Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatagnaid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
(Dygir sylw’r Aelodau ar Baragraff 3.4.8.3.5 o Gyfansoddiad y Cyngor sy’n dweud –
Bydd y Pwyllgor Archwilio yn penodi ei Gadeirydd ac ni fydd y person hwnnw yn aelod o unrhyw un o’r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith ac eithrio pan fo’r holl grwpiau wedi eu cynrychioli ar y Pwyllgor Gwaith (a gall fod yn aelod cyfetholedig)
Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd R. Ll. Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
(Noder ei fod yn ofyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru bod yn rhaid i’r Is-Gadeirydd fodloni’r un gofynion â’r Cadeirydd h.y. ni fydd y person hwnnw yn aelod o unrhyw un o’r grwpiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith)
Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd John Griffith yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.
|