Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir: -
· 25 Medi 2025 · 28 Hydref 2025 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2025 · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2025.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad.
|
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Môn Actif a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Biwmares ym mis Hydref.
· Dymuniadau gorau i Glwb Henoed Bodffordd ar gyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar sef 50 mlynedd ers sefydlu’r clwb. Mae’r Clwb wedi parhau drwy gydol y cyfnod o dan arweiniad medrus Mr Ellis Wyn Roberts.
· Llongyfarchiadau i Jac Hughes, un o ddefnyddwyr yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn ymddangos ar y rhaglen deledu, “Y Cyfweliad” yn y flwyddyn newydd. Mae Jac yn adnabyddus i bawb sy’n mynychu’r fforwm Anableddau Dysgu am ei gyfraniad treiddgar.
· Llongyfarchiadau i’r Tîm Cymunedol o fewn ein Gwasanaethau Tai am ennill gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Cymunedol Mwy Diogel Cymru 2025 a hynny yn y categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant. Mae ennill y wobr hon yn gamp aruthrol ac yn dyst i’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd y tu ôl i Hwb Cymunedol Amrywiol Môn. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant, diogelwch a llesiant cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o’n hynys.
· Llongyfarchiadau i Elen Gwen Williams, sydd bellach yn byw ar Ynys Môn, am ennill gwobr goffa Dai Jones am ei phrosiect “Calon Cefn Gwlad”. Cafodd ei gwaith ei ganmol am ei ffocws ar gymuned a threftadaeth amaethyddol Cymru.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at wobrau twristiaeth gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar. Roedd yn braf gweld cymaint o fusnesau o Ynys Môn yn cael llwyddiant, gan gynnwys Chateau Rhianfa, y Ribride, a Distyllfa Llanfairpwll. Anrhydeddwyd Cyngor Tref Caergybi hefyd am eu gwaith arbennig yn croesawu ymwelwyr teithiau llongau i’r dref.
· Llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc yr Ynys ar eu llwyddiant yn Eisteddfod CFfi Cymru yn Sir Drefaldwyn ym mis Tachwedd.
· Llongyfarchiadau i Kenan Davies-Zorlu o Gaergybi y myfyriwr Peirianneg o Goleg Menai sydd wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei gynnydd rhagorol mewn mathemateg.
· Llongyfarchiadau, i Steffan Lloyd Owen am ennill un o gystadlaethau Opera mwyaf yn y byd, ym Mharis yn ddiweddar. · Llongyfarchiadau i Cari Hughes (Clwb Menai Track & Field) a enillodd y ras Liverpool Cross Challenge 2025 - Ras 8km traws gwlad - mewn 27 munud 17 eiliad ym mis Tachwedd. · Llongyfarchiadau i Mrs Susan Jones, Tregarnedd, Star, Llanfairpwll ar gael ei hethol yn llywydd etholedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2027. · Llongyfarchiadau i Mari Llion Jones ar gael ei hethol yn llysgennad etholedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, 2027. · Llongyfarchiadau i Undeb Amaethwyr Cymru sy’n dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu ym 1955. · Llongyfarchiadau i Ganolfan Hen Ysgol Bodorgan am dderbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am eu gwasanaeth gwirfoddol. · Dymuniadau gorau i Mr Magee o’r Fali a ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar.
* * * * *
Cydymdeimlodd y Cadeirydd yn ddwys â theulu’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE a fu farw’n ddiweddar yn dilyn cyfnod o salwch.
Cafwyd teyrngedau i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE gan Arweinydd y Cyngor, yr Aelodau Etholedig sy’n cynrychioli ward Ynys Cybi ac Aelodau eraill o’r Cyngor. Fe wnaethant gyfeirio at ei hiwmor, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.4 o’r Cyfansoddiad I gyflwyno rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Kenneth Hughes i Arweinydd y Cyngor: -
“Yn dilyn derbyn e bost i ddwyn fy sylw at y ffaith fod yna wrthdaro rhwng dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru 2027 a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn, sydd yn golygu bod ysgolion ar agor am y ddau ddiwrnod cyntaf o'r sioe. Ydi yn bosib i'r deilydd portffolio ddefnyddio ei ddylanwad i geisio cael datrysiad i sicrhau fydd dim gwrthdaro gyda dyddiadau y sioe a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn yn 2027, hyn yn holl bwysig gan mai Ynys Môn ydi y Sir nawdd yn 2027?” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – y cwestiwn a ganlyn gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes i Arweinydd y Cyngor:-
‘Yn dilyn derbyn e-bost i ddwyn fy sylw at y ffaith fod yna wrthdaro rhwng dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru 2027 a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn, sydd yn golygu bod ysgolion ar agor am y ddau ddiwrnod cyntaf o'r sioe. Ydi yn bosib i'r deilydd portffolio ddefnyddio ei ddylanwad i geisio cael datrysiad i sicrhau na fydd dim gwrthdaro gyda dyddiadau'r sioe a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn yn 2027? Mae hyn yn holl bwysig gan mai Ynys Môn ydi'r Sir nawdd yn 2027’
Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai’r llywodraeth sy’n gosod yr amserlen ar gyfer gwyliau ysgol ac nid y Cynghorau Sir. Nododd bod ysgolion ym Mhowys wedi cael caniatâd i gau am ar haf cyn i’r Sioe Frenhinol ddechrau. Mae’r Aelod Seneddol, Llinos Medi a’r Aelod o’r Senedd, Rhun ap Iorwerth wedi anfon llythyr ar y cyd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn am ganiatâd i gau Ysgolion Ynys Môn cyn dechrau’r sioe yn 2027, gan mai Ynys Môn yw’r sir nawdd. Roedd y llythyr hefyd yn nodi y dylid sicrhau bod pob sir nawdd yn cael yr un cyfle yn y dyfodol. Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i’r Aelodau y byddai’n eu hysbysu ynglŷn â’r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg mai’r unig hyblygrwydd sydd gan Llywodraethwyr a Phenaethiaid yw bod modd iddynt ddewis pryd i gynnal y pum diwrnod o hyfforddiant sydd ar gael i ysgolion. Nododd, yn dilyn trafodaethau â’r Swyddogion Addysg Dalgylch, y bydd deuddydd o hyfforddiant yn cael ei gynnal ar ddechrau’r wythnos fel y gall disgyblion fynychu’r Sioe Frenhinol yn 2027. Fodd bynnag, nododd yr Aelod Portffolio mai’r Llywodraethwyr fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu deuddydd o hyfforddiant er mwyn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan yn y Sioe gan mai Ynys Môn yw’r sir nawdd yn 2027.
|
|
|
Rhybudd o Gynnig · I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol o Gynghorwyr er mwyn gwneud cais bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mabwysiadu cynnig tebyg i’r hyn sydd wedi’i dderbyn ac sydd bellach yn ei le yng Nghyngor Dinas Manceinion: -
“Nododd adroddiad diweddar gan Marie Curie “marw mewn tlodi (dying in poverty)” fod 28% o bobl mewn gwaith a 16% o bobl o oed pensiwn mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd; mae’r cyfraddau hyn yn sylweddol uwch nac ar gyfer pobl nad ydynt ym mlwyddyn olaf eu bywydau.
Gweithiodd yr elusen diwedd bywyd, Marie Curie, gyda Chyngor Dinas Manceinion ar Gynlluniau Treth Cyngor ‘arloesol’ gan ddweud mai’r Cyngor oedd y cyntaf yn Lloegr i gynnig eithriad llawn ar gyfer pobl â salwch terfynol.
Nododd cynigion Manceinion gynlluniau i’r Cyngor i newid ei Bolisi Disgresiwn Treth Cyngor er mwyn cynnwys ymrwymiad penodol i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch terfynol.
Bwriad y cynllun ym Manceinion yw lleihau’r baich ar ofalwyr teuluol ac mae’n mynd yn bell er mwyn gallu helpu / cynorthwyo â chostau annisgwyl lle cafwyd diagnosis lliniarol; yn cynnwys sicrhau pŵer ar gyfer offer meddygol yn y cartref a chaniatáu / galluogi gwres ymlaen ar lefel uwch ac am gyfod hirach; er mwyn helpu i reoli symptomau.
Mae Marie Curie yn gofyn i fwy o Gynghorau fabwysiadu agwedd debyg i Fanceinion, a hynny ‘ar frys’ er mwyn helpu pobl yn eu misoedd, wythnosau a dyddiau olaf o’u bywydau heb iddynt orfod poeni am filiau Treth Cyngor.
Mae nifer o Gynghorau eraill bellach wedi mabwysiadu cynigion tebyg er mwyn cefnogi pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau.”
· I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Jackie Lewis: -
Fel aelod etholedig o Ward Talybolion, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch lleoli Adweithyddion Modwlar Bychan yn Wylfa.
Mae gan Ynys Môn draddodiad balch o gynhyrchu pŵer yng Ngorsaf Niwclear Wylfa, a bu’n darparu cyflogaeth o ansawdd i drigolion yr Ynys am ddegawdau.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r effeithiau posibl ar y cymunedau a’r trigolion sy’n byw yn agos i safle Wylfa felly gofynnaf i'r Cyngor Sir ofalu bod y prosiect yn sicrhau y manteision lleol mwyaf posibl, tra hefyd yn lleihau ac yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.
Rhaid gwrando ar leisiau, anghenion a phryderon trigolion Ynys Môn wrth i brosiect newydd Wylfa symud ymlaen.
Felly gofynnaf i ni fel Cyngor Sir Ynys Môn weithio'n ddiwyd i sicrhau bod y buddion economaidd a’r cyfleon gwaith yn dod yn bennaf i drigolion Ynys Môn trwy: • Sicrhau swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i bobl a busnesau lleol
• Gweithio gyda’r Adran Dysgu a’n partneriaid yng Ngholeg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor i sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i’n pobl ifanc
• Creu sefyllfa sy’n caniatau i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd eisoes wedi gadael yr ynys allu dychwelyd
• Sicrhau fod ein hiaith a'n diwylliant yn linyn arian trwy ... view the full Rhaglen text for item 6. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Cyflwynwyd - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans
“Nododd adroddiad diweddar gan Marie Curie “marw mewn tlodi (dying in poverty)” fod 28% o bobl mewn gwaith a 16% o bobl oed pensiwn mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd; mae’r cyfraddau hyn yn sylweddol uwch nac ar gyfer pobl nad ydynt ym mlwyddyn olaf eu bywyd.
Gweithiodd yr elusen diwedd bywyd, Marie Curie, gyda Chyngor Dinas Manceinion ar Gynlluniau Treth Cyngor ‘arloesol’ gan ddweud mai’r Cyngor oedd y cyntaf yn Lloegr i gynnig eithriad llawn ar gyfer pobl â salwch terfynol.
Roedd cynigion Cyngor Manceinion yn cynnwys cynlluniau i newid ei Bolisi Disgresiwn Treth Cyngor er mwyn cynnwys ymrwymiad penodol i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch terfynol.
Bwriad y cynllun ym Manceinion yw lleihau’r baich ar ofalwyr teuluol ac mae’n mynd yn bell er mwyn gallu helpu / cynorthwyo â chostau annisgwyl lle cafwyd diagnosis lliniarol; yn cynnwys sicrhau pŵer ar gyfer offer meddygol yn y cartref a chaniatáu / galluogi i’r gwres fod ymlaen ar lefel uwch ac am gyfod hirach; er mwyn helpu i reoli symptomau.
Mae Marie Curie yn gofyn i fwy o Gynghorau fabwysiadu agwedd debyg i Fanceinion, a hynny ‘ar frys’ er mwyn helpu pobl yn eu misoedd, wythnosau a dyddiau olaf fel na does raid iddynt boeni am filiau Treth Cyngor.
Mae nifer o Gynghorau eraill bellach wedi mabwysiadu cynigion tebyg er mwyn cefnogi pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd.
Rwyf yn cyflwyno’r ‘Rhybudd o Gynnig’ hwn ar ran y Grŵp o Gynghorwyr Annibynnol, ac yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn fabwysiadu cynigion tebyg i’r rhai sydd wedi eu derbyn ac sydd bellach ar waith yng Nghyngor Dinas Manceinion.”
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Paul Ellis.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn cefnogi menter Marie Curie i gefnogi pobl sydd â salwch terfynol ac sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd, a bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses ar gyfer gosod y gyllideb.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn cefnogi’r Cynnig ac fe wnaeth atgoffa pobl bod y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar gael i gefnogi pobl sydd mewn tlodi ac sydd yn dioddef o salwch a dywedodd bod cymorth hefyd ar gael drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod angen ystyried goblygiadau’r cymorth dewisol sydd wedi’i nodi yn y Cynnig a gofynnodd p’un a yw’r eithriad ar gyfer y Dreth Gyngor yn dod i ben ar farwolaeth yr unigolyn ac am yr effaith y gallai’r cymorth dewisol yn ei gael ar bobl sydd eisoes yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Aeth ymlaen i ofyn p’un a yw’r disgownt yn cael ei roi i’r unigolyn neu’r eiddo, ac os oes pobl eraill yn byw yn yr eiddo p’un a ydynt yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod digon o amser i ystyried goblygiadau’r cynnig ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Diwygio’r Cyfansoddiad - Rhoi Cymeradwyaeth Derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd 2025, i’w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Cyfrifon Blynyddol y Cyngor yn derfynol.
|
|
|
Penodi Aelod Cyfetholedig Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i’w dderbyn gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn argymhellion Panel Dethol y Pwyllgor Safonau, sydd fel a ganlyn:-
· Penodi Mr David Davies yn aelod annibynnol cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau, gyda’i gyfnod yn y swydd yn dod i rym ar y 12fed o Ragfyr, 2025; a · Petai sedd wag achlysurol am aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn codi yn ystod y deuddeng mis nesaf, penodi Dr Margaret Flynn i’r rôl yn awtomatig heb orfod mynd trwy broses recriwtio arall, ar yr amod, wrth gwrs, bod yr ymgeisydd yn parhau’n gymwys ar gyfer y rôl, ac yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol cyn ei phenodi.
|