Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mr John Gould
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog. Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, Aelodau’r Pwyllgor Gwaith neu’r Prif Weithredwr Cofnodion: Dim. |
|
Cau allan y Wasg a’r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r isod:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD:-
“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm". |
|
Awdurdodi Cytundeb a Chylch Gorchwyl Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr – I’W DDOSBARTHU YN Y CYFARFOD Cofnodion: Cyflwynwyd – Cyflwyniad llafar ar adroddiad ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr ynghylch cytundeb a chylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu.
Yn dilyn trafodaeth faith ar y mater cynigiwyd ac eiliwyd y dylid derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
Ni chafodd y cynnig ei gario gyda chwech yn pleidleisio o blaid a 23 yn erbyn.
PENDERFYNWYD
Gwrthod argymhellion y Prif Weithredwr a’r cyngor cyfreithiol allanol yn yr adroddiad.
Derbyn y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Ymchwilio a Disgyblu a oedd wedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad. |