Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Cyffredinol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 23ain Mai, 2013 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Adroddiad Gwella Blynyddol 2013 – Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 471 KB


Cyflwyniad  gan gynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru

(Copi o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghlwm).

 

Bydd  sesiwn fer i aelodau ofyn a chael atebion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Cyflwyniad llafar gan Mr. Huw Lloyd Jones, Swyddfa Archwilio Cymru ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol am 2013.

 

Adroddwyd – bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi dod i’r casgliad bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da gyda darparu gwelliannau ac wedi ymateb yn adeiladol i gyngor gan y Comisiynwyr a rheoleiddwyr, ond bod rhaid i fomentwm y newid barhau er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy.

 

Roedd yr Archwilwyr yn gweld bod y Cyngor yn gwneud cynnydd gyda darparu gwelliant yn y rhan fwyaf o’i flaenoriaethau ond bod angen iddo ganolbwyntio ar wasanaethau gwannach i wella canlyniadau i’r cyhoedd:-

 

·         roedd y Cyngor yn parhau i wneud cynnydd da yn mynd i’r afael â themâu llywodraethu corfforaethol y Comisiynwyr ac wedi cyrraedd trobwynt allweddol gyda’r ymyrraeth yn cael ei lleihau;

·         roedd cynnydd da yn cael ei wneud o ran gwella perfformiad y Gwasanaethau Plant ac yn ateb i ganfyddiadau’r Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn 2011;

·         roedd y Cyngor yn ymateb yn adeiladol i ganfyddiadau archwiliad Estyn yn 2012;

·         roedd y gwasanaethau budd-dal tai yn gwella’n gyffredinol;

·         roedd y Cyngor hwn yn un o ddau yn unig yng Nghymru i ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed ac roedd trefniadau i wneud gwaith trwsio ymatebol i dai yn gwella.

·         Roedd trefniadau’r Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau gwybodaeth yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i wella; ac

·         Roedd y Cyngor yn datblygu ei drefniadau gweithio mewn partneriaeth, yn dechrau ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn fwy effeithiol ac yn mynd i’r afael â materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

 

Roedd yr Archwilwyr hefyd yn gweld bod agwedd y Cyngor tuag at adrodd yn ôl a gwerthuso perfformiad yn gwella, ac roedd y Tîm Uwch Arweinyddiaeth yn ychwanegu at gapasiti’r Cyngor a’i allu i ddarparu gwelliant pellach :-

 

·         Roedd adroddiad hunanarfarnu blynyddol y Cyngor yn un cytbwys ond roedd sgôp i gynnwys mwy o wybodaeth ansoddol i ddarparu sail tystiolaeth fwy cyflawn i’w alluogi i asesu ei berfformiad.

·         Roedd trefniadau llywodraethu a monitro yn gwella tra roedd y Pwyllgorau Sgriwtini ac Archwilio’n perfformio’n dda, gydag aelodau etholedig ac aelodau lleyg yn darparu her a mewnbwn gwerthfawr.

·         Roedd y Cyngor yn dysgu bod yn fwy hunan-feirniadol yn ei werthusiad o ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau i ddinasyddion, ac

·         Roedd y Tîm Uwch Arweinyddiaeth yn darparu arweinyddiaeth gref a gweledol, ac wedi ychwanegu’n sylweddol at gapasiti’r Cyngor a’i allu i ddarparu gwelliant pellach.

 

Yn olaf, roedd yr adroddiad yn rhoi barn ar pa mor dda yr oedd y Cyngor yn cynllunio ar gyfer, ac yn gwneud trefniadau i gefnogi gwelliant.  I gloi, roedd gan y Cyngor gynllun cynhwysfawr ar gyfer gwella ac fe fyddai’n heriol i’w gyflawni, ond roedd ynddo ragolygon realistig o ddod â gwelliannau sylweddol i wasanaethau ac i bobl Môn.

 

Cafodd yr aelodau gyfle sydyn i ofyn cwestiynau a chael atebion.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwyno  i’w cadarnhau gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

• 5 Mawrth 2013

• 16 Ebrill 2013 (Arbennig) 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·         5 Mawrth 2013

·         16 Ebrill 2013 (Arbennig)

 

Materion yn codi –

 

Eitem 3 – Cyflwyniad gan y Cadeirydd i’r Aelodau oedd yn ymddeol.

 

Yng nghyswllt y Cynghorydd R. L. Owen, bod y flwyddyn 1999 yn cael ei hychwanegu i ddiwedd y frawddeg gyntaf o’r paragraff yn y fesiwn Gymraeg o’r cofnodion.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn  unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Nid oedd dim datganiadau o ddiddordeb.

 

4.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i’r Aelodau newydd o’r Cyngor oedd yn bresennol yn eu cyfarfod cyntaf o’r Cyngor Sir a diolchodd i gyn Aelodau’r Cyngor oedd wedi colli eu seddau neu oedd wedi penderfynu peidio â sefyll yn yr Etholiad diweddar.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd yr Adran Dai ar ennill y drydedd wobr mewn cystadleuaeth TPAS Cymru yn genedlaethol am ei waith gyda’r Panel Tenantiaid o dan y pennawd ‘gwella gwasanaethau’.

 

Soniodd y Cadeirydd hefyd bod Heneiddio’n Dda Hwyliog Môn wedi eu dewis i’r rownd derfynol yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol y Cyngor Gofal 2013 i’w cynnal yn Neuadd y Dref Caerdydd ar 21 Mehefin, yn y categori gwasanaethau rheoli Dinasyddion.  Roedd Heneiddio’n Dda yn esiampl wych o bobl yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu gwasanaethau a chyfleon i’w cymunedau lleol ac roedd yn chwarae rhan allweddol o ran datblygu strategaeth ataliol yr Awdurdod i bobl hŷn.  Gellir ail adrodd y model hwn mewn ardaloedd eraill o Ynys Môn a byddai’n nodwedd amlwg yn y rhaglen drawsnewid gofal cymdeithasol i oedolion.

 

Ar nodyn mwy trist, cyfeiriodd y Cadeirydd at deyrnged a roddwyd yn y cyfarfod diwethaf o’r Panel Rhiant Corfforaethol i Mrs Liz Owen, a fu’n ofalwr maeth i’r Cyngor ers 1996, ac a oedd wedi marw ar 5 Ebrill 2013 yn 53 oed.

 

Roedd staff yr Adran Gymuned a Chymdeithas Gofalwyr Maeth Ynys Môn wedi casglu arian i brynu coeden fyddai’n cael ei phlannu yng ngardd Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd fel coffhâd parhaol i Mrs Liz Owen a’i chyfraniad gwerthfawr i fywydau plant mewn gofal.

 

Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd â’i theulu yn eu colled.

 

Estynnwyd cydymdeimladau i bob aelod o’r Cyngor a staff oedd wedi dioddef profedigaeth. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn teyrnged ddistaw fel arwydd o barch.

 

5.

Cofnodion er Gwybodaeth – Bwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwyno  er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd o Fwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

· 28 Chwefror 2013

· 25 Ebrill 2013

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd o’r Bwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  • 28 Chwefror 2013
  • 25 Ebrill 2013

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys cofnodion y cyfarfodydd o’r Bwrdd Gwella a Chynaliadwyaeth.

6.

Cyflwyno Deisebau

Yn  unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad, cyflwyno deiseb gan y Prif Weithredwr ar ran y Cynghorydd Aled Morris Jones, yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i ryddhau swm o £250,000 o’r arian wrth gefn yn awr i gyllido gwaith trwsio brys ar lonydd Ynys Môn.

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad, cyflwynodd y Prif Weithredwr ddeiseb gyda 14 llofnod gan y Prif Weithredwr ar ran y Cynghorydd Aled Morris Jones, yn galw ar i Gyngor Sir Ynys Môn ryddhau swm o £250,000 o’i arian wrth gefn yn awr, ar gyfer cyllido gwaith atgyweirio ar frys i ffyrdd Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w ystyried.

 

7.

Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor – Newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio cyn y Wardiau Amlaelod yn dilyn Etholiadau 2013

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn diwygio Cyfansoddiad y Cyngor fel a nodir yn yr adroddiad ac i awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad”.

 

Cyflwyno  adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro /Cyfreithiwr Cynllunio fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill 2013.

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith, yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn derbyn y newidiadau arfaethedig a rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad yn codi o hyn”.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn hyn o beth.

 

8.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad – Creu Protocol ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol mewn Cyfarfodydd pdf eicon PDF 78 KB

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

Argymell i’r Cyngor llawn bod y Protocol Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei fabwysiadu a’i ymgorffori yn y Cyfansoddiad a bod awdurdod yn cael ei roddi i Swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad”.

 

Cyflwyno  adroddiad gan y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill 2013.

Cofnodion:

Adroddwyd – Bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

“argymell i’r Cyngor llawn fod y Protocol Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei ymgorffori yn y Cyfansoddiad a rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad o ganlyniad.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn hyn o beth.

 

9.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad – Amlder Pwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 170 KB

Adrodd  i’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013, benderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

• “Y bydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini newydd yn cael eu galw’n Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio;

• Y bydd cyfarfodydd Cyffredin o bob Pwyllgor Sgriwtini yn cael eu cynnal chwe gwaith ym mhob Blwyddyn Ddinesig;

• Bod awdurdod yn cael ei roddi i swyddogion i wneud unrhyw newidiadau dilyniadol i’r Cyfansoddiad.”

 

Cyflwyno  adroddiad gan y Swyddog Monitro fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill 2013.

Cofnodion:

Adroddwyd – Bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn :-

 

·         “Galw’r ddau Bwyllgor Sgriwtini newydd yn “Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol” a “Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

·         Y cynhelir cyfarfodydd arferol o’r naill Bwyllgor Sgriwtini a’r llall chwe gwaith ym mhob blwyddyn ddinesig.

 

·         Rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad o ganlyniad i hyn.”

 

Cynigiodd y Cynghorydd H. Eifion Jones bod y lleihad yn niferoedd y Pwyllgorau Sgriwtini o 5 i 2 yn cael ei adolygu ymhen 6 mis.  Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn hyn o beth.

 

10.

Mabwysiadu Polisi GDG newydd yn lle’r Polisi CRB cyfredol pdf eicon PDF 356 KB

Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn:-

 

Ei fod yn mabwysiadu’r polisi GDG newydd (yr hen Bolisi Cofnodiadau Troseddol Corfforaethol) gydag awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Swyddog Monitro ddiwygio’r drafft yng nghyswllt enwi’r Pwyllgorau Sgriwtini a chyfatebu (os yn bosibl) y cyfnod pryd y gall gwiriadau GDG barhau’n ddilys, a’i fod yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

• Bod trefniadau’n cael eu gwneud i alw gweithdai hyfforddiant i Aelodau”.

 

Cyflwyno  adroddiad gan yr Uwch Gyfreithiwr (Gwasanaethau Plant) fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill 2013.

Cofnodion:

Adroddwyd – Bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2013 wedi penderfynu argymell i’r Cyngor Sir fel a ganlyn :-

 

·         “Ei fod yn mabwysiadu’r Polisi GDG fel y cafodd ei ddiweddaru (y Polisi Corfforaethol Gwiriadau Troseddol fel yr oedd gynt) ac yn dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro ddiwygio’r drafft o ran enwau’r Pwyllgorau Sgriwtini ac (os yn bosibl) i gysoni’r cyfnod y gall gwiriadau GDG fod yn ddilys ar ei gyfer; a chyhoeddi’r wybodaeth ar dudalen gwefan y Cyngor.

 

·         Gwneud trefniadau i gynnal gweithdai hyfforddi ar gyfer Aelodau.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn hyn o beth.

 

11.

Mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol yn lle’r Protocol Hunanreoleiddio Cyfredol pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno  adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan Mr. Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar fabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol yn lle’r Protocol Hunanreoleiddio Cyfredol.

 

PENDERFYNWYD dileu’r Protocol Hunanreoleiddio a fabwysiadwyd ar 4 Mawrth 2010 a mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol newydd i ddod i rym ar unwaith yn unol â’r ddogfen oedd ynghlwm fel Atodiad 7 i’r adroddiad hwn.

 

 

12.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2012-13 pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwyno  adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Mr. Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2012-13.

 

Cymerodd yr Aelodau y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Safonau am ei waith dros y 12 mis diwethaf.

 

PENDERFYNWYD nodi gweithgareddau’r Pwyllgor Safonau am 2012-13 ac i gymeradwyo ei raglen waith ar gyfer 2013-14.

 

13.

Gwasanaethau Democrataidd – Adroddiad Blynyddol 2012/2013 pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwyno  adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2012-13.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad ac i nodi’r materion a drafodwyd fel rhan o raglen waith y Pwyllgor am 2012-13.

 

14.

Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2012/2013 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno  adroddiad gan Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar yr Adroddiad Blynyddol Sgriwtini am 2012/13.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Nodi a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Sgriwtini am 2012-13;

·         Bod y Cynghorydd R. Meirion Jones yn cael ei benodi i wasanaethu fel Eiriolwr Sgriwtini am y cyfnod Mai 2013 i Mai 2014.

 

15.

Hyfforddiant a Datblygu Aelodau 2013-14 pdf eicon PDF 485 KB

Cyflwyno  adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cynllun hyfforddiant a datblygu arfaethedig i aelodau am 2013-14.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu ac yn ymgymryd â’r cynllun datblygu a hyfforddi i aelodau fel oedd i’w weld yn yr adroddiad.

 

 

16.

Rhybuddion o Gynigion a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.2.2.1.12 y Cyfansoddiad

·      Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Richard O Jones a W T Hughes:-

 

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i ystyried gosod plac coffa ar Neuadd Cemaes, sef prif gartref y Brigadydd Cyffredinol Syr Owen Thomas KT, AS, DL,YH.

 

Roedd Syr Owen Thomas yn Ddyngarwr, Ffermwr, Entrepreneur, Ynad Heddwch, Aelod o’r Orsedd, Aelod o’r Staff Milwrol a chefnogwr yr Ysgol Sul a’r Aelod Llafur Annibynnol Cyntaf o’r Cyffredin o Ynys Môn.”

 

I roi ystyriaeth i’r uchod.

 

·      Cyflwyno’r  Rhybudd o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Aled Morris Jones a eiliwyd gan y Cynghorydd G.O. Jones ac o lofnodwyd hefyd gan y Cynghorwyr R.A. Dew, Jim Evans, D.R. Hughes, K.P. Hughes, T. Victor Hughes, W.T. Hughes, H.E. Jones, P.S. Rogers, J.A. Rowlands ac Ieuan Williams.

 

Rydym  yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn ganiatáu Rhyddfraint y Sir i’r Llynges Frenhinol.

 

Mae hyn i gydnabod eu cyfraniad o ran cadw llwybrau’r môr o gwmpas ein harfordir yn ddiogel.  Dylid ystyried caniatáu’r Rhyddfraint fel un digwyddiad i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Mawr rhwng 1914 a 1918.

 

Rydym  yn cofio ein harwyr llyngesol, William Williams VC, Amlwch a’r Llyngesydd Syr Max Horton.  Byddai’r Rhyddfraint yn rhoi i’r Llynges Frenhinol yr hawl i orymdeithio gyda’r baneri’n hedfan, drymiau’n curo a’r bidog wedi’i osod.”

 

I roi ystyriaeth i’r uchod.

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Richard O. Jones a W. T. Hughes :

 

“Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn ystyried gosod plac coffa ar Neuadd Cemaes fu yn brif breswylfa i’r Brigadydd Syr Owen Thomas, KT.MP.DL.JP.

 

Roedd Syr Owen Thomas yn Ddyngarwr, Ffermwr, Entrepreneur, Ynad Heddwch, Aelod o’r Orsedd, Aelod o Staff Cyffredinol a chefnogwr yr Ysgol Sul a’r Aelod Llafur Annibynnol cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin o Ynys Môn.”

 

Darparodd y Cynghorydd A. Morris Jones grynodeb byr pellach i’r Cyngor o gefndir a gyrfa Syr Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Arweinydd anfon y cais ymlaen i’r Panel Placiau Coffa gydag argymhelliad gan y Cyngor hwn ei fod yn cael ei gefnogi.

 

·         PENDERFYNWYD nodi bod y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Aled Morris Jones wedi ei eilio gan y Cynghorydd G. O. Jones a’i arwyddo hefyd gan y Cynghorwyr R. A. Dew, Jim Evans, D. R. Hughes, K. P. Hughes, T. Victor Hughes, W. T. Hughes, H. E. Jones, P. S. Rogers, J. A. Rowlands a Ieuan Williams wedi cael ei dynnu yn ôl gan y Cynghorydd Jones ar hyn o bryd:-

 

“Rydym ni yn gwneud cais i Gyngor Sir Ynys Môn roi Rhyddid y Sir i’r Llynges Frenhinol.

 

Mae hyn mewn cydnabyddiaeth o gadw ffyrdd tramwyo yn y môr yn ddiogel o amgylch ein harfordir.  Dylai rhoi’r Rhyddid hwn gael ei weld fel un digwyddiad i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Mawr rhwng 1914 a 1918.

 

Rydym yn cofio am ein harwyr ar y môr, William Williams VC, Amlwch a’r Llyngesydd Syr Max Horton.  Byddai’r Rhyddid yn rhoi i’r Llynges Frenhinol yr hawl i orymdeithio gyda baneri’n chwifio, drymiau’n curo a bidogau wedi’u gosod.”