Rhaglen

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 6ed Rhagfyr, 2012 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould (01248 752 515 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniadau

Bydd Cadeirydd y Cyngor Sir yn cyflwyno Gwobrau Chwaraeon Blynyddol Ynys Môn ar gyfer y categorïau isod:-

 

Geneth y Flwyddyn

Bachgen y Flwyddyn

Tîm y Flwyddyn

Person Chwaraeon y Flwyddyn

Gwirfoddolwr/wraig y Flwyddyn

Gwirfoddolwr/wraig Ifanc y Flwyddyn

Camp Eithriadol mewn Chwaraeon

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

27 Medi, 2012

4 Hydref, 2012 (Arbennig)

23 Hydref, 2012 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen

4.

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen

5.

Cofnodion Er Gwybodaeth - Bwrdd Cynaliadwyedd pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o’r Bwrdd Cynaliadwyedd a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2012.

6.

Cyflwyno Deisebau

Yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad, bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno’r deisebau isod i’r Cadeirydd gan drigolion Llanfaelog a Phencarnisiog:-

 

Deiseb yn gofyn am sefydlu cyfleusterau diogel i gerddwyr a phobl anabl groesi’r ffordd rhwng y feddygfa a’r Swyddfa Bost ym mhentref Llanfaelog;

 

Deiseb yn gwrthwynebu penderfyniad y Cyngor i ddwyn i ben y gwasanaeth bws 25/45 drwy bentref Pencarnisiog.

7.

Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 557 KB

(a)Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

 

Dweud fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2012, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir:-

 

Ei fod yn ymestyn cylch gorchwyl y Pwyllgor i ymgymryd â chyfrifoldebau mewn perthynas â’r rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer aelodau, gan gynnwys eu sgiliau TG a chefngaeth ar gyfer y sgiliau hynny;

Bod y Pwyllgor yn cynnal tri chyfarfod cyffredinol yn ychwanegol at ei Gyfarfod Blynyddol ym mhob Blwyddyn Ddinesig gyda’r hawl i drefnu

cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen”.

Ystyried yr uchod ac os yn cytuno diwygio Paragraff 3.4.12 Cyfansoddiad y Cyngor (Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) i gyd-fynd â hynny.

 

(b) Adolygu Polisiau Twyll a Llygredd

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio).

[Sylwer: Cafodd y polisïau hyn eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ar 25 Medi, 2012 a chan y Pwyllgor Gwaith ar

15 Hydref, 2012]

8.

Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio pdf eicon PDF 513 KB

 

Ystyried gwneud newidiadau parhaol i’r Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio wedi i gyfnod arbrofol o 12 mis ddod i ben.

 

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd).

9.

Dirprwyiadau pdf eicon PDF 70 KB

Bydd y Prif Weithredwr yn cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad yn nodi unrhyw newidiadau i’r cynllun dirprwyo o ran swyddogaethau’r Pwyllgor Gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ers y cyfarfod arferol diwethaf (cyfeirir at hyn dan Reol 4.4.1.2 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith yn y Cyfansoddiad).