Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Llun, 27ain Gorffennaf, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 23 Mehefin, 2015 pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, 2015.

 

Yn codi

 

Y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro i adrodd ar lafar ynghylch cyfranogiad yr Aelodau Lleyg yn y broses o ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar nodi mewn perthynas ag eitem 1 fod Mrs Sharon Warnes wedi cael ei phenodi i’r Bwrdd Cronfa Bensiwn Gwynedd newydd yn hytrach na Phwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

           Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn unol â’r hyn yr oedd wedi ei addo yn y cyfarfod blaenorol, ei fod wedi codi’r pryderon a godwyd gan Aelodau Lleyg y Pwyllgor ynghylch diffyg darpariaeth iddynt hwy fod yn rhan o’r broses o ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.  O ganlyniad, byddai’r Prif Weithredwr yn trafod y mater gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol, ac wedi hynny, ac ar y cyd â’r Swyddog Monitro byddai’n cyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf ar addasu’r broses er mwyn rhoi sylw i’r pryderon hynny ar gyfer y dyfodol.

 

Derbyniodd a nododd y Pwyllgor y wybodaeth.

 

           Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ar p’un a fu unrhyw gyfathrebu pellach gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â chynnydd gydag ymchwilio i ymgais o dwyll yn erbyn y Cyngorachos a amlygwyd yn flaenorol gan Archwilio Mewnol ac a godwyd mewn gohebiaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru fel yr adroddwyd i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin, dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ei fod wedi ceisio eglurhad pellach gan Heddlu Gogledd Cymru ar sut oeddent yn gweithredu ar y mater hwn, a gallai adrodd fod yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod nawr yn gweithio gyda lluoedd eraill (nid oedd y twyll wedi’i gyfyngu i’r Awdurdod hwn yn unig) a byddant yn dod yn ôl gydag ymateb manylach.  Rydym dal yn disgwyl am yr ymateb hwn.

 

Nododd y Pwyllgor y sefyllfa heb unrhyw weithredu pellach.

3.

Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2014/15 pdf eicon PDF 528 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor i’w ystyried ac i graffu arnoAdroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn ymgorffori'r Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys ar gyfer 2014/15.  Roedd yr Adroddiad yn nodi’r sefyllfa alldro yng nghyswllt gweithgareddau trysorlys yn ystod y flwyddyn ac yn amlygu cydymffurfiaeth â pholisïau’r Cyngor fel y cymeradwywyd yn flaenorol gan yr Aelodau.

 

Adroddodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) y cawsai gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ei ariannu drwy sawl ffynhonnell; yn wyneb cyfraddau llog y farchnad a risgiau credyd y gwrthbartïon ar hyn o bryd ac yn y dyfodol (rhoddwyd statws credyd y gwrthbartïon yn Atodiad 2), penderfynwyd parhau i fenthyca’n fewnol yn y tymor byr er mwyn lleihau’r risgiau a’r costau.  Mae’r Cyngor wedi gweithredu’r strategaeth hon ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd yma, ac o ganlyniad i barhau â’r dull hwn, gostyngodd y bwlch rhwng angen benthyca sylfaenol y Cyngor (CFR) a benthyca allanol i £19m yn ystod 2014/15. Dywedodd y swyddog fod CFR sy’n lleihau yn erbyn benthyca allanol wedi bod yn thema gyffredin yn y blynyddoedd diweddar a chadarnhaodd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â holl derfynau a dangosyddion darbodus y trysorlys a’i fod yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a gymeradwywyd.  Adroddwyd yn flaenorol bod yr Awdurdod yn paratoi i ddod allan o’r system cymhorthdal CRT ar 2 Ebrill 2015, ac ar adeg adrodd ynghylch Chwarter 3 roedd yn hysbys y byddai’r arian i brynu allan yn cael ei gyllido trwy’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a bod swm y setliad a’r gyfradd llog ar y benthyciad eto i’w cadarnhau.  Mae’r pryniant yn awr wedi’i gwblhau ac mae’r CRT yn ariannu ei hun erbyn hyn.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn -

 

           Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad, yn wyneb yr hinsawdd bresennol o fenthyca rhad, ynghylch a ddylai’r Cyngor fod yn edrych ar wneud y mwyaf o gyfleoedd i fenthyca.  Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) pe bai’r Awdurdod yn allanoli ei holl fenthyca byddai’n golygu lleoli’r arian gyda gwrthbartïon yn y banciau a fyddai’n peri risg i’r Cyngor oherwydd y potensial i’r gwrthbartïon ddiffygdalu.  Yn ogystal, yn y tymor byr byddai ddefnyddio ei arian ei hun yn galluogi’r Awdurdod i leihau costau benthyca.  Nod y dull hwn yw’r rhoi’r gorau i enillion tymor byr a allai fod yn andwyol i’r Awdurdod yn y tymor hir.  Mae’n bwysig asesu’r symudiad a ragwelir yn y marchnadoedd a’r amodau ar gyfer buddsoddi yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas.  Cadarnhaodd y Swyddog eu bod yn cadw llygaid barhaus ar y sefyllfa.

           Ceisiodd y Pwyllgor sefydlu, yn wyneb y cyfraddau llog isaf ers blynyddoedd, a fyddai wedi bod yn fwy manteisiol i’r Awdurdod fabwysiadu strategaeth o ddefnyddio ei gapasiti benthyca i gynllunio buddsoddi yn ei bortffolio eiddo (nodwyd y portffolio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Archwilio Allanol - Adroddiad Cynnydd ar yr Archwiliad Ariannol

Cyflwyno diweddariad ar lafar gan Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Adroddodd Mr Martin George, Rheolwr Archwilio PwC, fod yr archwiliad ffurfiol ar ddatganiadau ariannol yr Awdurdod wedi dechrau’n syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin lle cyflwynwyd y Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2014/15.  Mae’r archwilwyr yn derbyn cymorth gan y tîm Gwasanaeth Cyllid a bydd y canfyddiadau ffurfiol o’r archwiliad yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Medi cyn argymell eu bod yn cael eu cymeradwyo cyn y dyddiad cau statudol sef 30 Medi.  

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa heb sylwadau.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN DILYN.

5.

Archwilio Mewnol - Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd ar waith Archwilio Mewnol am Ch1 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedadroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro yn amlinellu’r cynnydd wrth gyflawni gwaith archwilio’r Adain Archwilio Fewnol a gynlluniwyd ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol 2015/16.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Dros Dro fel a ganlyn

 

           Mae’r tabl ym mharagraff 2.2 yr adroddiad yn dangos y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Archwilio Gweithredol ar gyfer 2015/16 sy’n cydymffurfio’n fras â’r disgwyliadau am y cyfnod hwn.  Cawsai’r cynnydd ei rwystro i raddau gan lefel uwch na’r disgwyl o salwch yn y tîm Archwilio ac oherwydd bod dwy swydd wag yn y tîm.

           Mae’r tabl ym mharagraff 3.1 yr adroddiad yn cofnodi’r adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd ers 1 Ebrill 2015; mae paragraff 3.2 yn rhoi’r graddau sicrwydd CAG a ddefnyddiwyd yn ystod 2014/15 a beth yw eu harwyddocâd.

           Cyflwynwyd diffiniadau lefel sicrwydd newydd ar gyfer 2015/16 sy’n glir ac yn fwy pendant ac yn rhoi blaenoriaeth i’r argymhellion a wnaed.  Amlinellir y rhain ym mharagraff 3.3.

           Ar yr un pryd, ac am y tro cyntaf, cyflwynwyd diffiniadau o’r lefelau blaenoriaeth a ryddhawyd ar gyfer argymhellion archwilio mewnol gyda’r bwriad o wella cysondeb o fewn y tîm archwilio a gwella dealltwriaeth ac eglurder i’r sawl sy’n derbyn yr adroddiad.  Caiff y rhain eu hegluro ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

           Er mai’r arfer fu cynnwys gwybodaeth ynghylch statws gweithredu argymhellion blaenoriaeth lefel uchel a chanolig yn yr adroddiadau cynnydd archwilio mewnol bob chwarter, ni ddarparwyd data o’r fath ar gyfer y chwarter hwn.  Y rheswm am hynny yw, ar ôl edrych ar y sail ar gyfer dwyn y wybodaeth honno ynghyd, nid oedd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro yn hyderus y gellid cynhyrchu data sy’n rhoi adlewyrchiad dibynadwy o’r sefyllfa gyfredol ac yn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol.  Mae angen gwneud gwaith i wella’r broses o gasglu data ar argymhellion y cytunwyd arnynt a sut caiff cynnydd wrth weithredu ei fonitro fel bod modd adrodd yn gywir i’r UDA a’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a cheisiodd eglurhad pellach ar y  materion ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd y bâsdata ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth am statws gweithredu’r argymhellion archwilio mewnol a ph’un a oedd hyn yn fater Rheolaethol neu’n fater i Archwilio Mewnol.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mawnol Dros Dro fod yna gwestiynau y mae angen i Archwilio Mewnol roi sylw iddynt ynglŷn â chasglu data ac yn ei farn ef, roedd y bâsdata a ddefnyddiwyd i gael y wybodaeth yn ddiffygiol ac nid yw’n rhoi sicrwydd digonol.  Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Rheolwyr yw gweithredu’r argymhellion a chyfrifoldeb Archwilio Mewnol yw adrodd ar statws y gweithredu fel gall y Pwyllgor dderbyn sicrwydd neu beidio o ymateb y Rheolwyr i’r argymhellion archwilio mewnol mewn perthynas â rheolaethau mewnol a chydymffurfiaeth.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad cynnydd a nodi ei gynnwys.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN DILYN

6.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2015/16 i 2017/18 pdf eicon PDF 378 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried a’i gymeradwyo – adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro yn ymgorffori Cynllun Archwilio Mewnol Strategol diwygiedig ar gyfer 2015/16 i 2017/18.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro fod y Cynllun Archwilio Gweithredol oedd yn bodoli ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a’i gymeradwyo ganddo yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2015.  Mae ymholiadau ers hynny wedi adnabod yr angen i ailymchwilio i’r meysydd a gynlluniwyd y byddai archwilio mewnol yn edrych arnynt ac felly cyflwynir i’r Pwyllgor gynllun archwilio strategol arfaethedig wedi ei addasu yn Atodiad A.  Dywedodd y Swyddog y gellid crynhoi’r prif addasiadau a’r rhesymau am y newid fel a ganlyn -

 

           O gymharu â’r cynllun presennol, mae’r cynllun diwygiedig yn fwy cytbwys, yn lledaenu’r gwaith archwilio yn fwy eang ac yn para tair blynedd yn hytrach nag un.  Mae’r cynllun yn rhoi sylw i’r holl feysydd yr ystyrir eu bod yn berthnasol i’w hadolygu gan archwilio mewnol o fewn y Cylch tair blynedd.

           Roedd yr adnoddau archwilio yn y cynllun gwreiddiol yn cael eu neilltuo’n bennaf ar gyfer  systemau ariannol allweddol ac roedd yn seiliedig ar swm penodol o adnoddau, nid oedd lle ynddo i fynd ar ôl meysydd gweithgaredd eraill oedd yr un mor bwysig.  Mae’r cynllun diwygiedig yn gobeithio ailddosbarthu’r adnodd archwilio yn fwy cytbwys er mwyn gallu ymchwilio i nifer o feysydd nad ydynt wedi derbyn adolygiad archwilio blynyddoedd diweddar.

           Mae elfen o hyblygrwydd yn y cynllun diwygiedig ac mae’n darparu adnodd wrth gefn o thua 10%.

           Mae gwaith archwilio ysgolion wedi ei dargedu yn yr ysgolion mwy yn y cynllun diwygiedig yn hytrach na’i fod ar sail rota fel oedd yr arfer yn y gorffennol.  Mae’r cynllun hefyd yn galluogi adolygiadau thematig mewn detholiad o ysgolion llai.

           Mae’r cynllun wedi adnabod bwlch yn yr adnoddau archwilio mewnol ac wedi dangos fod y gwasanaeth angen un person llawn amser ychwanegol i gyflawni’r gwaith sydd wedi’i gynllunio.  Ar hyn o bryd mae dwy swydd wag ar lefel is yn y gwasanaeth, ac ar ôl ystyried y ffordd orau o fynd i’r afael â’r diffyg o ran cyflawni’r cynllun yn effeithiol, y farn yw y dylid ildio’r ddwy swydd is er mwyn cael un swydd uwch.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r cynllun archwilio mewnol strategol diwygiedig a gwnaeth y sylwadau a ganlyn arno

 

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod y cynllun yn gynhwysfawr o ran y meysydd yr oedd yn eu hymgorffori ac roedd yn croesawu’r cylch tair blynedd newydd.  Credai hefyd fod y cynllun yn bodloni’r cais a wnaed yn y cyfarfod diwethaf am ganllaw ymarferol i’r meysydd a’r themâu y dylai fo yn eu hadolygu’n barhaus.

           Nododd y Pwyllgor fod y swyddogaeth Archwilio mewnol yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu’r Awdurdod o ran monitro perffomiad rheolaethau mewnol y Cyngor a rhoi hyder a sicrwydd ynghylch sut mae’r Cyngor yn rhedeg ei fusnes, yn rheoli ei risgiau ac yn cydymffurfio â rheoliadau a pholisiau mewnol.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Gwasanaeth Disel Morwrol

Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg i adrodd ar lafar ynglyn â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani mewn perthynas a’r Gwasanaeth Disel Morwrol yng nghyswllt incwm a gwariant a dileu dyledion drwg.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybodaeth ychwanegol gan y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg am y Gwasanaeth Diesel Arforol mewn perthynas ag incwm a gwariant a dileu dyledion fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Swyddog wrth y Pwyllgor ei bod wedi archwilio’r cofnodion ar gyfer y Gwasanaeth Diesel Arforol am y chwe blynedd blaenorol ac y gallai gadarnhau bod elfen diesel y gwasanaeth wedi parhau i fod yn broffidiol ym mhob un o’r blynyddoedd hynny.  Yr elw lleiaf a gafwyd oedd £2,000 a hynny ym mlwyddyn ariannol 2011/12 a’r elw mwyaf oedd £66,000 a gynhyrchwyd ym mlwyddyn ariannol 2012/13.  Nid oedd unrhyw ddyledion wedi eu dileu mewn perthynas â diesel yn ystod y ddwy flynedd yr edrychwyd arnynt, sef 2013/14 a 2014/15.

 

Mewn ymateb i geisiadau am eglurhad ar bwyntiau penodol dywedodd y Swyddog -

 

           Y byddai’n ceisio darganfod gan y Gwasanaeth a oes modd prynu diesel gydag arian parod ac os oes, pa bryd y gwnaed taliadau o’r fath.

           Bod tair anfoneb a oedd yn gwneud cyfanswm o £18k wedi cael eu rhoi o’r neilltu ar gyfer dileu’r dyledion o bosib.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Hawliadau Yswiriant pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Risg ac Yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Risg ac Yswiriant mewn perthynas â hawliadau yswiriant yn erbyn yr Awdurdod yn ystod y blynyddoedd ariannol o 2010/11 i 2014/15.  Roedd Atodiad A oedd ynghlwm yn cynnwys dadansoddiad fesul polisi ar gyfer pob un o’r blynyddoedd ariannol i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd o nifer yr hawliadau a dalwyd, lle mae’r hawliad wedi ei setlo heb unrhyw gostau na thâl yn cael ei wneud, neu lle nad yw’r hawliad wedi’i setlo hyd yma.  Darparwyd gwybodaeth hefyd am y swm a dalwyd mewn perthynas â’r hawliadau a gawsant eu setlo a’r symiau a gadwyd o’r neilltu ar gyfer yr hawliadau hynny nad ydynt wedi eu setlo eto.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant at batrymau hawliadau am y cyfnod yr adroddwyd arno ynghyd â’r heriau i’r dyfodol a’r hyn y gallai hynny olygu i’r Cyngor yn arbenig felly o ran amddiffyn hawliadau’n llwyddiannus.  Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd yr adroddiad yn amlygu unrhyw faterion eithriadol y dylai’r Pwyllgor fod yn bryderus yn eu cylch ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar rai pwyntiau yn yr adroddiad a gwybodaeth ychwanegol hefyd am y galw ar y gronfa wrth gefn ar gyfer hawliadau yswiriant.  Mewn ymateb i gadarnhad bod lefel y gronfa wedi aros yn sefydlog, awgrymodd y Pwyllgor, efallai y dylid ailystyried y gronfa wrth gefn o £2m ar gyfer yswiriant, yn arbennig felly yn yr hinsawdd gyfredol o doriadau mewn gwasanaethau a phan fo’r galw ar y gronfa yn parhau i fod yn sylweddol is na’r uchafswm hwnnw.  Cadarnhaodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfrifeg fod y gronfa wrth gefn ar gyfer yswiriant wedi cael ei hadolygu ac o ganlyniad fe’i gostyngwyd i £1m.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

9.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 66 KB

Ystyried mabwysidau’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol  oherwydd  y gall olygu  datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig”.

 

 

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

10.

Rheoli Risg

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Risg ac Yswiriant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Rheolydd Risg ac Yswiriant yn ymgorffori’r Polisi Rheoli Risg a’r Meini Prawf Asesu Risg ynghyd â’r Gofrestr Risg Gorfforaethol gyfredol.

 

Dywedodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant wrth y Pwyllgor fod y Cyngor, yn dilyn adolygiad allanol o drefniadau rheoli risg ym mis Hydref 2014, wedi diweddaru’r ffurf ac wedi adolygu cynnwys ei Gofrestr Risg Gorfforaethol.  Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiweddaredig i’w gweld yn Atodiad C i’r adroddiad.  Nodwyd deg risg fawr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  Yn ogystal, roedd pob gwasanaeth wedi cyflwyno Cofrestrau Risg Gwasanaeth fel rhan o’r broses Cynllunio Busnes.  Y rhain oedd y cofrestrau risg cyntaf a gyflwynwyd gan ddefnyddio’r ffurf newydd a chydnabyddir y bydd gwasanaethau angen amser i addasu a deall yn llawn y newidiadau a wnaed.  Bydd gwasanaethau felly’n parhau i gael cymorth gan y Rheolydd Risg ac Yswiriant i ddatblygu eu cofrestrau Risg Gwasanaeth fel y bydd angen.  O’r herwydd rhagwelir y bydd rhai risgiau gwasanaeth ychwanegol yn cael eu cynnwys ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol neu’n cael eu tynnu oddi arni dros y 12 i 18 mis nesaf.  Bydd risgiau gwasanaeth newydd a risgiau lle mae’r sgôr yn codi oherwydd newid mewn amgylchiadau yn cael eu monitro’n barhaus a’u huwch gyfeirio os oes angen.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a gofynnodd am eglurhad ynghylch sut y byddai’n cael ei ddiweddaru ynglŷn â gweithgareddau rheoli risg, yn arbennig felly mewn perthynas ag unrhyw newidiadau a all ddigwydd a’r rhesymau pam, fel bod modd iddo gael sicrwydd bod y risgiau allweddol yn cael eu rheoli’n briodol.  Dywedodd y Rheolydd Risg ac Yswiriant mai’r bwriad yw adrodd i’r Pwyllgor ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ddwywaith y flwyddyn a bydd hefyd yn cael ei ddiweddaru ynglŷn â’r broses rheoli risg.  Yn ogystal, caiff y Pwyllgor ei friffio ar unrhyw eithriadau/llithriadau yn ogystal ag unrhyw faterion a uwch gyfeiriwyd.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolydd Risg ac Yswiriant i roi adroddiad gwaith byr i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

11.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried mabwysidau’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol  oherwydd  y gall olygu  datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig”.

 

Cofnodion:

Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

12.

Darparu'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Adnoddau ac Adran 151 Dros Dro ynghylch trefniadau i ddarparu’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn amlinellu trefniadau ar gyfer darparu’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r trefniadau lle byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r Cyngor hwn yn darparu’r gwasanaeth ar y cyd, gyda Chonwy hefyd yn gyfrifol am drosolwg rheoli Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor hwn.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion am y cytundeb partneriaeth gyda Chonwy.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ei fod wedi arwyddo’r contract yn unol â’i bwerau dan y cynllun dirprwyo ac y byddai’n dod i rym ar 1 Awst 2015.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN NODI