid hinsawdd, gofynion y SATC 2023 newydd, chwyddiant a hanes hawliadau’r Cyngor, sydd yn debygol o gynyddu’r premiymau yn y dyfodol. Bydd yn hanfodol dangos i’n hyswirwyr ein bod wedi dysgu gwersi yn dilyn hawliadau sylweddol a bod gan y Cyngor reolaethau ar waith i liniaru’r risgiau er mwyn lleihau cynnydd yn y premiwm yn y dyfodol.
Roedd y pwyllgor yn awyddus i gael gwybod sut y caiff symiau cychwynnol hawliadau yswiriant posib eu cyfrifo wrth osod y gyllideb flynyddol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod gan y Cyngor gyllideb ar gyfer premiymau yswiriant a symiau cychwynnol posib sydd yn cael ei gefnogi â darpariaeth ar y fantolen sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd. Mae’r ddarpariaeth yn cynyddu neu ostwng yn unol â gwerth hawliadau dyledus a phan fo rhaid addasu premiymau. Nododd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
|
Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Bydd cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor yn cael ei ddilyn gan gyfarfod preifat rhwng aelodau’r Pwyllgor a’r archwilwyr.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y flaen raglen waith ar gyfer 2026/27 a oedd wedi’i diwygio i adlewyrchu’r newidiadau mwyaf diweddar, i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd y rhaglen ddatblygu ar gyfer aelodau etholedig ar gael yn Atodiad B.
Fe wnaeth y Pennaeth Archwilio ar Risg atgoffa’r aelodau i gysylltu os oes ganddynt unrhyw ofynion hyfforddi penodol.
Penderfynwyd cadarnhau bod y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27 yn cwrdd â chyfrifoldebau’r pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.
|