Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 4ydd Chwefror, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 11 Rhagfyr, 2013 pdf eicon PDF 204 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir – gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2013.

3.

Fframwaith Rhaglen Trawsnewid

Derbyn cyflwyniad gan y Dirprwy Brif Weithredwraig ar Fframwaith y Rhaglen Drawsnewid.

Cofnodion:

Cafodd Aelodau’r Pwyllgor gyflwyniad ar Fframwaith y Rhaglen Drawsnewid a oedd yn cynnwys trefniadau llywodraethu’r byrddau rhaglen; y broses ar gyfer cychwyn rhaglenni a phrosiectau ac adrodd arnynt a statws y rhaglenni a’r prosiectau cyfredol ar gyfer newid.

 

Rhoes y Dirprwy Brif Weithredwr grynodeb o’r cefndir o ran sefydlu’r Rhaglen Drawsnewid ynghyd â’r egwyddorion y mae’r Rhaglen yn seiliedig arnynt a’i phwrpas. Eglurodd mai’r Rhaglen Drawsnewid yw’r peirianwaith ar gyfer bwrw ymlaen mewn modd pwrpasol gyda chynlluniau newid yn y Cyngor ac yn unol hefyd â disgyblaethau rheoli prosiect. 

 

Aeth Rheolydd y Rhaglen Drawsnewid rhagddi i ymhelaethu ar amryfal elfennau’r Rhaglen Drawsnewid a’r swyddogaeth y maent yn eu cyflawni a dygodd sylw hefyd at y pwyntiau isod-

 

           Y modd y mae’r rhaglen drawsnewid yn canolbwyntio ar gyflawni’r amcanion yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor; darparu mecanwaith a fframwaith ar gyfer gyrru newid a gwelliant a sicrhau fod y rhaglen newid yn cael ei rheoli a’i bod yn cyflawni yn unol â disgwyliadau.

           Cylch Gorchwyl y tri Bwrdd Rhaglen Trawsnewid a’u pwrpas o ran goruchwylio newid yn y Cyngor. 

           Aelodaeth y Byrddau Rhaglen sy’n cynrychioli nifer o ddiddordebau gan gynnwys y Pwyllgor Gwaith, sgriwtini, y gwasanaethau perthnasol ac arbenigedd allanol yn ôl yr angen.

           Y model llywodraethiant a’r strwythur adrodd o gychwyn prosiectau a’r mandadau ar eu cyfer drwodd i’r her, trosolwg a chwblhau.

           Y gyrwyr allweddol ar gyfer blaenoriaethu prosiectau a thasgau a’r broses ar gyfer cychwyn prosiectau a’u cyflawni.

           Sianelau cyfathrebu a’r mecanwaith ar gyfer cyfathrebu’r canlyniadau drwy gyfrwng cofrestr prosiect sy’n dal gwybodaeth o ran ble y mae pob prosiect yn adrodd iddynt a sut y maent yn rhoi siâp ar gyfeiriad a blaenoriaethau.  Caiff cofnodion cyfarfodydd eu rhannu gyda’r Penaethiaid a chaiff y negeseuon allweddol eu postio ar  Monitor. Mae Sgriwtini, yr UDA a’r Bwrdd Cynaliadwyedd yn cael atborth ar eu cynnydd.

           Y camau nesaf o ran cynnal adolygiad o flwyddyn gyntaf y trefniadau llywodraethiant, y prosesau sy’n sylfaen iddynt a blaenoriaethu gweithgareddau trawsnewid.

 

Rhoddwyd i’r Aelodau y cyfle i ofyn cwestiynau ar y wybodaeth a gyflwynwyd.  Codwyd y materion isod yn y drafodaeth a ddilynodd:

 

           Y broses ar gyfer delio gyda, a rheoli, unrhyw ansicrwydd yn y rhaglen a allai lesteirio cynnydd.

           Digonolrwydd y strwythur cefnogaeth ar gyfer y rhaglen er mwyn sicrhau fod modd cyflawni amserlenni a thargedau.  Nodwyd ei bod yn ymddangos fod y rhaglen yn brin o bobl i’w chefnogi.

           Digonolrwydd ac ehangder y trefniadau adrodd o ran hysbysu’r holl Aelodau am y cynnydd a wneir.

           Yr angen i fframwaith y Rhaglen Drawsnewid fedru cyflawni targedau mewn modd clyfar a chyflym.  Pwysleisiwyd bod angen i’r rhaglen fedru darparu canlyniadau gwirioneddol ac amserol.

           A yw’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio mewn perthynas â rheoli a llywodraethu gwybodaeth wedi cael eu gweithredu o ran gwneud rheolwyr ar draws y Cyngor yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau yn hyn o beth. 

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r materion y dygwyd sylw atynt drwy esbonio ymhellach yr egwyddorion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Llywodraethu Gwybodaeth

Adrodd i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2014 benderfynu fel a ganlyn yng nghyswllt y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr mewn perthynas â Llywodraethu  Gwybodaeth:

 

“PENDERFYNWYD cyfeirio pryderon y Pwyllgor Archwilio i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gyda chais eu bod yn cyflwyno adroddiad statws i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth.”

 

Cofnodion:

Adroddwyd a nodwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Archwilio fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2014, wedi penderfynu fel a ganlyn mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2013 ynghylch materion Llywodraethu Gwybodaeth –

 

Penderfynwyd cyfeirio pryderon y Pwyllgor Archwilio i’r UDA i’w hystyried gyda chais eu bod yn cyflwyno adroddiad statws i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

5.

Uned Cynnal a Chadw Adeiladau'r Gwasanaeth Tai pdf eicon PDF 217 KB

Derbyn diweddariad pellach ar gynnydd ar drawsnewid y gwasanaethau a gyflenwir gan Uned Cynnal a Chadw Adeiladau’r Gwasanaeth Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai ar y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â’r adolygiad o’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau.  Yn yr adroddiad, cafwyd amlinelliad o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Trwsio a Chynnal a Chadw ynghyd â’r camau nesaf a’r cerrig milltir allweddol yn y broses adolygu. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar rai pwyntiau a dygwyd sylw ganddynt at y pwysigrwydd o sefydlu trefniadau caffael cadarn a sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r trefniadau hynny.  Nodwyd ganddynt y byddai’r adroddiad, yn dilyn y cyfle diwethaf i’w adolygu ar 11 Chwefror 2014, yn cael ei gyflwyno i’r

Pwyllgor Archwilio.  

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r adolygiad o Uned Cynnal a Chadw Adeiladau’r Gwasanaeth Tai.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

6.

Rheoli Trysorlys Chwarter 3 pdf eicon PDF 505 KB

Cyflwyno adroddiad Rheoli Trysorlys Chwarter 3 2013/14.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn amlinellu’r gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn nhrydydd chwarter 2013/14 ynghyd â’r cynlluniau am weddill y flwyddyn.

Rhoes yr Aelodau sylw i’r adroddiad gan ymofyn sicrwydd ynghylch teilyngdod credyd rhai gwrth-bartïon yn arbennig felly lle bu newid yn eu sgôr credyd.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r sefyllfa o ran Rheoli Trysorlys yn Chwarter 3.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

7.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2014/15 pdf eicon PDF 874 KB

Cyflwyno’r Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2014/15.(Adroddiad Hwyr)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyoadroddiad yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2014/15 yn cynnwys polisïau’r Awdurdod mewn perthynas â benthyca, buddsoddi a theilyngdod credyd.

 

Rhoes yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol) wybod i’r Aelodau am fân ddiweddariadau i Ddatganiad 2013/14 fel y cânt eu nodi ym mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Rhoes yr Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad a’r Datganiad a gwnaethpwyd y sylwadau isod

 

           Byddai’n ddefnyddiol i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio, petai Swyddogion, i bwrpas hyfforddiant, yn gallu canolbwyntio ar agwedd benodol o’r Datganiad Rheoli Trysorlys.

           Gofynnwyd am eglurhad o’r rhesymau pam nad oes dogfen ar Arferion Rheoli Trysorlys ar gael yn yr Awdurdod.

           Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch sefyllfa’r Cyngor o ran benthyca a mynegwyd pryder ynghylch effaith gronnol costau benthyca cynyddol.  Dygwyd sylw ganddynt at yr anghysondeb rhwng dychweliad ar fuddsoddiad a’r llog a delir ar ddyledion y Cyngor, sefyllfa a oedd, yn eu barn nhw, yn anghynaladwy yn y tymor hir.  Awgrymwyd y dylid mynegi i’r Pwyllgor Gwaith bryderon y Pwyllgor Archwilio ynghylch sefyllfa’r Cyngor o ran benthyciadau yn arbennig felly yng nghyd-destun yr hinsawdd ariannol heriol a’r penderfyniadau anodd y bydd rhaid eu gwneud o ganlyniad.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd gan egluro ymhellach y dulliau a fabwysiedir gan yr Awdurdod o ran benthyca a buddsoddi.  Cydnabu’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y pwyntiau a wnaed o ran benthyca a’r costau cysylltiedig yn enwedig gan fod dychweliadau ar fuddsoddiadau wedi bod yn wan ers peth amser.  Awgrymodd y gellid efallai lliniaru’r sefyllfa i ryw raddau drwy fabwysiadu dull mwy strategol o ran rheoli asedau a gwneud gwell a challach defnydd o swyddfeydd y Cyngor drwy greu cyfleon i gael gwared ar asedau nad oes eu hangen mwyach gan greu cyfalaf a lleihau’r angen i fenthyca.   

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Tysorlys am 2014/15 gan gynnwys y Dangosyddion Pwyllog a Thrysorlys fel yr oeddynt yn ymddangos yn Atodiad A y Datganiad.

           Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Gwaith/y Cyngor am bryderon y Pwyllgor Archwilio ynghylch cynaliadwyedd sefyllfa’r Awdurdod o ran benthyciadau/dyledion a chostau hynny yn y tymor hir. 

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i gyfleu i’r Pwyllgor Gwaith/y Cyngor deimladau’r Pwyllgor hwn ynghylch sefyllfa’r Cyngor o ran benthyca.

8.

Archwilio Allanol - Diweddariad ar y Rhaglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 182 KB

Derbyn diweddariad Archwilio Allanol ar y Rhaglen Waith Perfformiad.

(Fersiwn Saesneg yn unig)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd a nodwyd gan y Pwyllgorddiweddariad gan yr Archwilwyr Allanol ar statws gwaith perfformiad sydd wedi ei gynllunio a’r gwaith sy’n mynd rhagddo.

9.

Archwilio Allanol - Llythyr Asesiad Gwella 2 pdf eicon PDF 149 KB

Derbyn Llythyr Asesiad Gwella 2.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Llythyr Asesiad 2 SAC er gwybodaeth i’r Pwyllgor.  Roedd y Llythyr yn nodi i ba raddau yr oedd yr Awdurdod wedi cydymffurfio gyda’i ddyletswyddau o ran cynllunio ac adrodd ar welliant yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu cywair cadarnhaol Llythyr 2 yr AG sy’n cadarnhau bod yr Awdurdod wedi cyflawni ei ddyletswyddau o ran cynllunio ac adrodd ynghylch gwelliant yn unol â’r Mesur ac nad oedd gan Archwiliwr Cyffredinol Cymru unrhyw gynigion neu argymhellion pellach ar gyfer gwelliant yn hyn o beth. 

 

Awgrymodd Aelod o’r Pwyllgor y dylai cynnwys Llythyr 2 yr AG gael cyhoeddusrwydd ehangach fel tystiolaeth o welliant parhaus yr Awdurdod.  Awgrymodd Mr Andy Bruce, SAC y byddai’r Pwyllgor efallai’n dymuno gohirio unrhyw gyhoeddusrwydd pellach hyd oni fydd yr Adroddiad Gwella Blynyddol wedi’i gyhoeddi sy’n dwyn ynghyd yr holl agweddau ar welliant tra bod Llythyr 2 yr AG yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth yn unig.

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd cyhoeddi datganiad i’r wasg gyda rhagair gan y Cadeirydd i’r perwyl fod Llythyr 2 yr AG yn dangos fod Cyngor Sir Ynys Môn yn symud ymlaen ar y siwrnai wella.  Roedd y Cynghorydd Jim Evans yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod ef o blaid gohirio cyhoeddi’r datganiad hyd oni fydd yr Adroddiad Gwella Blynyddol wedi’i gyhoeddi.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys Llythyr 2 yr AG.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol i ymgynghori gyda’r Cadeirydd er mwyn cyhoeddi datganiadau’r wasg yn unol â’r uchod.

10.

Staff Asiantaeth

Derbyn adroddiad ar lafar gan y Rheolwr Archwilio.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Archwilio wrth y Pwyllgor fod trefniadau ar gyfer caffael staff asiantaeth, dros dro wrthi’n cael eu hystyried gyda golwg ar symud tuag at wasanaeth a reolir er mwyn sicrhau trefniadau gweithio mwy effeithlon.  Yn unol â’r polisi newydd, byddai darparwr a reolir yn gyfrifol am y broses gaffael gan arwain at drefniadau llyfnach a mwy cost-effeithiol.  Dywedodd y Swyddog fod pob gwasanaeth ar hyn o bryd yn rheoli eu trefniadau caffael eu hunain o ran staff asiantaeth sy’n golygu ei bod yn anoddach tracio’r gwariant cyffredinol ar staff asiantaeth ar draws y Cyngor.  Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau eraill yn gofyn am achosion busnes i gyfiawnhau caffael staff asiantaeth gyda’r achos busnes hwnnw wedyn yn cael ei awdurdodi ar y lefel uchaf. 

 

Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor eu bod yn awyddus i gael gwybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â chaffael/cyflogi staff asiantaeth, y nifer a gyflogir ar draws y Cyngor ynghyd â’r posibilrwydd y gall fod dyblygu. 

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth fel y cafodd ei chyflwyno.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Archwilio i ddarparu ar gyfer y Pwyllgor ddadansoddiad o nifer y staff asiantaeth/ contract/ hunangyflogedig sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor, y rhesymau am eu cyflogi a chostau hynny ynghyd â manylion am y dulliau eraill a ddefnyddir gan sefydliadau/cyrff eraill.