Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion Cyfarfod 26 Mai, 2016 PDF 200 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2016. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir - gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 26 Mai, 2016.
|
|
Datganiad Cyfrifon 2015/16 a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015/16 PDF 1 MB Cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon drafft am 2015/16 ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2015/16. Cofnodion: Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft cyn eu harchwilio ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft am 2015/16.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cyn y gall Archwiliad Allanol gychwyn, rhaid i'r Swyddog Adran 151 arwyddo'r Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad Cyfrifon cyn y dyddiad cau statudol, sef 30 Mehefin bob blwyddyn. Dan Gyfansoddiad y Cyngor, y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant sy’n gyfrifol am adolygu a sgriwtineiddio’r datganiad cyfrifon cyn i’r Cyngor ei fabwysiadu. Mae'r Datganiad yn ddogfen dechnegol sy'n cael ei chynhyrchu’n unol â rheoliadau cyfrifyddu ac arferion priodol mewn fformat rhagnodedig ac mae'n cynnwys y datganiadau ariannol a'r datgeliadau y mae’n rhaid i'r Cyngor eu cyhoeddi.
Cyfeiriodd y Swyddog at y datganiadau allweddol yn y ddogfen fel a ganlyn:
• Mae'r adroddiad naratif sy'n nodi cyd-destun y datganiadau ariannol, yn darparu canllaw i'r materion mwyaf arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon, gan gynnwys sefyllfa ariannol y Cyngor a'i berfformiad yn ystod y flwyddyn ynghyd â'r materion a'r risgiau sy'n effeithio ar y Cyngor. • Mae'r Datganiad o Symudiadau yn y Cronfeydd wrth Gefn (MIRS) yn dangos y symudiad yn ystod y flwyddyn yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi eu dadansoddi yn ôl y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio a’r rhai na fedrir eu defnyddio. Mae'r datganiad yn dangos gwir gost economaidd darparu gwasanaethau'r Awdurdod a sut y mae’r costau hynny'n cael eu hariannu gan y gwahanol gronfeydd wrth gefn. • Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) yn dangos y gost o ddarparu gwasanaethau yn y flwyddyn o safbwynt cyfrifyddu a hynny’n unol â’r arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol, yn hytrach na'r swm sydd i'w gyllido o’r trethi. • Mae'r Fantolen yn dangos gwerth yr asedau a'r rhwymedigaethau a gydnabyddir gan yr Awdurdod ar ddyddiad y Fantolen. Mae’r asedau net yn cael eu cyfatebu gan gronfeydd wrth gefn a ddelir gan yr Awdurdod. • Mae'r Datganiad Llif Arian yn dangos y newidiadau o ran arian parod y Cyngor a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod yn ystod y cyfnod yr adroddir arno. • Mae'r Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol craidd yn darparu mwy o fanylion am bolisïau ac eitemau cyfrifyddu'r Cyngor a gynhwysir yn y datganiadau. Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd angen gwneud unrhyw newidiadau o bwys i’r dulliau cyfrifyddu ar gyfer 2015/16. • Caiff y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2015/16 ei gynnwys gyda’r Datganiad Cyfrifon ac ynddo, nodir y trefniadau llywodraethiant a oedd ar waith yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2015 a Mawrth 2016 ac mae’n nodi pa mor effeithiol y mae'r Cyngor wedi cyflawni ei gyfrifoldebau yn unol â'i weledigaeth.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn fodlon gyda'r modd y cyflwynwyd y cyfrifon a chyda'r ffordd broffesiynol y cawsant eu cau’n unol â'r amserlen statudol.
Ystyriodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |