Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 18fed Mehefin, 2013 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cyfeiriodd Cadeirydd y Cyngor at farwolaeth ddisymwth a thrasig Mr. John Rees Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant ar ddydd Gwener 7 Mehefin.  Roedd Y Cadeirydd wedi bod yn aelod o’r Panel Penodi a benododd John yn ôl yn 1996 pan ddaeth i weithio i Ynys Môn o Gyngor Sir Clwyd.  Roedd John yn ddyn cadarn iawn ei farn ac roedd wedi cynorthwyo sawl cymuned ar yr Ynys dros y blynyddoedd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi bod mewn seremoni ym Miwmares wythnos i ddydd Sadwrn diwethaf a bod pawb yno wedi eu syfrdanu o glywed am ei farwolaeth.  Byddai chwith mawr ar ei ôl.  Roedd y nifer fawr a ddaeth i’r amlosgfa ym Mangor ddydd Sadwrn diwethaf yn siarad cyfrolau am ei boblogrwydd a’r parch mawr oedd iddo.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai achlysur trist iawn oedd gorfod talu teyrnged o’r fath i gydweithiwr, yn arbennig felly pan fo’r cydweithiwr hwnnw wedi ein gadael mor sydyn ac mor ifanc.  Byddai colli John o wasanaeth y Cyngor yn ergyd fawr i’r Awdurdod a dinasyddion Ynys Môn.  Ymunodd John â’r Cyngor yn ôl yn 1996 ac roedd wedi gwasanaethu’n ffyddlon iawn am 17 mlynedd ac wedi gwneud ei farc a chyflawni llawer iawn.

 

Roedd yn ymwybodol fod iechyd John wedi bod yn fregus  am beth amser.  Y tro diwethaf iddo weld John oedd ar y nos Iau, wythnos cyn ei farwolaeth, pan ddaeth i’w weld yn benodol i ddweud bod ganddo rai problemau iechyd a’i fod yn rhagweld y byddai angen triniaeth.  Roedd yn dymuno rhoi sicrwydd ei fod wedi gwneud trefniadau pendant ar gyfer y gwasanaeth yn ystod ei absenoldeb.  Y Gwasanaeth oedd yn dod yn gyntaf i John a’i iechyd oedd yn dod yn ail.

 

Pan fethodd â dod i gyfarfod ar ddydd Gwener ei farwolaeth, roedd y Prif Weithredwr yn gwybod ar unwaith bod rhywbeth yn bod.  Penderfynwyd anfon dau o’i gydweithwyr agosaf i’w gartref i weld beth oedd y sefyllfa a bu’r hyn a ddarganfuwyd ganddynt yn sioc ac yn ofid mawr iddynt.

 

Roedd John yn ddyn preifat iawn, ond dan y preifatrwydd hynny, roedd yna wydnwch a chryfder cymeriad yn ogystal â hiwmor - hiwmor o fath arbennig iawn.  Byddwn yn gweld ei golli fel cydweithiwr am ei hiwmor dychanol a oedd yn aml iawn yn ysgafnhau’r awyrgylch mewn cyfarfodydd ac yng nghoridorau’r Cyngor.

 

Nid oedd wedi medru gyrru am 3 blynedd oherwydd ei iechyd, ond ni chollodd ddiwrnod o’i waith ac ni fu erioed  yn hwyr.  Am fisoedd a misoedd roedd yn gadael ei gartref am 7:00am i ddal bws ym mhob tywydd i gyrraedd Parc Mownt erbyn 8:30am.  Roedd hyn yn arwydd o’i deyrngarwch a’r flaenoriaeth yr oedd yn ei rhoi i’w waith.

 

Byddwn yn cofio John am ei lwyddiannau a’r hyn yr oedd wedi ei gyflawni.  Roedd yn allweddol yn y gwaith o estyn Oriel Môn, sefydlu Oriel Kyffin a rhoi Oriel Ynys Môn ymysg yr amgueddfeydd gorau yng Nghymru a’r tu hwnt.  Roedd yn allweddol hefyd o ran sicrhau ein bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor – Penodi Aelodau Cyfetholedig sydd heb Hawliau Pleidleisio i wasanaethu ar Bwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 103 KB

Dweud fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 10 Mehefin wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

“Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn dirprwyo i bob Pwyllgor Sgriwtini y disgresiwn i benodi aelodau cyfetholedig heb hawliau pleidleisio am ba gyfnod bynnag ac ar y telerau y bydd y Pwyllgor Sgriwtini yn eu hystyried i fod yn briodol heb orfod cael caniatâd y Cyngor a rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad yn dilyn hynny.”

 

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro fel y’i cyflwynwyd i‘r Pwyllgor Gwaith ar 10 Mehefin 2013.

 

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2013, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

“Argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn dirprwyo i bob Pwyllgor Sgriwtini y disgresiwn i benodi aelodau cyfetholedig heb hawliau pleidleisio am ba gyfnod bynnag ac ar y telerau y bydd y Pwyllgor Sgriwtini yn eu hystyried i fod yn briodol heb orfod cael caniatâd y Cyngor a rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion wneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad yn dilyn hynny.”

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

4.

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru - Papur Ymgynghori ar Faint Cynghorau pdf eicon PDF 131 KB

(1)          Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

(2)          Cyflwyno copi o’r Papur Ymgynghori.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Weithredwr – bod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn gorfod cynnal adolygiadau o bryd i’w gilydd o’r trefniadau etholiadol yn y prif ardaloedd yng Nghymru. 

 

Roedd nifer o ffactorau’n cael eu cynnig i’w hystyried yn y papur ymgynghori, gan gynnwys dwysedd poblogaeth a gwasgariad y boblogaeth o fewn ardal awdurdod lleol. Roedd hefyd yn cynnig rhoi awdurdodau mewn 4 categori, yn seiliedig ar ddwysedd poblogaeth a threfoli.  O ran Ynys Môn, byddai’r Cyngor yng nghategori 4 (mwy na 50% o’r boblogaeth yn byw y tu allan i drefi gyda phoblogaeth o fwy na 10,000 a llai na 2 o bobl fesul hectar mewn perthynas â dwysedd poblogaeth).

 

Byddai hyn yn rhoi cymhareb o un Cynghorydd am bob 2,000 o’r boblogaeth ac, o weithredu’r fethodoleg hon, byddai hynny’n golygu cyfanswm o 35 o Gynghorwyr ar gyfer Ynys Môn. Fodd bynnag, nododd y papur y gallai unrhyw ddull ar gyfer penderfynu maint Cynghorau gael ei gyfyngu gan ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd gweinidogol ac ymwybyddiaeth o effaith unrhyw newid arfaethedig i faint cyfredol y Cynghorau.

 

Roedd y Comisiwn wedi rhoi sylw i effaith unrhyw newid sylweddol ar sut y rhedir Cynghorau os cymerir camau o ganlyniad i un adolygiad etholiadol.  O’r herwydd, gosodwyd cyfyngiad fel na fyddai nifer y Cynghorwyr, ar gyfer pob adolygiad, yn amrywio gan fwy na 10% o’r nifer gyfredol.  Fodd bynnag, byddai’r Comisiwn yn ystyried cais i fynd y tu hwnt i’r cyfyngiad amrywio hwn wrth symud ymlaen tuag at Gyngor o faint a benderfynir gan y model.   Yn gyffredinol, o ran Ynys Môn ac ar ôl cymryd i ystyriaeth y cyfyngiadau hyn, byddai nifer y Cynghorwyr a gynigir ar gyfer Ynys Môn yn codi i 33.

 

Roedd papur ymgynghori hefyd yn gofyn am sylwadau ar baramedrau categoreiddio, y gymhareb rhwng Cynghorwyr a’r boblogaeth, maint mwyaf a lleiaf Cynghorau a chap adolygu sy’n cyfyngu’r newid yn niferoedd y Cynghorwyr.  Gofynnwyd am sylwadau ar y cynigion hyn erbyn 19 Mehefin 2013.

 

Dywedodd arweinydd Grŵp Plaid Cymru fod ei grŵp wedi ystyried y mater a’i fod yn credu y dylai’r ffigwr aros yn 30 aelod ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod gan y Cyngor, yn ôl y ddogfen ymgynghorol, hawl i gyflwyno achos am gynnydd o 10% yn y ffigwr hwn ac, yn ei farn ef, dylai hynny ddigwydd er budd democratiaeth.

 

Mynegwyd pryder gan rai o’r Aelodau am yr enwau a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ffiniau i rai o’r wardiau newydd ac roeddent yn teimlo y dylid codi’r mater gyda nhw.

 

PENDERFYNWYD rhoi awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gydag Arweinydd y Cyngor, gyflwyno’r sylwadau a fynegwyd yn y cyfarfod hwn i’w hanfon i’r Comisiwn erbyn 19 Mehefin 2013.

5.

Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

6.

Prynu Cerbydau Casglu Gwastraff Newydd pdf eicon PDF 56 KB

Dweud fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 10 Mehefin, 2013 wedi penderfynu argymell yr isod i’r Cyngor Sir:-

 

         “Mai’r opsiwn a ffefrir yw Opsiwn 2, sef pwrcasu Cerbydau Adennill Adnoddau (CAA) newydd a defnyddio’r biniau 240 litr cyfredol ar gyfer dechrau ail hanner y contract 14 mlynedd.

 

         Cytuno y gall Biffa symud ymlaen ar unwaith i archebu Cerbydau Adennill Adnoddau, casglu gwastr af a glanhau strydoedd newydd i osgoi’r costau ychwanegol yn sgil  Euro 6.

 

         Cytuno y dylai’r Gwasanaeth Cyllid drafod a yw’n ymarferol i’r Cyngor ariannu pryniant yr holl gerbydau newydd gyda Biffa a symud ymlaen i ddarparu’r cyllid hwn, pe bai’n fanteisiol i’r Cyngor a bod gwarantau digonol yn eu lle bod y cerbydau’n parhau i fod ym meddiant y Cyngor pe bai’r contractwr yn cael anawsterau ariannol.

 

         Bod Swyddogion yn parhau i adolygu’r opsiynau casglu yn ystod ail hanner y contract 14 mlynedd gyda Biffa ac yn darparu i’r Pwyllgorau perthnasol wybodaeth bellach ar systemau i’w hystyried ar gyfer y dyfodol ynghyd â chostau’r systemau hynny, gan gadw mewn cof y bydd proses gaffael newydd yn dechrau yn 2019/20 am gontract newydd i ddechrau yn Ebrill 2021.

 

          O ystyried yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr Adroddiad hwn a’r angen i weithredu ar frys, bod y Pwyllgor, yn unol â Rheol Gweithdrefn Contractau 4.5.16.10, yn cytuno na fydd y penderfyniad yn un y gellir ei alw i mewn gan y byddai hynny’n niweidio diddordeb y Cyngor yn ddifrifol.”          .

 

Adroddir ar yr eitem hon i’r Cyngor llawn er gwybodaeth oherwydd roedd wedi ei heithrio o’r drefn galw-i-mewn am ei bod yn eitem yr oedd angen rhoddi sylw brys iddi.

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Rheoli Gwastraff fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 6 Mehefin, 2013.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd – bod y Pwyllgor Gwaith, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2013, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor  Sir fel a ganlyn:-

 

“Mai’r opsiwn a ffafrir yw Opsiwn 2, sef pwrcasu Cerbydau Adennill Adnoddau (CAA) newydd a defnyddio’r biniau 240 litr cyfredol ar gyfer dechrau ail hanner y contract 14 mlynedd.

 

Cytuno y gall Biffa symud ymlaen ar unwaith i archebu Cerbydau Adennill Adnoddau, casglu gwastraff a glanhau strydoedd newydd i osgoi’r costau ychwanegol yn sgil  Euro 6.

 

Cytuno y dylai’r Gwasanaeth Cyllid drafod a yw’n ymarferol i’r Cyngor ariannu pryniant yr holl gerbydau newydd gyda Biffa a symud ymlaen i ddarparu’r cyllid hwn, pe bai’n fanteisiol i’r Cyngor a bod gwarantau digonol yn eu lle bod y cerbydau’n parhau i fod ym meddiant y Cyngor pe bai’r contractwr yn cael anawsterau ariannol.

 

 Bod Swyddogion yn parhau i adolygu’r opsiynau casglu yn ystod ail hanner y contract 14 mlynedd gyda Biffa ac yn darparu i’r Pwyllgorau perthnasol wybodaeth bellach ar systemau i’w hystyried ar gyfer y dyfodol ynghyd â chostau’r systemau hynny, gan gadw mewn cof y bydd proses gaffael newydd yn dechrau yn 2019/20 am gontract newydd i ddechrau yn Ebrill 2021.

 

O ystyried yr amgylchiadau a ddisgrifir yn yr Adroddiad hwn a’r angen i weithredu ar frys, bod y Pwyllgor, yn unol â Rheol Gweithdrefn Contractau 4.5.16.10, yn cytuno na fydd y penderfyniad yn un y gellir ei alw i mewn gan y byddai hynny’n rhagfarnu diddordeb y Cyngor yn ddifrifol (yn amodol ar gadarnhad Cadeirydd y Cyngor Sir a bod y Pennaeth Gwasanaeth yn dwyn y mater i sylw Cadeirydd y Prif Bwyllgor Sgriwtini yn syth ar ôl y cyfarfod hwn).

 

Gofyn i’r Prif Weithredwr, os bydd y penderfyniad yn cael ei herio, i roddi cyngor a chefnogaeth i Gadeirydd y Cyngor Sir.

 

(Cyflwynwyd yr eitem hon i’r Cyngor llawn er gwybodaeth oherwydd ei bod wedi ei heithrio o’r trefniant galw i mewn oherwydd brys y mater).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.