Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 30ain Mai, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mr Steve Thomas, CBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru(CLlLC).

 

Dywedodd Mr Steve Thomas y bu’n fraint fawr gweithio gydag Ynys Môn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac estynnodd groeso cynnes yn ôl i’r Awdurdod i deulu Llywodraeth Leol Cymru.  Roedd CLlLC wedi gweithio’n dda gyda’r Awdurdod hwn am flynyddoedd lawer a diolchodd yn arbennig i’r Prif Weithredwr am ei waith arbennig yn gyrru’r rhaglen drawsnewid yn ei blaen.  Roedd yn falch iawn o weld yr Awdurdod yn ôl ar ôl cyfnod mor anodd a chythryblus yn ei hanes.  Roedd siwrnai’r Awdurdod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol.

 

Roedd yn werth nodi nad oedd yr Asesiad Gwella gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer yr Awdurdod yn cynnwys unrhyw argymhelliad am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.  Roedd yn bwysig sicrhau yn awr fod yr Awdurdod yn parhau i gael ei reoli’n dda, yn wleidyddol sefydlog ac yn rheoli gwasanaethau’n effeithiol.

 

Aeth ymlaen i roi crynodeb byr i’r cyfarfod o swyddogaethau allweddol a phwrpas CLlLC a rhoddodd addewid y byddai CLlLC yn parhau i gefnogi Ynys Môn yn ystod ei siwrnai drawsnewid. 

 

Esboniodd bod yr hinsawdd ariannol gyfredol yn un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol o doriadau a llymder yr oedd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei hwynebu ers yr Ail Ryfel Byd.  Roedd Awdurdodau yn wynebu 6 blynedd o doriadau ar gefn setliadau refeniw sy’n gostwng.  O’r toriadau 100% sydd eu hangen, dim ond 6% sydd wedi eu gwneud hyd yma.

 

Aeth ymlaen i amlinellu’r senario orau a’r senario waethaf sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru am y cyfnod 2014-2020.  Pe bai’r Cynulliad yn penderfynu bod gwariant ar les a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn mynd i gael ei ddiogelu rhag toriadau pellach, byddai grym awdurdodau unedol i wario 18% yn is yn 2020-21 nag yn 2012-13.

 

Dywedodd fod Estyn wedi rhoi 7 Awdurdod Lleol yng Nghymru mewn mesurau arbennig, gydag Ynys Môn yn un ohonynt. O ran safonau, roedd yn credu y byddai safonau addysg Ynys Môn ymysg y gorau yng Nghymru yn fuan iawn.  Fodd bynnag, y broblem fawr a oedd yn wynebu’r Awdurdod oedd lleoedd gweigion mewn ysgolion.

 

Oni fyddai’r mater hwnnw’n cael sylw, byddai gan yr Awdurdod broblem wirioneddol o ran dyfodol ei wasanaeth addysg.  Mewn perthynas ag awdurdodau addysg nad oeddent yn perfformio, roedd y Gweinidog yn benderfynol o gymryd y camau angenrheidiol ac efallai gyfuno rhai awdurdodau addysg.

 

Wrth gloi, erfynodd ar y Cyngor i gadw ei siâp ac i beidio â mynd yn ôl i ddyddiau anghytundeb gwleidyddol, ac y dylai weithio’n agos gyda swyddogion ac adeiladu perthynas gyda hwy, gan herio ei hun i wella’n barhaus a gwneud y penderfyniadau anodd yn awr yn hytrach nag yn nes ymlaen.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Steve Thomas a’i staff am eu cymorth a’u harweiniad yn ystod cyfnod anodd iawn i’r Cyngor.  Diolchodd i CLlLC am ddarparu adnoddau ariannol ychwanegol i’r Cyngor hwn i ddelio gyda rhai o’r materion a amlygwyd yma yn Ynys Môn, a oedd wedi dangos gwerth bod yn rhan o’r teulu llywodraeth leol.  Fodd bynnag, nid oedd y siwrnai wella wedi ei chwblhau hyd yma ac roedd heriau a phroblemau i’w hwynebu.  Roedd angen i’r Awdurdod hwn yn awr asesu ei berfformiad yn barhaus ac roedd angen ei herio a’i gefnogi’n allanol hefyd.  Roedd yn gyfle i adfer enw da Ynys Môn ac ailsefydlu’r Cyngor o fewn y teulu llywodraeth leol yng Nghymru.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiynau a chael atebion gan Mr. Thomas.

 

Ar ran y Cyngor, diolchodd y Cadeirydd i Mr. Thomas am ei drosolwg o’r materion sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru.

 

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Atgoffwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd y byddai’r Seremoni Rhyddfraint ar gyfer y Llu Awyr Brenhinol yn cael ei chynnal yn Llangefni ar 29 Mehefin ac estynnwyd croeso cynnes i bawb fod yn bresennol.  Achubodd ar y cyfle hefyd i longyfarch y bobl ifanc hynny o’r Ynys a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor y byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir yn cael ei gynnal ar 18 Mehefin 2013 i roi sylw i adroddiad ymgynghorol gan Gomisiwn Ffiniau Cymru ac adroddiad statudol blynyddol gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.  Soniodd hefyd am y bwriad i alw cyfarfod o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn syth ar ôl cyfarfod y Cyngor i ddelio gyda phenodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth a’i dri Phwyllgor.

 

Atgoffodd yr Aelodau y byddai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ymweld â’r Swyddfeydd hyn ddydd Llun nesaf i ofyn am sylwadau Aelodau etholedig a swyddogion statudol am lwfansau.

 

3.

Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith ynghyd â’u Cyfrifoldebau Portffolio.

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cafodd yr isod eu henwi gan Arweinydd y Cyngor fel yr Aelodau yr oedd wedi eu dewis i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u Cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams (Arweinydd)              

Aelod Portffolio ar gyfer Addysg

 

Y Cynghorydd J Arwel Roberts (Dirprwy Arweinydd)       

Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a’r Amgylchedd

 

Y Cynghorydd K.P.Hughes                           

Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

 

Y Cynghorydd Aled Morris Jones

Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Twristiaeth ac Eiddo.

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones

Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid

 

Y Cynghorydd Richard Dew

Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Rheoli Gwastraff

 

Y Cynghorydd Alwyn Rowlands

Rheolwr Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol.

4.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 Cyfansoddiad y Cyngor, penodi Cadeirydd ar gyfer Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd am y flwyddyn ddinesig.

 

[Nodyn: Paragraff 3.4.12.3.1 Penodir y Cadeirydd gan y Cyngor llawn yn ei ail gyfarfod (gohiriedig) o’r Cyfarfod Blynyddol ar ôl i’r Arweinydd gyhoeddi enwau Aelodau’r Pwyllgor Gwaith (ac mewn cyfarfodydd eraill os oes angen) trwy bleidlais gudd, a bydd Rheol Gweithdrefn 4.1.18.5 “Pleidlais a Gofnodiryn cael ei hatal i’r pwrpas hwn.

 

Paragraff3.4.12.3.2  Ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o grŵp a gynrychiolir ar y Pwyllgor Gwaith (ac eithrio mewn awdurdod lle mae’r holl grwpiau gwleidyddol wedi eu cynrychioli ar ei Bwyllgor Gwaith, ac yn y fath achos ni chaiff y Cadeirydd fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith)].

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Vaughan Hughes i wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am y flwyddyn Sirol.

 

5.

Cadarnhau’r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau rhannau o’r Cynllun Dirprwyo y mae’r Cyfansoddiad yn nodi  bod angen i’r Cyngor gytuno arnynt (fel sydd wedi ei nodi ym Mharagraff 3.2 o’r Cyfansoddiad).

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd y rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo yr oedd y Cyfansoddiad yn pennu mai’r Cyngor Sir ddylai benderfynu arni (fel sydd wedi ei amlinellu ym Mharagraff 3.2 y Cyfansoddiad).

 

6.

Rhaglen o gyfarfodydd arferol y Cyngor Sir

Cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd arferol y Cyngor am y flwyddyn i ddod:-

 

10 Hydref 2013                                               - 2:00 pm

5 Rhagfyr 2013                                               - 2:00 pm

27 Chwefror 2014                                           - 2:00 pm

15 Mai 2014 (Cyfarfod Blynyddol)                 - 2:00 pm

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol ar gyfer cyfarfodydd arferol y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod:-

 

10 Hydref, 2013 – 2.00pm

5 Rhagfyr, 2013 – 2.00pm

27 Chwefror, 2014 – 2.00pm

15 Mai, 2014 – 2.00pm

7.

Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyllid) a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Cyllid) a’r Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd ar y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau.

 

Adroddwyd - bod y Taliadau i  aelodau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, am y cyfnod 2013/14 wedi eu pennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei adroddiad blynyddol (Rhagfyr 2012).  Roedd angen adrodd ar y wybodaeth i’r Cyngor Sir er mwyn cadarnhau nifer yr Aelodau sydd â’r hawl i uwch gyflog.  Roedd gan y Cyngor ddisgresiwn ynghylch nifer yr uwch gyflogau a ganiateir hyd at yr uchafswm a bennwyd gan y Panel.

 

Mae adroddiad y Panel yn nodi mai’r nifer uchaf o Gynghorwyr sy’n gymwys i dderbyn uwch gyflog fydd 15.  Mae’r tabl ym mharagraff 1.2 yr adroddiad yn manylu ar gyflogau ar gyfer aelodau yn 2013/14 o ran cyflogau sylfaenol, uwch gyflogau a chyflogau sifig.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am gyfyngiadau a osodwyd gan y Panel ac yn manylu hefyd ar y taliadau a’r lwfansau eraill sy’n daladwy fel y pennwyd gan y Panel, gan gynnwys taliadau i aelodau cyfetholedig.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Cadarnhau’r dyraniad o uwch gyflogau i ddeilyddion swyddi yn unol â Pharagraff 1.5 yr adroddiad.

 

2.    Peidio â dyrannu’r uwch gyflog sy’n weddill i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

3.    Nodi manylion eraill ar daliadau a lwfansau ar gyfer 2013/14 fel a bennwyd gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac fel y cânt eu nodi yn yr adroddiad hwn.

 

8.

Penodi i Gyrff Allanol pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Cofnodion:

Adroddwyd gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanethau Democrataidd – bod swyddogion wedi cynnal ymarfer cyn etholiad Mai 2013 gydag Arweinyddion Grwpiau i adolygu’r rhestr o gyrff allanol yn wyneb y gostyngiad yn nifer yr aelodau i wasanaethu ar fath gyrff ar ôl yr etholiad ac effaith hynny ar eu baich gwaith. 

 

Roedd gofyn i aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wasanaethu ar rai cyrff a gwnaed y fath benodiadau gan yr Arweinydd dan awdurdod a ddirprwywyd iddo.  Roedd angen gwneud penodiadau i gyrff allanol eraill gan y Cyngor yn unol â’r atodiad i’r adroddiad hwn. 

 

Fel arfer bydd y rheini a benodir i wasanaethu ar gyrff allanol yn gwneud hynny am hyd am hyd at 4 blynedd hyd at ddyddiad yr etholiad llywodraeth leol nesaf ym Mai 2017 ac yn amodol ar adolygiad blynyddol gan y Cyngor a’r Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn delio gyda materion eraill gan gynnwys cyrff allanol lleol a chynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cadarnhau’r Aelod(au) a fydd yn gwasanaethu ar y cyrff allanol a restrir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn (ac eithrio’r cyrff allanol hynny y bydd yr Arweinydd yn penderfynu yn eu cylch).

 

  1. Lle bydd angen gwneud newidiadau yn y dyfodol o ran cynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff allanol, rhoi’r awdurdod i’r Prif Weithredwr ymgymryd â’r dasg mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinyddion Grwpiau.

 

  1. Mewn perthynas â chynrychiolaeth y Cyngor ar gyrff llywodraethu ysgolion, rhoi’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad gyda’r Arweinyddion Grwpiau, i wneud penodiadau o’r fath.

 

 

9.

Cydbwysedd Gwleidyddol a Phenodi Cynghorwyr i Wasanaethu ar Bwyllgorau pdf eicon PDF 376 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar adolygiad o’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau yn dilyn yr etholiad llywodraeth leol a gynhaliwyd yn ddiweddar ar 2 Mai 2013 ac ar benodi Cynghorwyr i Bwyllgorau.

 

 

[Nodyn: Mae cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol i grwpiau gwleidyddol ac nid i Aelodau digyswllt. Yn y cyfarfod heddiw (gohiriedig), bydd y Cyngor yn neilltuo Aelodau a enwir i wasanaethau ar Bwyllgorau yn unol â phenderfyniadau eu Harweinwyr Grŵp a byddant yn penodi unrhyw Aelodau Digyswllt i seddau ar Bwyllgorau na ellir eu llenwi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol].

 

 

 

 

Yn syth ar ôl yr uchod, bydd pob Cyfarfod y cyfeirir ato isod yn cwrdd am gyfnod byr i benodi ei Gadeirydd a’i Is Gadeirydd (ac eithrio’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gafodd sylw yn Eitem 4 uchod):-

 

·  Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

·  Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth

·  Pwyllgor Archwilio

·  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

·  Pwyllgor Trwyddedu

 

[Nodyn: Anfonwyd rhybuddion ar wahân i bob Aelod a’r aelodau cyfetholedig ar gyfer y cyfarfodydd uchod]. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd ar adolygiad o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau, yn dilyn y newidiadau a wnaed yn ddiweddar yn aelodaeth y Grŵp Gwleidyddol ar ôl yr etholiad.

 

Roedd tabl ynghlwm wrth yr adroddiad yn amlinellu cydbwysedd gwleidyddol Pwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Roedd y tabl yn dangos tri grŵp gwleidyddol o 13, 12 a 3 aelod a 2 aelod nad yw’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt.

 

Er nad oedd gofynion cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddo, roedd angen heddiw i’r Cyngor benodi 2 aelod etholedig i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau am oes y Cyngor hwn.

 

Nododd y Prif Weithredwr fod y Cynghorydd A. Morris Jones, am resymau technegol, wedi ei restru fel un o’r ddau aelod digyswllt ar y tabl a oedd yn amlinellu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno nodi ei fod yn dymuno cael ei adnabod fel Democrat Rhyddfrydol Cymru a’i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Grwpiau Llafur ac Annibynnol fel rhan o’r glymblaid sy’n rheoli.

 

PENDERFYNWYD

 

(i)           Nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol newydd a’r nifer o seddau a roddir i bob Grŵp dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a nifer y seddau a roddir yn ôl trefn ac arfer i’r Aelodau nad yw’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt.

 

(ii)          Cytuno’r cyfanrif o seddau a rennir i’r Aelodau nad yw cydbwysedd gwleidyddol yn berthnasol iddynt.

 

 

(iii)        Cadarnhau enwau’r Aelodau sy’n eistedd ar y pwyllgorau a nodir isod fel bod modd paratoi ar gyfer y cyfarfodydd i ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ac a gynhelir yn syth ar ôl y cyfarfod hwn:

·        Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol

·        Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio

·        Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

·        Pwyllgor Trwyddedu

·        Pwyllgor Archwilio

 

(iv)         Mewn perthynas â’r Pwyllgorau eraill y manylir arnynt yn yr atodiad i’r adroddiad hwn, Arweinyddion Grwpiau i ddarparu manylion am aelodaeth y Pwyllgorau hynny i’r Rheolydd Gwasanaethau Pwyllgor cyn gynted at y bo modd.

 

(v)          Penodi’r Cynghorwyr T Lloyd Hughes a D Rhys Thomas i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau a oes y Cyngor yn unol â pharagraff 9 yr adroddiad.