Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 11eg Rhagfyr, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr Richard Barker a Mrs Sharon Warnes ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda fel Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Archwilio ac nid oeddent yn bresennol pan drafodwyd y mater.

2.

Cofnodion Cyfarfod 24 Medi, 2013 pdf eicon PDF 206 KB

Bydd cofonodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2013 fel rhai cywir.

3.

Rheoli Gwybodaeth pdf eicon PDF 283 KB

Derbyn adborth ynglyn â’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyngor Busnes) yn crynhoi'r cynnydd hyd yma o ran bwrw ymlaen â'r Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth..

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a SIRO ar gyd-destun a chefndir i sefydlu'r Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth, ynghyd â gofynion y ddeddfwriaeth Diogelu Data sy'n sail i'r prosiect mewn perthynas â phrosesu cyfreithlon o ddata personol. Daeth y Swyddog â’r materion canlynol i sylw'r Aelodau -

 

           Mae'r Cynllun Gweithredu DPA ar gyfer Gwella yn cynnwys yr holl weithgarwch rheoleiddio blaenorol o ran Llywodraethu Gwybodaeth a Rheoli.

           Y Bwrdd Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth, fel rhan o raglen Trawsnewid Busnes y Cyngor, yw'r cyfrwng ar gyfer cyflawni'r Cynllun Gweithredu a dechreuodd y gwaith ym mis Tachwedd, 2013.Y dyddiad targed i gwblhau yw Awst, 2014 pan fydd yn cael ei ddisodli gan grŵp o swyddogion i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus

           Bydd yr archwiliad o gydymffurfiad y Cyngor â'r Ddeddf Diogelu Data gan Swyddog y Comisiynydd Gwybodaeth yng Ngorffennaf 2103 yn cael ei ailadrodd yn y dyfodol agos a gallai methu â gweithredu ar newid arwain at gymryd camau gorfodi yn erbyn y Cyngor.

           Bydd gweithredu ar argymhellion yr ICO ers ei archwiliad Gorffennaf 2013 yn lliniaru peryglon o dorri'r Ddeddf yn ddifrifol. Mae'r rhain wedi cael eu distyllu i bum thema allweddol.

           Mae capasiti wedi’i roddi i bwrpas rheoli’r prosiect ar gyfer TGCh, Adnoddau Dynol a DP / Cymorth Cyfreithiol.

           Mae absenoldeb y Swyddog Gweithredol Arweiniol a Rheolwr Prosiect dynodedig wedi rhwystro cynnydd. Gwnaed trefniadau dros dro i sicrhau symudiad ar y Cynllun Gweithredu gyda ffocws arbennig ar gamau a amserwyd ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

           Mae pedwar polisi craidd wedi cael eu paratoi a'u cymeradwyo gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth - Polisi Torri Data, Polisi Asesu Effaith ar Breifatrwydd, Polisi Dosbarthiad Data Personol a Risg Gwybodaeth.

           Mae adolygiad o argymhellion sy'n weddill o adroddiadau rheoleiddio blaenorol wedi ei gwblhau a chawsant eu cymhathu yn y Prosiect Llywodraethu Gwybodaeth, neu fel arall byddant  yn cael eu hychwanegu ato cyn ei gau.

           Mae adolygiad o dempledi contract safonol yr Awdurdod mewn perthynas â thrydydd parti sy'n gwneud gwaith i'r Awdurdod yn cael ei gynnal ac ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw, bydd raid i'r gwasanaethau adolygu ac ail-negodi eu contractau presennol i sicrhau eu bod yn cynnwys darpariaethau a thelerau diogelu data.

           Mae rhai camau gweithredu heb eu cymryd neu heb gychwyn. Mae'r rhain yn ymwneud â TGCh ac Eiddo ac yn gysylltiedig â mynediad a diogelwch, a threfniadau storio. Mae goblygiadau o ran adnoddau i’r olaf.

           Gellir rhoddi sicrwydd bod trefniadau priodol wedi eu rhoi ar waith drwy'r prosiect a bod cynnydd wedi'i wneud yn erbyn targedau yn y Cynllun Gweithredu. Ar hyn o bryd mae peth pryder yn parhau mewn perthynas â rhai llinellau amser yng nghyswllt rhai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Uned Cynnal a Chadw Tai pdf eicon PDF 645 KB

Derbyn diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) ynglyn â chynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Tai) yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar drawsnewid y gwasanaethau a ddarperir gan Uned Cynnal a Chadw Adeiladau'r Gwasanaethau Tai “(BMU)” ers yr adroddiad blaenorol i'r Pwyllgor ym mis Mai, 2012.

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Tai) Aelodau'r Pwyllgor o argymhellion allweddol o ddau arolwg gwasanaeth blaenorol, y naill yn arolwg ymgynghorol gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r llall yn arolwg gwerth am arian gan gwmni arbenigol. Cyfeiriodd y Swyddog at drydydd arolwg o'r gwasanaeth a gynhaliwyd gan yr Archwiliad Mewnol a oedd yn canolbwyntio ar drefniadau caffael yr UCA. Cafwyd, meddai, gynllun gweithredu cynhwysfawr o ganlyniad i'r tri arolwg beirniadol, ei roi ar waith ac eglurodd y cynnydd hyd yma ar gyflwyno'r cynllun gweithredu. Bydd gwerthusiad opsiynau a gwerthusiad annibynnol o gynnydd yn cael eu gwneud ym mis Chwefror, 2014 a chyflwynir nhw i'r Pwyllgor Gwaith. Bydd adroddiad cynnydd o ran gweithredu ar yr opsiwn a ddewisir yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau a bydd dull rheoli prosiect ffurfiol yn cael ei fabwysiadu.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) a oedd hi’n fodlon bod y trawsnewid yn cael ei ddarparu yn unol â'r amserlen ac atebodd yn gadarnhaol gyda'r ychwanegiad bod rhai risgiau mewn perthynas â chaffael a chontractau yn parhau. Gofynnodd y Pwyllgor Archwilio am ddiweddariad pellach ym mis Chwefror i gynnwys opsiynau, amserlenni ac unrhyw risgiau cysylltiedig.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU YN CODI: Bod y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) yn cyflwyno diweddariad arall i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod yn Chwefror, 2014.

5.

Prosiect Cyfalaf Tair Tref pdf eicon PDF 37 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy ynglyn â’r Prosiect Cyfalaf Tair Tref.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd mewn perthynas â'r prosiect Cyfalaf Tair Tref Ynys Môn er gwybodaeth i'r Pwyllgor Archwilio. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at drefniadau a fframwaith llywodraethu'r prosiect, yr elfennau cyllido ynghyd ag allbynnau a gyflawnwyd ac a ragwelir.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd i Aelodau'r Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, dros gyfnod y prosiect,  wedi ailbroffilio ei gynllun £ 37m ac o ganlyniad bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael nifer o gyfleoedd hefyd i ailbroffilio ac ymestyn sydd yn ei dro wedi caniatáu'r camau a ddisgrifir yn yr adroddiad . Dywedodd y Swyddog bod yr hyn sydd wedi'i weld fel llithriad mewn gwirionedd yn ailbroffilio a gynlluniwyd er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf bosib.

 

Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor nifer o gwestiynau ar weithrediad y prosiect mewn perthynas â chwmpas y cynllun grant, gwariant, swyddi a grëwyd a threfniadau tendro a chafwyd arnynt ragor o eglurhad gan y Rheolwr Prosiect. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol pe bai mwy o wybodaeth am y prosiect a'r elfennau a gwblhawyd ar gael i'r cyhoedd. Hefyd gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad pellach ar gynnydd y cynllun. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd fod rhestr o gynlluniau ar gael yn gyhoeddus. Bydd adroddiad cau prosiect yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin, 2014 a fydd yn destun archwiliad fel sy'n ofynnol yn ôl cyfraith yr UE ac a fydd ar gael i'r Pwyllgor Archwilio.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU YN CODI: Bod y Rheolwr Archwilio yn cydlynu cyflwyno adroddiad diwedd prosiect i'r Pwyllgor Archwilio ar yr adeg briodol.

6.

Archwilio Allanol - Diweddariad ar Raglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 186 KB

Derbyn diweddariad gan Archwilio Allanol ynglyn â gwaith perfformiad (Adroddiad Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor, y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Archwilwyr Allanol ar statws presennol darnau o waith sy’n cael ei wneud ac y bwriedir ei wneud a chafodd y wybodaeth honno ei nodi.

7.

Archwilio Allanol - Llythyr Archwilio Blynyddol 2012/13 pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwyno’r Llythyr Archwilio Blynyddol am 2012/13 (Adroddiad Saesneg yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Lythyr Archwilio Blynyddol yn crynhoi'r negeseuon allweddol sy'n deillio o gyfrifoldebau statudol yr Archwilydd Penodedig o dan Ddeddf 2004 Archwilio Cyhoeddus (Cymru) ac yn adrodd ar gyfrifoldebau o dan y Cod Ymarfer Archwilio.

 

Dywedodd Mr Ian Davies PwC fod y Llythyr yn crynhoi allbwn ffurfiol o'r broses archwilio cyfrifon a adroddwyd yn llawnach i gyfarfod Medi, 2013 y Pwyllgor. Mae'r Llythyr, tra'n cadarnhau bod barn archwilio ddiamod ar y datganiadau cyfrifo, hefyd yn tynnu sylw at yr angen i drefniadau gael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y Gwasanaeth Cyllid â digon o adnoddau a sgiliau priodol i symud ymlaen.

 

Hysbysodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yr Aelodau bod strwythur yn cael ei weithredu o fewn y Gwasanaeth Cyllid. Cadarnhaodd bod cynlluniau eisoes ar waith ar gyfer cychwyn proses cau cyfrifon 2013/14  ac amlinellodd i'r Pwyllgor sylwedd y cynlluniau hynny.

 

Penderfynwyd derbyn y Llythyr Archwilio Blynyddol a nodi ei gynnwys.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Trefniadau Llywodraethu a Sicrwydd pdf eicon PDF 387 KB

Derbyn diweddariad ynglyn â threfniadau Llywodraethu a Sicrwydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Llywodraethu a Sicrwydd ac yn codi o'r adolygiad o Fframwaith Llywodraethu y Cyngor a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2012/13. Roedd y fersiwn a ddiweddarwyd o’r Cynllun Gweithredu  ar Lywodraethu a Sicrwydd wedi ei ddarparu yn Atodiad B ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Ystyriodd yr Aelodau'r Cynllun Gweithredu a gofyn am eglurhad ar rai pwyntiau ynghylch y trefniadau adrodd ar gyfer y Byrddau Trawsnewid a statws yr ymgynghoriad ar y Polisi a’r Strategaeth Comisiynu a Chaffael. Tynnwyd sylw at absenoldeb dyddiad targed penodedig ar gyfer cynllunio a darparu arbedion sydd eu hangen ar y Cyngor a chan fod y gwaith hwn mor ganolog i fusnes y Cyngor wrth fynd ymlaen, gofynnwyd cwestiynau ynghylch y sefyllfa o ran y cynnydd a wnaed hyd yma.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 bod ymgydio gyda strategaethau ar draws y Cyngor yn rhan o'r gwaith o ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig ee Strategaeth Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a’r Strategaeth TG. Mae rhai strategaethau yn fwy datblygedig nag eraill. Bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys buddsoddiadau a bydd yn tynnu sylw at y bwlch arbedion dros y pedair blynedd nesaf a fydd yn cael eu talu dan y Strategaeth Effeithlonrwydd. Bydd yn rhaid datblygu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16 yn seiliedig ar feddwl ymlaen tua’r dyfodol yn hytrach nag ar ddull sleisio salami. Y gwaith y bydd angen ei wneud yn y dyfodol agos yw gweithio gyda'r byrddau trawsnewid ac adolygiadau gwasanaeth i bontio'r bwlch arbedion.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y Cynllun Trawsnewid wedi cael ei ddatblygu, bod ailstrwythuro wedi digwydd a chapasiti ychwanegol wedi’i ddyrannu, a'r cam cyntaf fydd adnabod yr achos dros newid y canlyniadau refeniw gan fwydo wedyn i'r strategaeth effeithlonrwydd tymor hwy. Hyd yma mae’r gwaith a wnaed yn un o natur ôl-ymyrraeth a nawr yn unig y mae gennym yr amser a'r capasiti i flaengynllunio. Cytunwyd ar y Cynllun Corfforaethol a bydd hwnnw’n gyrru materion yn eu blaen. O ran y meysydd lle gellir adnabod arbedion ee crebwyll miniog ar waith, moderneiddio ysgolion ac ati cyrhaeddwyd cyfnod pryd y gall yr Awdurdod ganolbwyntio ar yrru’r mentrau hyn ac eraill ymlaen a byddant wedyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac yn y Strategaeth Effeithlonrwydd. Mae'r rhaglen drawsnewid yn ceisio asio gwelliant mewn gwasanaethau gyda gwell defnydd o adnoddau. Ymhelaethodd y Swyddog ar waith a wneir yn y cyfnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol, ynghyd â chamau gweithredu sy'n cael eu cymryd a chadarnhaodd bod yr agenda yn symud.

 

Nododd yr aelodau bod cynnydd yn digwydd ond nid mor gyflym ag y dymunent ac o ganlyniad gofynnwyd am gael gwybod am y datblygiadau.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU YN CODI: Dirprwy Brif Weithredwr i roi gwybod i'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Framwaith Rheoli Risg a'r Gofrestr Risg Corfforaethol

Derbyn diweddariad ar lafar.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr i'r Pwyllgor ddiweddariad llafar ar faterion sy'n ymwneud â rheoli risg.

 

Adroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr i'r Aelodau ar bwysigrwydd ymgorffori rheoli risg o fewn yr Awdurdod fel sefydliad. Gwelwyd cynnydd o ran nodi'r risgiau mewn perthynas â'r agenda Trawsnewid ond mae angen gwneud mwy i ymgorffori rheoli risg o fewn y gwasanaethau a chytunwyd gyda Phenaethiaid Gwasanaeth y dylai rheoli risg ddigwydd yn effeithiol o fewn eu gwasanaethau. Dywedodd y swyddog bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod rheoli risg ar draws yr Awdurdod yn digwydd yn systematig.

 

Nododd aelodau'r Pwyllgor bod y mater o reoli risg yn bryder ers tro byd i’r Pwyllgor Archwilio gan dynnu sylw at faint o amser a gymerwyd i weithredu system effeithiol o reoli risg o fewn yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio y dylai'r Penaethiaid Gwasanaeth ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yn eu gwasanaethau o ran rheoli risg, sut i ymgorffori'r broses yn y gwasanaethau hynny a sut mae hynny wedyn yn cael ei adrodd i fyny i'r gofrestr Risg Corfforaethol fel bod yr UDA fel perchnogion risg a'r Pwyllgor Archwilio fel y fforwm gyda chyfrifoldeb goruchwylio yn cael sicrwydd bod y risgiau yn cael eu rheoli. Mae angen i'r broses o ddarparu adroddiadau a darparu sicrwydd i fyny ac i lawr y sefydliad fod yn glir. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod angen i Benaethiaid Gwasanaeth fod yn ymwybodol o'r disgwyliadau arnynt o ran rheoli risgiau o fewn eu gwasanaethau a bod angen mynegi'n glir beth yw’r disgwyliadau drwy, er enghraifft, sesiynau datblygu.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth.

 

GWEITHREDU YN CODI: Dirprwy Brif Weithredwr i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin, 2014 yn nodi i ba raddau y mae rheoli risg wedi cael ei weithredu'n effeithiol o fewn yr Awdurdod ynghyd â'r trefniadau i ddarparu sicrwydd bod hynny'n wir.

10.

Adolygiad o Benodiad Aelodau Annibynnol pdf eicon PDF 197 KB

Derbyn adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn ymgorffori opsiynau ar gyfer penodi Aelodau Annibynnol i'r Pwyllgor Archwilio i wasanaethu o fis Gorffennaf, 2014 yn unol â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol.

 

Wedi iddynt ddatgan diddordeb yn y mater hwn, gadawodd Mr Richard Barker a Mrs Sharon Warnes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Penderfynwyd ymestyn y trefniadau presennol gyda'r Aelodau Annibynnol presennol o fis Gorffennaf, 2014 am ddwy flynedd arall.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

11.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 651 KB

Derbyn adroddiad cynnydd ar waith Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Rheolwr Archwilio ar weithgaredd yr Adain Archwilio Mewnol dros y cyfnod Ebrill-Tachwedd, 2013.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio'n benodol at y materion canlynol -

           Allbwn ar ffurf adroddiadau a gyhoeddwyd ers y diweddariad blaenorol

           Adolygiadau archwilio gyda barn Coch neu Goch / Ambr - Credydwyr a'r System Cyfrifyddu Civica

           Perfformiad mewn perthynas â gweithredu argymhellion yr archwiliad mewnol

           Pryderon archwilio cyfredol a chamau gweithredu cysylltiedig

           Argymhellion Categori Uchel na chawsant eu gweithredu a'r meysydd adolygu y maent yn berthnasol iddynt.

 

Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd -

 

           Eglurhad ar y materion sy'n codi o'r adolygiad ar y brif system gyfrifyddu Civica ac a ydynt i’w priodoli i'r cyfarpar Civica ei hun neu i’r defnydd ohono.

           O ran yr adolygiad ymgynghorol ar daliadau asiantaeth, eglurhad ar y defnydd a wna’r Awdurdod o staff asiantaeth ac i ba raddau y dibynnir arnynt o ran y niferoedd dan sylw, costau a pha mor ymarferol yw’r cyfryw ddefnydd yn ariannol.

           A yw'r camau gweithredu yn ddigonol i ddatrys y sefyllfa yng nghyswllt argymhellion categori uchel heb eu gweithredu.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y materion a oedd wedi codi yn ystod y cyfnod yn arwain at gyflwyno’r system Civica ac oedd wedi effeithio arni ynghyd â manylion am y camau a gymerwyd wedi hynny.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr wrth yr Aelodau fod yr adran Adnoddau Dynol yn cynnal darn o waith ar staff asiantaeth.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU YN CODI:

           Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i ddarparu i'r Pwyllgor Archwilio maes o law wybodaeth ar yr adolygiad ôl-weithredu o'r System Cyfrifyddu Civica

           Rheolwr Archwilio i gysylltu gyda Phennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) ynghylch darparu i'r Pwyllgor Archwilio adroddiad ar staff Asiantaeth.

12.

Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys a'r Strategaeth Fuddsoddi Blynyddol pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn amlinellu sefyllfa Rheoli'r Trysorlys a materion cysylltiedig fel yr oedd pethau ar ganol blwyddyn ariannol 2013/14.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

13.

Cyfarfod Nesaf

2:00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mawrth, 4 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

2:00 o’r gloch, Dydd Mawrth, 4 Chwefror, 2014.