Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 19eg Medi, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor - Swyddfeydd y Cyngor a Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Gan nad oedd y Cynghorydd Euryn Morris, yr Is-gadeirydd, yn bresennol, etholwyd y Cynghorydd Margaret M. Roberts i wasanaethau fel Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Log Gweithredoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 85 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, yn ymgorffori log gweithredoedd y pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ynglŷn â statws y gweithredoedd/penderfyniadau y cytunwyd arnynt ers cyflwyno’r log gweithredoedd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at weithred rhif wyth yn y cofnod a dywedodd bod cais wedi’i wneud i’r Prif Swyddog Digidol drefnu i arbenigwr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyflwyno briff i’r pwyllgor ynglŷn â Deallusrwydd Artiffisial a’r mesurau y gellir eu cymryd i liniaru’r risgiau mewn perthynas â’r maes technoleg hwn sy’n datblygu.

 

Mewn perthynas â gweithred rhif deuddeg yn y log gweithredoedd, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gofynion ynglŷn â’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol a dywedodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi pŵer cymhwysedd newydd i gynghorau yng Nghymru a rydd yr hawl i awdurdodau lleol wneud unrhyw beth y gallai unigolyn ei wneud yn gyfreithlon, er enghraifft ymgymryd â mentrau masnachol ac arloesi. Mae’r pŵer hwn wedi bod ar gael ac wedi cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol yn Lloegr ers cryn amser. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn wedi defnyddio’r pŵer hyd yma ac nid yw’r rhagweld y bydd yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo penderfyniad i ddefnyddio’r pŵer, a hynny’n seiliedig ar gyngor a dilyn y drefn briodol. Gan nad oes bwriad defnyddio’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol ar hyn o bryd, nid ystyrir bod darparu hyfforddiant i Aelodau’n flaenoriaeth.

 

Penderfynwyd nodi’r gweithredoedd y manylir arnynt yn y tabl log gweithredoedd a chadarnhau fod y Pwyllgor yn fodlon â’r gweithredoedd a roddwyd ar waith.

 

4.

Llywodraethu Gwybodaeth: Adroddiad Blynyddol yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) 2023/24 pdf eicon PDF 731 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys dadansoddiad o faterion llywodraethu gwybodaeth allweddol ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, gan gynnwys y risgiau gwybodaeth presennol a’r mesurau lliniaru. Roedd yr adroddiad yn darparu datganiad a throsolwg yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth ynglŷn â’r modd yr oedd y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol wrth ymdrin â gwybodaeth gorfforaethol, yn ogystal â chydymffurfio â GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliad Deddf Pwerau Ymchwilio 2000 (Gwyliadwriaeth) a chodau ymarfer perthnasol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Diogelu Data a Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol mewn perthynas â chyswllt â rheoleiddwyr allanol, digwyddiadau diogelwch, torri cyfrinachedd a/neu achosion fu bron â digwydd yn ystod y cyfnod.

 

Roedd y Cadeirydd wedi gwahodd Swyddogion ar ran y gwasanaethau Dysgu, Gwarchod y Cyhoedd, Adnoddau a Thechnoleg Gwybodaeth i egluro pam fod y gwasanaethau hynny wedi ymateb yn hwyr i geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y cyfnod adrodd, a’r camau unioni a gymerir i gyflawni disgwyliadau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fod 90% o geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn derbyn ymateb cyn pen ugain diwrnod gwaith. Y rhesymau a nodwyd am beidio ag ymateb yn brydlon i bob cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth oedd diffyg adnoddau dynodedig i reoli ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn y gwasanaeth, cymhlethdod y ceisiadau a’r rheidrwydd i gydbwyso’r gwaith o adalw a darparu gwybodaeth i ymgeiswyr gyda dyletswyddau gweithredol o ddydd i ddydd.

 

Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

  • Cyfrifoldeb o fewn y Cyngor am ddyrannu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i’r gwahanol feysydd gwasanaeth a ph’un a yw’r amserlen ar gyfer ymateb yn weithredol o’r dyddiad y caiff y cais ei dderbyn yn ganolog gan y Cyngor, neu o’r dyddiad y caiff ei ddyrannu i wasanaeth a/neu’r sawl sy’n dal y wybodaeth.
  • Y broses mewn perthynas â’r 29 cais gwrthrych am wybodaeth sydd wedi cael eu gohirio dros dro er mwyn cadarnhau neu egluro hunaniaeth yr ymgeiswyr.
  • P’un a yw’r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod sefydliadau partner, cyrff allanol a/neu gwmnïau y mae’n gweithio â nhw, â chytundeb â nhw, neu’n sy’n gweithredu ar ei ran, yn cydymffurfio â gofynion GDPR a diogelu data.

 

Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth bellach fel a ganlyn –

 

  • Er bod ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael eu derbyn a’u dosbarthu’n ganolog fel arfer, gan dîm y Swyddog Diogelu Data a’r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol, gallai cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth fod wedi’i ymgorffori weithiau mewn gohebiaeth sy’n mynd rhagddo neu mewn ymholiad cyffredinol ac yn yr achos hwnnw byddai’n cael ei anfon ymlaen at y tîm canolog. Mae diwrnod cyntaf yr amserlen o ugain diwrnod gwaith yn cychwyn y diwrnod ar ôl derbyn y cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Cyngor wedi bod yn datblygu system CRM (system reoli cysylltiadau cwsmeriaid) fel modd o gynnal a rheoli’r gwaith o weinyddu prosesau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a chwynion. Rhagwelir y bydd defnyddio’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Pryderon, Cwynion a Chwythu'r Chwiban 2023/24 pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn amlinellu’r materion sy’n codi o dan Bolisi Pryderon a Chwynion y Cyngor, ynghyd â nifer y datgeliadau chwythu’r chwiban a wnaethpwyd o dan Bolisi Chwythu’r Chwiban y Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond dim ond y rhai hynny lle nad oedd yr achwynydd yn ddefnyddiwr gwasanaeth. Ymdrinnir â chwynion gan ddefnyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar wahân o dan y Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol – Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion ar gyfer Plant ac Oedolion, ac mae’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn adroddiad blynyddol ynglŷn â’r cwynion hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Diogelu Data a’r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol. Cyflwynodd y swyddog drosolwg o’r pwyntiau allweddol mewn perthynas â’r modd yr ymdriniwyd â chwynion a phryderon gan wasanaethau’r Cyngor o dan ei Bolisi Pryderon a Chwynion ffurfiol yn ystod 2023/24. Bu iddo hefyd ddiweddaru’r pwyllgor ynglŷn â datblygu’r CRM fel dull o gynnal a rheoli’r broses gwynion, a bydd y system yn darparu gwybodaeth amser real i wasanaethau ynglŷn â’r perfformiad trwy gyfrwng dangosfwrdd fydd ar gael i Uwch Reolwyr ac Arweinwyr. Byddant, yn sgil hynny, yn gallu cael mynediad yn ddyddiol at ddata’n ymwneud â chwynion, amserlenni a chynnydd yr ymatebion.

 

Wedi iddo dderbyn gwahoddiad gan y Cadeirydd i esbonio’r nifer uchel o bryderon a chwynion a gofnodwyd ar gyfer y Gwasanaethau Tai, esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y lefel uchaf o gysylltiadau gyda’r cyhoedd yn digwydd trwy’r Gwasanaethau Tai, yn rhinwedd swyddogaeth y gwasanaeth wrth reoli stoc dai’r Cyngor, gan olygu fod cyswllt rheolaidd gyda thenantiaid ac ymgeiswyr am dai. Oherwydd lefel y cyswllt, mae nifer y sylwadau a chwynion a dderbynnir gan y Gwasanaeth Tai yn debygol o fod yn uwch nag ar gyfer gwasanaethau eraill. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y pwyllgor fod Tîm Perfformiad y gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddelio â chwynion fel maes y gellir ei wella, a maes lle mae gwelliannau’n cael eu gwneud, yn enwedig mewn perthynas â chyfathrebu, gan fod cyfathrebu gwael wedi’i gofnodi fel achos mwyaf cyffredin y cwynion yn erbyn y gwasanaeth, ac roedd yn obeithiol y byddai’r adroddiad ar gyfer 2024/25 yn adlewyrchu’r gwelliant hwnnw.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –

 

  • Er eu bod yn nodi fod cwynion defnyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn sylw ar wahân o dan y prosesau statudol perthnasol a’u bod yn cael eu hadrodd i bwyllgor arall, awgrymodd yr aelodau y byddai’n ddefnyddiol derbyn y prif ffigyrau mewn perthynas â chwynion a phryderon y Gwasanaethau Cymdeithasol, a’u bod yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol, er mwyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gael darlun cyflawn o reoli cwynion o fewn y cyngor cyfan.
  • Yr amser y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ei gymryd i benderfynu ar gwynion yn erbyn aelodau etholedig. Nododd un o’r aelodau fod dwy o’r bum gŵyn cod ymddygiad yn erbyn aelodau etholedig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adolygiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn darparu adolygiad o weithgareddau rheoli trysorlys yn 2023/24. Roedd yr adroddiad yn nodi’r prif faterion rheoli trysorlys yn ystod y cyfnod adrodd, yn ogystal â darparu cymhariaeth o berfformiad yn erbyn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 a’r Dangosyddion Darbodus.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a bu iddo grynhoi’r pwyntiau allweddol mewn perthynas â’r cyd-destun allanol, gwariant cyfalaf y Cyngor a chyllido cyfalaf yn ystod y flwyddyn, sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn a balansau arian parod, gweithgareddau benthyca a buddsoddi, a chydymffurfiaeth â dangosyddion darbodus, gan gadarnhau fod perfformiad yn unol â’r strategaeth a’r dangosyddion.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor –

 

  • Y gostyngiad yn y balansau ysgolion a’r oblygiadau i ysgolion yn y dyfodol.
  • Y defnydd o’r amser presennol yn yr adroddiad, yn ogystal â chyfeiriadau at ddigwyddiadau yn dilyn y cyfnod adrodd, er bod yr adroddiad yn cofnodi gweithgareddau a pherfformiad o’r flwyddyn flaenorol, 2023/24.

 

Derbyniodd y Pwyllgor esboniadau pellach fel a ganlyn –

 

  •             Bod balansau ysgolion wedi disgyn o £6.7m i £5.5m yn ystod 2023/24 gan fod ysgolion wedi defnyddio’r balansau oedd ar gael iddynt i osod cyllideb gytbwys. Mae ysgolion llai sydd â llai o ddisgyblion yn fwy tebygol o wynebu anawsterau os yw’r cyllid yn gostwng gan nad oes ganddynt fawr o hyblygrwydd ynghylch maint dosbarthiadau. Mae’n rhaid i ysgolion sydd â diffyg fod â chynllun adfer ariannol ac, mewn rhai ysgolion, byddai’r diffyg yn cael ei wrthdroi’n naturiol wrth i niferoedd disgyblion gynyddu. Rhagwelir y bydd ysgolion yn gwneud defnydd pellach o’u balansau yn 2024/25 ac os nad yw’r sefyllfa ariannol a’r rhagolygon yn newid mae’n debygol y bydd balansau ysgolion yn parhau i ostwng. Byddai diffyg cyfanredol ar falansau ysgolion yn dangos fel atebolrwydd yng nghyfrifon y Cyngor a byddai’n gostwng balansau cyffredinol y Cyngor y maent yn rhan ohonynt. 
  •             Bod rhai adrannau o’r adroddiad e.e. adolygiad o’r economi, yn dod yn uniongyrchol o gyngor a ddarparwyd gan Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor sydd yn darparu diweddariad economaidd i’r Cyngor ac efallai mai dyna pam fod amser y ferf yn wahanol. Bydd yr adroddiad yn cael ei adolygu cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn, er mwyn sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei chyfleu’n gywir a bod amser y ferf a ddefnyddir yn briodol.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad rheoli trysorlys blynyddol ar gyfer 2023/24 a’i anfon ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylw pellach.

 

Gweithred ychwanegol – adolygu’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol i sicrhau cysondeb o ran amser y ferf ac eglurder.

 

7.

Adroddiad Blynyddol Atal Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd 2023/24 pdf eicon PDF 565 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn amlinellu gweithgareddau a gyflawnwyd gan Archwilio Mewnol yn ystod 2023/24 i leihau’r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd rhag digwydd o fewn Cyngor Sir Ynys Môn ac yn ei erbyn. Roedd yr adroddiad yn darparu asesiad o effeithiolrwydd trefniadau’r Cyngor i leihau’r risg o dwyll a’i gynnydd o ran ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol ac roedd yn amlygu’r meysydd lle mae’r risg o dwyll yn bodoli ar hyn o bryd, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd yn y dyfodol. Roedd Atodiad 2 yn yr adroddiad yn cynnwys manylion am wireddu cynllun gweithredu atal twyll, llwgrwobrwyo a llygredd 2022-2025.

 

Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y pwyllgor –

 

  • P’un a fydd y gweithgor atal twyll tebyg i’r gweithgor atal twyll rhanbarthol, sydd yn is-grŵp o Bartneriaeth Archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn er mwyn archwilio materion twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn lleol.
  • Y ffyrdd y gallai’r system CRM a’r rhaglen STAR, sydd â’r nod o wella prosesau caffael o fewn y Cyngor, gefnogi gweithgareddau atal twyll.

 

Darparwyd gwybodaeth ychwanegol i’r pwyllgor fel a ganlyn –

 

  • Sefydlwyd y gweithgor atal twyll rhanbarthol er mwyn cydweithio i fynd i’r afael ag argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol oedd yn berthnasol i lywodraeth leol trwy rannu gwybodaeth, data a dysg. Bu’r gweithgor yn datblygu templed o arfer orau o ran trefniadau atal twyll fydd yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo i gyfarfod nesaf Partneriaeth Archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Y nod yn fewnol o fewn y Cyngor yw dynodi pencampwyr atal twyll ym mhob gwasanaeth a fyddai’n gweithio gyda’i gilydd i rannu profiadau a chodi ymwybyddiaeth o feysydd lle mae’r risg o dwyll yn bodoli. Gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol am bob gwasanaeth, a chyda chefnogaeth arbenigedd y tîm Archwilio Mewnol, byddent yn nodi lle gallai twyll fod yn digwydd a chymryd camau priodol.
  • Bydd yr Ymgynghoriaeth STAR yn gweithio ar ddatblygu gofynion datgan diddordebau er mwyn sicrhau bod diddordebau’n cael eu datgan mewn perthynas â’r holl gontractau caffael. Bydd y system CRM (system reoli cysylltiadau cwsmeriaid) yn cynnal yr offeryn adrodd am dwyll lle gall pobl adrodd am weithgareddau twyllodrus trwy ddefnyddio gwefan y Cyngor ac wedyn byddant yn cael eu cofnodi a’u holrhain ar y system CRM.

 

Penderfynwyd nodi’r gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod 2023-24 i leihau’r risg o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd rhag digwydd o fewn y Cyngor ac yn ei erbyn, ynghyd â nodi’r sicrwydd a ddarparwyd i’r Pwyllgor ynglŷn ag effeithiolrwydd trefniadau’r Cyngor i leihau’r risg o dwyll.

 

8.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad diweddaru’r Pennaeth Archwilio a Risg ar yr archwiliadau a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf (30 Mehefin 2024) hyd at 31 Awst 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi  rhaglen waith bresennol y tîm Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau yn y tymor byr a chanolig. Derbyniodd aelodau’r pwyllgor gopïau ar wahân o’r adroddiadau sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod, mewn perthynas â Rheoli Debyd Uniongyrchol (Sicrwydd Rhesymol) a Monitro Parhaus – Taliadau Dyblyg (Sicrwydd Rhesymol).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio a Risg drosolwg o’r adroddiad a chyfeiriodd at y cynnydd a wnaed gan y Tîm Taliadau trwy wneud gwelliannau allweddol i’r rheolaethau mewnol, er mwyn lleihau nifer yr anfonebau sy’n cael eu talu fwy nag unwaith a chadarnhawyd bod adolygiad pellach wedi’i gynllunio yn ystod y deuddeg mis nesaf er mwyn parhau i fonitro’r ymdrechion i wella’r sefyllfa.

 

Roedd y pwyllgor yn dymuno trafod sut y caiff taliadau dyblyg eu trin yng nghyfrifon y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai’r cyflenwr yn cael ei hysbysu ar unwaith ar ôl canfod fod yr un anfoneb wedi cael ei thalu ddwywaith, ac os yw’r cyflenwr yn gyflenwr rheolaidd i’r Cyngor yna byddai’r arian yn cael ei adennill wrth wneud taliadau yn y dyfodol. Gallai cyflenwr a ddefnyddir yn achlysurol gan y Cyngor ddarparu nodyn credyd a byddai’n aros ar y system hyd nes bod taliadau o’r un gwerth â’r nodyn credyd wedi cael eu gwneud. Ar gyfer cyflenwr sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio unwaith, byddai anfoneb yn cael ei chodi a byddai’n aros ar y ffeil dyledwyr hyd nes iddi gael ei thalu. Mewn ymateb i gwestiwn pellach am ddyledion drwg, eglurodd y Swyddog Adran 151, os nad yw dyledion yn cael eu talu yna mae darpariaeth ar gyfer dyledion drwg yn cael ei gyfrifo yn ôl oedran a gwerth y ddyled. Mae gwerth cario’r ddarpariaeth yn cael ei gymharu â’r ddyled a’i gynyddu/leihau yn unol â hynny, cyn ei gynnwys fel credyd neu ddebyd yn y cyfrif refeniw ac mae’r gost yn cael ei chodi yn ystod y flwyddyn ar y gwasanaeth y mae’r ddyled yn perthyn iddo. Mae dyledion yn cael eu dileu yn erbyn y ddarpariaeth ac os nad yw’r ddarpariaeth yn ddigonol mae’r gost ychwanegol yn cael ei godi ar y gwasanaeth.

 

Penderfynwyd nodi canlyniad gwaith y tîm Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.

 

9.

Materion, Risgiau a Chyfleoedd sy'n Weddill pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn nodi perfformiad y Cyngor o ran mynd i’r afael â chamau y mae angen rhoi sylw iddynt.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Archwilydd Mewnol, a bu iddi ddiweddaru’r pwyllgor ar statws y risgiau sy’n weddill a godwyd gan Archwilio Mewnol.

 

Penderfynwyd nodi bod cynnydd y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r materion/risgiau/cyfleoedd Archwilio Mewnol sy’n weddill yn foddhaol.

10.

Archwilio Allanol: Diweddariad Chwarterol ar Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru (Ch1 2024/25) pdf eicon PDF 322 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r pwyllgor, adroddiad Archwilio Cymru, yn cynnwys diweddariad, hyd at 30 Mehefin 2024, ar ei raglen waith a’i amserlen mewn perthynas â’i waith yng Nghyngor Sir Ynys Môn ac yn genedlaethol. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu trosolwg o’r gwaith rheoleiddio gan Estyn ac AGC.

 

Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ms Rachel Freitag, Rheolwr Archwilio (Archwilio Ariannol) Archwilio Cymru, a Mr Alan Hughes, Archwilydd Arweiniol (Archwilio Perfformiad) Archwilio Cymru, ar gynnydd wrth wireddu rhaglen waith Archwilio Cymru mewn perthynas â’r gwaith archwilio ariannol a gwaith archwilio a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg, mewn perthynas â’r cyfeiriad yn yr adroddiad rhagarweiniol i’r Adolygiad Thematig o Ofal Heb Ei Drefnu, y byddai canlyniad y gwaith hwn yn cael ei adrodd yn awr i gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ac y byddai cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bresennol.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’r sicrwydd a ddarparwyd.

 

11.

Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor wedi’i diweddaru a’r Rhaglen Hyfforddiant ar gyfer 2024/25.

 

Gofynnwyd pam nad oedd cyfarfod o’r pwyllgor wedi’i drefnu ar gyfer y cyfnod rhwng Medi a Rhagfyr 2024 ac mewn ymateb cafwyd diweddariad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar yr amserlen a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo’r cyfrifon achwiliedig i’r pwyllgor hwn a’r Cyngor Llawn, gan olygu efallai y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyfarfod tua diwedd mis Tachwedd. Mae’r opsiynau’n cael eu hystyried ac mae’n dibynnu pryd fydd yr archwiliad o’r cyfrifon yn cael ei gwblhau.

 

Penderfynwyd derbyn y Flaen Raglen Waith 2024/25 a nodi ei bod yn cyflawni cyfrifoldebau’r Pwyllgor yn unol â’i gylch gorchwyl.