Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyfarfod Blynyddol o Gyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 21ain Mai, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2024/25.

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn unfrydol ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2024/2025.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn unfrydol ethol y Cynghorydd Non Dafydd yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2024/2025.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

4.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu'r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn y swydd y mae ei thymor yn dod i ben.

Dogfennau ychwanegol:

5.

Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Cynghorydd Llinos Medi (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio Datblygu’r Economi;

 

Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio Cyllid;

 

Cynghorydd Gary Pritchard (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;

 

Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;

 

Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;

 

Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio Gwasanaethau oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymdeithasol;

 

Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg;

 

Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;

 

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas gyda chyfrifoldeb Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. 

6.

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.

 

7.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

 

8.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·     Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·     Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS)

·     Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

• Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

• Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS)

• Is-Bwyllgor Indemniadau

 

9.

Rhaglen Cyfarfodydd Cyffredinol y Cyngor Sir ar gyfer 2024/25

Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

 ·  26 Medi 2024                                 -           2:00 pm

·  3 Rhagfyr 2024                               -           2:00 pm

·  6 Mawrth 2025                                -           2:00 pm

·  Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol)        -          dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

  • 26 Medi 2024 - 2:00 pm
  • 3 Rhagfyr 2024 - 2:00 pm
  • 6 Mawrth 2025 - 2:00 pm
  • Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau

 

10.

Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor pdf eicon PDF 148 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

  • Cadarnhau trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddau a ddynodir i bob Grŵp yn unol â Deddf Llywodraeth a Thai 1989;
  • Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth democratiaeth am unrhyw newidiadau i aelodaeth o unrhyw Bwyllgorau cyn gynted â phosibl.

 

11.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn atodiad yr adroddiad.

 

12.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25 pdf eicon PDF 130 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 20 Mawrth 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:- 

 

  • Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2024-25
  • Cadarnhau y bydd deilyddion yr un swyddi â 2023-24 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2024-25,

 

Cadeirydd y Cyngor

Is-Gadeirydd y Cyngor

Arweinydd y Cyngor

Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7) Arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2) Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

 

· Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25.