Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Mr John Gould
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb yn eitem 3 o’r cofnodion hyn ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar gyfleuster tai Gofal Ychwanegol Penucheldre gan ei fod yn gweithio i Gymdeithas Tai Eryri. |
|
Derbyn Unrhyw Gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i bawb oedd yn gysylltiedig â’r prosiect i ddatblygu’r Canolfannau Cymuned Heneiddio’n Dda i Bobl Hŷn oedd wedi ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol 2013. Roedd y prosiect partneriaeth gyda Heneiddio’n Dda Hwyliog Môn wedi ennill y wobr ‘Dinasyddion yn Rheoli Gwasanaethau’ yn y gwobrau dwy flynyddol oedd yn cael eu harwain gan Gyngor Gofal Cymru. Roedd y Beirniad wedi canmol y staff am weithio’n agos gyda grŵp o bobl hŷn i ddatblygu’r canolfannau a sicrhau eu bod yn cyfarfod â’u hanghenion, ac wedi eu helpu hwy i gynnal eu hannibyniaeth ac wedi lleihau eu hunigedd cymdeithasol. Roedd y canolfannau yn cynnig ystod o wasanaethau a gweithgareddau yn cynnwys sesiynau o weithgaredd corfforol, dosbarthiadau coginio a chyngor ar fudd-daliadau.
Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes iawn hefyd i Aelodau a swyddogion ddod i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos nesaf. Byddai stondin y Cyngor wedi ei leoli ym Mhafiliwn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned. Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr - nod yr adroddiad blynyddol oedd rhoi’r Cyngor a’r bobl oedd yn byw ym Môn drosolwg o ba mor dda yr oedd yr awdurdod yn darparu ei gyfrifoldebau gofal cymdeithasol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno barn bersonol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ac yn cynnwys ei phrofiad hi o ymgysylltu gyda’r siwrnai i drawsnewid Cyngor Ynys Môn.
Roedd y broses yn ymwneud â chynnig gwerthusiad beirniadol o’r holl feysydd gwasanaeth gan ddefnyddio gridiau dadansoddi oedd yn nodi’r hyn y mae’r Awdurdod yn ceisio ei wneud, pa mor dda yr ydym yn gwneud hynny a beth fu’r canlyniad i’r defnyddiwr gwasanaeth. Cynhaliwyd sesiwn herio adeiladol ar 22 Mawrth 2013 gyda’n partneriaid, gyda’r gwasanaethau yn adrodd ar eu cynlluniau busnes a’u perfformiad diwedd blwyddyn. Roedd y Cyfarwyddwr yn credu bod yna lwyfan cadarn ar gyfer symud ymlaen, ond bod y dasg yn un sylweddol. Roedd yr adroddiad yn amlygu meysydd o gyflawni a hefyd lle y mae’n rhaid cymryd camau gweithredu i sicrhau gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd dda. Mae’r rhaglen waith yn gofyn am ymgysylltiad parhaol, dysgu ac ymrwymiad i welliant parhaus oedd yn nodweddu’r rhaglen waith a fabwysiadwyd gan y Cyngor a’r Gwasanaeth yn ystod 2012-13.
Byddai’r Cyngor yn derbyn llythyr ffurfiol gan y Rheoleiddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC) yn yr Hydref a byddai’n rhoi sylwadau ar ei farn am berfformiad yr Awdurdod.
Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau a chael atebion.
Diolchodd y Deilydd Portffolio, y Cynghorydd K. P. Hughes i’r Cyfarwyddwr a’i staff am gasglu’r adroddiad at ei gilydd a thalodd deyrnged i’r llwyddiannau a’r gwelliannau sylweddol a wnaed ynghyd â’r cynnydd sylweddol a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael a’r heriau sy’n fythol gynyddu ac y bu’n rhaid eu hwynebu dros y 12 mis diwethaf.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Hydref 2013 yn dilyn ymgynghori gyda’r Rheoleiddwyr (AGGCC).
|