Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni waned unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 122 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriwyd, a phenderfynwyd o dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y cai gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd. |
|
Penodiadau Staff - Penodi Prif Weithredwr Penderfynu a ddylid cadarnhau argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019 ynglyn â phenodi Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.
Penderfynwyd cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Awst, 2019 bod Mrs Annwen Morgan yn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn. |