Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 8fed Rhagfyr, 2022 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 437 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol  

 

·         28 Medi, 2022

·         20 Hydref, 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd 28 Medi, 2022, a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y canlynol -

 

·          Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 28 Medi, 2022 -

 

·           Mewn perthynas â Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’n gwneud ymholiadau i gadarnhau a anfonwyd llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu sicrwydd ar gais ei Swyddog, gan gynnwys fod y Llythyr Blynyddol wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

·           Mewn perthynas â datganiadau ariannol 2021/22 yr Awdurdod, a’r materion nad oeddent wedi eu datrys yr adroddwyd amdanynt yn flaenorol, a oedd yn atal cwblhau archwiliad datganiadau ariannol yr awdurdod hwn, ac awdurdodau eraill yng Nghymru, rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) Swyddog Adran 151 ddiweddariad ar y sefyllfa, a’r camau y’u dilynwyd hyd yn hyn i oresgyn y materion hynny, a chadarnhaodd fod y camau a gymerwyd wedi cynnwys gweithredu newid i’r Cod Ymddygiad gan CIPFA a chyhoeddi Cyfarwyddyd Statudol gan Lywodraeth Cymru fel nad oedd angen cydymffurfio â’r Cod mewn perthynas ag un o’r materion, fyddai’n galluogi’r cyfrifon i gael eu cwblhau. O ganlyniad i hyn, disgwylir y bydd archwiliad cyfrifon yr Awdurdod wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Ionawr, 2023, gyda’r cyfrifon yn cael eu cwblhau mewn pryd ar gyfer terfyn amser diwygiedig Newydd Llywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Ionawr.

 

·        Yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 20 Hydref, 2022 -

 

Eglurodd Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru mewn perthynas â’r trydydd pwynt bwled dan y materion a godwyd gan y Pwyllgor yn ymwneud ag adroddiad Llamu Ymlaen Archwilio Allanol, bod yr adolygiad Llamu Ymlaen wedi’i gynnal ym mhob 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a bod adroddiad lleol wedi’i ddarparu ar gyfer bob achos. Felly, roedd yr adroddiad a’r argymhellion a gyflwynwyd yn y cyfarfod ar 20 Hydref yn benodol i Gyngor Sir Ynys Môn. Dywedodd Mr Hughes, gan nad oedd yn y cyfarfod pan gyflwynwyd yr adroddiad, y byddai’n gallu ateb cwestiynau yn ymwneud â’r adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol, neu yn ôl dymuniad y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Alan Hughes am yr eglurhad, a gofynnodd i’r aelodau gyfeirio unrhyw gwestiynau a oedd ganddynt am yr adroddiad Llamu Ymlaen yn uniongyrchol at Mr Hughes y tu allan i’r cyfarfod hwn.

 

3.

Adolygiad o Adroddiadau Archwilio Cymru a Zurich Risk Engineering yn ymwneud ag Ymateb i Newid Hinsawdd yn y Sector Cyhoeddus a Chyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr, a oedd yn cynnwys dadansoddiad gan y Cyngor o’r argymhellion a wnaed yn adroddiadau Archwilio Cymru a Zurich Risk Engineering mewn perthynas â’r ymateb i newid hinsawdd, ynghyd â’r camau a gafodd eu crybwyll gan y Cyngor i gryfhau ei agwedd tuag at newid hinsawdd, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd llythyr gan Archwilio Cymru hefyd wedi’i atodi a oedd yn cynnwys diweddariad a chrynodeb o gynnydd datgarboneiddio’r Cyngor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd, adroddiad a oedd yn cynnwys adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar barodrwydd y sector cyhoeddus i fod yn sero net carbon erbyn 2030 ac adroddiad gwirio iechyd hinsawdd gan Zurich Risk Engineering, a gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor fel asesiad dechreuol o ymateb yr Awdurdod i newid hinsawdd. Croesawodd y ddau adroddiad a thynnodd sylw at ymateb y Cyngor sy’n adnabod newidiadau fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod byr, canolig a hir er mwyn sicrhau bod ei agwedd ar newid hinsawdd yn addas at ei ddiben.

 

Ar y cyfan, mae’n deg dweud bod y Cyngor ar y trywydd cywir o ran ei agwedd at fod yn garbon sero net hyd yma, ac mae Cynllun Tuag at Sero Net y Cyngor yn adnabod y llwybr ymlaen ar gyfer y Cyngor gyda’i feysydd rhaglen penodol. Fodd bynnag, rhaid dod i’r casgliad hwn gan gofio bod angen camau a newidiadau sylweddol er mwyn i’r Cyngor gyflawni ei darged sero net mewn modd realistig.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cyd-destun gan nodi fod y Cyngor wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi, 2020, a gwnaeth ymrwymiad i ddod yn Gyngor sero net erbyn 2030. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mabwysiadwyd Cynllun Sero Net gan y Cyngor ym mis Mawrth, 2022; mae cyllid hefyd wedi’i neilltuo at ddibenion newid hinsawdd ac mae swydd fel Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd wedi cael ei chreu er mwyn cydlynu a gyrru’r newidiadau ymlaen ar lefel gorfforaethol. Er bod cynnydd sylweddol wedi digwydd, mae’r Cyngor yn cydnabod ei fod yn ystod y cyfnodau cynnar o’r daith tuag at gyflawni sero net. Er gwaethaf ei benderfynoldeb a’i ddyhead i weithredu a chyfrannu at ddatgarboneiddio, mae’r Cyngor yn cydnabod, oherwydd y sefyllfa ariannol heriol, bydd cyflawni’r targed sero net yn heriol, ac oherwydd hyn, ni ellir rhagweld gydag unrhyw sicrwydd y bydd y targed yn cael ei gyflawni erbyn 2030, er y gellir sicrhau’r Pwyllgor y bydd y Cyngor yn parhau i weithio at y canlyniad hwnnw. Mae rhan hanfodol o waith yn mynd rhagddo, sef creu llinell sylfaen fydd yn helpu’r Cyngor i ddeall ei sefyllfa bresennol, ac ar y sail honno, datblygu targedau penodol a monitor cynnydd; gan fod y llinell sylfaen yn blaenoriaethu ymyraethau, buddsoddiadau a newidiadau, bydd yn helpu i fesur eu heffaith o ran allyriadau carbon a’r amgylchedd. Mae ymgorffori camau gweithredu dros yr hinsawdd o fewn gweithgareddau a phrosesau dyddiol y Cyngor yn cynnwys newid diwylliant a chyflwyno elfen newydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Strategaeth Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2022-2025 pdf eicon PDF 530 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, sy’n ymgorffori Strategaeth Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2022- 2025 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi’r gweithgarwch y bydd y gwasanaeth Archwilio Mewnol yn ei gwblhau yn ystod 2022-2025 er mwyn lleihau’r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd o fewn y Cyngor, ac yn ei erbyn.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai diben y strategaeth yw sicrhau bod Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud popeth o fewn ei allu i ymdrin â’r bygythiad hwn, a lleihau’r risg o dwyll neu lygredd; yn ystod cyfnod lle mae mwy a mwy o bwysau ariannol, mae’n bwysicach nag erioed i bob corff cyhoeddus yng Nghymru geisio lleihau’r risg o golledion drwy dwyll. Rhoddodd drosolwg o feysydd risg twyll presennol a rhai newydd, ac ystyrir bod twyll seiber ymhlith y meysydd risg mwyaf; mae hyn wedi’i gydnabod gan Gyngor Sir Ynys Môn, ac o ganlyniad, mae wedi’i gynnwys ar gofrestr risg strategol y Cyngor. Wrth lunio’r strategaeth, rhoddwyd ystyriaeth i God Ymddygiad 2014 CIPFA o ran Rheoli Risg Twyll a Llygredd, sy’n nodi’r arfer gorau ar gyfer gwaith atal twyll o fewn llywodraeth leol, yn seiliedig ar bum egwyddor sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Mae’r strategaeth hefyd wedi cyfeirio at gyhoeddiad mwy diweddar sydd hefyd wedi’i gefnogi gan CIPFA, sef dogfen “Fighting Fraud and Corruption Locally: A Strategy for the 2020s”, sef y strategaeth atal twyll a llygredd holl-gyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr, sydd wedi cael ei defnyddio fel sylfaen ar gyfer ffocws strategol yr Awdurdod. Bydd cynnydd yn erbyn y strategaeth a’r gweithgareddau gofynnol er mwyn cyflawni ei amcanion, fel y’u nodwyd yn Atodiad 2, yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac yn destun adolygiad parhaus.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr Awdurdod yn fwyaf agored i risgiau seiber, fel sawl awdurdod lleol arall. Cyfeiriodd at adroddiad gan Archwilio Cymru a oedd yn rhybuddio yn erbyn hunanfoddhad o ran maint yr awdurdod, gan nodi bod bygythiadau seiber yn dreiddiol ac yn parhau i ddatblygu. Yn gyffelyb i ysgolion, lle mae ymosodiadau seiber hefyd ymhlith y risgiau mwyaf, mae sicrhau bod systemau’n cael eu hadfer a’u diweddaru’n rheolaidd, a bod personél ysgolion wedi’u hyfforddi i fod yn ymwybodol o sgamiau, yn hollbwysig.

 

Argymhellodd y Cadeirydd y byddai’n defnyddio cynnwys “datgeliad” yn amcanion y strategaeth hefyd.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi strategaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer atal twyll, llwgrwobrwyo a llygredd ar gyfer 2022-202.

 

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn o Reoli'r Trysorlys pdf eicon PDF 804 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli’r trysorlys a’r sefyllfa bresennol i’w ystyried gan y Pwyllgor. Ysgrifennwyd yr adroddiad yn unol â gofynion Cod Ymddygiad CIPFA ar Reoli Trysorlys (diwygiwyd 2017) a rhoddodd ddiweddariad ynghylch y sefyllfa yng ngoleuni’r newidiadau cyllidebol a’r sefyllfa economaidd sydd eisoes wedi’u cymeradwyo.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod strategaeth buddsoddi’r Cyngor yn parhau i ddiogelu cyfalaf a datodiad a chynnal lefel briodol o adenillion sy’n cyd-fynd â pharodrwydd y Cyngor i dderbyn risg. Yn y sefyllfa economaidd bresennol, ystyrir ei bod yn briodol gwneud buddsoddiadau tymor byr er mwyn bodloni anghenion llif arian, ond hefyd er mwyn gweld y gwerth sydd ar gael mewn cyfnod o hyd at 12 mis, gyda sefydliadau ariannol â chyfradd credyd uchel. Darparwyd rhestr lawn o fuddsoddiadau dyddiedig 30 Medi, 2022, yn Atodiad 3, a chrynodeb o fuddsoddiadau a chyfraddau yn Atodiad 4. Mae’r tabl yn adran 5.7 o fewn yr adroddiad yn dangos rhestr o fuddsoddiadau a wnaed yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, a gan gofio bod diogelwch cronfeydd yn ddangosydd allweddol i’r Cyngor a bod diffyg galw gan awdurdodau lleol eraill, ystyrir mai cyfrifon galw banc yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian. Ni thorrwyd y cyfyngiadau cymeradwyedig o fewn y Strategaeth Buddsoddi Blynyddol yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn; fodd bynnag, yn sgil balansau arian uwch a galw gan awdurdodau lleol eraill, gofynnir bod y cyfyngiad benthyca ar gyfer awdurdodau eraill yn codi o £5 miliwn i £10 miliwn, er budd y cyfleoedd buddsoddi gorau posibl. Adenillion o fuddsoddi’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 yw £200k, gyda disgwyl i’r gyllideb fynd y tu hwnt i’r llwyddiant a ddisgwylir erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r cynnydd mewn cyfraddau llog wedi arwain at enillion gwell, a bydd yn cynyddu lefel yr incwm buddsoddiad y mae’r Cyngor yn gallu cyllidebu ar ei gyfer, a’i gyflawni yn 2023/24.

 

Mae’r Cyngor yn parhau i gynnal strategaeth ar gyfer defnyddio balansau arian sydd ar gael lle y bo’n bosibl er mwyn cefnogi gwariant cyfalaf. Mae’r Cyngor wedi rhagamcanu benthyciadau diwedd blwyddyn o £122.7 miliwn, a bydd wedi defnyddio £24.2 miliwn o gronfeydd llif arian yn hytrach na benthyca. Ni fenthycwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, ac ni ragwelir y bydd angen benthyca unrhyw arian yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Mae’r rhaglen gyfalaf yn cael ei hadolygu’n rheolaidd oherwydd effeithiau pwysau chwyddiannol a phrinder deunyddiau a llafur, a bydd strategaeth y Cyngor hefyd yn cael ei hadolygu’n rheolaidd, a’i diwygio os yn berthnasol, er mwyn cyflawni’r gwerth gorau ac amlygiad risg hir dymor.

 

Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i bennu’r cyfyngiadau benthyca fforddiadwy, a’u hadolygu. Yn ystod yr hanner blwyddyn a ddaeth i ben 30 Medi, 2022, mae’r Cyngor wedi gweithredu o fewn dangosyddion y drysorfa a’r dangosyddion darbodus a nodwyd yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Drysorfa 2022/23 y Cyngor, ac ni ddisgwylir unrhyw heriau o ran cydymffurfio gyda’r dangosyddion hyn ar gyfer y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 520 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg er mwyn darparu diweddariad o’r sefyllfa fel y mae’n sefyll ar 30 Medi, 2022, ynghylch yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf a gyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi llwyth gwaith presennol yr adran Archwilio Mewnol, a’i blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr i ganolig wrth fynd ymlaen. Cafodd aelodau’r Pwyllgor gopïau o’r tri darn o waith sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â Gwytnwch Ariannol (Sicrwydd Rhesymol); Ymdrin ag Arian yng Nghyswllt Môn (Sicrwydd Rhesymol), y Dreth Gyngor ac Ad-daliadau Cyfraddau Annomestig (Sicrwydd Rhesymol) dan yswiriant ar wahân. Cyhoeddwyd pedwerydd adroddiad ar ffurf Gwiriad Iechyd Newid Hinsawdd gan Zurich Municipal Risk Engineers a gafodd ei gomisiynu i adolygu’r maes hwn o fewn gwaith y Cyngor, er mwyn ei helpu i gael dealltwriaeth well o’r prif amlygiadau a gwelliannau risg sy’n ofynnol er mwyn rheoli’r risg ac i gefnogi amcanion y Cyngor o gyflawni statws net sero erbyn 2030. Roedd yr adroddiad gwiriad iechyd yn destun eitem agenda ar wahân.

 

Tynnodd y Pennaeth Archwilio a Risg sylw at yr adrodd sicrwydd Gwytnwch Ariannol fel prif faes, ac adnabod risg strategol ar y gofrestr risgiau corfforaethol. Eglurodd bod yr adolygiad archwilio mewnol wedi ceisio pennu a oes gan y Cyngor drefniadau digonol ar waith i reoli goblygiadau gostyngiadau ariannol go iawn, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei flaenoriaethau a darparu gwasanaethau o ansawdd. O fewn cwmpas ei reolaeth, dangosodd yr adroddiad fod gan y Cyngor fframwaith o reolyddion effeithiol ar waith i reoli goblygiadau gostyngiadau ariannu go iawn, ond er hyn, mae’n amlwg fod y Cyngor yn wynebu penderfyniadau heriol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd y sefyllfa economaidd heriol ac anrhagweladwy presennol. Daethpwyd i’r casgliad hwn ar y sail bod y Cyngor yn gweithredu proses monitor cyllidebau effeithiol, yn ogystal â pholisi i gadw 5% o’i gyllideb refeniw net mewn enillion cyffredinol, sy’n helpu i liniaru yn erbyn risgiau ariannol; mae ganddo Gynllun Ariannol Tymor Canolig sydd wedi’i ddatblygu’n llawn, sy’n amcanu gofynion y Cyngor o ran adnoddau a’r cyllid fydd ar gael dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hefyd wedi amlinellu nifer o ddangosyddion perfformiad ariannol allweddol sy’n cael eu holrhain drwy’r cerdyn sgorio corfforaethol chwarterol. Fodd bynnag, fe allai’r Cyngor elwa o ddefnyddio pum dangosydd CIPFA mewn perthynas â gwytnwch ariannol y sector cyhoeddus fel y dangoswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad adolygu, er mwyn helpu i asesu ei wytnwch ariannol tymor hirach.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad diweddaru archwilio mewnol, ac yng nghyd-destun yr adolygiad Gwytnwch Ariannol, trafodwyd y mater ynghylch enillion ysgolion, yn enwedig a oes modd trosglwyddo a defnyddio balansau gormodol sy’n cael eu cadw mewn cyllidebau ysgolion yn rhywle arall. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses ar gyfer rheoli balansau dros ben mewn ysgolion, a chadarnhaodd y gallai ysgolion gadw tanwariant ar eu cyllideb flynyddol, oni bai fod y ffigyrau yn mynd y tu hwnt i’r trothwy 10%, ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Siartr Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 439 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys Siarter Archwilio Mewnol i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r Siarter Archwilio Mewnol yn diffinio pwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb y gweithgarwch archwilio mewnol o fewn y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Safonau Archwilio Mewnol ar gyfer y Sector Cyhoeddus yn gofyn bod y gweithgarwch archwilio mewnol yn gweithredu Siarter Archwilio Mewnol gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Adolygwyd y Siarter ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2021 gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Mae’r Pennaeth Archwilio a Risg wedi cwblhau adolygiad i sicrhau priodoldeb parhaus nad yw wedi adnabod unrhyw newidiadau sylweddol.

 

Wrth adolygu’r Siarter, aeth y Pwyllgor ati i gwestiynu priodoldeb y term “cwsmeriaid” wrth ddiffinio’r bobl a oedd yn derbyn gwasanaethau Archwilio Mewnol, gan argymell y telir am y gwasanaethau gan drethdalwyr lleol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y term yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn mewn ffordd gynhwysfawr ac mae’n berthnasol i’r rheiny sy’n elwa o waith y gwasanaeth Archwilio Mewnol, sy’n cynnwys y Cyngor yn gyffredinol a’i wasanaethau eraill, y Tîm Arwain Strategol, Penaethiaid Gwasanaethau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sy’n derbyn y farn archwilio flynyddol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol prosesau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu’r Cyngor. Mae’n rhan o rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau’n ddoeth, a bod ei drefniadau ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn effeithiol mewn perthynas â threthdalwyr lleol.

 

Penderfynwyd nodi’r adolygiad ac i gymeradwyo priodoldeb parhaus y Siarter Archwilio Mewnol.

 

8.

Adolygiadau Cenedlaethol a'u Hargymhellion Cysylltiedig pdf eicon PDF 866 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar gyfer gosod ymateb y Cyngor i adroddiadau cenedlaethol cydnabyddedig, ac argymhellion cysylltiedig gan reolyddion, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, Busnes Corfforaethol a Boddhad Cwsmer, yn ceisio rhoi sicrwydd bod yr argymhellion sydd ynghlwm ag adroddiadau cenedlaethol wedi cael eu hystyried gan y Cyngor Sirol, a bod argymhellion perthnasol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd ystyrlon. Darparwyd diweddariadau yn erbyn y gwaith mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf mewn perthynas ag un ar ddeg adolygiad, a chafodd pedwar adolygiad newydd o 2022 eu cynnwys ynghyd ag ymateb y Cyngor i’r argymhellion maen nhw’n eu cynnwys. Yn ychwanegol at hyn, cynigwyd tynnu pedwar adroddiad gan nad oeddynt bellach angen eu monitro, fel y gwelwyd yn achos dau adroddiad yn ymwneud â Covid-19 lle nad oedd yr amgylchiadau’n berthnasol mwyach. O ran yr adolygiad sy’n ymwneud â Sgriwtini, ystyrir bod yr argymhellion wedi’u bodloni, ac ar gyfer yr adolygiad mewn perthynas â rheoli arian a llywodraethu Cynghorau Tref a Chymunedol, nid yw’r Cyngor Sir yn gyfrifol am arian y cynghorau hynny, nac ychwaith am weithredu argymhellion yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am yr adolygiadau cenedlaethol a oedd yn cael eu hystyried gan Y Rheolwr Sgriwtini, Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, cadarnhawyd bod adolygiadau cenedlaethol yn cael eu trosglwyddo ymlaen i’w hystyried gan y gwasanaeth Sgriwtini, yn dibynnu ar y cynnwys; aeth ymlaen i ddweud fod yr adroddiad yn ceisio sicrhau yr ymdrinnir yn briodol ag argymhellion sy’n codi o adroddiadau gan y Cyngor o fewn rhaglen dreigl lle tynnir adolygiadau ar ôl ymdrin â nhw, ac yr ychwanegir adolygiadau Newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

 

Argymhellwyd y byddai’n ddefnyddiol tynnu sylw at y pwyntiau gweithredu, pan mae adolygiadau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth Sgriwtini am ystyriaeth. Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ei bod wedi nodi’r argymhelliad, ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r gwasanaeth Sgriwtini.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r argymhellion a diweddariadau a ddarparwyd fel adlewyrchiad cywir o ddiweddariad blynyddol y Cyngor Sir yn erbyn yr argymhellion cysylltiedig.

 

9.

Côd Llywodraethu Lleol 2023-28 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn ymgorffori drafft o’r Cod Llywodraeth Lleol 2023-2028 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae’r Côd Llywodraethu Lleol yn egluro agwedd y Cyngor at lywodraethu’n llwyddiannus ar draws holl wasanaethau’r Cyngor drwy ddatblygu, mabwysiadu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau priodol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, Busnes Corfforaethol a Boddhad Cwsmer a ddywedodd fod y Cod Lleol wedi cael ei baratoi’n unol â’r saith prif egwyddor (a rhai atodol) sydd wedi’u cynnwys o fewn y Fframwaith ar gyfer Llywodraethu’n Llwyddiannus (CIPFA/SOLACE) 2016, ac y defnyddir y ddogfen fel sail ar gyfer yr adolygiad blynyddol ar lywodraethu ar gyfer y Cyngor Sir. Cadarnhaodd yr Aelod Pwyllgor fod y Côd Llywodraethu Lleol wedi bod yn rhan o broses adolygu mewnol yn ystod 2022/23 drwy’r Grŵp Adolygu Perfformiad a Llywodraethu yn ystod 2022/23 drwy’r Grŵp Adolygu Llywodraethu (yn cynnwys Archwilio Mewnol) a’r Tîm Arweinyddiaeth, a bod y ffynonellau sicrwydd sydd wedi’u nodi yn erbyn bob egwyddor wedi cael eu diweddaru.

 

Wrth adolygu’r ddogfen, tynnodd y Pwyllgor sylw at y canlynol -

 

·   Anghysondeb mewn ystyr rhwng fersiwn Cymraeg a Saesneg y ddogfen, gan gyfeirio at y drydedd egwyddor graidd o ran llywodraethu da (Diffinio canlyniadau o ran buddion economaidd cynaliadwy, cymdeithasol ac amgylcheddol) gyda’r geiriad yn y Gymraeg yn awgrymu mai dim ond y buddion economaidd sy’n gynaliadwy, ac nid y buddion cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd.

·   A ddylai’r ddogfen, sy’n edrych tuag at y dyfodol ac a fydd yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 2023 a 2028, gynnwys Cynllun presennol y Cyngor fel pwynt cyfeirio, fydd yn dod i ben yn 2022.

 

Drwy ddweud hynny, byddai’r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn adolygu geiriad y fersiwn Gymraeg o ran y pwynt a wnaed, a byddai’n ei addasu’n briodol. O ran Cynllun y Cyngor, dylai’r ymrwymiadau a’u nodwyd yn y ddogfen ddangos beth mae’r Cyngor yn ceisio ei gyflawni, gyda thystiolaeth fod y rhain wedi’u cyflawni gan y ffynonellau sicrwydd. Nid yw’r dystiolaeth o ran Cynllun Newydd y Cyngor ar gyfer 2023 i 2028 ar waith eto.

 

Penderfynwyd derbyn y Côd Llywodraethu Lleol draft fel adlewyrchiad cywir yn amodol ar y diwygiad bach i’r fersiwn Gymraeg, fel y nodwyd.

 

10.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Blaen Rhaglen Waith Newydd ar gyfer 2022-23, i’w ystyried gan y Pwyllgor, a nodwyd y newidiadau mewn perthynas â chanslo cyfarfod 23 Tachwedd, 2022, ac ychwanegu cyfarfod 18 Ionawr, 2023. Gwnaed ymholiad ynghylch diffyg cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio 2021 - 22, a chadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’n olrhain hynny.

 

Penderfynwyd derbyn Blaen Rhaglen Waith 2022- 23 fel bodloni cyfrifoldebau’r Pwyllgor, yn unol â’i gylch gorchwyl.