Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: John Gould (01248 752 515
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cofnodion 6 Rhagfyr, 2012 PDF 198 KB Cyflwyno i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-
· 6 Rhagfyr, 2012 · 14 Rhagfyr, 2012 (Arbennig) · 24 Ionawr, 2013 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. |
|
Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Comisiynwyr neu Bennaeth y Gwasanaethau Tâl |
|
Cofnodion er Gwybodaeth - Bwrdd Gwella a Chynaliadwyedd - 1af Hydref, 2012 PDF 212 KB Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyedd Ynys Môn:-
· 1 Hydref, 2012 · 29 Tachwedd, 2012 · 20 Rhagfyr, 2012 · 31 Ionawr, 2013 Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. |
|
6.1 Cyflwyno cynigion y Pwyllgor Gwaith newn perthynas â strategaeth gyllidebol ar gyfer y tymor canol, cynllun cyfalaf interim a chyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer 2013-14.
6.2 Blaenoraethau Gwella 2013-14
(a) Dweud bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2013 wedi penderfynu:-
· ”Ei fod yn cymeradwyo’r Blaenoriaethau Gwella am 2013-14;
· Rhoi awdurdod i Swyddogion mewn ymgynhoriad gyda’r Aelodau Portffolio perthnasol i ddatblygu rhaglenni cysylltedig ar gyfer pob un o’r Blaenoriaethau Gwella a bod blaenoriaethau gwella’r Cyngor ar gyfer 2013-14 yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill yn dilyn y cylch cynllunio busnes blynyddol.”
(b) Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi). (Cylchredwyd copi eisoes i’r holl Aelodau fel rhan o raglen y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 18 Chwefror, 2013).
6.3 Ymgynghori ar y Cynigion ar Gyfer y Gyllideb
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ar ganlyniadau’r ymgynghori ar y cynigion mewn perthynas â’r gyllideb. (Cylchredwyd copi eisoes i’r holl Aelodau fel rhan o raglen y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 18 Chwefror, 2013).
6.4 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn delio gyda materion statudol mewn perthynas a’r Gyllideb.
6.5 Ystyried y penderfyniad ffurfiol fel y mae’n ymddangos yn adroddiad yr Uwch Ymgynghorydd Ariannol / Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.
6.6 Cyflwyno unrhyw newidiadau i’r Gyllideb y cafwyd rhybudd yn eu cylch yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.
(Sylwer: Mae angen ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn) Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynllun Integredig Sengl PDF 3 MB Dweud bod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror, 2013 wedi penderfynu “cyfeirio’r fersiwn derfynol o’r Cynllun Integredig Sengl i’r Cyngor Sir ar gyfer ei gymeradwyo”.
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) |
|
Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor Newidiadau i rannau isod y Cyfansoddiad:-
1. Strwythur Pwyllgorau 2. Protocol Aelodau a Swyddogion 3. Protocol Wardiau Amlaelod 4. Hyfforddiant Gorfodol
Dweud bod y Pwyllgor Gwaith ar ôl ystyried yr uchod yn eu cyfarfod ar 18 Chwefror, 2013 wedi penderfynu fel a ganlyn:-
“Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio Cyfansoddiad y Cyngor yn unol â’r adroddiad (sef mewn perthynas â Hyfforddiant Aelodau, Strwythur Pwyllgorau, Protocol Wardiau Amlaelod a Phrotocol Aelodau a Swyddogion) a rhoddi’r awdurdod i’r swyddogion wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad”.
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) ar y newidiadau uchod. (Cylchredwyd copi eisoes i’r holl Aelodau fel rhan o raglen y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 18 Chwefror, 2013). |
|
Polisi Cwynion a Phryderon PDF 718 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) |
|
Newidiadau i Bolisi Indemniadau'r Cyngor PDF 4 MB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddol) |
|
Strategaeth Rheoli Llifogydd a Dwr Dweud fod y Pwyllgor Gwaith, ar ôl ystyried yr adroddiad uchod yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror, 2013, wedi penderfynu:-
“argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli’r Risg o Lifogydd.”
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff). (Cylchredwyd copi eisoes i’r holl Aelodau fel rhan o Raglen y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 11 Chwefror, 2013). |
|
Adolydiad o Bolisi Gamblo'r Awdurdod PDF 697 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach |
|
Adolygiad o Bolisi Trwyddedu'r Awdurdod PDF 517 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Safonau Masnach |
|
Carchar yng Ngogledd Cymru PDF 5 MB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr |
|
Rhybudd o Gynigiad a Dderbyniwyd yn Unol â Rheol 4.1.2.2.12 y Cyfansoddiad Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Richard A Dew ac Aled Morris Jones:-
“Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i ystyried gosod plac coffa ym mhentref Rhosneigr, fel y lle y ganwyd, ym 1883, y Llyngesydd Syr Max Kennedy Horton, GCB, DSO, Cadbennaeth Ardaloedd y Gorllewin yn ail hanner yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y Llyngesydd, Syr Max Kennedy Horton, GCB, DSO yn gyfrifol am ran Prydain ym Mrwydr Môr Iwerydd, ac ym mis Mai eleni byddir yn coffau 70 o flynyddoedd ers y frwydr honno.” |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”. |
|
Datganiad Polisi Tâl 2013-14 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro |