Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un i law.

 

2.

Adolygiad o'r Adroddiad Hunan Asesiad Drafft pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid sy'n cynnwys Hunanasesiad Corfforaethol 2021/2022 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fod yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o allbwn y fframwaith cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad y Cyngor.  Ystyriwyd yr Adroddiad Hunanasesu Blynyddol drafft i ddechrau gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2022 ac wedyn gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2022 yn unol â'r Cyfansoddiad.  Dywedodd fod gwelliannau a gynigiwyd gan y cyfarfod hwn wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a bydd diwygiadau pellach y mae'r Pwyllgor yn dymuno eu gwneud yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Sir llawn ar 27 Hydref, 2022.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

·           Er bod eglurhad wedi'i gynnwys bellach o fewn yr adroddiad o ran y cynnydd yn y cronfeydd wrth gefn, codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Cyngor yn fodlon gyda'r lefel bresennol o gronfeydd wrth gefn.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer risgiau posibl ac i ariannu prosiectau penodol.  Mae'r cronfeydd cyffredinol wrth gefn yn cael eu cadw ar 5% o gyllideb net yr awdurdod sy'n cyfateb i £8m.  Nododd oherwydd ansicrwydd yn 2021/2022 wedi i'r cyfyngiadau Covid ddod i ben, a hefyd p’un ai a fyddai Llywodraeth Cymru'n gallu ariannu'r costau ychwanegol, roedd yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn gosod y balans isaf ar gyfer diwedd blwyddyn ariannol 2021/2022 ar £9m.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol roedd yn fwy na'r isafswm o £12m, a bydd hyn nawr yn caniatáu i'r Cyngor fod mewn sefyllfa ariannol well er mwyn mynd i'r afael â heriau cyllido y mae'n eu hwynebu o 2023/2024 ymlaen. 

·           Cyfeiriwyd y dylid cynnwys yn yr adroddiad fod Archwilio Mewnol wedi adolygu'r ddogfen yn hytrach nag yn yr adroddiad eglurhaol.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor llawn yn ei gyfarfod a gynhelir ar 27 Hydref, 2022 fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn derbyn yr adroddiad yn amodol ar gynnwys y canlynol:-

 

·           Nodi ar dudalen 20 o'r adroddiad fod y Cyngor yn fodlon â'r lefel gyffredinol o gronfeydd wrth gefn; a

·           Bod Archwilio Mewnol wedi adolygu'r ddogfen ac y dylai gael ei chynnwys o fewn yr adroddiad yn hytrach nag yn yr adroddiad eglurhaol.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

3.

Archwilio Allanol: Llamu Ymlaen - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Archwilio Cymru i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Yn absenoldeb Mr Alan Hughes, Archwilio Cymru darllenwyd y sylwadau canlynol ar ei ran i'r Pwyllgor:-

 

Prif negeseuon adroddiad Llamu Ymlaen oedd y byddai ystyried a chymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy’n fwy amlwg yn arwain at ddealltwriaeth fwy cyflawn am yr heriau a gyflwynir gan asedau adeiladau a gweithlu’r Cyngor, ac yn arwain at weledigaethau, strategaethau a chynlluniau gwell:-

 

·           Mae’r Cyngor yn deall yr heriau a gyflwynir gan ei bortffolio tir ac adeiladau ond

nid yw wedi datblygu gweledigaeth gorfforaethol ar gyfer ei asedau na’r cynlluniau cyflawni cysylltiedig eto

·           Mae’r Cyngor wedi rhesymoli a moderneiddio rhan o’i sylfaen asedau a’i fodel

darparu gwasanaethau, ond nid yw hyn yn cael ei lywio gan weledigaeth

gorfforaethol glir eto

·           Bydd diffinio ac adolygu cynnydd tuag at amcanion tymor byr, canolig a hir ar

·           gyfer ei sylfaen asedau’n cryfhau gallu’r Cyngor i drawsnewid, addasu a pharhau i ddarparu ei wasanaethau;

·           Mae gan y Cyngor weledigaeth a themâu cyflawni allweddol ar gyfer ei weithlu a all gael eu cryfhau trwy ystyriaeth fwy amlwg o gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy a gwreiddio ymhellach y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig

·           Mae’r Cyngor wedi ymgysylltu â staff a rheolwyr ac mae’n ymatebol i’r heriau o

ran y gweithlu, ac yn cydnabod yr angen i ddatblygu strategaethau integredig tymor hirach ac wedi cychwyn ar wneud hynny

·      Mae’r Cyngor yn cynnal trosolwg o faterion cyfredol o ran y gweithlu ond mae

cyfle i wneud mwy o ddefnydd o ddata a defnyddio meincnodi i fesur llwyddiant

cyfredol a thymor hir ei fentrau mewn perthynas â’r gweithlu.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fod crynodeb adroddiad 'Llamu Ymlaen' yn berthnasol i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru; nid yw popeth sydd yn y cyflwyniad yn benodol ac yn berthnasol i Gyngor Sir Ynys Môn.  Dywedodd y Swyddog ei bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i drafod y ddogfen Archwilio Cymru.  Dywedodd ei bod yn galonogol fod yr adroddiad yn cydnabod bod gan y Cyngor arferion da a’i fod cefnogi ac yn cadw at y pum ffordd o weithio y manylir arnynt o fewn Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Roedd yn bwysig nodi bod y cyfweliadau a'r gwaith archwilio cychwynnol wedi dechrau ym mis Rhagfyr 2021 a bod nifer o faterion a gafodd eu codi o fewn yr adroddiad wedi cael sylw ers hynny.  Fel esiampl, cyfeiriodd at y  materion recriwtio cenedlaethol a nododd fod y Cyngor hwn wedi mynd i'r afael â hyn drwy baratoi strategaeth farchnata ynghyd â phenodi swyddog penodol i ddelio â marchnata swyddi gwag; Mae cynllun gweithredu strategaeth pobl wedi'i weithredu ar gyfer 2022/2023, polisi hybrid ar gyfer staff sy'n weithredol ers 1  Chwefror 2022, mae strategaeth y gweithlu wrthi’n cael ei diweddaru.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod cyfeiriad yn yr adroddiad at y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol a'i bod yn fwriad cyflwyno'r ddogfen hon i'r Pwyllgor Gwaith cyn etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai eleni ond yn dilyn cyfarwyddyd gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adolygiad o'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2022/2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Blaenraglen Waith a Rhaglen Hyfforddi y Pwyllgor 2022/23 i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ddiweddariad ar y Blaenraglen Waith gan dynnu sylw at y ffaith bod cwblhau hyfforddiant gorfodol i Aelodau fel y gwelir yn Atodiad B yn wag ar hyn o bryd; bydd fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.   Dywedodd ymhellach fod disgwyl i'r hyfforddiant Rheoli Risg gael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd.    Dywedodd Pennaeth Archwilio a Risg nad yw’n sicr ar hyn o bryd a fydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 23 Tachwedd, 2022 i ystyried y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Terfynol 2021/2022 a Datganiad Terfynol Cyfrifon 2021/2022 yn cael ei gynnal.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 ddadansoddiad manwl o'r sefyllfa bresennol i hwyluso'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol Terfynol ar gyfer 2021/2022 a Datganiad Terfynol y Cyfrifon ar gyfer 2021/2022 i'r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Blaenraglen Waith yn bodloni cyfrifoldebau'r Pwyllgor yn unol â'r cylch gorchwyl.