Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 24ain Medi, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog.

Cofnodion:

Nododd y rhai canlynol ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen

Y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ar sail aelodaeth ei wraig o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol ar y mater a thra y byddai yn cymryd rhan yn y drafodaeth roedd wedi penderfynu na fyddai’n pleidleisio ar unrhyw benderfyniad a allai godi ar y mater.

Y Cynghorydd H.Eifion Jones ar y sail ei fod yn Aelod o’r Gronfa Bensiwn.

Y Cynghorydd John Griffith ar y sail ei fod yn aelod o’r Gronfa Pensiwn Llywodraeth Leol oherwydd ei broffesiwn blaenorol.

Mrs Sharon Warnes ar y sail ei bod yn derbyn Pensiwn Llywodraeth Leol.

Dywedodd y Cadeirydd bod Aelodau Etholedig wedi bod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ers ychydig o flynyddoedd ac mai’r cyngor cyfreithiol oedd y gallent gymryd rhan yn y drafodaeth ar eitem 3.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 23 Gorffennaf, 2013 pdf eicon PDF 275 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2013.

Materion yn codi

·         Dywedwydwrth y Pwyllgor a chytunwyd wedi hynny y byddai’r Pennaeth Gwasanaeth Tai yn cyflwyno ei diweddariad ar gynnydd gyda materion llywodraethu mewn perthynas â’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Archwilio ym mis Rhagfyr 2013.

·         Yngnghyswllt yr adroddiad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar ganlyniad yr archwiliad o drefniadau’r Cyngor yng nghyswllt prosesu data personol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, dywedodd y Rheolwr Archwilio wrth y Pwyllgor nad oedd y fersiwn derfynol o’r adroddiad wedi ei derbyn mewn pryd ar gyfer y cyfarfod hwn ac awgrymodd bod gwahoddiad yn cael ei ymestyn i Archwilwyr y Comisiynydd Gwybodaeth i fynychu cyfarfod mis Rhagfyr 2013 o’r Pwyllgor Archwilio i gyflwyno eu canfyddiadau ac fe fyddai hynny hefyd yn caniatáu i’r Awdurdod ffurfio ymateb i unrhyw argymhellion fyddai’n codi o’r adroddiad terfynol.  Dywedodd y Swyddog hefyd bod Bwrdd Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth wedi ei sefydlu a’i ymgynnull a chanlyniad hynny oedd bod cynllun gweithredu yn seiliedig ar adroddiad drafft y Comisiynydd Gwybodaeth wedi cael ei lunio.  Roedd gwaith wedi cychwyn felly ar y mater hwn ac yn mynd yn ei flaen.  Nododd yr Aelodau y sefyllfa.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI –

 

·         Y Rheolwr Archwilio i gadarnhau gyda’r Pennaeth Gwasanaeth Tai y byddai’n bresennol yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 11 Rhagfyr 2013 i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar y cynnydd gyda materion llywodraethu mewn perthynas â’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau.

·         Y Rheolwr Archwilio i gysylltu gyda’r Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol gyda golwg ar wneud trefniadau i’r archwilwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fynychu’r cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio ar 11 Rhagfyr 2013 i roi atborth ar yr archwiliad o drefniadau’r Cyngor yn prosesu data personol.

 

 

3.

Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd

Derbyn diweddariad ar berfformiad y Gronfa Bensiwn ac unrhyw fater perthynol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Dilwyn Williams Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda Chyngor Gwynedd i’r cyfarfod a rhoddodd wahoddiad iddo annerch y Pwyllgor Archwilio ar y sefyllfa gyda’r Gronfa Bensiwn ac yn benodol, y cynnydd o £18.4m yn ystod 2012/13 yn y rhwymedigaeth pensiwn net o £63.7m i £83.1m a goblygiadau hynny.

Yn ei gyflwyniad i’r Pwyllgor, eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol beirianwaith y sustem Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol a sut mae’n gweithio, ac fe amlygodd yr ystyriaethau a’r ffactorau allweddol  wrth roi sylw i faterion mewn perthynas â pherfformiad y Gronfa Bensiwn.

I ddilyn cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb lle roddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau neu ofyn am eglurhad ar y wybodaeth a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.  Dyma grynodeb o rai o’r materion a godwyd:

 

·         Perfformiad y gronfa bensiwn yn erbyn y meincnod ac o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â safle isel y gronfa o ran ei pherfformiad mewn blynyddoedd diweddar o’i chymharu ag awdurdodau  eraill a beth oedd y rhesymau am y perfformiad gwan yn ddiweddar.

·         Yng ngoleuni’r ffaith bod rhwymedigaeth y pensiwn mewn gwirionedd yn rhwymedigaeth i drethdalwyr yr Ynys, oni ddylai Aelodau ac Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio yn arbennig fod yn fwy rhagweithiol gyda rheolaeth y gronfa bensiwn er mwyn ceisio sicrhau’r perfformiad a’r dychweliadau gorau posibl.

·         Cynigiwyd a chymeradwywyd bod y Pwyllgor Archwilio, a hynny er mwyn atgyfnerthu ei fwriadau monitro, yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar berfformiad Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn y man a bod yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn i’w drefnu ar ôl y cyfarfod Blynyddol o Fwrdd Rheoli’r Gronfa Bensiwn fel y gall cynrychiolwyr y Cyngor ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion fyddai’n codi o’r Cyfarfod Blynyddol.

PwysleisioddCyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd bod hirhoedledd a disgwyliad bywyd yn ffactorau allweddol mewn perthynas â pherfformiad y gronfa bensiwn a bod buddsoddiadau yn y gronfa bensiwn yn rhywbeth a wneir am yr hir dymor ac am y rhesymau a roddwyd yn y cyflwyniad ac ni ddylid ffurfio barn ar y perfformiad ar ffigyrau deilliannau un flwyddyn yn unig.  Roedd y Deilydd Portffolio Cyllid fel cynrychiolydd yr Awdurdod hwn ar Bwyllgor Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd yn cyd-fynd â’r sylwadau a wnaed yn y cyflwyniad ynglŷn â’r ffactorau oedd yn dylanwadu ar berfformiad y gronfa bensiwn ac eglurodd i’r Aelodau y trefniadau adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Rheoli’r Gronfa Bensiwn am berfformiad y Gronfa.

 

Penderfynwydnodi’r wybodaeth a gyflwynwyd ynglŷn â sefyllfa Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd a hefyd ddiolch i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd am y cyflwyniad.

 

CamauGweithredu’n Codi: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gwynedd ar raglen waith flynyddol y Pwyllgor Archwilio gyda sylw arbennig i raglennu er mwyn caniatáu i gynrychiolydd yr Awdurdod ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn roi atborth i’r Pwyllgor o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Datganiad o Gyfrifon 2012/13 A Datganiad Llywodraethu Blynyddol pdf eicon PDF 2 MB

·    Cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon am 2012/13 ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

·    Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ynglyn â’r archwiliad o’r Datganiadau Ariannol. (Adroddiad ISA 260)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn cynnwys Datganiad o Gyfrifon 2012/13 a hefyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r prif faterion oedd yn codi o’r archwiliad cyfrifon yn cynnwys cyfeiriad at y meysydd lle'r oedd y newidiadau sylweddol yn y cyfrifon yn berthnasol ynghyd â fersiwn wedi’i diweddaru o’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r newidiadau iddo yn dilyn cyflwyno’r drafft i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ym mis Gorffennaf.  Hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad roedd dadansoddiad o gyllid y Rhaglen 3 Tref fel yr oedd y Pwyllgor wedi gofyn am hynny yn ei gyfarfod blaenorol ym mis Gorffennaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau ) wrth y Pwyllgor bod cyfrifon drafft y Cyngor Sir wedi eu cyflwyno i’w archwilio ar 28 Mehefin  hynny ar-lein ac o fewn yr  amser cau statudol.  Roedd y cyfrifon a wnaed ar gael i’r Pwyllgor Archwilio cyn y cyfarfod hwn yn cynnwys newidiadau a wnaed fel rhan o’r broses archwilio.  Fodd bynnag, ers yr amser hwnnw fe gafwyd newidiadau ychwanegol yn arbennig o ganlyniad i waith archwilio Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd wedi dangos gwahaniaethau rhwng y nifer o aelodau gweithredol a rhai a ohiriwyd o fewn y cynllun rhwng Chwefror ac Awst 2013 ac fe allai hynny gael effaith fawr ar werth rhwymedigaeth y pensiwn o fewn cyfrifon 2012/13.  Roedd y cyfrifon wedi eu newid i adlewyrchu hynny ac roedd fersiwn newydd wedi ei pharatoi ac roedd honno ar gael ar-lein ynghynt yn y dydd.  Achoswyd peth oedi oherwydd bod y swyddog arweiniol wedi gadael ddechrau mis Medi a hefyd oherwydd bod y prif Gyfrifydd ar ei wyliau ar y pryd gyda hynny oll yn golygu iddi fod yn her fawr i gasglu’r holl wybodaeth a’i gynnwys yn y cyfrifon terfynol.  Yn dilyn yr archwiliad, bydd cyfarfod di-briffio’n cael ei gynnal gyda’r Archwilwyr i adolygu nifer y newidiadau i gyfrifon 2012/13 gyda golwg ar wella’r broses o baratoi’r cyfrifon ymhellach ar gyfer y flwyddyn nesaf .

 

·         Cyflwynwydhefyd adroddiad Archwilio Allanol yn nodi’r materion oedd yn codi o archwilio Datganiadau Ariannol Cyngor Sir Ynys Môn 2012/13 ac sydd angen eu hadrodd o dan ISA 260.

 

Dywedodd Mrs Lyn Pamment, Partner Ymgysylltu , PwC wrth yr Aelodau bod nifer o faterion nad oeddid wedi delio a hwy ar adeg ysgrifennu’r ISA260 a hynny mewn perthynas â’r archwiliad oedd i’w gweld yn adran 6 yr adroddiad.  Aeth yr Archwilydd ymlaen i roi gerbron lythyr oedd yn rhoi diweddariad ar bob un o’r gweithdrefnau archwilio a nodwyd fel rhai oedd ar ôl yn adran 6 ynghyd â’r canlyniadau.  Ar adeg cyflwyno’r adroddiad ISA 260 roedd yr Archwilydd a benodwyd yn ystyried ei farn archwilio ar y datganiadau ariannol tra’n disgwyl am ddatrys y materion a nodwyd ynglyn â phrisio rhwymedigaeth y pensiwn yn y Datganiad o Gyfrifon.  Oherwydd i’r rhain gael sylw erbyn hyn a chyda’r cyfrifon wedi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Archwilio Allanol - Diweddariad ar Raglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 76 KB

·        Cyflwyno diweddariad Archwilio Allanol ar waith perfformiad.

 

·        Cyflwyno Llythyr Asesiad Gwella 1

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Mr Andy Bruce, SAC ynghylch statws yr eitemau ar y Rhaglen Waith Perfformiad, ynghyd â’r cynnydd a wnaed, a hynny ar lefel genedlaethol ac ar lefel sy’n benodol i Ynys Môn. Derbyniodd a nododd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd.

 

·         Cyflwynodd Mr. Andy Bruce Lythyr Asesiad Gwella 1 yr Archwiliwr a Benodwyd er sylw’r Pwyllgor.  Roedd y llythyr yn cynnwys asesiad cychwynnol ynghylch a oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009, yn arbennig mewn perthynas â chynllunio gwelliant a gwneud trefniadau ar gyfer gwelliannau parhaus, gan gynnwys y cynnydd a wnaed ar argymhellion a nodwyd mewn asesiadau blaenorol a rhoi sylw i heriau ariannol.  Byddai Llythyr diweddaru pellach yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd Tachwedd 2013.

Aeth Mr Andy Bruce rhagddo i amlygu ac ymhelaethu ar gasgliadau’r Archwiliwr a Benodwyd fel y’u  hamlinellwyd yn y Llythyr Asesiad.

 

Rhoddodd yr Aelodau sylw i gynnwys y Llythyr a gwnaed pwynt ynghylch digonolrwydd trefniadau sgriwtini’r Awdurdod yn dilyn gostwng nifer y Pwyllgorau Sgriwtini o 5 i 2.  Dywedodd Mr. Andy Bruce bod ansawdd a chynnwys trafodaethau sgriwtini yn ystyriaethau allweddol ac y gall sgriwtini fod yr un mor effeithiol os nad yn fwy effeithiol gyda llai o grwpiau sgriwtini.

 

Penderfynwyd derbyn y Llythyr Asesu Gwelliant a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

 

6.

Rheoli Risg ac Yswiriant pdf eicon PDF 371 KB

Derbyn diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â rheoli risg ac yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â gweithredu fframwaith rheoli risg a hefyd sefyllfa ddiweddaraf  hawliadau yswiriant.

Dywedodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant wrth yr Aelodau bod  y Strategaeth Rheoli Risg a’r Canllawiau Rheoli Risg yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a’u diwygio i adlewyrchu newidiadau dros y 12 mis diwethaf yn y ffordd y mae’r Cyngor yn gweithredu ac i’r strwythur rheoli sef prosesau sy’n rhoi cyfle i newid yr hyn yr adroddir arno i’r Aelodau. O ganlyniad, cynigir y mai dim ond y prif risgiau ac unrhyw newidiadau sylweddol i’r risgiau corfforaethol eraill y bydd yr Aelodau yn cael adroddiad arnynt,  ynghyd â’r cynnydd gydag unrhyw gamau i liniaru’r risgiau hynny.  Enghraifft o’r dull adrodd arfaethedig newydd hwn yw’r fersiwn gynilach o’r Gofrestr Risg yn Atodiad A sy’n adlewyrchu’r prif risgiau yn unig a’r camau lliniarol cysylltiedig.

Croesawodd yr Aelodau’r ffurf newydd ar gyfer y Gofrestr Risg fel cyfrwng mwy ystyrlon i’r Pwyllgor Archwilio fedru monitro’r sefyllfa risg a’r camau y byddai’n rhaid eu cymryd ar gyfer y prif risgiau corfforaethol, gyda’r amod bod y gofrestr yn cynnwys gwybodaeth am gamau lliniarol ac amserlenni ar gyfer yr holl risgiau y tynnwyd sylw atynt, a bod sylwebaeth eglurhaol hefyd yn cael ei darparu mewn perthynas ag unrhyw symudiadau risg fel bod modd i’r Aelodau ddod i gasgliadau synhwyrol.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r ffurf newydd ar gyfer adrodd ar risgiau.

DIM CAMAU PELLACH YN CODI.

 

7.

Archwilio Mewnol - Adroddiad Cynnydd Ebrill i Awst, 2013 pdf eicon PDF 663 KB

Cyflwyno adroddiad ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Awst, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad ar waith yr Adain Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Ebrill i 30 Awst 2013.Tynnodd y Rheolydd Archwilio sylw’r Pwyllgor at brif ystyriaethau’r adroddiad o ran perfformiad, canlyniadau ac allbynnau.

Yn y drafodaeth ddilynol, canolbwyntiwyd ar weithredu argymhellion mewn perthynas ag ysgolion ac a yw hyn yn achos o geisio archwilio system y mae angen ei hadolygu, o gofio’r materion sy’n codi dro ar ôl tro mewn perthynas ag agweddau ar reolaeth ariannol yn yr ysgolion.  Soniwyd am bwynt trafod blaenorol mewn perthynas â rhoi adnoddau i ysgolion i reoli a rhoi sylw i systemau ariannol, gan ostwng y pwysau ar staff ysgol yn y cyswllt hwn ac fel bod modd i Archwilwyr Allanol wneud eu gwaith archwilio heb ymgymryd â rôl ymgynghorol  hefyd.  Esboniodd y Rheolydd Archwilio fod y rhestr wirio ar gyfer gwaith archwilio yn yr ysgolion yn gyfyngedig o ran ei sgôp ac nad yw ond yn edrych ar drefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol allweddol - mae sylw’n cael ei roi i gryfhau’r rhestr wirio i gynnwys mwy o ddangosyddion ariannol.  Rhoddir sylw hefyd i gamau eraill o ran y dull archwilio a throsolwg o’r ysgolion e.e. anfon ffurflenni hunanasesu at ysgolion a chynnal asesiad risg i sefydlu pa ysgolion y dylid eu targedu yn hytrach na’r rhaglen dreigl gyfredol a hynny er mwyn cyflwyno her gadarnach i ysgolion.

 

  Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

 DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

8.

Trefniadau Adrodd Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 167 KB

Derbyn adroddiad ar drefniadau adrodd Archwilio Mewnol yn cynnwys adrodd ar gynnydd ar weithredu argymhellion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad yn amlinellu fframwaith adrodd arfaethedig newydd ar gyfer adroddiadau archwilio mewnol, gan gynnwys adrodd ar gynnydd mewn perthynas â gweithredu argymhellion.

Dywedodd y Rheolydd Archwilio y bwriedir adrodd yn rheolaidd i Uwch Reolwyr ar grynodeb o waith Archwilio Mewnol a wnaed, y materion o bwys a nodwyd trwy’r gwaith Archwilio Mewnol yn y cyfnod a’r cyfraddau gweithredu argymhellion ar gyfer argymhellion sylweddol ynghyd â blaenraglen yr Archwilwyr Mewnol, a hynny gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o faterion a godwyd yn sgil gwaith a wnaed gan yr Archwilwyr Mewnol.  Byddai adroddiadau o’r fath hefyd yn ceisio anfon nodyn atgoffa mewn perthynas â’r argymhellion lefel uchel a chanolig a’r argymhellion hynny y mae’r amserlen ar gyfer eu gweithredu yn dod i ben yn y dyfodol agos.  Dywedodd y Swyddog y bydd yr Archwilwyr Mewnol hefyd yn achub ar y cyfle i adolygu ffurf yr adroddiadau gwaith i’r Pwyllgor Archwilio fel rhan o’r adolygiad mwy cyffredinol o’r llinellau adrodd, a hynny fel bod y dull o adrodd i Uwch Reolwyr a’r Pwyllgor Archwilio yn gyson â’i gilydd.

Cymeradwyodd yr Aelodau y dull arfaethedig newydd.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r fframwaith adrodd arfaethedig newydd ar gyfer gwaith Archwilio Mewnol.

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

9.

Adroddiad Blynyddol Atal Twyll a Llygredd pdf eicon PDF 238 KB

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol am 2012/13 ar drefniadau atal twyll a llygredd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012/13 ar weithgareddau’r Cyngor o ran atal twyll a llygredd.

Cyfeiriodd y Rheolydd Archwilio at y meysydd yr oedd Polisi’r Cyngor ar gyfer atal twyll a llygredd yn rhoi sylw iddynt, ynghyd â’r canlyniadau yn ystod 2012/13 mewn perthynas â gweithgareddau canfod, archwilio ac erlyn gan yr Awdurdod ac mewn cydweithrediad gyda’r Cynllun Atal Twyll Cenedlaethol.  Cyfeiriwyd at ddatblygiadau mewn perthynas â chynigion i gyflwyno un gwasanaeth cyfun ar gyfer ymchwilio i dwyll.

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2012/13 ar Atal Twyll   a Llygredd.

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

10.

Rheoli Trysorlys Chwarter 1 2013/14 pdf eicon PDF 505 KB

Derbyn adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys am Chwarter 1 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar weithgareddau Rheoli Trysorlys yn ystod chwarter cyntaf 2013/14, yn cynnwys amlinelliad o’r prif ystyriaethau mewn perthynas â benthyciadau a buddsoddiadau’r Cyngor yn ystod y chwarter yng nghyd-destun y cefndir a’r rhagolygon economaidd ac yn wyneb cyngor gan Sector, sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

11.

Archwilio'r Cofrestrau a Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw adborth o’r archwiliad o’r cofrestrau a datganiadau o ddiddordeb.

 

(Hysbysir Aelodau y bydd y cofrestrau ar gael i’w harchwilio ganddynt am 1:15 tan 1:45 ar brynhawn y 24 Medi cyn cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor am 2 o’r gloch)

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolydd Archwilio bod y cofrestrau diddordebau a’r datganiadau o ddiddordeb wedi bod ar gael i’r Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio eu gweld yn union cyn y cyfarfod ffurfiol heddiw. Ni chafwyd unrhyw atborth bod angen cymryd rhagor o gamau.

12.

Cyfarfod Nesaf sydd wedi'i Drefnu

2:00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mercher, 11 Rhagfyr, 2013.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2013 am 2:00p.m.