Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr John Gould
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd i Gyngor Sir Ynys Môn am 2013-14.
(Cyfeirir yr Aelodau at y Drefn o Fusnes ynglyn â’r seremoni i ethol Cadeirydd y Cyngor Sir fydd yn cael ei roi gerbron yn y cyfarfod). Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd G.O.Jones yn Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2013-14.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, addawodd y Cynghorydd Jones y byddai’n gwneud ei orau i gyflawni’r dyletswyddau hyd orau ei allu. Achubodd ar y cyfle hefyd i dalu teyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd R. Llewelyn Jones am ei ymrwymiad o ran cynrychioli’r Cyngor Sir yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Diolchodd y Cynghorydd R Llewelyn Jones, y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, i holl aelodau a swyddogion y Cyngor am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Rhoes hefyd grynodeb o’i ddyletswyddau fel Cadeirydd a’r modd y bu iddo gynrychioli’r Cyngor mewn amryfal ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. Dymunodd yn dda i’r Cynghorydd G.O.Jones gan obeithio y byddai yntau hefyd yn cael cyfnod hapus a llwyddiannus. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2013-14. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Raymond Jones yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn am 2013-14.
Diolchodd y Cynghorydd Raymond Jones i’r aelodau am eu hyder ynddo ac am eu geiriau caredig. Dywedodd ei fod yn bwriadu cydweithio gyda’r Cadeirydd newydd a’i gefnogi. |
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd sy’n gorffen ei dymor yn y swydd.
Sylwadau cloi gan y Cadeirydd ar ddiwedd ei dymor yn y swydd. Cofnodion: Llongyfarchodd y Cadeirydd yr aelodau hynny o’r Awdurdod a oedd newydd gael eu hethol. Achubodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r cyn aelodau hynny a oedd wedi colli eu seddau yn yr etholiad a thalodd deyrnged i’r gwaith a wnaethant yn ystod eu cyfnod fel Aelodau. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ynghylch unrhyw eitem o fusnes gan unrhyw Aelod neu Swyddog. Cofnodion: Dim i’w datgan. |
|
Cyflwyniad yr Ymgeiswyr i Gefnogi eu Henwebiad i fod yn Arweinydd y Cyngor PDF 784 KB Yn unol â Pharagraff 2.7.3.2 y Cyfansoddiad, yn dilyn cyflwyno eisoes gyflwyniad (maniffesto) ysgrifenedig i’r Prif Weithredwr cyn 5:00 pm ar 9 Mai 2013 (y bydd yn rhaid iddo fod wedi ei gefnogi yn ysgrifenedig i’r Prif Weithredwr gan 2 Gynghorydd arall), gwneir cyflwyniad llafar gan yr ymgeiswyr canlynol ar eu gweledigaeth a’i gwerthoedd:-
(a) Cynghorydd R G Parry, OBE (b) Cynghorydd Ieuan Williams
[Nodyn 1: Gofynnir i’r personau a enwebwyd gyflwyno eu cynigion a’u rhaglenni i’r Cyngor yn nhrefn yr wyddor ac fe ddylent ddisgwyl cael cwestiynau gan yr Aelodau].
[Nodyn 2: Ni ddylai’r cyflwyniadau fod yn fwy na 10 munud o hyd ac ni chaniateir i unrhyw gwestiynau o’r llawr fod yn fwy na 10 munud; gan wneud uchafswm o 20 munud i gyd i bob ymgeisydd]. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 2.7.3.2 y Cyfansoddiad, ac ar ôl rhoi cyflwyniad ysgrifenedig (maniffesto) i’r Prif Weithredwr cyn 5:00 pm ar 9fed Mai 2013 cafwyd anerchiad llafar 10 munud gan yr ymgeiswyr isod ar eu gweledigaeth ar gyfer y Cyngor a’u gwerthoedd:-
(a) Y Cynghorydd R.G. Parry. OBE (b) Y Cynghorydd Ieuan Williams
Ar ddiwedd pob cyflwyniad, ymatebodd yr ymgeiswyr i gwestiynau gan Aelodau’r Cyngor. |
|
Penodi Arweinydd y Cyngor Sir Ethol Arweinydd y Cyngor Sir Ynys Môn (fel arfer am dymor o 4 blynedd) yn unol ag erthygl 7 ac yn arbennig y rheolau gweithdrefn a geir dan Baragraffau 2.7.3.2.3 a 2.7.3.2.4 yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Ieuan Williams yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn am gyfnod o 4 blynedd yn unol ag Erthygl 7 ac yn arbennig y rheolau gweithdrefn dan Baragraffau 2.7.3.2.3 a 2.7.3.2.4 Cyfansoddiad y Cyngor.
(Yn dilyn pleidlais gudd, y bleidlais oedd 17 – 12 o blaid y Cynghorydd Ieuan Williams) |
|
Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir Arweinydd y Cyngor i hysbysu’r Cyngor o enw’r Dirprwy Arweinydd y mae ef wedi ei ddewis (bydd y Dirprwy Arweinydd yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith). Cofnodion: Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi’r Cynghorydd J Arwel Roberts yn Ddirprwy Arweinydd. |
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi’r strwythur Pwyllgor canlynol fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-
• Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o’r Cyngor Sir) • Panel Penodi’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol • Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig • Is-bwyllgor Indemniadau
[Gofynnir yn garedig i Aelodau nodi y bydd y cyfarfod gohiriedig o’r Cyngor (yn unol â pharagraff 4.1.1.1.4 o Gyfansoddiad y Cyngor) yn cael ei gynnal am 2:00 pm ar ddydd Iau, 30 Mai 2013] (papurau i ddilyn). Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir at hynny yn Rhan 3.4 Cyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r isod:-
• Panel Tâl a Graddfeydd (is-bwyllgor o’r Cyngor Sir) • Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau • Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol • Cyd-bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig • Is-bwyllgor Indemniadau |