Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 490 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi – mewn perthynas ag eitem 9 yn y cofnodion, cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg nad oedd unrhyw newidiadau pellach i’r Cod Llywodraethu Lleol ac y byddai’r Cod yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 10 Mawrth, 2022.

 

3.

Diweddariad ar Recriwtio Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Risg ac Archwilio i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd at 25 Ionawr 2022, o ran recriwtio aelodau lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Yn fyr cafwyd crynodeb gan y Pennaeth Archwilio a Risg o ofynion y Ddeddf yn nhermau cyfansoddiad aelodaeth a gweithgareddau’r pwyllgor. Ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn mae hyn yn golygu y bydd rhaid cael pedwar aelod lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cadarnhaodd bod Mr Dilwyn Evans, sydd yn aelod lleyg ar hyn o bryd, wedi datgan ei fod yn fodlon gwasanaethau am ail dymor, felly bydd angen tri aelod lleyg ychwanegol. 

Cymerodd y Cyngor ran yng Ngrŵp Tasg a Gorffen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddatblygu ffurflen gais a hysbyseb ar gyfer recriwtio aelodau lleyg, yn ogystal â rhaglen hyrwyddo genedlaethol. Derbyniodd y Cyngor 13 ffurflen gais a dewisodd y panel llunio rhestr fer, a oedd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151, bedwar ymgeisydd i’w cyfweld . Bydd panel cyfweld yn cyfweld yr ymgeiswyr ym mis Chwefror 2022. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 a’r Dirprwy Brif Weithredwr.

Yn unol â Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn argymell penodi’r aelodau lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, 2022.

 

Penderfynwyd nodi’r cynnydd a wnaed o ran recriwtio’r tri aelod lleyg ychwanegol y mae eu hangen ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fis Mai 2022 ymlaen.

 

4.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 yn cynnwys y cynnwys y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol, y Datganiad ar y Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf Blynyddol, y Datganiad ar y Polisi Rheoli Trysorlys a’r cynlluniau cyfalaf a Dangosyddion Darbodus cysylltiedig.  

 

Mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn amlinellu strategaeth y Cyngor o ran benthyciadau a buddsoddiadau sy’n dilyn ymlaen o’r Strategaeth Gyfalaf, sy’n nodi’r cyfyngiadau ar fenthyca, yn pennu cyfres o ddangosyddion darbodus i sicrhau bod cynlluniau cyfalaf y Cyngor yn fforddiadwy ac yn penderfynu archwaeth risg a strategaeth y Cyngor mewn perthynas â rheoli ei fuddsoddiadau. Mae’r elfennau hyn yn ymdrin â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol.

 

Yn y bôn mae’r Strategaeth ar gyfer 2022/23 yn delio â dau brif faes - materion cyfalaf a materion rheoli trysorlys ac mae’n ystyried y ffactorau allweddol mewn perthynas â phob maes a’r modd y maent yn llunio’r strategaeth a dull Rheoli Trysorlys.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 nad oes newidiadau’n cael eu cynnig i’r egwyddorion craidd yn Natganiad 2021/22 ac amlygodd y canlynol –

 

·         Y cefndir economaidd (ynghlwm yn Atodiad 3) a’r rhagolygon cyfradd llog hyd at fis Mawrth 2025 a’r goblygiadau i’r Strategaeth Rheoli Trysorlys. 

·         Y rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 i 2024/25 fel y nodir yn nabl 3 yn yr adroddiad yn cynnwys gwariant cyfalaf arfaethedig, sut y caiff ei gyllido a’r balansau a fydd yn cael eu hariannu drwy fenthyca dros y tair blynedd.

·         Effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a’r Ddarpariaeth Refeniw Isaf (DRI) ar Ofyniad Cyllido Cyfalaf y Cyngor (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol fel y nodir yn Nhabl 4 yn yr adroddiad sy’n rhagweld cynnydd mewn benthyca allanol dros y tair blynedd nesaf ond sydd yn dal i fod oddi mewn i’r paramedrau derbyniol.

·         Mae’r strategaeth fenthyca yn cadarnhau sefyllfa o dan-fenthyca ar hyn o bryd ac mae angen mabwysiadu dull bragmatig i ymateb i amgylchiadau sy’n newid h.y. os teimlir bod risg sylweddol o gwymp sydyn yn y cyfraddau tymor byr a thymor hir yna bydd benthyciadau tymor hir yn cael eu gohirio, ac ystyrir newid o gyllido cyfradd sefydlog i fenthyca tymor byr os bydd yn gost-effeithiol i wneud hynny. I’r gwrthwyneb, os teimlir bod risg sylweddol o gynnydd llawer uwch yn y cyfraddau tymor hir a thymor byr nag a ragwelir ar hyn o bryd, yna byddai sefyllfa’r portffolio yn cael ei hailasesu.

·         Agwedd y Cyngor tuag at fenthyca ymlaen llaw i gwrdd â’i anghenion sy’n cadarnhau nad yw’r Cyngor yn benthyca dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Wrth benderfynu a ddylid benthyca cyn bod angen gwneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 7.4.2 yn yr adroddiad yn ofalus.

·         Mae’n annhebygol y gellir aildrefnu benthyciadau gan fod gwahaniaeth mawr iawn o hyd rhwng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Archwilio Allanol: Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hyn pdf eicon PDF 1009 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru a oedd yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor.  

 

Adroddodd Mr Jeremy Evans, Archwilio Cymru bod yr adolygiad wedi edrych ar y modd y gall aelodau o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru gydweithio i gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn (defnyddir y term cartrefi gofal i adlewyrchu pob math o gartrefi gofal preswyl a nyrsio mewn ystyr cyffredinol). Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) i rym ar 6 Ebrill 2016 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau a byrddau iechyd gydweithio i asesu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yn eu hardal. Sefydlodd y Ddeddf Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) i roi blaenoriaeth i integreiddio gwasanaethau gan gynnwys ar gyfer pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia. Yng Ngogledd Cymru, mae’r BPRh yn cynnwys y partneriaid statudol – Cynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Yn gynnar yn 2020, fe wnaeth Archwilio Cymru nodi bod mynd ati’n strategol i gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn risg i gynghorau a’r Bwrdd Iechyd am y rhesymau a nodwyd ym mharagraff 5 yn yr adroddiad. Cwblhawyd gwaith maes ym mis Chwefror a Mawrth 2021 ac wrth dynnu’r negeseuon ynghyd canfuwyd bod y fframweithiau polisi a deddfwriaeth yn arwain at ffordd o weithio sydd yn effeithio ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau. Er na chynhaliwyd adolygiad o’r Byrddau Partneriaeth yng Nghymru, disgwylir y bydd nifer o’r canfyddiadau a heriau a amlygwyd yn yr adolygiad ar gyfer Gogledd Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n genedlaethol i ryw raddau.

 

Mae’r negeseuon allweddol a chasgliadau cyffredinol yr adolygiad fel a ganlyn –

 

·         Mae partneriaid yn cydweithio i ddarparu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau agored i niwed ond maent yn cario risgiau sylweddol sy’n gysylltiedig â sefydlogrwydd y farchnad, y gweithlu, a threfniadau cyn lleoli, ynghyd â dibyniaeth ar brynu ar y pryd.

·         Roedd Datganiad Siapio’r Farchnad a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn 2018 yn nodi rhai dyheadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal yr ychwanegwyd atynt gan ymateb y BPRh i ‘Cymru Iachach’ yn 2019; fodd bynnag, nid yw’r naill na’r llall o’r rhain wedi llywio datblygiad strategaeth ranbarthol eglur ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yng Ngogledd Cymru na chynllun cyflawni i fwrw ymlaen â’r dyheadau a nodwyd.

·         Er bod rhwydwaith y BPRh yn dod â phartneriaid ynghyd i ‘feddwl yn rhanbarthol’, mae ei strwythurau, a bennwyd i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helaeth a chymhleth, ac mae angen cryfhau llinellau atebolrwydd.

·         Mae strwythurau ffioedd a bennir yn genedlaethol yn gymhleth ac yn arwain at ffocws sylweddol ar gost sy’n achosi rhwyg ymhlith partneriaid ac sydd â’r potensial i effeithio’n andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.

·         Mae angen i bartneriaid wneud mwy i ddangos  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Archwilio Allanol: Llythyr mewn perthynas â Threfniadau Gwrth-Dwyll pdf eicon PDF 496 KB

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

 

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg ynglyn â mynd i’r afael ag argymhellion Archwilio Cymru mewn perthynas ag atal twyll.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd llythyr gan Gyfarwyddwr Ymgysylltu Archwilio Cymru, dyddiedig 19 Mawrth, 2020 i’r Prif Weithredwr mewn perthynas â threfniadau gwrth-dwyll i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Gosododd Mr Jeremy Evans y llythyr yn ei gyd-destun, sef adolygiad ar lefel uchel o drefniadau gwrth-dwyll ar draws 40 o sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys pob un o’r 22 awdurdod lleol. Diben yr adolygiad oedd canfod a yw’r trefniadau ar gyfer atal a darganfod twyll yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol. Roedd y gwaith maes lleol yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys gwerthusiad ar lefel uchel o drefniadau gwrth-dwyll y Cyngor, yn seiliedig ar adolygu dogfennau, hunanasesiad a gwblhawyd gan y Cyngor, a rhai cyfweliadau gyda swyddogion perthnasol.

 

Ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Ymgysylltu at y Prif Weithredwr i nodi rhai o ganfyddiadau allweddol yr adolygiad yn fwy ffurfiol oherwydd bod cyfleoedd i gryfhau trefniadau gwrth-dwyll y Cyngor wedi dod o’r amlwg er y cydnabuwyd bod adnoddau’r Cyngor yn gyfyngedig. Roedd o’r farn y byddai’r Cyngor yn elwa o’r canlynol –

 

·         diweddaru’r polisïau a chynlluniau perthnasol yn cynnwys y polisi gwrth-dwyll a llygredigaeth a’r cynllun ymateb i dwyll;

·         hyrwyddo diwylliant gwrth-dwyll da a chodi ymwybyddiaeth o dwyll ymhlith staff;

·         cynnal asesiad risg cynhwysfawr o dwyll;

·         ystyried y risg o dwyll fel rhan o’r broses gyffredinol o reoli risg;

·         datblygu rhaglen flynyddol o waith gwrth-dwyll rhagweithiol sy’n ymdrin â’r risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg;

·         cyfleu’n glir y strwythur, y rolau a’r cyfrifoldeb mewn perthynas ag atal twyll er mwyn sicrhau bod pawb yn deall y llinellau atebolrwydd yn glir;

·         ystyried system gorfforaethol o reoli achosion;

·         ystyried defnyddio dadansoddiadau data’n rheolaidd i ddilysu data; 

·         ystyried ffyrdd o ddarparu lefel briodol o wybodaeth yn ymwneud â thwyll ar gyfer y Pwyllgor Archwilio, a sut y gall y Pwyllgor Archwilio gymryd rôl ragweithiol mewn hyrwyddo materion gwrth-dwyll; 

 

·         Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn nodi ymateb y Cyngor i’r llythyr gan Gyfarwyddwr Ymgysylltu Archwilio Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Bu i’r Pennaeth Archwilio a Risg gadarnhau bod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r argymhellion a’i fod ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Eglurodd bod y llythyr gan Archwilio Cymru wedi’i dderbyn ar ddechrau’r pandemig  Covid 19 wedi i bob darn o waith nad oedd yn hanfodol gael ei ohirio ac wedi i staff Archwilio Mewnol gael eu hadleoli o fewn y Cyngor. Fodd bynnag, cyflwynwyd  y Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd i’r Pwyllgor a chafodd ei gymeradwyo ganddo yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, 2021 ac mae’n ymdrin â’r holl faterion a godwyd gan Archwilio Cymru ac eithrio caffael system rheoli achosion. Ystyrir had yw hynny’n berthnasol i Ynys Môn gan nad yw nifer yr achosion (un neu ddau achos bob blwyddyn) yn cyfiawnhau’r gost o gaffael system rheoli achosion ac ni fyddai’n cynrychioli gwerth gorau am arian. Hefyd, mae’r polisi ar gyfer Atal Twyll a Llwgrwobrwyo yn rhan o Gyfansoddiad y Cyngor ac o’r herwydd mae’r polisi’n cael ei adolygu’n flynyddol fel rhan o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Archwilio Allanol: Adfywio Canol Trefi yng Nghymru - Argymhellion ac Ymateb pdf eicon PDF 7 MB

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

 

·        Cyflwyno ymateb y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor a oedd yn amlygu prif ganfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn rheoli ac yn adfywio canol eu trefi.

 

Amlinellodd Mr Mathew Brushett, Archwilio Cymru gyd-destun yr adroddiad a’r dull a methodoleg archwilio a oedd yn cynnwys edrych ar nifer o raglenni adfywio a strategaethau adfywio presennol ledled cynghorau yn ogystal â chyfweld swyddogion adfywio arweiniol. Roedd yr holl dystiolaeth a oedd yn sail i’r adolygiad ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Cynhyrchwyd offeryn adolygu i alluogi cynghorau i hunanasesu eu dulliau presennol a nodi meysydd lle mae angen gwaith pellach ynghyd ag offeryn data rhyngweithiol.

 

Mae negeseuon allweddol a chasgliadau cyffredinol yr adolygiad fel a ganlyn–

 

·         Mae canol trefi wrth wraidd bywyd Cymru ac maent yn gallu bod yn lleoedd bywiog a chynaliadwy, ond mae mynd i'r afael â'r heriau lawer sy’n eu hwynebu yn mynnu penderfyniadau dewr ac arweinyddiaeth uchelgeisiol;

·         Mae twf mannau manwerthu y tu allan i’r dref, colli 'gwasanaethau hanfodol' fwyfwy o ganol trefi – banciau, swyddfeydd post a gwasanaethau cyhoeddus – a thwf siopa ar-lein wedi cyfrannu at ddirywiad cyson llawer o ganol trefi. Ac mae'r pandemig wedi ychwanegu at y problemau hyn.

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn uniongyrchol yn ystod y saith mlynedd diwethaf i helpu i adfywio canol trefi. Er y cyllid hwn, mae canol trefi'n aml mewn trafferth.

·         Mae adfywio canol trefi yn flaenoriaeth genedlaethol o hyd, ond nid yw polisi 'canol tref yn gyntaf' Llywodraeth Cymru wedi'i wreiddio'n llawn eto.

·         Awdurdodau lleol yw'r cyrff cyhoeddus allweddol i helpu i adfywio canol trefi, ond yn aml nid oes ganddynt allu na sgiliau i gyflawni'r adfywio cynaliadwy sydd ei angen.

·         Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i flaenoriaethu ac arwain ar gynllunio lleoedd, ond mae angen iddynt fod yn glir ynghylch diben canol eu trefi a chynnwys partneriaid yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector, cynghorau tref a chymuned, cymunedau a busnesau mewn penderfyniadau.

·         Bydd yn rhaid hefyd i awdurdodau lleol ymyrryd mwyfwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi.

 

Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ledled Cymru sydd wedi’u nodi yn Arddangosyn 3 ond gellir eu crynhoi fel hyn –

 

·         Dylai Llywodraeth Cymru adolygu Ardrethi Annomestig er mwyn sicrhau bod y system yn adlewyrchu amodau canol trefi yn well pan ddaw gwyliau'r taliadau i ben ym mis Mawrth 2022

·         Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i adolygu heriau trafnidiaeth sy'n wynebu canol trefi a chytuno ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r rhain

·         Dylai Llywodraeth Cymru hwyluso mynediad awdurdodau lleol at gyllid drwy liflinio a symleiddio prosesau ac amodau grantiau; darparu dyraniadau aml-flwyddyn; darparu cymorth refeniw yn ogystal â chyfalaf i helpu i fynd i'r afael â phrinderau sgiliau a chapasiti staff

·         Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau gorfodi, cymorth ariannol ac adennill dyledion sy'n bodoli eisoes yn effeithiol a chyson, i gefnogi gwaith adfywio ar draws adrannau.

·         Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae'n bwriadu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Archwilio Allanol: Crynodeb Archwilio Cyngor Sir Ynys Môn 2021 pdf eicon PDF 255 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Crynodeb Archwilio Blynyddol 2021 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn gan Archwilio Cymru er gwybodaeth i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf (ar gyfer 2020) a gyhoeddwyd yn Chwefror 2021 ac roedd yn rhoi crynodeb o ganlyniad pob darn o waith. 

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2021.

 

9.

Archwilio Allanol: Rhaglen ac Amserlen Archwilio Cymru - Diweddariad Chwarterol CSYM Rhagfyr, 2021 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd diweddariad ar Raglen Waith Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn fel ac yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2021 er gwybodaeth i’r Pwyllgor.  Roedd y diweddariad yn dangos statws pob darn o waith sydd gan Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ar y gweill ar hyn o bryd ynghyd â’r dyddiadau cyhoeddi yn ogystal â chadarnhau’r gwaith a gwblhawyd a’r gwaith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2021/22 yn y Cyngor ac yn genedlaethol.

 

Penderfynwyd nodi’r diweddariad chwarterol a Raglen ac Amserlen Archwilio Cymru fel ac yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2021.

 

10.

Adroddiad Yswiriant Blynyddol 2020/21 pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2020/21 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y modd y mae’r Cyngor wedi rheoli ei weithgareddau yswiriant dros y pum mlynedd diwethaf a’r heriau wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant drosolwg o’r crynodeb o hawliadau a geir yn Atodiad A yn yr adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o bob polisi, yn ôl pob blwyddyn ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd o’r nifer o hawliadau sydd wedi cael eu talu, cael eu setlo heb unrhyw gostau na thaliadau, neu lle nad yw’r hawliad wedi ei setlo hyd yma.

Pwysleisiwyd na fydd yr holl hawliadau sydd ‘dal yn agored’ ac sydd ag arian wrth gefn yn eu herbyn yn cael eu talu neu eu setlo yn unol â’r swm wrth gefn sydd yn er herbyn. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer hawliadau atebolrwydd; bydd hawliadau ag arian wrth gefn mawr yn eu herbyn yn aml yn cael eu setlo am symiau llawer is neu am ddim costau o gwbl. Gall nifer yr hawliadau hefyd gynyddu dros amser, oherwydd mewn rhai achosion, mae hawliadau yn cael eu cyflwyno nifer o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Ar hyn o bryd mae pedwar hawliad atebolrwydd cyhoeddus, sy'n ymwneud â chyfnodau cyn y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymdrin ag o, yn dal i fod yn agored ac mae'r cyfanswm wrth gefn ar gyfer y pedwar hawliad hwn yn cyfateb i tua £215k.

 

Mae rhai o’r pwyntiau allweddol y dylid eu nodi yn cynnwys y canlynol –

 

·         Mae’r Cyngor yn defnyddio cyfuniad o hunain yswiriant ac yswiriant allanol er mwyn diogelu yn erbyn canlyniadau ariannol risg. Mewn rhai achosion mae’r Cyngor wedi trefnu yswiriant allanol ond yn hunain yswirio canran fawr o’r hawliadau sydd wedi eu talu drwy ddewis talu swm cychwynnol mawr (excess).

·         Yn 2021/2022 roedd y premiwm yswiriant a dalwyd oddeutu £718.5k (cynnodd o 8% ers 2020/21) gan gynnwys £73k o Dreth Premiwm Yswiriant. Er bod cyfran o hyn yn ymwneud â ffactorau chwyddiant, bu cynnydd yn y gyfradd hefyd yn dilyn colledion gan yswirwyr yn fyd-eang o ganlyniad i hawliadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd (ac felly ni ddylid eu hystyried yn benodol i Ynys Môn

·         Mae nifer yr hawliadau am anaf personol a gyflwynir gan weithwyr yn parhau'n isel ar ddwy neu dair y flwyddyn dros y cyfnod o 5 mlynedd.

·         Mae nifer yr hawliadau atebolrwydd cyhoeddus wedi parhau i ostwng dros y pum mlynedd diwethaf; tra bo cyfran uchel o’r hawliadau hyn yn gysylltiedig ag anaf i ddefnyddiwr y ffordd neu ddifrod i gerbydau eraill ar y briffordd yn hanesyddol maent yn parhau'n isel gyda dim ond 10 hawliad o'r fath wedi'u gwneud ers mis Ebrill 2021. Er mai ychydig iawn o hawliadau a wnaed yn erbyn unrhyw wasanaeth arall, mae rhai hawliadau gyda swm wrth gefn uchel. Mae'r rhain yn cynnwys hawliadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, a hawliad sy’n ymwneud â'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 417 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i’w ystyried gan y Pwyllgor a oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith yr adain Archwilio Mewnol ers y diweddariad diwethaf ar 1 Rhagfyr, 2021. Roedd yr adroddiad yn nodi’r archwiliadau a gwblhawyd yn ystod y cyfnod, llwyth gwaith presennol yr adain Archwilio Mewnol a’i blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig. 

 

Amlygodd y Pennaeth Archwilio a risg ddau adroddiad archwilio yn ystod y cyfnod dan sylw - rhoddwyd Sicrwydd Rhesymol i un - Llywodraethu Gwybodaeth - a chodwyd 2 risg/mater sylweddol a 5 risg/mater cymedrol ac mae’r manylion ar gael ym mharagraffau 3 i 11 yn yr adroddiad, a rhoddwyd Sicrwydd Cyfyngedig i’r llall - Rheoli Trwyddedau Meddalwedd - sy’n un o dri darn o waith y mae tîm Archwilio TG Cyngor Dinas Salford yn ei gwblhau ar ein rhan a chodwyd un mater/risg sylweddol a 9 mater/risg cymedrol. Ceir rhagor o fanylion ym mharagraffau 12 i 16 yn yr adroddiad. Mae cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r materion/risgiau a nodwyd wedi cael ei gytuno ac mae wedi cael ei rannu ag aelodau’r Pwyllgor; mae bwriad y Cyngor i symud i gymwysiadau “Cwmwl” ar gyfer rhai o’i raglenni busnes gritiol yn rhoi sicrwydd y gellir lliniaru rhai o’r risgiau a nodwyd.

 

Mae’r chwe archwiliad a nodwyd yn y tabl ym mharagraff 17 yn mynd rhagddynt ynghyd â’r gwaith o ymchwilio i’r garfan gyntaf o ganlyniadau paru’r Fenter Twyll Genedlaethol ar gyfer 2020/21 a gafodd eu rhyddhau ym mis Ionawr, 2021.  Ar 1 Chwefror, 2022 roedd 18 o gamau gweithredu heb eu cwblhau (8 sylweddol a 10 cymedrol) ac roedd pob un yn dod o dan y Gwasanaethau Adnoddau ac yn ymwneud â materion/risgiau a godwyd yn ystod y pedwar archwiliad a restrwyd ym mharagraff 27 yn yr adroddiad. Mae’r adain archwilio Mewnol yn gweithio gyda’r gwasanaeth i’w cynorthwyo i gwblhau’r camau. Mae blaenoriaethau tymor canolig yr adain Archwilio Mewnol wedi’u nodi ym mharagraffau 30 i 32 yn yr adroddiad ac maent yn canolbwyntio ar adolygu’r risgiau coch ac ambr gweddilliol ar y Gofrestr Risgiau Strategol, fel y mae’n cael ei galw erbyn hyn, nad ydym wedi eu hadolygu eto neu sydd heb gael eu hadolygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r Strategaeth Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer 2022/23 hefyd wrthi’n cael ei datblygu.  Yn y tymor hwy bydd yr adain Archwilio Mewnol yn ymdrechu i ddiwallu’r Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd ar gyfer 2021-24, gweithio gyda chydweithwyr yn y Tîm Perfformiad i wella’r gwaith mapio sicrwydd ledled y Cyngor a chyfrannu at ddatblygu Adolygiad Perfformiad, a pharatoi ar gyfer yr Asesiad Ansawdd Allanol ym mis Mehefin, 2022. Hefyd, yn dilyn cyhoeddi adroddiad terfynol ar Reoli Cronfeydd Answyddogol Ysgolion, mae’r adain Archwilio Mewnol wedi bod yn gweithio i ddiweddaru’r ddogfen ganllaw, darparu hyfforddiant i benaethiaid a llywodraethwyr a chynnal gwiriadau sicrhau ansawdd o’r tystysgrifau a gyflwynwyd gan ysgolion.  

 

Roedd ymateb y swyddogion i gwestiynau’r Pwyllgor fel a ganlyn –

 

·         Mewn perthynas â’r sicrwydd cyfyngedig a roddwyd yn dilyn yr adolygiad o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 241 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor a oedd yn cynnwys y Blaen Raglen Waith sydd wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau  o ganlyniad i lwyth gwaith a/neu ffactorau eraill.

 

Penderfynwyd nodi’r mân newidiadau i’r Blaen Raglen Waith diwygiedig ar gyfer 2021-22.

 

13.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol -

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd.

 

 

14.

Diweddariad Rheoli Risg

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i’w ystyried gan y Pwyllgor a oedd yn eu diweddaru ynglŷn â’r sefyllfa o ran rheoli risg. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r datblygiadau rheoli risg ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf ar y gofrestr risgiau corfforaethol i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2020 ac roedd yn cynnwys y gofrestr risgiau strategol newydd yn Atodiad C.

 

Adroddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) wedi adolygu’r gofrestr yn ei chyfanrwydd ers i’r gofrestr risg gorfforaethol gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor diwethaf a bod yr UDA wedi penderfynu canolbwyntio ar y risgiau hynny a fyddai’n arwain at gyflawni blaenoriaethau strategol, ac felly mae cofrestr risgiau strategol newydd, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau corfforaethol, wedi cael ei datblygu yn lle’r gofrestr risgiau corfforaethol. Mae’r matrics asesu risg (ynghlwm yn atodiad B) hefyd wedi cael ei adolygu ac mae’r disgrifyddion “tebygolrwydd” wedi cael eu diwygio yn ogystal â rhai o’r disgrifyddion “effaith”. Mae’r gofrestr risgiau strategol newydd yn cynnwys 14 risg sef hanner y risgiau ar y gofrestr risgiau corfforaethol ac mae pob risg yn cael ei harwain gan aelod penodol o’r UDA. Cynhaliwyd adolygiad manwl o eiriad, sgoriau/blaenoriaethau, mesurau rheoli a chamau gweithredu pellach gyda pherchennog pob risg newydd er mwyn eu lliniaru; yna fe wnaeth yr UDA adolygu’r gofrestr risgiau strategol yn ei chyfanrwydd.

 

Bydd yr UDA yn parhau i adolygu nifer fach o risgiau strategol yn fisol a bydd yn adolygu’r gofrestr risgiau strategol yn ei chyfanrwydd pob dwy flynedd. Mae’r risgiau hynny sydd yn gyffredin mewn sawl maes gwasanaeth (e.e. mewn perthynas â chydweithio a gweithio mewn partneriaeth, contractau iechyd a diogelwch, absenoldebau salwch a thwyll) wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr ac os nad ydi hynny wedi digwydd yn barod byddant yn cael eu cynnwys at gofrestr risgiau gwasanaethau unigol. Mae’r UDA yn cydnabod fodd bynnag y gall y risgiau hyn gyda’i gilydd cael effaith sylweddol ar y Cyngor cyfan ac felly bydd yn monitro’r risgiau hyn fel rhan o’i drefniadau monitro perfformiad arferol.

 

Mae’r UDA wedi nodi pum risg gweddilliol coch/critigol i gyflawni amcanion corfforaethol a strategol y Cyngor ac mae’r rhain yn ymwneud â rheoli’r gweithlu, parhad TG, diogelwch seiber, moderneiddio ysgolion ac addasrwydd parhaus asedau ffisegol.

Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r gofrestr risgiau strategol sydd yn symlach ac yn fwy trefnus na’r gofrestr risgiau corfforaethol flaenorol ac yn haws i’w deall o ran y risgiau mwyaf sylweddol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Trafodwyd effeithiolrwydd y mesurau rheoli o ran lleihau’r tebygolrwydd ac effaith yn ogystal â digonolrwydd y mesurau rheoli mewn perthynas â moderneiddio ysgolion gan nodi nad oes ffordd benodol o fesur y cyflenwad a’r galw mewn perthynas â lleoedd ysgolion.  Cynghorwyd y Pwyllgor bod y mesurau rheoli a amlinellwyd ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ddigonol i gwrdd â’r risg a nodwyd ar yr adeg hon yn ôl perchennog y risg. 

 

Penderfynwyd nodi’r trefniadau a wnaed mewn perthynas â rheoli risg ac yn benodol y gofrestr risgiau strategol ac i gadarnhau y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol -

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd.

 

16.

Adroddiad Diogelwch Seiber Blynyddol 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Diogelwch Seiber Blynyddol ar gyfer 2021 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi’r bygythiadau seiber cyffredin sy’n wynebu’r Cyngor ac yn amlinellu’r mesurau lliniarol a gweithredol sydd ar waith i ganfod ac atal gweithgareddau maleisus.

 

Rhoddodd y Swyddog Diogelwch Seiber TGCh drosolwg o brif negeseuon yr adroddiad yn cynnwys yr heriau diogelwch seiber sylweddol a wynebwyd gan y Cyngor yn 2021 a’r modd yr aethpwyd i’r afael â’r rhain a/neu'r modd y cawsant eu datrys. Cynghorwyd y Pwyllgor bod gan y Cyngor bob math o dechnolegau i helpu i ganfod a/neu atal ymosodiadau seiber ar y rhwydwaith a bod yr holl fesurau sydd yn eu lle yno i gryfhau diogelwch seiber y Cyngor. Yn ystod y flwyddyn mae’r Gwasanaeth TG wedi penodi dau aelod newydd o staff sy’n gweithio’n benodol i ganfod, adfer ac atal gwendidau o fewn rhwydwaith y Cyngor. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn y broses o gaffael technolegau ychwanegol i helpu i ganfod gwendidau neu ddigwyddiadau tresmasu yn gynnar a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r technolegau sydd eisoes ar waith. Hefyd, mae polisïau a gweithdrefnau wedi cael eu diweddaru yn ystod 2021 er mwyn helpu i atgyfnerthu’r broses ymchwiliol wrth ymateb i ddigwyddiadau.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhywfaint o heriau wrth symud ymlaen o ran delio â chynnydd yn y math yma o fygythiadau a bygythiadau seiber mwy soffistigedig a’r angen i fynd ati’n barhaus i adolygu a diweddaru dulliau a’r adnoddau sydd eu hangen.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi cynnwys yr Adroddiad Diogelwch Seiber Blynyddol ar gyfer 2021.