Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |
---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
||
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19 PDF 4 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 16 Medi 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn
(Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor
Gwaith ar 16 Medi, 2019.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn falch o allu
adrodd, ar sail y perfformiad yn erbyn dangosyddion cenedlaethol, a
elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (MAP), fod safle’r
Cyngor trwy’r wlad wedi gwella unwaith eto yn 2018/19. Er y
bu rhai siomedigaethau yn 2018/19 gydag atal datblygu gorsaf Wylfa
Newydd a'r llithriad ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn
ardaloedd Llangefni a Seiriol, bu nifer o lwyddiannau nodedig hefyd
gan gynnwys cwblhau Ffordd Gyswllt Llangefni, adfywio Neuadd y
Farchnad yng Nghaergybi sydd bellach yn gartref i'r llyfrgell leol,
cwblhau ac agor yr Ysgol Santes Dwynwen newydd yn Niwbwrch ynghyd
â chwblhau a phrydlesu 7 uned fusnes newydd yn Llangefni
gydag 6 uned arall yng Nghaergybi yn cael caniatâd cynllunio
a’r gwaith adeiladu yn cychwyn yn 2019/20 ac agor cae 3G yn
Llangefni. Llwyddodd y Gwasanaeth Tai i ddod â 70 o dai gwag
yn ôl i ddefnydd ledled yr Ynys. Bydd Cartrefi Clyd yn agor
yn fuan i roi amgylchedd cartref diogel i bobl ifanc heb orfod eu
lleoli y tu allan i'r sir. Mae'r cyfleuster yn Hafan Cefni yn
llwyddiant ysgubol gyda'r holl unedau'n llawn. Dywedodd ymhellach
fod y ffigyrau ailgylchu yn parhau i wella gyda chyfraddau
canrannol y Cyngor hwn bellach dros 70%. ‘Roedd yr Aelod
Portffolio yn dymuno diolch i staff y Cyngor am eu gwaith
caled.
|
||
Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 25 Medi 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y cyflwynwyd ef i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 25 Medi, 2019.
PENDERFYNWYD y dylid derbyn yr argymhelliad a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel ymateb cychwynnol y Cyngor. |
||
Cynllun Dirprwyo - Datblygiadau Mawr I ystyried penderfyniad Gweithredol a wnaed gan yr Arweinydd.
I ystyried argymhellion ynglyn â phenderfyniad Gweithredol sydd uchod, cliciwch ar y ddolen isod:-
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - Penderfyniad Gweithredol a wnaed gan
Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â'r uchod.
PENDERFYNWYD:-
|