Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes mood i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydion'n Fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoeddus fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard A Dew gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 13 – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd ac ati) (Cymru) 2019: Trefniadau Gweithredu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.

 

Datganodd y Cynghorydd Aled M Jones gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 13 – Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd ac ati) (Cymru) 2019: Trefniadau Gweithredu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.

 

Datganodd y Cynghorydd R Meirion Jones gysylltiad personol mewn perthynas ag Eitem 17 – Datganiad Polisi Tâl a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.

 

Datganodd y Tîm Uwch-arweinyddiaeth gysylltiad personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 17 – Datganiad Polisi Tâl a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arni.

 

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 376 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   7 Rhagfyr 2021

   21 Rhagfyr 2021 (Cyfarfod Arbennig)

  11 Chwefror, 2022 (Cyfarfod Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y cyfarfodydd isod o’r Cyngor Sir yn rhai cywir:-

 

·           7 Rhagfyr, 2021

·           21 Rhagfyr, 2021 (Arbennig)

·           11 Chwefror, 2022 (Arbennig)

 

3.

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Gwnaeth y Cadeirydd y Cyhoeddiadau a ganlyn:-

·                Llongyfarch criw bad achub RNLI Trearddur oedd wedi eu cydnabod am eu dewrder. Roedd criw gwirfoddol cwch gwyllt Atlantic 85 Dosbarth B, yn cynnwys y llywiwr, Lee Duncan, Dafydd Griffiths, Leigh McCann a Michael Doran, wedi achub syrffiwr benywaidd a fu mewn helynt yn ystod gwyntoedd cryfion yn ddiweddar. Derbyniodd Mr Duncan Fedal Arian er Dewrder i gydnabod ei arweinyddiaeth, ei forwriaeth ac am y ffordd ragorol a feddai wrth drin cychod. Derbyniodd gweddill y criw Fedalau Efydd i gydnabod eu dewrder yn ystod y gwaith achub. Canmolodd y Prif Weithredwr hefyd holl dîm Trearddur a fu’n rhan o’r gwaith achub.

·                Llongyfarch Ysgol Esceifiog oedd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dewi Sant am y gefnogaeth a roddwyd gan staff i deulu yn yr ysgol yn dilyn y diagnosis terfynol a roddwyd i Ania, un o ddisgyblion yr ysgol ym mis Hydref 2020. Er gwaethaf heriau’r pandemig Covid, cefnogodd yr ysgol Ania a’i chwaer 7 oed a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i sicrhau fod Ania yn cael ei chefnogi yn yr ysgol. Gwnaethant, hefyd, bopeth posibl i gefnogi’r plant eraill yr effeithiodd salwch eu ffrind arnynt, gan helpu i wneud atgofion a fyddai’n aros gyda chwaer a ffrindiau Ania am byth. Collodd Ania ei brwydr ym mis Mehefin 2021 ac, er ei bod hi bron yn wyliau’r haf, bu staff yr ysgol yn gefnogol iawn i’r ysgol a’r teulu drwy weithio gydag asiantaethau allanol i gynnig cefnogaeth i chwaer a ffrindiau Ania a chodi arian at elusennau oedd yn parhau i gefnogi’r teulu a’r ysgol.

 

*          *          *         *          *

 

Dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Prif Weithredwr, Mrs Annwen Morgan ar ei hymddeoliad ar ôl 39 mlynedd o wasanaeth i'r Awdurdod. Dywedodd iddi ddechrau ei gyrfa gyda’r Cyngor yn Ysgol Uwchradd Bodedern a symud ymlaen i fod yn Bennaeth yn 2007. Daeth Mrs Morgan yn Ddirprwy Brif Weithredwr y Cyngor yn 2016 ac yna symud ymlaen i fod yn Brif Weithredwr yn 2019. Treuliodd y rhan fwyaf o’i hamser yn Brif Weithredwr yn ystod y cyfnod pandemig ac, er gwaethaf yr holl ansicrwydd a’r heriau niferus, roedd Mrs Morgan wedi dangos arweinyddiaeth amlwg ac ymrwymiad i ddiogelu trigolion Ynys Môn. Dymunodd y Cadeirydd iechyd da a hapusrwydd i Mrs Morgan yn ei hymddeoliad.

Dymunodd Arweinydd y Cyngor ddiolch i Mrs Annwen Morgan am y gwasanaeth yr oedd wedi’i roi i’r Cyngor Sir ac am ei hymrwymiad a’i gwaith caled yn Brif Weithredwr ac yn enwedig yn ystod cyfnod anodd y pandemig. Dywedodd mai Mrs Morgan oedd y ferch gyntaf i gael ei phenodi yn Brif Weithredwr y Cyngor hwn a'i bod wedi bod yn fraint gweithio gyda hi yn Arweinydd benywaidd y Cyngor.

 

Roedd aelodau'r Cyngor hefyd yn dymuno diolch i Mrs Morgan a dymuno'n dda iddi ar ei hymddeoliad.

 

Dymunodd y Cadeirydd y gorau i Mr Dylan Williams oedd wedi'i benodi'n Brif Weithredwr.

 

*          *          *         *          *

 

Dywedodd y Cadeirydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyflwyno Deisebau

I dderbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un ddeiseb i law.

 

5.

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad canlynol gan Arweinydd y Cyngor:-

 

Rydym fel Cyngor Sir Ynys Môn yn dangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin gyda’r faner yn chwifio yn y Pencadlys a llaw gyfeillgar bobl Môn yn barod i roi lloches a chefnogaeth i’r rhai sydd angen.

 

Cyflwyno'r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd R Meirion Jones:-

 

1.     Bod Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i Lywodraeth San Steffan ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr hawl a'r grym iddynt fedru creu gwyliau banc i Gymru

 

2.     Mae teimlad gan bobol Cymru, beth bynnag yw eu cefndir a'u traddodiad, i gefnogi nawddsant Cymru, Dewi Sant, ac i ddathlu hynny ar Fawrth y Cyntaf, yn flynyddol.

 

3.     Ar hyn o bryd mae'r hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban ac i Lywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru. Felly, gofynnir i Lywodraeth San Steffan yn yr un modd ddatganoli - drwy’r Banking and Financial Dealings Act 1971 - yr hawl i greu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru.

 

4.     Mae galwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc yng Nghymru. Mae hyn wedi ei wrthod gan Lywodraeth San Steffan ar sail ariannol, ond byddai gŵyl banc yn hwb sylweddol i Ynys Môn yn ei chefn gwlad a'i thwristiaeth. Yn sylfaenol, nid mater o gost ydi hwn ond o werth ac egwyddor.

 

5.    Trwy hyn gofynnwn i holl bobol Ynys Môn anfon at Lywodraeth San Steffan efo neges debyg i un ni uchod a chopïo eu Haelod Seneddol i'w neges.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·            Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig a ganlyn a dderbyniwyd gan Arweinydd y Cyngor:-

 

Rydym ni, Gyngor Sir Ynys Môn, yn dangos ein cefnogaeth i bobl yr Wcráin trwy gael y faner yn y Pencadlys a chael help llaw pobl Môn, yn barod i roi lloches a chefnogaeth i’r rhai mewn angen.”

 

Eiliodd y Cynghorydd R Meirion Jones y Cynnig.

 

Cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r Cynnig.

 

·           Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynnig a ganlyn a dderbyniwyd gan y Cynghorydd R Meirion Jones :-

 

“ 1. Bod Cyngor Ynys Môn yn gofyn i Lywodraeth y DU yn San Steffan ddatganoli i Lywodraeth Cymru yng Nghymru yr hawl a’r pŵer i allu creu gwyliau banc i Gymru.

 2.   Mae teimlad ymysg pobl Cymru, beth bynnag fo’u cefndir a’u traddodiad, eu bod yn dymuno dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant, a’u bod yn dymuno gwneud hyn yn flynyddol ar y 1af o Fawrth.

3.   Ar hyn o bryd, mae’r hawl i greu gwyliau banc wedi’i roi i Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon, ond nid i Lywodraeth Cymru. Felly, gofynnir yn yr un modd i Lywodraeth y DU yn San Steffan ddatganolidrwy Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 – yr hawl i greu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru.

4.   Mae galwad i sefydlu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru. Mae Llywodraeth Prydain yn San Steffan wedi gwrthod hyn ar sail ariannol ond fe fyddai gŵyl banc yn hwb sylweddol i Ynys Môn gyda’i chefn gwlad a thwristiaeth. Yn y bôn, nid mater o gost yw hyn ond mater o werth ac egwyddor.

5.  Yn hyn o beth, gofynnwn i holl bobl Ynys Môn anfon neges debyg i’n neges ni uchod at Lywodraeth y DU yn San Steffan a rhoi enw eu Haelod Seneddol lleol ar gopi o’r neges.

 

Dywedoddy Cynghorydd Peter Rogers y byddai cynnig o’r fath ar gyfer gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn faich ariannol ar y cyflogwyr a hefyd yn golygu y byddai’n rhaid i drethdalwyr dalu am ŵyl banc i staff y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Rogers y byddai’n pleidleisio yn erbyn y Cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard mai’r Cynnig oedd gerbron y Cyngor oedd gofyn i Lywodraeth y DU yn San Steffan ddatganoli i Lywodraeth Cymru yng Nghymru yr hawl a’r pŵer i allu creu gwyliau banc i Gymru fel y rhoddir i Lywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Pritchard.

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig.

 

 

6.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adolygiad blynyddol rheoli trysorlys 2021/22.

 

7.

Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adolygiad canol blwyddyn rheoli trysorlys 2021/2022.

 

8.

Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad ar Strategaeth Reoli Trysorlys 2022/23.

 

9.

Y Strategaeth Gyfalaf pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y Strategaeth Gyfalaf.

 

10.

Cyllideb 2022/23 pdf eicon PDF 489 KB

(a)      Cyllideb a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig  2022/23

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

 

(b)       Cyllideb Cyfalaf 2022/23 

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022. 

 

(c)       Gosod y Dreth Gyngor 2022/23

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb Refeniw 2022/23 a Threth y Cyngor a geid yn sgil hynny, y sefyllfa ddiweddaraf o ran Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r defnydd a wneid o unrhyw gronfeydd unwaith ac am byth i gefnogi’r gyllideb - eitemau 10 (a) i (ch) yn yr Agenda. Dywedodd fod setliad Llywodraeth Cymru yn sylweddol gwell na’r disgwyl ac y byddai’n rhoi i’r Cyngor £114.549m, sef cynnydd mewn termau arian parod o £9.724m (9.27%) ond, ar ôl caniatáu ar gyfer trosglwyddo grantiau i’r setliad ac effaith y newid yn sylfaen dreth y Cyngor, £9.677m (9.23%) oedd y cynnydd oedd wedi'i addasu. Roedd y Cyngor bellach mewn sefyllfa i allu buddsoddi yng ngwasanaethau'r Cyngor a welodd doriadau sylweddol yn y gyllideb yn ystod y cyfnod o galedi. Roedd £2.86m wedi ei neilltuo yn y cynnig cyllideb terfynol fel y gwelid yn 2.4 o'r adroddiad. Nid oedd cynnig y gyllideb yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wasanaethau wneud unrhyw arbedion cyllidebol ar gyfer 2022/23. Cyhoeddodd y Cyngor ei gynigion cyllidebol ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd yn eu cylch ar y 26ain o Ionawr, 2022 a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar y 9fed o Chwefror, 2022. Rhoddodd y Pwyllgor Craffu ei sylwadau ar broses pennu’r gyllideb ac ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau i’r gyllideb. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at rai mân newidiadau yn y ffigyrau yn dilyn cadarnhad o'r setliad terfynol a dyfarnu grant ychwanegol o £2,254 i Ynys Môn; cam a aeth â'r gyllideb net i £158.367m. Y cynnydd arfaethedig o 2% yn Nhreth y Cyngor i osod cyllideb fantoledig oedd yr isaf yng Ngogledd Cymru ac roedd yn adfer sefyllfa’r Cyngor yr oedd ynddi ar ddechrau’r Weinyddiaeth hon, pan oedd y ddeunawfed o’r ddau awdurdod lleol ar hugain yng Nghymru o ran y dreth gyngor. Câi’r premiwm ail gartrefi ei godi o 35% i 50% heb unrhyw newid i’r premiwm cartrefi gwag o 100%. Dymunodd yr Aelod Portffolio - Cyllid gydnabod y gwaith a oedd ynghlwm wrth baratoi cynigion y gyllideb a diolchodd i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'i staff am y gwaith a wnaed mewn perthynas â pharatoi'r gyllideb ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi archwilio'r cynigion buddsoddi mewn gwasanaethau yn fanwl yn ei gyfarfod y 14eg o Chwefror, 2022 ac wedi adrodd i gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr 28ain o Chwefror yn cadarnhau ei fod yn argymell cynigion y gyllideb refeniw ddrafft derfynol ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai’r cynnydd ym Mand D Treth y Cyngor yn her i’r henoed wrth iddynt orfod talu’r 2% ychwanegol ym mhremiwm Treth y Cyngor, er ei bod yn anodd gwrthwynebu'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, oedd yn is na lefel chwyddiant. Roedd o'r farn bod y gyllideb ar gyfer 2022/23 yn gyllideb a yrrid yn wleidyddol oherwydd yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Dywedodd y Cynghorydd Owen y byddai'n ymatal rhag  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu'r Cynllun Tuag at Sero Net 2022/2025.

 

12.

Strategaeth Dai 2022/2027 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Dai 2022/2027.

 

13.

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru 2019: trefniadau gweithredu pdf eicon PDF 432 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022, i’r Cyngor ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd awdurdodi swyddogion perthnasol i arfer, yn ôl yr angen, y pwerau gorfodi statudol hynny dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ar ran y Cyngor hwn.

 

·           Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ddirprwyo i swyddogion Cyngor Dinas a Sir Caerdydd gymryd camau priodol ar ran y Cyngor hwn i orfodi darpariaethau Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) Deddf (Cymru) 2019, drwy ei wasanaeth a elwir yn Rhentu Doeth Cymru.

 

14.

Adroddiad Adolygu - Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn datgan bod angen adolygu Cynllun Datblygu Lleol bedair blynedd ar ôl ei fabwysiadu. Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd 31 Gorffennaf 2017 ac, felly, yn unol â’r gofyn statudol, y dyddiad ar gyfer dechrau’r broses adolygu oedd 31 Gorffennaf, 2021. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Adolygu Drafft am gyfnod i ymgynghori â’r cyhoedd yn ei gylch rhwng 5 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2021 ac, wedi hynny, ei drafod yn y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd nad pwrpas yr Adroddiad Adolygu oedd manylu ar unrhyw newidiadau a gâi eu gwneud i'r Cynllun.

 

Dywedodd Rheolwr Polisi Cynllunio’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod gofyn statudol i gael cytundeb y Cyngor llawn i gyhoeddi’r Adroddiad Adolygu er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, cyn y gellid cychwyn ar broses paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd. Y cam nesaf fyddai paratoi Cytundeb Cyflawni a Chynllun Cynnwys y Gymuned a fyddai’n nodi'r camau a'r amserlen ar gyfer paratoi cynllun newydd, ynghyd â sut y byddai’r Cyngor yn cynnwys Cymunedau wrth baratoi'r Cynllun newydd. Byddid yn ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y Cytundeb Cyflawni a châi ei ystyried gan y Cyngor cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Unwaith y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r Cytundeb Cyflawni, byddid yn dechrau'n ffurfiol ar broses paratoi Cynllun newydd. Roedd gwaith rhagbaratoi yn mynd rhagddo o fewn y Gwasanaeth a byddai’r gwaith hwn yn parhau hyd nes y cytunid ar y Cytundeb Cyflawni.

 

PENDERFYNWYD cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad ar yr Adolygiad a chyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru, fel y gellid dechrau ar waith paratoi’r Cynllun newydd.

 

15.

Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022 pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth 2022, i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

 

16.

Côd Llywodraethiant Lleol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i'r Cyngor gan yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cod Llywodraethu Lleol.

 

17.

Datganiad Polisi Tâl 2022 pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i'r Cyngor gan yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl y Cyngor am 2022.